Dwi wedi ‘sgwennu sawl gwaith ar ddechrau’r haf am Faes Awyr Llanbedr a’r newid sydd wedi digwydd yno.
Mae’r stori wedi datblygu ers hynny wrth i fwy o wybodaeth ddod i’r amlwg. Ac erbyn hyn mae’r darlun yn dipyn cliriach nag oedd pan ddechreuais i edrych ar y mater.
Dydi’r cwestiwn bellach ddim jest pam bod cwmni amddiffyn Americanaidd wedi ymddangos mewn maes awyr yng Ngwynedd.
Mae’r cwestiynau’n llawer mwy penodol bellach.
Pryd newidiodd natur Llanbedr? Pwy oedd yn gwybod am y newid? Pa ganiatâd gafodd ei roi? A ydi’r hyn sy’n digwydd yno heddiw yn gyson â’r sicrwydd a’r cytundebau a wnaed pan fuddsoddwyd miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn y safle?
Ac mae yna un cwestiwn arall sydd wedi dod yn fwyfwy anodd ei osgoi.
A gafodd Cyngor Gwynedd y darlun llawn pan ofynnodd i Snowdonia Aerospace am sicrwydd ynglŷn â defnydd milwrol o Lanbedr ym mis Hydref 2025?
O RAF Llanbedr i ganolfan awyrofod sifil
Mae hanes milwrol Llanbedr yn eithaf adnabyddus.
Agorodd y maes awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac roedd ganddo gysylltiad â’r Weinyddiaeth Amddiffyn am ddegawdau. Daeth defnydd yr MoD o’r safle i ben yn 2004.
Ond roedd y weledigaeth a ddatblygodd wedyn yn wahanol.
Yn 2008 prydleswyd y safle gan Lywodraeth Cymru i’r cwmni a ddaeth yn Snowdonia Aerospace, ac yn 2013 daeth Llanbedr yn rhan o Barth Menter Eryri.
Y syniad oedd datblygu canolfan awyrofod fodern, gyda phwyslais arbennig ar gerbydau awyr di-griw a defnyddiau sifil – dronau.
Roedd un o gryfderau mawr Llanbedr yn amlwg iawn: roedd ganddo’r gallu i brofi dronau mewn amgylchedd lle gellid datblygu hediadau BVLOS – Beyond Visual Line of Sight. Ychydig iawn o safleoedd yn y DU sydd â’r gallu hwnnw.
Roedd hynny’n agor posibiliadau sifil enfawr: monitro seilwaith, chwilio ac achub, gwaith amgylcheddol, logisteg a chludiant.
Ond mae rhywbeth wedi dod yn fwyfwy amlwg wrth edrych ar y stori hon.
Yr union nodweddion oedd yn gwneud Llanbedr yn lleoliad rhagorol ar gyfer datblygu dronau sifil oedd hefyd yn ei wneud yn lleoliad rhagorol ar gyfer datblygu technoleg filwrol awtonomaidd.
Yr arian Ewropeaidd
Yn 2019 daeth buddsoddiad cyhoeddus sylweddol.
Roedd Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am weinyddu pecyn oedd yn cynnwys tua £7.5m o gyllid Ewropeaidd ar gyfer datblygu’r safle.
Ac mae cofnodion Cabinet Gwynedd o’r cyfnod yn bwysig iawn.
Roedd y Cabinet am sicrhau defnydd sifil o’r ganolfan, ac yn benodol penderfynwyd y dylai’r cytundeb efo Snowdonia Aerospace gynnwys cymal yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau oedd yn cael eu gwella drwy’r prosiect Ewropeaidd.
Mae yna wahaniaeth pwysig yma.
Rydym yn gwybod beth benderfynodd y Cabinet y dylai fod yn y cytundeb.
Dydan ni ddim eto wedi gweld y contract terfynol wedi’i lofnodi i weld union eiriad y rhwymedigaethau.
A gall hynny fod yn bwysig.
Hydref 2025
Yna daeth cwestiwn gan Beca Brown yng Nghyngor Gwynedd ar 2 Hydref 2025.
Roedd hi eisiau gwybod a oedd dronau oedd yn cael eu datblygu a’u profi yn Llanbedr yn cael eu defnyddio at ddibenion milwrol.
Aeth y Cyngor at Snowdonia Aerospace.
Yr ateb a gafodd oedd mai cwmnïau masnachol oedd yn defnyddio’r safle ac nad oedd gan Snowdonia Aerospace:
“unrhyw weithrediadau drôn milwrol wedi’u cynllunio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar safle yn Llanbedr.”
Roedd ateb atodol yr Aelod Cabinet yn gwneud pwynt arall diddorol. Nid oedd y trefniadau cynllunio na thrwyddedu eu hunain yn gwahaniaethu rhwng dronau sifil a milwrol.
Felly doedd yna ddim rhwystr cyffredinol o’r math hwnnw i ddefnydd milwrol yn y dyfodol.
Ond y sicrwydd ym mis Hydref oedd nad oedd gweithrediadau drôn milwrol gyda’r MoD wedi’u cynllunio.
Yna mae’r amserlen yn dechrau mynd yn broblematig iawn.
Chwe wythnos yn ddiweddarach
Ar 11 Tachwedd 2025, cyhoeddodd Anduril UK fod ganddo safle profi newydd yng ngogledd-orllewin Cymru.
Roedd technoleg ar gyfer defnydd milwrol y DU yn cael ei phrofi yno.
Ac nid cyhoeddiad am rywbeth oedd am ddigwydd ymhen blwyddyn neu ddwy oedd hwn.
Roedd systemau eisoes yn cael eu profi yng Nghymru.
Mae tystiolaeth gref mai Llanbedr oedd y safle.
Mae hynny tua chwe wythnos ar ôl i Gyngor Gwynedd gael y sicrwydd gan Snowdonia Aerospace.
Dydi hynny ynddo’i hun ddim yn profi bod unrhyw un wedi camarwain y Cyngor. Mae’n bosib bod popeth wedi symud yn rhyfeddol o gyflym yn ystod yr wythnosau rhwng 2 Hydref ac 11 Tachwedd.
Ond mae’n codi tri chwestiwn syml iawn.
Ar ba ddyddiad yn union y dechreuodd Anduril ddefnyddio Llanbedr?
Ar ba ddyddiad y cynhaliodd Anduril ei brawf cyntaf yno?
Ac, yn bwysicaf oll:
Beth oedd Snowdonia Aerospace yn ei wybod am gynlluniau Anduril pan roddodd yr ateb i Gyngor Gwynedd ar 2 Hydref?
Neu oedd yr ateb yn dechnegol gul?
Mae posibilrwydd arall.
Mae union eiriad yr ateb werth edrych arno:
“gweithrediadau drôn milwrol wedi’u cynllunio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn”.
Mae’n bosib bod Anduril eisoes yn trafod defnyddio Llanbedr, neu hyd yn oed yn gwneud gwaith yno, ond nad oedd Snowdonia yn ystyried hynny’n weithrediad gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Wedi’r cwbl, cwmni preifat ydi Anduril.
Gallai profi technoleg oedd wedi’i bwriadu ar gyfer y farchnad amddiffyn fod wedi’i drin fel gweithgarwch masnachol gan gwmni preifat.
Os mai dyna’r esboniad, mae angen eglurhad pellach.
Ond mae’n codi cwestiwn gwahanol: a oedd ateb oedd efallai’n dechnegol gywir hefyd yn rhoi darlun cyflawn i aelodau etholedig o’r hyn oedd yn digwydd?
Dyna ddau beth gwahanol.
Ac erbyn hyn mae gennym ETTS
Rŵan rydym yn gwybod llawer mwy.
Mae Anduril wedi sefydlu European Test and Training Site – ETTS yn Llanbedr.
Mae Snowdonia Aerospace wedi cadarnhau bod Anduril wedi cymryd prydles hirdymor ar gyfres o adeiladau ar y safle.
Mae hefyd wedi cadarnhau bod Anduril wedi cynnal arddangosiadau a hyfforddiant i Luoedd Arfog Prydain yn Llanbedr.
Ac mae Snowdonia ei hun wedi dweud ei fod wedi gweld:
“significant increase in defence-related activity”
dros y ddwy flynedd flaenorol.
Mae hynny’n mynd â’r newid yn ôl ymhell cyn sefydlu ETTS.
Mae cynlluniau hefyd i ehangu gofod awyr arbennig D217, ac mae Snowdonia yn siarad am rôl Llanbedr mewn test, trials, training and evaluation – T3E – o systemau awtonomaidd.
Felly mae’n anodd edrych ar ETTS fel un tenant newydd yn unig.
Mae’r darlun yn edrych yn fwy fel newid strategol yn rôl y safle.
A barn gweithredwr Llanbedr ei hun
Ac mae yna rywbeth arall arwyddocaol yn y fan yma.
Dydi’r newid yma ddim yn cael ei gyflwyno gan Snowdonia Aerospace fel rhywbeth sy’n digwydd yn ddamweiniol – cwmni preifat yn rhentu adeilad ac yn gwneud gwaith amddiffyn ynddo.
Mae Jeremy Howitt, Prif Weithredwr Snowdonia Aerospace, wedi gosod y datblygiad mewn cyd-destun geowleidyddal llawer ehangach.
Mewn gohebiaeth ym mis Gorffennaf 2026, disgrifiodd y sefyllfa ryngwladol fel “New Cold War” gyda Rwsia. Cyfeiriodd at y rhyfel yn Wcráin, rhyfela hybrid a grey-zone, ac at yr angen i’r DU gyflymu datblygiad technoleg drôn a gwrth-ddrôn a chynyddu ei “sovereign defence capability”.
Mae hynny’n safbwynt gwleidyddol-strategol eithaf clir.
Ac mae Howitt yn cysylltu Llanbedr yn uniongyrchol â’r weledigaeth honno.
Mae’n nodi’r cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch amddiffyn yn y maes awyr. Mae’n sôn yn gadarnhaol am waith Anduril gyda Lluoedd Arfog Prydain ac am dechnoleg a ddatblygwyd ac a hyfforddwyd cyn gweithgareddau milwrol pellach.
Ac mae’n disgrifio safleoedd fel Llanbedr fel rhai:
“critically important to the new UK defence capability.”
Mae hynny’n arwyddocaol.
Mae gan Jeremy Howitt a Snowdonia Aerospace bob hawl i gredu bod cryfhau gallu milwrol y DU a NATO yn beth da.
Ond mae’n bwysig cydnabod mai safbwynt ydi hwnnw. Dydi Snowdonia Aerospace ddim jest yn disgrifio’n niwtral yr hyn mae tenant yn ei wneud. Mae’r Prif Weithredwr yn cyflwyno rôl amddiffyn gynyddol Llanbedr fel rhan gadarnhaol ac angenrheidiol o ymateb y DU i amgylchiadau rhyngwladol newydd.
Ac mae hynny’n codi cwestiwn democrataidd eithaf sylfaenol.
Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar Lanbedr. Ydi’r Llywodraeth newydd - sydd efo cryn dipyn ar ei phlat ar hyn o bryd - yn ymwybodol o’r newid strategol sydd ar waith yn Llanbedr?
Ac os felly, pryd a chan bwy y gwnaed y penderfyniad hwnnw?
Anduril
Mae natur Anduril ei hun yn ychwanegu haen arall.
Dydi hwn ddim yn gwmni awyrofod sifil sydd hefyd yn gwneud rhywfaint o waith amddiffyn.
Sefydlwyd Anduril yn benodol i newid y ffordd mae technoleg filwrol yn cael ei datblygu.
Mae’r cwmni’n gweithio ym maes dronau, systemau awtonomaidd, gwrth-ddronau, synwyryddion a deallusrwydd artiffisial.
Wrth galon llawer o’i waith mae Lattice – system Command and Control sy’n defnyddio AI i gyfuno gwybodaeth o radar, camerâu, dronau a synwyryddion eraill, adnabod a dilyn targedau a chydlynu systemau awtonomaidd.
Dydi’r weledigaeth ddim jest am adeiladu drôn gwell.
Mae’n ymwneud â rhwydweithiau o systemau awtonomaidd sy’n gallu gweithio gyda’i gilydd ar faes y gad.
Palmer Luckey
Mae sylfaenydd Anduril, Palmer Luckey, hefyd yn anarferol o agored ynglŷn â’i fydolwg gwleidyddol.
Gwnaeth ei ffortiwn drwy Oculus VR cyn sefydlu Anduril yn 2017.
Mae’n feirniadol o’r hen ddiwydiant amddiffyn Americanaidd ac yn dadlau y dylai dull Silicon Valley – datblygu’n gyflym, defnyddio AI ac adeiladu systemau ar raddfa fawr – gael ei gymhwyso i ryfela.
Mae ganddo hefyd safbwyntiau geowleidyddol cryf. Mae wedi disgrifio ei hun fel “radical Zionist” ac mae’n gefnogwr brwd o gryfhau gallu milwrol America a’i chynghreiriaid.
Dydi hynny ynddo’i hun ddim yn dweud dim am yr hyn sy’n digwydd yn Llanbedr.
Ond mae’n berthnasol i ddeall pa fath o gwmni sydd bellach wedi sefydlu presenoldeb hirdymor yno.
Project NYX – cipolwg ar ble mae hyn i gyd yn mynd
Ac mae Project NYX yn helpu i egluro pam mae’r holl beth yn fwy arwyddocaol na phrofi ambell i ddrôn.
Rhaglen gan y Fyddin Brydeinig ydi NYX i ddatblygu cenhedlaeth newydd o systemau awyr di-griw ac awtonomaidd i weithredu ochr yn ochr â hofrenyddion ymosod (attack helicopters) AH-64E Apache.
Mae’r syniad weithiau’n cael ei ddisgrifio fel loyal wingman: yn hytrach na bod hofrennydd gyda chriw dynol yn gweithredu ar ei ben ei hun, gall systemau di-griw fynd o’i flaen neu weithio ochr yn ochr a’r hofrennydd.
Gall y tasgau gynnwys rhagchwilio, canfod a dynodi targedau, rhyfela electronig ac, yn y pen draw, y gallu i daro a difa targedau.
Dyma’r math o newid mae Anduril wedi’i adeiladu ei fusnes o’i gwmpas – cyfuno dronau, synwyryddion, AI ac awtonomi fel bod nifer o systemau’n gallu gweithio gyda’i gilydd.
Ac mae Anduril UK bellach yn un o bedwar cwmni a ddewiswyd i barhau yng nghystadleuaeth NYX, ochr yn ochr â BAE Systems, Tekever a Thales UK.
Mae angen bod yn hollol glir am un peth:
Does dim tystiolaeth gyhoeddus ar hyn o bryd bod Project NYX yn cael ei ddatblygu neu ei brofi yn Llanbedr.
A dydy Anduril ddim wedi ennill y gystadleuaeth.
Ond mae’r cysylltiad yn ddiddorol.
Mae Anduril yn cystadlu i ddatblygu systemau awtonomaidd ar gyfer y Fyddin Brydeinig. Ar yr un pryd mae ganddo safle profi a hyfforddi hirdymor yn Llanbedr, lle mae’r gallu BVLOS, gofod awyr arbennig a seilwaith ar gyfer profi systemau awtonomaidd eisoes ar gael.
Felly mae’n gwbl resymol gofyn:
Os bydd Anduril yn llwyddo gyda NYX – neu raglenni tebyg yn y dyfodol – pa rôl, os o gwbl, fydd Llanbedr yn ei chwarae?
Felly mae’r cwestiwn felly wedi newid.
Dydi hi ddim bellach jest yn gwestiwn am bwy sy’n defnyddio Llanbedr heddiw, na hyd yn oed am ba fath o dechnoleg sy’n cael ei phrofi yno.
Mae’n gwestiwn am sut y daeth safle oedd yn cael ei gyflwyno am flynyddoedd fel canolfan awyrofod sifil i fod yn rhan gynyddol o seilwaith amddiffyn y DU — a phwy oedd â’r hawl i wneud y newid hwnnw.
Oherwydd yn y pen draw mae Llanbedr yn dal yn ased sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Mae Snowdonia Aerospace yno o dan brydles, ac mae Anduril bellach yno o dan drefniant hirdymor ei hun.
Felly mae yna gwestiwn mwy sylfaenol o hyd:
Beth yn union mae’r brydles yn ei ganiatáu?
Beth mae’n ei ddweud am ddefnydd milwrol? Am is-brydlesu? Am yr adeiladau a gafodd eu gwella gydag arian cyhoeddus? Ac os oedd newid mor sylweddol yn natur y safle, pwy oedd angen cytuno iddo?
Dyna lle mae’r stori’n mynd nesaf.
Oherwydd os ydi’r stori hyd yma wedi bod am beth sydd wedi digwydd yn Llanbedr, mae’r blogiad nesaf am gwestiwn gwahanol:
oedd ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny?