Monday, May 10, 2010

Beth am y pleidiau llai?

Un o broblemau'r glymblaid amgen (Llafur / Lib Dems) ydi nad ydi'r mathemateg cweit yn gweithio. I gael mwyafrif mae'n rhaid wrth 326 sedd, 315 sydd gan y ddwy blaid rhyngddyn nhw. Felly beth mae'r pleidiau llai yn debygol o'i wneud?

SNP - 6 aelod. Dydi'r SNP ddim yn or hoff o Lafur - ond mi fetiwn i ffortiwn fach na fyddant yn gwneud unrhyw beth a allai arwain at lywodraeth Doriaidd yn Llundain gwta flwyddyn cyn etholiadau Senedd yr Alban. Mae'r Toriaid yn amhoblogaidd iawn yn yr Alban.

Plaid Cymru - 3 aelod. Ditto i bob pwrpas.

SDLP - 3 aelod. Tebyg iawn i Lafur ar y rhan fwyaf o faterion (ag eithrio materion fel erthyliad, ymchwil stem cell ac ati). Byddant yn gefnogol i Lafur, ond 'does gan yr un o'r tri aelod fymryn o ddiddordeb yn San Steffan, ac anaml y byddant yn tywyllu drws y lle.

Sinn Fein - 5 aelod. Mor debygol o fynychu San Steffan nag ydi pelen eira i oroesi yn Uffern. Yr unig effaith mae eu presenoldeb nhw yn y gem yn ei gael ydi dod a'r nifer sydd ei angen i lywodraethu i lawr i 324.

Alliance - 1 aelod. Plaid sydd yn agos iawn i'r Lib Dems. Bydd Naomi Long yn gwneud beth bynnag fydd y Lib Dems yn ei wneud.

Annibynnol - 1 aelod. Gadawodd Sylvia Hermon yr hen UUP wedi i'r rheiny ffurfio clymblaid efo'r Toriaid. Efo Llafur roedd hi'n pleidleisio yn y senedd diwethaf, ac efo nhw y bydd hi'n mynd y tro hwn.

DUP - 8 aelod. Fel yr SDLP does ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn San Steffan. Mae'r ffaith i'r Toriaid ffurfio clymblaid efo'r hen UUP - yr Ulster Conservatives and Unionists - New Force wedi gwenwyno perthynas oedd yn un ddigon anodd beth bynnag. Mae pleidlais greiddiol y DUP yn ddosbarth gweithiol ac yn anghydffurfwyr o ran crefydd, ac felly'n drwgdybio Toriaid Seisnig. Fyddwn i ddim yn disgwyl cefnogaeth o'r cyfeiriad yma petawn i yn lle Cameron.

Y Blaid Werdd - 1 aelod. Llawer mwy tebygol o gefnogi Llafur am resymau ideolegol, ac oherwydd mai Llafur sydd wrth gynffon Caroline Lucas yn Brighton Pavilion.

Felly mae Llafur (258) + Lib Dems (57) + SNP (6) + Plaid Cymru (3) + Gwyrdd (1) + Alliance (1) + Sylvia Hermon (1) yn dod a ni i 327 sy'n fwy na digon. Byddai tri aelod yr SDLP yn barod i gael eu llusgo i Lundain petai'n rhaid a byddai'r DUP hefyd yn gem am bris go lew.

Hen ddigon 'dwi'n meddwl.

5 comments:

Anonymous said...

You only need 321 for a majority, as the Speaker, Deputies & Sinn Fein don't vote. So a Lib/Lab pact is only 6 short.

Cai Larsen said...

Ah yes, the Speaker, I forgot about him.

Anonymous said...

cwestiwn i mi ydi hyn.....mewn lib-lab deal mae'n bosib i blaid cymru fedru cael effaith ar y polisiau (ddim ond mewn bloc fo snp yn fy marn i) ond fyddai hyn yn helpu'r blaid flwyddyn nesaf ta ddim? Dwi rhwng dau feddwl am y peth.

Yn sicr, ni wnaeth ymgyrchu dros gael ffasiwn sefyllfa weithio o gwbl y tro yma.

Anonymous said...

Mae'n edrych fel bod y blaid Lafur ar chwal, ac am wneud smonach o'r cyfle i gael llywodraeth enfys.

Ar un llaw, mae Douglas Alexander newydd ddweud na all y Blaid Lafur gydweithio gyda'r SNP, ac ar y llaw arall mae Peter Hain newydd ddweud ei fod yn disgwyl i Blaid Cymru chwarae'i rhan er mwyn cadw'r Ceidwadwyr allan.

Iwan

Anonymous said...

Dw i ddim yn meddwl bod eisiau mwyafrif. Dim ond mwy na'r Toriaid.

Os yw'r pleidiau "celtaidd" yn peidio pleidleisio ar faterion "Lloegr yn unig" does dim angen ffurfio clymblaid gyda nhw.

Y Gyllideb yw'r broblem. Byddai rhaid prynu pleidiau'r gwledydd celtaidd ar draul Lloegr - no we beddan nhw'n cael getawe 'da hynny yn yr etholiad nesa.