Thursday, May 27, 2010

Dinasyddion bach ail ddosbarth Caerdydd

Mae'n anodd gen i ddod o hyd i'r geiriau i fynegi fy niflastod o glywed am y tro trwstan diweddaraf yn hanes addysg Gymraeg yng Ngorllewin Caerdydd.

'Dwi yn y gorffennol wedi gwneud fy hun ychydig yn amhoblogaidd trwy fynegi amheuon ynglyn a'r cynllun penodol o symud Ysgol (Gymraeg) Treganna i safle Ysgol (Saesneg) Heol Landsdowne a chau'r ysgol honno. Roedd yn ymddangos i mi yn gallach i gau'r ysgol mae Treganna yn rhannu safle efo hi ar hyn o bryd, Radnor Road neu ddilyn y trywydd o godi adeilad newydd yn agos at Bont Elai. Yn y diwedd penderfynodd y cyngor fynd ati i ddilyn y trywydd o gau Landsdowne, ac a bod yn deg efo nhw roedd hyn yn dilyn ymgynghori cyflawn - llawer mwy cyflawn na sy'n statudol angenrheidiol. Gyda digwyddodd hynny roeddwn fwy neu lai yn gefnogol i'r cynllun gan ei fod beth bynnag ei wendidau, yn ateb problemau'r gyfundrefn addysg gynradd yn yr ardal - y galw anferth (sydd tu hwnt i gapasiti'r cyngor i'w ddiwallu) am addysg Gymraegl, a'r llefydd gwag cynyddol yn y sector cyfrwng Saesneg.

Rwan mae'r cynllun wedi bod ar ddesg y Gweinidog Addysg yn y Cynulliad am flwyddyn yn aros am benderfyniad. Y Prif Weinidog ddaeth i benderfyniad yn y diwedd. Mae hyd yn oed cwn ar y palmentydd yn gwybod pam bod pethau wedi cymryd cymaint o amser. Mae'r mater yn un gwleidyddol ffrwydrol mewn ardal sy'n hynod o sensetif i'r Blaid Lafur. Mae Llafur wedi colli cefnogaeth ar hyd a lled y brif ddinas ers 1997 pan enillwyd y bedair etholaeth seneddol ganddynt. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y smonach a wnaeth Cyngor Caerdydd o dan reolaeth Llafur a'u harweinydd yn y ddinas ar y pryd, Russell Goodway. Bu tro ar fyd a pherfformiodd Llafur yn dda yn y brif ddinas yn etholiad San Steffan eleni, ac maent yn ol pob tebyg yn teimlo eu bod wedi troi cornel. Byddant yn gobeithio ad ennill Gogledd Caerdydd yn etholiad y Cynulliad yn 2011, a rhoi tolc ym mwyafrif y Lib Dems yng Nghanol Caerdydd. Byddant hefyd yn gobeithio ad ennill y ddinas yn etholiadau'r cyngor yn 2012.

Os ydynt i wneud hyn mae'n rhaid iddynt ail gysylltu efo'u cefnogwyr creiddiol. Mae'r rhan fwyaf o ddigon o blant Heol Landsdowne o gefndir dosbarth gweithiol, ac mae rhywbeth yn dynesu at hanner ohonynt o rhyw leiafrif ethnig neu'i gilydd. Mae'r grwpiau hyn yn bwysig i Lafur yng Nghaerdydd. Ymhellach, mae yna le cryf i gredu bod gwrthwynebiad Llafur i gau Heol Landsdowne yn y gorffennol wedi bod o fudd gwleidyddol iddi. Yn etholiadau'r cyngor yn 2008 cadwodd Llafur eu tair sedd yn ward Treganna er iddynt gael cweir gan Plaid Cymru mewn dwy ward gyfagos - Glan yr Afon a'r Tyllgoed - ac er bod Treganna yn edrych yn fwy anodd i Lafur ar sawl cyfri. Mewn geiriau eraill, roedd y penderfyniad a wnaethwyd heddiw yn un gwleidyddol - neu i fod yn fwy manwl yn etholiadol wleidyddol.

Mae eglurhad Carwyn Jones am ei benderfyniad yn hynod ddadlennol, ac yn egluro beth ydi'r sgor yn iawn. Er y byddai'r cynllun o fudd i addysg Gymraeg, byddai'n andwyol i addysg Saesneg. Ymddengys mai'r rheswm am hyn ydi oherwydd y byddai plant Landsdowne yn mynd i safle Ysgol Treganna / Radnor Road ar hyn o bryd - mae'r ddwy ysgol ar yr un safle. Mae Carwyn o'r farn nad yw'r safle'n addas ar gyfer trefn mynediad dau ddosbarth. Dyna sydd yno i pob pwrpas ar hyn o bryd - ond bod yna ddwy ysgol - un mor llawn nes bod plant allan ar y coridorau - ar y safle. Ond 'dydi hynny ddim yn bwysig - plant sy'n cael addysg Gymraeg sy'n cael eu haddysgu mewn coridorau, nid rhai sy'n cael addysg Saesneg. Mae yna ddinasyddion dosbarth cyntaf, a rhai ail ddosbarth yn y brif ddinas 'da chi'n gweld, ac mae'r broses o wahanu'r geirf a'r defaid yn cychwyn yn gynnar iawn.

Yn y diwedd y Blaid Lafur ydi'r Blaid Lafur. Mi allant son am bwysigrwydd delio efo llefydd gweigion mewn ysgolion, am orfodi cynghorau i asesu ac ymateb i'r galw am addysg Gymraeg, am Iaith Pawb ac ati ac ati. Ond eilradd ydi'r pethau hynny wrth ymyl buddiannau etholiadol y Blaid Lafur. Mae hynny yn dod o flaen pob dim - gan gynnwys y ffaith y bydd llawer o awdurdodau yn cymryd y peth i gyd fel nod a winc (chwadl y Sais) nad oes rhaid iddynt gymryd llefedd gweigion mewn ysgolion o ddifri ac nad oes rhaid iddynt gymryd eu dyletswydd i ymateb i alw gan rieni am addysg cyfrwng Cymraeg o ddifri.

Gan fy mod mewn hwyliau chwerw, un gair bach i Gymry Cymraeg Caerdydd. Mae'n amlwg o'r ffigyrau etholiadol bod y rhan fwyaf ohonoch yn cefnogi pleidiau unoliaethol (Llafur yn bennaf) ac yn arbennig felly mewn etholiadau San Steffan. Mae croeso i chi wneud hynny wrth gwrs, ond peidiwch a disgwyl cael unrhyw ffafr ganddynt - hyd y byddwch mewn mwyafrif. Oherwydd eich niferoedd dydych chi ddim digon pwysig iddynt, a gallwch ddisgwyl cael eich cicio o gwmpas y lle os ydi hynny'n llesol i gynlluniau etholiadol y Blaid Lafur.


Dwi wedi dwyn y ddelwedd uchod o'r blog penigamp, Syniadau. 'Dwi'n mawr obeithio nad ydi'r awdur yn meindio. Mae safle Heol Landsdowne ar dop y llun ar y chwith, ac mae Treganna / Radnor Road ar y gwaelod ar y dde.

2 comments:

Hefin J said...

Gwir pob gair. Llafur yw Llafur, a fydd y Gymraeg yn dod yn ail pob tro hefo nhw.

Anonymous said...

Ond disgwyl di, fe fydd Cymdeithas Ffred Ffransis yn ymosod ar Blaid Cymru...