I Lais Gwynedd am gael y llywodraeth yr oeddynt ei heisiau.
Mae'n debyg y bydd hyn yn mynd rhan o'r ffordd i'w digolledu am y ffaith i'w dynas nhw golli ei hernes ym Meirion Dwyfor.
Tuesday, May 11, 2010
'Vote Labour Get Tory'
Mae'r blog hwn eisoes wedi nodi anonestrwydd sylfaenol dull ymgyrchu'r Blaid Lafur o sicrhau'r ffyddloniaid bod y Toriaid yn bobl ddrwg iawn, iawn, iawn ac y byddai'r canlyniadau yn erchyll i bawb petaent yn cael eu hethol. Mae'r mantra hefyd yn mynnu mai dim ond Llafur fyddai yn gwrthwynebu'r drwgweithredwyr erchyll yma, a bod pleidlais i unrhyw un ag eithrio Llafur yn bleidlais mewn gwirionedd i'r Toriaid.
Aelodau seneddol Llafur ddaeth a'r drafodaeth rhwng y Lib Dems i ben - yn rhannol oherwydd na allai aelodau Llafur yn yr Alban stumogi gorfod dibynnu ar yr SNP i oroesi'n wleidyddol. Felly, y tro nesaf yr ydych yn clywed Eaglestone a'i debyg yn dweud Vote Plaid get Tory, cofiwch mai gwrth genedlaetholwyr yn ei blaid ei hun sy'n gyfrifol am ein bendithio efo llywodraeth Doriaidd.
Vote Labour, get Tory.

Monday, May 10, 2010
Beth am y pleidiau llai?
Un o broblemau'r glymblaid amgen (Llafur / Lib Dems) ydi nad ydi'r mathemateg cweit yn gweithio. I gael mwyafrif mae'n rhaid wrth 326 sedd, 315 sydd gan y ddwy blaid rhyngddyn nhw. Felly beth mae'r pleidiau llai yn debygol o'i wneud?
SNP - 6 aelod. Dydi'r SNP ddim yn or hoff o Lafur - ond mi fetiwn i ffortiwn fach na fyddant yn gwneud unrhyw beth a allai arwain at lywodraeth Doriaidd yn Llundain gwta flwyddyn cyn etholiadau Senedd yr Alban. Mae'r Toriaid yn amhoblogaidd iawn yn yr Alban.
Plaid Cymru - 3 aelod. Ditto i bob pwrpas.
SDLP - 3 aelod. Tebyg iawn i Lafur ar y rhan fwyaf o faterion (ag eithrio materion fel erthyliad, ymchwil stem cell ac ati). Byddant yn gefnogol i Lafur, ond 'does gan yr un o'r tri aelod fymryn o ddiddordeb yn San Steffan, ac anaml y byddant yn tywyllu drws y lle.
Sinn Fein - 5 aelod. Mor debygol o fynychu San Steffan nag ydi pelen eira i oroesi yn Uffern. Yr unig effaith mae eu presenoldeb nhw yn y gem yn ei gael ydi dod a'r nifer sydd ei angen i lywodraethu i lawr i 324.
Alliance - 1 aelod. Plaid sydd yn agos iawn i'r Lib Dems. Bydd Naomi Long yn gwneud beth bynnag fydd y Lib Dems yn ei wneud.
Annibynnol - 1 aelod. Gadawodd Sylvia Hermon yr hen UUP wedi i'r rheiny ffurfio clymblaid efo'r Toriaid. Efo Llafur roedd hi'n pleidleisio yn y senedd diwethaf, ac efo nhw y bydd hi'n mynd y tro hwn.
DUP - 8 aelod. Fel yr SDLP does ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn San Steffan. Mae'r ffaith i'r Toriaid ffurfio clymblaid efo'r hen UUP - yr Ulster Conservatives and Unionists - New Force wedi gwenwyno perthynas oedd yn un ddigon anodd beth bynnag. Mae pleidlais greiddiol y DUP yn ddosbarth gweithiol ac yn anghydffurfwyr o ran crefydd, ac felly'n drwgdybio Toriaid Seisnig. Fyddwn i ddim yn disgwyl cefnogaeth o'r cyfeiriad yma petawn i yn lle Cameron.
Y Blaid Werdd - 1 aelod. Llawer mwy tebygol o gefnogi Llafur am resymau ideolegol, ac oherwydd mai Llafur sydd wrth gynffon Caroline Lucas yn Brighton Pavilion.
Felly mae Llafur (258) + Lib Dems (57) + SNP (6) + Plaid Cymru (3) + Gwyrdd (1) + Alliance (1) + Sylvia Hermon (1) yn dod a ni i 327 sy'n fwy na digon. Byddai tri aelod yr SDLP yn barod i gael eu llusgo i Lundain petai'n rhaid a byddai'r DUP hefyd yn gem am bris go lew.
Hen ddigon 'dwi'n meddwl.

Coalition of losers
Disgwyliwch glywed y term yna'n cael ei ddefnyddio hyd at syrffed gan Doriaid a gwasg Murdoch a 'ballu os bydd cytundeb rhwng y Lib Dems, Llafur ac aelodau seneddol o'r gwledydd Celtaidd.
Doedd yna ddim son am y ffashiwn derm wrth gwrs pan roedd y Toriaid yn ceisio ffurfio clymblaid gyda Phlaid Cymru a'r Lib Dems ar lefel Cynulliad yn ol yn 2007.
Rhyfedd braidd.

Sunday, May 09, 2010
Canlyniadau'r Blaid - oes yna batrwm?
Rhestraf isod ganlyniadau'r Blaid ddydd Iau yn nhrefn y cynnydd neu'r gostyngiad canrannol yn y bleidlais. 'Dwi wedi rhannu'r rhestr yn dri - cynnydd, cwymp o lai na 2% a chwymp o fwy na 2%.
Cwm Cynon +6.8%
Gorllewin Clwyd + 4.5%
Arfon +3.9%
Aberconwy +3.8%
Llanelli +3.5%
Castell-nedd + 2.8%
Rhondda +2.2%
Blaenau Gwent +1.7%
Maldwyn +1.3%
Islwyn +0.6%
Wrecsam +0.4%
Alun a Glannau Dyfrdwy +0.2%
Canol Caerdydd-0.1%
Dwyrain Abertawe -0.2%
Bro Morgannwg -0.3%
Ogwr -0.6%
Mynwy -0.6%
Gorllewin Casnewydd -0.8%
De Clwyd -0.8%
Torfaen -0.9%
Gogledd Caerdydd -0.9%
Pen-y-bont ar Ogwr -1%
De Caerdydd a Phenarth -1.1%
Brycheiniog a Sir Faesyfed -1.1%
Caerffili -1.4%
Dyffryn Clwyd -1.4%
Dwyrain Casnewydd -1.7%
Delyn -2.4%
Gorllewin Abertawe -2.5%
Preseli Penfro -3.3%
Pontypridd -3.7%
Gŵyr -4%
Aberafan -4.7%
Merthyr Tudful a Rhymni -4.9%
Ynys Môn -4.9%
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro -5.1%
Gorllewin Caerdydd -5.9%
Dwyfor Meirionnydd -6.4%
Ceredigion -7.6%
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr -10.2%
Rwan mae yna batrymau digon amlwg i'w gweld yma. Y mwyaf amlwg efallai ydi bod y perfformiad salaf o lawer yn rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin gyda phump o'r wyth etholaeth yn arddangos cwymp sylweddol ym mhleidlais y Blaid. Ag eithrio etholaeth Llanelli mae'r etholaethau hyn yn rhai gwledig i wahanol raddau ac yma yr oedd y cynnydd ym mhleidlais y Toriaid ar ei fwyaf amlwg yng Nghymru. Mae'r cwymp yn rhai o'r ardaloedd diwydiannol megis Merthyr a Phontypridd wedi bod oherwydd y cynnydd sylweddol ym mhleidlais y Lib Dems yn y lleoedd hynny.
Gyda'r eithriad o Faldwyn roedd perfformiadau cadarnhaol y Blaid i gyd yn y Gogledd neu yn y De diwydiannol. Nodwedd arall o'r seddi hynny oedd bod y mwyafrif ohonynt efo ymgeisydd cryf sydd a chysylltiadau agos a'r etholaeth. Mae gan y Blaid hefyd beirianwaith effeithiol yn y saith etholaeth uchaf.
Os caf fod yn llwythol am ennyd, dim ond yn Arfon yr oedd cynnydd y Blaid yn uwch na'r cwymp ym mhleidlais Llafur - sy'n golygu i'r Blaid lwyddo i gymryd yr holl bleidleisiau Llafur a gollwyd yn ogystal a rhai o bleidleisiau'r Lib Dems. Mae hyn yn unigryw. Digwyddodd hefyd er gwaethaf ymdrechion y Bib i ymyryd ar ran Llafur yn yr etholaeth y diwrnod cyn yr etholiad trwy greu stori tylwyth teg bod bygythiad o gyfeiriad y Toriaid yma, ac felly geisio hel pleidleiswyr tlawd roedd Llafur yn eu colli yn ol 'adref'.
Mae unrhyw un sydd a'r adnabyddiaeth mwyaf arwynebol o'r etholaeth a'i phroffeil cymdeithasegol yn gwybod o'r gorau ei bod mor amhosibl i'r Toriaid ennill yn Arfon nag yw iddynt ennill yn Llanelli neu yng Nghastell Nedd.

Saturday, May 08, 2010
'Llwyddiant' Llafur yng Nghymru - nodiadau o Arfon
Reit - un neu ddau o argraffiadau cynnar o'r etholiad. Fel mae Vaughan yn awgrymu roedd yr etholiad yma yn siomedig i'r Blaid, ac un o'r prif resymau am hynny oedd i Lafur berfformio yn weddol effeithiol yng Nghymru - ac yn arbennig felly yn yr etholaethau lle'r oedd 'rhaid' iddynt ddal eu gafael. Llwyddodd Llafur Cymru yn rhyfeddol i amddiffyn llawer o seddi oedd dan fygythiad. Roedd Arfon yn un o'r etholaethau roedd Llafur angen ei dal - methwyd a gwneud hynny, ond mae'r ffordd yr aethant ati yn i geisio amddiffyn y sedd yn ddadlennol o safbwynt perfformiadau cymharol gryf Llafur mewn etholaethau ymylol eraill yng Nghymru.
Cyn cychwyn efallai y dyliwn egluro i'r bobl nad ydynt yn adnabod y Gogledd yn dda nad ydi Arfon yn sedd wledig - mae mwyafrif llethol y boblogaeth yn byw mewn trefi neu bentrefi sylweddol. Yn gymdeithasegol mae Arfon yn fwy tebyg o lawer i Lanelli nag ydyw i Feirion Dwyfor.
Er iddyn nhw fethu dal eu gafael yn Arfon, llwyddwyd i gadw'r gwympyng nghanran eu pleidlais i -3.5%, ffigwr oedd yn sylweddol is na'r gwymp ehangach yng Nghymru. Felly hefyd seddi eraill oedd dan fygythiad - Ynys Mon (-1.3%) Llanelli (-4.5%), Gogledd Caerdydd (-1.9%), Gorllewin Caerdydd (-3.6%), Dyffryn Clwyd (-3.6%) ac ati. Yn y cyfamser mewn seddi diogel megis y Rhondda (-12.8%) neu Gwm Cynon (-10.5%) roedd eu pleidlais yn cwympo fel carreg, ac felly roedd pethau hefyd yn rhai o'r seddi oedd eisoes wedi eu colli, Gorllewin Clwyd (-11.3%) er enghraifft.
Mae Dyfrig yn trafod y patrwm pleidleisio rhanbarthol yn Arfon yma. Er bod yr hyn mae'n ei ddweud ar y pwnc hwnnw yn ddigon cywir, nid y patrwm rhanbarthol ydi'r un arwyddocaol o safbwynt egluro sut y llwyddodd Llafur i gadw cymaint o'u seddi 'ymylol' yng Nghymru, ond yr un cymdeithasegol. Y patrwm pwysig o safbwynt strategaeth etholiadol ydi bod Llafur wedi llwyddo i ddal eu tir yn rhyfeddol o dda mewn wardiau lle mae nifer helaeth o dai cyngor. Targedu'r bobl sydd yn byw yn y wardiau hynny a'u dychryn oedd prif dacteg Llafur yn Arfon. Yn eironig ddigon mae'r dirwasgiad enbyd sydd wedi ei greu gan Lafur yn gwneud y bygythiadau yn fwy effeithiol nag y byddant hebddo. 'Dwi'n eithaf siwr mai hynny oedd yn digwydd y tu hwnt i Arfon hefyd.
Llwyddwyd i wneud hyn trwy dynnu sylw at bethau anymunol a sbesiffig iawn a 'fyddai' yn digwydd petai y Toriaid yn dod i rym - toriadau mewn budd daliadau, codi tal i'r henoed am deithio ar y bws, codi am brescripsiwns ac ati, ac ati. Rydym eisoes wedi trafod y ffaith mai mater i'r Cynulliad ydi rhai o'r bygythiadau honedig, a bod eraill yn cael eu gwneud ar sail hynod amheus - ond roeddynt yn fygythiadau effeithiol.
'Dydi cefnogwyr 'naturiol' Llafur heb ddod allan i'w cefnogi yn Arfon ers 2005, mi ddaeth llawer ohonynt y tro hwn ac mi ddaethant ar sail rhesymegol. Os ydych yn poeni am sut yr ydych am brynu dillad ysgol i'r plant, mae stori y bydd credydau treth plant yn cael eu torri i'r bon am wneud i chi feddwl - a phleidleisio - mewn ffordd arbennig.
Mi allwn droi ein trwynau ar yr arfer 0 wleidydda mewn ffordd sy'n cymryd mantais o ofnau pobl sydd yn fregus ac yn ddibynnol iawn ar y wladwriaeth, a gwneud hynny yn aml ar sail anonest, ond fedrwch chi ddim gwadu ei fod yn rhoi cymhelliad pwerus i bobl bleidleisio tros Lafur. Mae'n neges llai gonest ond mwy effeithiol na dweud - os bydd gennym ni rym mewn senedd grog byddwn yn mynnu bod £300m y flwyddyn llai o doriadau yn wynebu Cymru.
Felly gellir egluro llwyddiant Llafur i amddiffyn cymaint o seddau ymylol Cymreig yn eithaf hawdd - dewis eu hetholaethau a dychryn eu pleidlais graidd yn yr etholaethau hynny i'r graddau eu bod teimlo'r angen i fwrw pleidlais trostynt er mwyn amddiffyn eu buddiannau tymor byr eu hunain. Syml ond effeithiol.

Pwt bach ar Ogledd Iwerddon
Oes yna unrhywun wedi sylwi ar y cyd ddigwyddiad anarferol bod tri arweinydd y prif bleidiau unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon wedi colli yn yr etholiad, gyda Peter Robinson (DUP) yn colli sedd mae wedi ei dal am ddegawdau yn East Belfast, Reg Empey (UCUNF) yn methu ag ennill yn South Antrim er bod cryn ddisgwyl iddo wneud hynny a Jim Allister (TUV) yn methu curo mab Ian Paisley yn Antrim North.
Cyd ddigwyddiad bach digon anarferol.
Cyd ddigwyddiad bach digon anarferol.
Friday, May 07, 2010
Beth nesaf?
Mi fydd yna ddigon o amser i gnoi cil ar etholiad hynod o ddiddorol (yn ogystal a siomedig) maes o law.
Yn y cyfamser mi hoffwn ddarogan beth fydd yn digwydd tros y dyddiau nesaf. Mi fydd Clegg a Cameron yn cael sgwrs ac mi fydd Clegg yn gofyn am PR. Yn amlwg bydd Cameron yn gwrthod, ond ar ol hir a hwyr bydd yn cyfaddawdu trwy gynnig PR ar gyfer Ty'r Arglwyddi ac efallai Senedd dai Cymru a'r Alban. Bydd hefyd yn mynnu y bydd y seddi San Steffan yn cael eu ad drefnu'n llwyr ar sail poblogaeth gyfartal - tua 74,000 i pob etholaeth. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar Gymru - tair sedd yng Nghaerdydd, dwy yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a'r cylch yn mynd at Ddwyfor Meirion a Bangor a Dyffryn Ogwen yn mynd at Ynys Mon er enghraifft. 'Dwi wedi edrych ar hyn yn y gorffennol.
'Dwi'n siwr y bydd yna elfennau eraill i'r cytundeb - dealltwriaeth ar sut i fynd ati i ddelio efo'r twll yn y cyfrifon cenedlaethol, joban i Clegg a Cable ac ati, ond y newidiadau yn y drefn etholiadol fydd yn cipio'r fargen.

Sibrydion eto
Plaid i gadw Dwyrain Caerfyrddin o tua 3,000.
Son y gallai Llafur gadw Gogledd Caerdydd.

Sibrydion 4
Plaid yn debygol o fod yn bedwerydd yn Aberyconwy. Plaid yn dal ar y blaen yn Arfon o tua 1000.
Thursday, May 06, 2010
Sibrydion 2
Llafur yn debyg o guro Llanelli ac Ynys Môn. Llafur yn dal ei tir yng Nghymru ac Yr Alban.
Dyna fo 'ta
Newydd orffen ffonio cefnogwyr nad oeddynt wedi pleidleisio eto er mwyn gofyn iddynti fynd.
Ac ar hynny mae fy nghyfraniad bach innau i etholiad 2010 fwy neu lai trosodd. Mae hi wedi bod yn ymgyrch hir a blinedig i bawb - ac yn arbennig felly yr holl bobl hynny oedd yn ymgeiswyr.
Weithiau mi fydd yna sibrydion o gwmpas cyn i'r canlyniadau gael eu datgan. Os digwydd i mi glywed rhywbeth gyfeillion, chi fydd y cyntaf i gael gwybod.

Wednesday, May 05, 2010
Dirmyg y Toriaid tuag at bobl Gogledd Iwerddon
Roedd y datganiad isod gan Ken Clarke ddoe ymysg y pethau mwyaf anymunol a gwirion i ddeillio o'r etholiad yma:
"There would be really quite appalling consequences for this country if we are not able to produce a credible plan for dealing with the deficit and the debt. And that involves some very difficult decisions.
If I have to sit and talk to three or four other groups... in the end you can always do a deal with an Ulsterman, but it's not the way to run a modern sophisticated society in the grips of an economic crisis which weak government under Gordon Brown has already caused".
Mae'n cwmpasu agwedd y Toriaid tuag at eu cyfeillion yr ochr arall i'r Mor Celtaidd yn eithaf clir, ac mae'n dangos bod yr agweddau anymunol yr ydym wedi eu cysylltu efo'r Toriaid yn y gorffennol yn dal yn fyw ac yn iach - hyd yn oed ymysg aelodau adain 'ryddfrydig' y blaid honno. Ymddengys bod Ken yn ystyried pobl Gogledd Iwerddon yn yn greaduriaid anymunol ac ansoffistigedig y dylid cadw mor bell a phosibl oddi wrth gwmni gwar. Cip bach anymunol ar y traha ymerodrol sy'n fyw ac yn gwbl iach o hyd yn y Blaid Doriaidd.
O edrych ar berthynas y Toriaid ag Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon mae'n weddol amlwg bod y Toriaid yn hollol ddi glem. Llwyddodd Cameron i ddychryn cefnogwyr ei chwaer blaid (UCUNF) trwy ddatgan y dylai Gogledd Iwerddon dderbyn toriadau mewn gwariant cyhoeddus. Hoffter o wariant felly ydi'r unig beth sy'n uno pawb yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Toriaid wedi gwneud mor a mynydd o'u cefnogaeth i UCUNF - plaid fydd yn lwcus i gael un sedd - ac felly ypsetio'r DUP, y blaid fydd yn ennill y rhan fwyaf o'r seddi. Efallai y daw'r rheiny i gytundeb efo'r Toriaid os oes angen - ond bydd y pris yn uffernol o uchel. 'Dydi cariad y DUP at y Toriaid ddim yn fawr ar yr amser gorau.
Mae'r Toriaid hefyd wedi dweud y bydd yr unoliaethwr annibynnol, Rodney Connor yn cael cymryd y chwip Doriaidd os caiff ei ethol yn Fermanagh South Tyrone. Yr Urdd Oren sydd wedi gwthio Mr Connor ymlaen fel 'unoliaethwr unedig' am resymau sydd yn eu hanfod yn secteraidd. Dydyn nhw ddim eisiau gweld Pabydd yn cael ei ethol. Rwan beth sy'n fwy ' soffistigedig' na hynny?

Y polau olaf
Angus Reid/Politicalbetting
| May 5 | May 1 | |
|---|---|---|
| CONSERVATIVES | 36% | 35% |
| LABOUR | 24% | 23% |
| LIB DEMS | 29% | 29% |
YouGov - the Sun
| May 5 | May 4 | |
|---|---|---|
| CONSERVATIVES | 35% | 35% |
| LABOUR | 28% | 30% |
| LIB DEMS | 28% | 24% |
Populus - The Times
| Populus/The Times | May 5 | Apr 27 |
|---|---|---|
| CONSERVATIVES | 37% | 36% |
| LABOUR | 28% | 27% |
| LIB DEMS | 27% | 28% |
TNS-BMRB
| TNS - BMRB | May 4 | Apr 27 |
|---|---|---|
| CONSERVATIVES | 33% | 34% |
| LABOUR | 27% | 27% |
| LIB DEMS | 29% | 30% |
Opinium - Daily Express
| Opinium - D. Express | May 5 | May 3 |
|---|---|---|
| CONSERVATIVES | 35% | 33% |
| LABOUR | 27% | 28% |
| LIB DEMS | 26% | 27% |
'Dwi wedi bod yn ddigon digywilyddi ddwyn y manylion am y polau uchod sydd oll wedi eu cyhoeddi heno o'r wefan benigamp honno politicalbetting.com
Maent yn weddol gyson mewn rhai ffyrdd - ceir amrediad o 33% i 37% i'r Toriaid, o 24% i 28% i Lafur ac o 26% i 29% i'r Lib Dems.
Mae yna un neu ddau o bwyntiau i'w casglu o hyn. I ddechrau mae Llafur yn mynd i mewn i ddiwrnod etholiad efo'u cefnogaeth yn wanach nag y bu ar unrhyw ddiwrnod cyn etholiad ers o leiaf 1983. Yn ail os ydi'r gogwydd yn unffurf, byddai pob un o'r set o ffigyrau uchod yn arwain at senedd grog. Yn drydydd, er gwendid affwysol Llafur, mae'r rhan fwyaf o'r polau uchod yn awgrymu nad ydi Toriaid Cameron yn 2010 ddim llawer mwy poblogaidd na Thoriaid Howard yn 2005. Yn bedwerydd, petai'r pol sy'n rhoi Llafur isaf yn agos ati (Angus Reid) mi fyddai pob un o seddi Cymreig Llafur ag eithrio rhai'r cymoedd a Dwyrain Abertawe mewn perygl. Mae yna hanes hir o Llafur yn sgorio'n agos at yr hyn mae'r pol gwaethaf iddynt ar y diwrnod olaf yn ei awgrymu.
Y ffigwr cyntaf ydi'r un cyfredol pob tro - yr ail ydi'r pol diwethaf.
Tuesday, May 04, 2010
Stalin Aberconwy
Ar dudalen flaen gwefan Ceidwadwyr Aberconwy (sydd wedi ei thalu amdani yn rhannol gan ddyn nad yw'n awyddus i dalu ei drethi fel chi neu fi o'r enw yr Arglwydd Ashcroft) ceir y datganiad sych dduwiol canlynol - We especially want to hear your views so go straight to the new blog, and join in the debate.
Ond ceisiwch adael sylw neu gymryd rhan yn y 'drafodaeth' a gallwch ddisgwyl i'ch sylwadau gael eu taflu i limbo'r rhyngrwyd oni bai eu bod yn esiamplau o sycioffantiaeth dagreuol o grafllyd fel yr isod:
The way that you and your team have conducted yourselves and addressed the whole challenge of this campaign is so impressive, I can’t begin adequately to express my admiration. You could not have done more and we’re all very proud of you.
You are now on the final lap and we all wish you success on Thursday.
I know how exhausted you must feel, so I welcome you as an honorary member of the Rhinoceros Club – head down and charge!
Good luck, Guto
Go get ‘em!Derek
Dyma ystyr debate i Geidwadwyr Aberconwy.
Byddai'r diweddar Joseph Stalin yn gwerthfawrogi'r math yma o debate.
Ramesh yn y newyddion unwaith eto
Chwi gofiwch Ramesh Patel, y cynghorydd Llafur hysteraidd o Dreganna (Gorllewin Caerdydd) sy'n ystyried addysg Gymraeg yn ffurf ar buro ethnig.
Ymddengys bod y bwli anymunol hefyd yn bygwth busnesau yng ngorllewin y ddinas sy'n gwrthod arddangos deunydd etholiadol Kevin Brennan. Arwydd pellach, efallai bod Gorllewin Caerdydd yn llithro o afael Llafur.
Duw yn unig a wyr pam mai'r creadur yma ydi'r gwleidydd mwyaf poblogaidd yn Nhreganna.
Felly mae pethau wedi dod i hyn
FPleidleisio tactegol ydi thema'r diwrnod gyda Peter Hain yn galw am bleidleisio gwrth Doriaidd, Ron Davies yn gofyn i Lafurwyr Aberconwy i bleidleisio i'r Blaid er mwyn cadw'r Tori allan, y Daily Mirror yn ceisio dweud rhywbeth neu'i gilydd ynglyn a'r pwnc, a Syniadau yn awgrymu pleidleisio tactegol er mwyn diwygio'r gyfundrefn bleidleisio lwgr sydd ohoni .
Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r unig alwad oedd yn achosi syndod i mi oedd un Hain. Fe gofiwch ei fod ar ddechrau'r ymgyrch yn argymell pleidleisio tactegol yn yr ystyr Llafuraidd honno bod rhaid i bawb fotio i Lafur. Erbyn heddiw mae'n awgrymu y dylai pobl bleidleisio yn erbyn Llafur mewn rhai etholaethau er mwyn cadw'r Tori allan.
Yn yr holl flynyddoedd 'dwi wedi bod yn gwylio etholiadau fedra i ddim cofio neb sydd mewn safle tebyg i un Hain yn gwneud awgrym o'r fath. Yn wir 'dwi'n eithaf siwr y byddai'r ffasiwn alwad wedi arwain at ddi swyddo digon disymwth ym mhob etholiad cyn hwn.
Os oes yna unrhyw un digwyddiad yn dangos cymaint mae Llafur wedi gwywo ac edwino ers y dyddiau pan roedd y blaid honno yn ei hanterth yn ol yn niwedd y naw degau, Peter Hain yn ceisio cadw ei ddwylo ar rym gwleidyddol trwy annog pobl i bleidleisio yn erbyn llawer o'i ymgeiswyr ydi hwnnw.

Subscribe to:
Posts (Atom)