Friday, May 28, 2010

Cymdeithas yr Iaith yn dadlau tros gau ysgolion!

'Dwi ddim yn tynnu coes.

Mi fyddai'r cynllun mae'r Gymdeithas yn flin iddo gael ei wrthod gan Carwyn Jones wedi arwain at gau ysgol gyda 320 o blant yn mynd iddo, sydd wedi bod (yn ol y posteri) yn 'galon i'r gymuned' am 150 o flynyddoedd.

6 comments:

Alwyn ap Huw said...

Na! Mae'r Gymdeithas am gadw'r ysgol ar agor fel Ysgol Cymraeg, fel y nodais di yn dy bost blaenorol.

Cai Larsen said...

'Dwi'n deall hynny'n iawn Alwyn. Mi fyddai Landsdowne yn mynd trwy'r broses gyfreithiol o gau, ac mi fyddai'r plant yn symud - llawer ohonynt i safle presennol Treganna (sydd mewn gwirionedd ond ychydig ganoedd o latheni i ffwrdd). Mi fyddai'r staff hefyd yn cael eu di swyddo.

Ond mae llawer o'r rhethreg sy'n cael ei ddefnyddio i wrthwynebu cau ysgolion gwledig (lle'r ysgol yn y gymuned ac ati) yn berthnasol parthed Landsdowne.

Fel 'dwi wedi ei ddweud o'r blaen, 'dwi ddim am fynegi barn o unrhyw fath am gau ysgolion yng Ngwynedd, ond 'dwi'n cefnogi cau Landsdowne.

Serch hynny mae angen bod yn sensitif - mae'r ysgol yn bwysig iawn i lawer o bobl. Fel mae'n digwydd yno cafodd fy ngwraig ei haddysg gynradd.

Mae yna rhywbeth anghyson am gael y myll a disgrifio termau fel brad pan mae un ysgol yn cau, ond bod mor daer tros gau un arall.

Anonymous said...

Mae cymharu'r sefyllfa yma gyda enghreifftiau o gau ysgolion pentrefol Gymraeg yng nghefn gwlad yn ddwli llwyr.

Nid yw'r Gymdeithas wedi datgan mewn un-rhywle gefnogaeth i gau ysgol Lansdown, beth mae'r Gymdeithas yn dweud yw:

"Mae'n hollol annheg fod yn rhaid i'r plant ddioddef oherwydd anallu gwleidyddion i ddyfeisio atebion cyfiawn i rai sy'n dymuno addysg Gymraeg ac i gymunedau lleol."

Beirniadu'r gwleidyddion am beidio dod at eu gilydd gyda'r gymuned leol i ddatrys y broblem yma mae'r Gymdeithas, ac mae'n feirniadaeth yn un teg iawn.

Mae'r Blaid Lafur yn benodol wedi ceisio defnyddio'r issue i greu rhwygiadau cymdeithasol, er ei buddiannau nhw, sy'n warthus.

Yn bersonol, fel aelod o'r Gymdeithas, dwi ddim yn gyfforddus o gwbl gyda cau ysgol Saesneg er mwyn sefydlu ysgol Gymraeg yn ei le. Mae'n resipi ar gyfer creu rhwyg cymdeithasol, ac atgasedd tuag at y Gymraeg. Dwi'n credu bod angen bod yn sensitif iawn, a thrin yr angen i ehangu addysg gynradd Gymraeg yn y de ddwyrain, a llefydd gweigion mewn ysgolion Saesneg fel dau fater ar-wahan.

Rhys Llwyd said...

Cai, rho derfyn ar dy styrio ddyn. Fe wyddi di'n iawn fod achos y Parc ac achos Treganna yn dra wahanol.

Yr hyn sy'n drist yw fod y Blaid Lafur yng Nghaerdydd yn carfanu un grŵp ieithyddol yn erbyn y llall. Y setliad cywir ddylai bod i gadw'r ddwy ysgol ar agor a naillai ffeindio ysgol newydd lai i Landsdown neu newydd fwy i Treganna.

Hedd said...

Mae safbwynt y Gymdeithas yn GWBL gyson. Mae'r Gymdeithas yn dadlau o blaid cadw ac ehangu addysg gynradd Gymraeg yn y 2 achos. Onid dyna yw rôl amlwg Cymdeithas yr Iaith?!?

Unknown said...

Y nod yw ysgolion cymunedol Cymraeg ledled Cymru. Yn y gorllewin ran amlaf mae'n realiti y mae angen ei amddiffyn. Ac mae angen brys i ni drefnu cyfarfod o'r Gynghrair i amddiffyn yr ysgolion cymunedol Cymraeg. Mewn rhannau eraill o Gymru - yn cynnwys fy ardal enedigol i, mae angen gweithio tuag at y nod a thrin y trawsnewid yn sensitif. Does dim anghysondeb - yr un yw'r nod - sef creu ysgolion cymunedol Cymraeg yng Nghaerdydd hefyd. Fe gymer fwy o amser a digon posib fod gan Cai bwynt - fod angen i ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd llai Cymraeg wneud mwy i ymwreiddio yn y gymuned leol. Nid beirniadaeth yw hon ar y drefn yn Nhreganna - lle mae wyres i mi'n ddisgybl - ond pwynt cyffredinol. Y dull gorau o wreiddio yn y gymuned mewn ardaloedd fel Caerdydd yw sicrhau twf parhaus i'r ysgolion Cymraeg fel bod un o fewn cyrraedd i bob cymuned - ac mae cefnogwyr addysg Gymraeg yng Nghaerdydd wedi cael llwyddiant ysgubol. Dyma sy'n creu'r sefyllfa.