Wednesday, July 29, 2026

Llanbedr: O ganolfan sifil i ran o seilwaith amddiffyn?

Mae Canolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr yn y newyddion unwaith eto - y tro hwn oherwydd i gwmni amddiffyn Americanaidd gael yr hawl i weithredu yno.



Mae Canolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr wedi bod yn datblygu ers iddi ddod yn rhan o Barth Menter Eryri yn 2013. Dros y cyfnod hwnnw, cafodd ei chyflwyno fel canolfan ar gyfer ymchwil, arloesi a phrofi technoleg awyrofod sifil. Yn 2019, gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewropeaidd, atgyfnerthwyd y weledigaeth honno drwy ddatblygu seilwaith newydd. Y neges glir ar y pryd oedd mai creu canolfan awyrofod sifil o’r radd flaenaf oedd y nod – gan ddenu swyddi o ansawdd uchel, ymchwil, arloesi a buddsoddiad. I lawer, roedd yn gyfle i Gymru sefydlu ei hun ar flaen y gad ym maes technoleg sifil newydd.





Erbyn hyn, mae’r darlun yn edrych yn dra gwahanol.


Mae Anduril Industries, cwmni technoleg amddiffyn Americanaidd sy’n arbenigo mewn dronau milwrol, deallusrwydd artiffisial a systemau ymreolaethol, bellach wedi ennill contract Electronic Tactical Training Service (ETTS) y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae hynny’n golygu y bydd Llanbedr yn chwarae rhan mewn profi a hyfforddi systemau awyr di-griw i bwrpas milwrol.


Wrth gwrs, ‘dydi hynny ddim yn golygu bod Anduril wedi cymryd drosodd Faes Awyr Llanbedr. Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar y safle, Snowdonia Aerospace sy’n ei weithredu, a’r Weinyddiaeth Amddiffyn sydd wedi dyfarnu’r contract i Anduril. Ond mae’n anodd gwadu bod natur y gweithgarwch ar y safle wedi newid yn sylfaenol yn sgil rhoi’r cytundeb i Anduril.


Yr hyn sy’n gwneud y newid hwn mor drawiadol ydi ei gyflymder a’r newid oddi wrth y weledigaeth wreiddiol.


Ym mis Hydref 2025, cododd y Cynghorydd (bryd hynny) Beca Brown gwestiwn yng Nghyngor Gwynedd yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol Heddwch. Gofynnodd a allai’r Cyngor roi sicrwydd nad oedd y dronau oedd yn cael eu datblygu yn Llanbedr yn cael eu defnyddio at ddibenion milwrol.




Yn ei ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Economi fod Cyngor Gwynedd wedi cysylltu â Snowdonia Aerospace i geisio eglurder. Yn ôl yr ymateb, roedd y cwmni wedi cadarnhau mai cwmnïau masnachol sifil yn unig oedd yn defnyddio’r safle ac nad oedd unrhyw weithrediadau drôn milwrol wedi’u cynllunio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llanbedr.


Fodd bynnag, yn yr ateb i’r cwestiwn atodol, gwnaed cyfaddefiad pwysig iawn. Cydnabuwyd nad oedd unrhyw rwystrau cyfreithiol yn atal gweithgareddau milwrol rhag digwydd yn y dyfodol. ‘Doedd y caniatâd cynllunio na’r trefniadau rheoleiddio yn gwahaniaethu rhwng defnydd sifil a defnydd milwrol. Yr unig beth y gallai’r Cyngor ei wneud oedd mynegi pryder pe bai’r sefyllfa’n newid.


Ac erbyn hyn, mae’r sefyllfa wedi newid.


Mewn llai na blwyddyn, mae cwmni amddiffyn Americanaidd wedi ennill cytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn i weithredu gwasanaeth milwrol ar y safle. Dydi hyn bellach ddim yn gwestiwn damcaniaethol; mae’n realiti.


Mae hynny’n codi nifer o gwestiynau pwysig.


Yn gyntaf, beth fydd effaith hyn ar y weledigaeth sifil wreiddiol? Roedd y prosiect yn cael ei hyrwyddo fel ffordd o ddenu cwmnïau awyrofod sifil i Gymru. Ond wrth i weithgarwch milwrol gynyddu, mae’n rhesymol gofyn a fydd hynny’n gwneud y safle’n llai deniadol i fusnesau sifil. Gall mwy o gyfyngiadau diogelwch, defnydd cynyddol o’r gofod awyr ar gyfer gweithgareddau milwrol, neu’r ffaith bod Llanbedr yn cael ei hadnabod yn bennaf fel canolfan filwrol, effeithio ar natur buddsoddiad yn y dyfodol.


Yn ail, mae angen trafodaeth onest am y risgiau sy’n dod yn sgil newid o’r fath. ‘Dydi hynny ddim yn golygu bod perygl uniongyrchol i drigolion yr ardal heddiw. Ond mae’n ffaith gyffredinol fod safleoedd sy’n cael eu defnyddio at bwrpas milwrol yn gallu dod yn fwy deniadol i ysbïo, ymosodiadau seiber neu weithgarwch gelyniaethus mwy uniongyrchol. Ac os byddai gwrthdaro confensiynol rhwng gwladwriaethau yn digwydd yn y dyfodol, mae’n rhesymol gofyn a fyddai safle sy’n rhan o seilwaith milwrol y America a NATO yn cael ei ystyried yn fwy strategol nag y byddai wedi bod fel canolfan sifil yn unig. Byddai canfyddiad felly’n ei wneud yn fwy agored i ymosodiad wrth gwrs.


Mae’r cwestiynau hyn yn arbennig o berthnasol yn y cyd-destun rhyngwladol presennol. Mae’r rhyfel yn Wcráin yn parhau, mae’r Dwyrain Canol yn wynebu ansicrwydd difrifol, ac mae’r Unol Daleithiau yn parhau i chwarae rhan ganolog mewn  rhyfeloedd byd-eang, fel y mae wedi ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae Anduril yn rhan o’r ecosystem amddiffyn Americanaidd honno. O ganlyniad, pan fydd safle yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio gan gwmni o’r fath, mae’n anochel y bydd yn cael ei weld fel rhan o seilwaith amddiffyn ehangach yr Unol Daleithiau a NATO.


Efallai mai’r cwestiwn mwyaf diddorol, fodd bynnag, yw a ddylem fod wedi gweld hyn yn dod.


Un o asedau pwysicaf Llanbedr oedd ei statws BVLOS (Beyond Visual Line of Sight) – un o’r ychydig leoedd ym Mhrydain lle gellir profi dronau di-griw y tu hwnt i olwg y peilot. Cyflwynwyd hynny fel mantais enfawr i’r sector sifil. Ond roedd yr un gallu yn ei wneud yn hynod ddeniadol i’r sector amddiffyn hefyd. Mewn geiriau eraill, yr union nodweddion oedd yn gwneud Llanbedr yn lleoliad delfrydol ar gyfer arloesi sifil oedd hefyd yn ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygu technoleg filwrol. O edrych yn ôl, efallai bod y statws BVLOS yn arwydd clir y byddai Llanbedr bron yn anochel yn denu cwmnïau amddiffyn rhyngwladol.




Mae cwestiwn arall heb ateb clir hefyd. Pan ddatblygwyd y ganolfan gyda chyllid Ewropeaidd, pwysleisiodd Cyngor Gwynedd fod cytundebau’n sicrhau y byddai’r adeiladau a ariannwyd gan yr UE yn cael eu defnyddio at ddibenion sifil, a dibenion sifil yn unig. Mae angen eglurder llawn bellach ynghylch os ydi gweithgareddau Anduril yn defnyddio’r adeiladau hynny neu beidio, ac os ydynt, sut mae’r defnydd milwrol presennol yn cyd-fynd â’r sicrwydd a roddwyd pan gafodd y prosiect ei gymeradwyo.


Dydi’r blogiad penodol yma ddim yn dadlau fel y cyfryw bod buddsoddiad Anduril yn dda nac yn ddrwg - er y bydd pawb sydd yn fy ’nabod yn gwybod fy safbwynt at hynny. Ond gall pobl ddod i gasgliadau gwahanol am hynny.


Y cwestiwn, felly, ydi nid a ydi’r newid yma wedi digwydd – mae hynny bellach yn glir – ond sut y digwyddodd. Sut y symudodd prosiect a gyflwynwyd i’r cyhoedd fel canolfan awyrofod sifil i fod yn safle lle mae cwmni amddiffyn Americanaidd yn gweithredu contract y Weinyddiaeth Amddiffyn? Pryd y newidiodd y polisi? Pwy wnaeth y penderfyniadau? A phryd gafodd y cyhoedd wybod?


Yr  hyn dwi yn ei ddadlau ydi nad ydi’r hyn sydd wedi digwydd yn Llanbedr yn ymwneud â dronau yn unig. Mae’n ymwneud â’r cwestiwn llawer ehangach - pa rôl rydym ni fel Cymry am i Gymru ei chwarae mewn byd sy’n mynd yn fwy ansicr, yn fwy anghyfarwydd ac yn llai sefydlog.


Llywodraeth Cymru ydi perchenog y safle, Cyngor Gwynedd oedd yn gyfrifol am weinyddu’r cais am y grant yn 2019, ac mae’r safle wedi ei leoli yng Ngwynedd. ‘Dydi hi ddim yn afresymol cymryd y byddai’r ddau gorff yn wrthwynebus i ddatblygu Llanbedr fel safle milwrol - ond mae o’n digwydd beth bynnag - a hynny efo dim neu nesa’ peth i ddim goruchwyliaeth ddemocrataidd.


Nid cwestiwn am Anduril yn unig ydi hwn. Nid cwestiwn am dronau yn unig ydi hwn chwaith. Os ydi Llanbedr yn symud o fod yn ganolfan awyrofod sifil i fod yn rhan o seilwaith amddiffyn y DU a NATO, yna mae hynny’n newid strategol i Gymru. Ac mae newid strategol o’r fath yn haeddu llawer mwy o drafodaeth gyhoeddus a llawer mwy o graffu democrataidd nag a welwyd hyd yma.


Dyna’r drafodaeth y dylem  ei chael rŵan.

Sunday, July 26, 2026

Ymgais (arall) i ail ddechrau blogio!

Dwi’n gwybod fy mod i’n addo ailddechrau blogio’n rheolaidd o bryd i’w gilydd – felly dyma drio eto!


Mae’n od meddwl bod bron i ddegawd wedi mynd heibio ers i mi roi’r gorau i flogio’n rheolaidd -er fy mod i wedi cael hyrddiau o flogio ers hynny.


Ar y pryd, roedd David Cameron yn Brif Weinidog y DU, Leanne Wood oedd yn arwain Plaid Cymru, roedd y Deyrnas Unedig yn dal yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, roedd Donald Trump eto i gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac ‘doedd neb wedi clywed am COVID-19. Roedd Twitter yn dal i fod yn Twitter, nid X. ac roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru eto i ddod yn Senedd Cymru.





Mewn geiriau eraill, mae’r byd wedi newid bron y tu hwnt i adnabyddiaeth ers hynny.


Y digwyddiad mwyaf, heb os nac oni bai, oedd Brexit. Beth bynnag ydi barn rhywun am y canlyniad, mae’n anodd gorbwysleisio’r effaith y mae wedi’i chael. Mae wedi ail-lunio gwleidyddiaeth Prydain, newid perthynas y Deyrnas Unedig â gweddill Ewrop, a chael effaith uniongyrchol ar economi, mewnfudo, amaethyddiaeth a’r ffordd y mae llywodraethau yng Nghymru yn gweithredu. Yn wir gellir dadlau fod y digwyddiad hwnnw ymhlith y trawsnewidiad sydd wedi bod yng ngwleidyddiaeth Cymru.


Yna daeth y pandemig. Am gyfnod byr, stopiodd y byd bron yn llwyr. Cawsom ein hatgoffa mor fregus ydi cymdeithas fodern mewn gwirionedd, a gwelwyd Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig yn cymryd rôl llawer mwy amlwg ym mywyd bob dydd pobl nag erioed o’r blaen.


Yn y cyfamser, mae gwleidyddiaeth Cymru ei hun wedi newid yn sylweddol. Mae’r Cynulliad wedi dod yn Senedd, mae wedi ennill pwerau ychwanegol, ac mae wedi ehangu i 96 Aelod o dan system etholiadol newydd - i Gymru o leiaf.  Mae Plaid Cymru wedi symud o fod yn wrthblaid i fod yn blaid lywodraethol, tra bod Reform UK wedi dod yn chwaraewr gwleidyddol mawr mewn ffordd na fyddai llawer wedi’i rhagweld ddeng mlynedd yn ôl.



Yn San Steffan, mae’r newid wedi bod bron mor ddramatig. Mae’r Ceidwadwyr wedi mynd o ennill mwyafrif mawr i golli grym yn llwyr ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd a welodd sawl Prif Weinidog yn dod a mynd mewn ychydig flynyddoedd. Ar hyd y ffordd cawsom Brexit, y pandemig, yr argyfwng costau byw, y chwyddiant uchaf ers degawdau a marwolaeth y Frenhines.





Yn rhyngwladol, mae’r darlun wedi newid yr un mor ddramatig. Mae ymysodiad Rwsia ar Wcráin wedi ail-lunio diogelwch Ewrop ac wedi arwain at ehangu NATO. Yn y Dwyrain Canol, mae’r rhyfel yn Gaza a’r gwrthdaro rhwng America Israel ag Iran wedi newid cydbwysedd grym y rhanbarth ac wedi dominyddu gwleidyddiaeth ryngwladol.  Ac mae methiant America ac Israel i oresgyn Iran yn debygol i fod a goblygiadau hir dymor pell gyrhaeddol.





Ac yna mae gennym ni dechnoleg. Mae deallusrwydd artiffisial wedi symud o fod yn rhywbeth oedd yn perthyn i ffuglen wyddonol i fod yn offeryn y mae miliynau yn ei ddefnyddio bob dydd. Mae hynny’n debygol o newid economïau, addysg, y cyfryngau a gwleidyddiaeth yn y ffordd y gwnaeth y rhyngrwyd greu newid ugain mlynedd yn ôl.


Efallai mai’r newid mwyaf, fodd bynnag, ydi natur y ddisgwrs wleidyddol ei hun.


Ddeng mlynedd yn ôl roedd y drafodaeth yn aml yn canolbwyntio ar faterion lleol neu genedlaethol. Heddiw, mae’n anodd trafod unrhyw beth heb gyfeirio at y cyd destun rhyngwladol ehangach. Mae prisiau ynni yng Nghaernarfon yn cael eu dylanwadu gan ryfel yn Wcráin a phenderfyniadau yn Tehran. Gall penderfyniadau yn Washington neu Beijing gael effaith ar swyddi yng Nghymru. Mae’r ffin rhwng gwleidyddiaeth leol a gwleidyddiaeth fyd-eang wedi mynd yn llawer mwy aneglur.


Mae’r ffordd rydym yn trafod gwleidyddiaeth wedi newid hefyd. Mae Twitter wedi troi’n X. Mae TikTok a phodlediadau wedi dod yn ffynonellau newyddion i filiynau. Mae’r cylch newyddion yn rhedeg yn ddi-baid, ac mae gwybodaeth – a chamwybodaeth – yn teithio’n gyflymach nag erioed.


Wrth edrych yn ôl, mae’n anodd meddwl am gyfnod arall mewn bywyd gwleidyddol lle mae cymaint wedi newid mewn dim ond degawd - ac mae rhai o’r newidiadau werth eu trafod yn fwy manwl. 


Efallai bod hynny’n rheswm digon da dros ddechrau blogio eto.