Sylw neu ddau sydd gen i yn dilyn dadl fyrhoedlog a gefais ar y blog Britain Votes efo Alwyn ap Huw (awdur Hen Rech Flin). Amddiffyn honiad abswrd un o awduron y blog, Harry Hayfield (sydd, dwi'n prysuro i ddweud, yn flogiwr da iawn gan amlaf) mai dadl ynglyn a chau ysgolion cyfrwng Cymraeg ydi hanfod yr anghytundeb rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru. 'Dydi hynny ddim yn wir wrth gwrs - beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl o'r newidiadau sydd wedi digwydd ym Meirion tros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi digwydd yng nghyd destun ymarferiad ardrawiad iaith trylwyr.
Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl, ydi'r feirniadaeth sydd ymhlyg yn sylwadau Alwyn, o'r system yng Ngwynedd mewn perthynas ag addysg Gymraeg. Mae'r drefn yng Ngwynedd yn anarferol i'r graddau nad oes ysgolion Cymraeg (ag eithrio ym Mangor). Yn wir (ar wahan i'r eithriad yma) 'dydi'r sir ddim yn diffinio ysgolion yn ol categoriau ieithyddol o gwbl oherwydd bod disgwyl i pob ysgol weithredu polisi iaith y sir. Mae'r polisi hwnnw yn disgwyl i ysgolion roi cyfle i pob disgybl ddod yn rhugl ddwyieithog.
Felly sut y gellir barnu pa mor effeithiol ydi'r ddarpariaeth o safbwynt cynnal y Gymraeg? Trwy edrych ar ddata mae'n debyg. Mae unrhyw fesur y dewisir yn dangos bod y system addysg yng Ngwynedd yn rhyfeddol o effeithiol am gynhyrchu Cymry Cymraeg. Er enghraifft:
'Rwan 'dwi ddim yn dadlau bod y gyfundrefn yng Ngwynedd yn llwyr facsimeiddio'r hyn y gellir ei wneud i gynhyrchu cenedlaethau o bobl sy'n gallu siarad y Gymraeg - mae yna rai gwendidau - ond mae'n perfformio'n well nag unrhyw system arall sydd ar gael. Ymhellach, ac yn bwysicach, bu cynnydd cyson yn effeithlonrwydd y system o ran cynhyrchu Cymry cymraeg, ac mae cynlluniau i wella eto ar droed.
Nid rhywbeth i'w feirniadu ydi'r system addysg yng Ngwynedd mewn cyswllt a'r Gymraeg, ond rhywbeth i ymfalchio ynddo.

- Yn 2009 roedd y ganran o blant bl 6 oedd yng nghategori A (plant rhugl ddwyieithog) yng Ngwynedd yn 78.5%. .
- Roedd 95.2% o blant bl 6 y sir yn cyrraedd lefel 3+ yn yr un flwyddyn, ac roedd 96.1% o'r sawl a gafodd asesiad felly yn parhau i ddilyn cwrs Cymraeg iaith gyntaf ym mlwyddyn 7.
- Asesir 99.8% o ddisgyblion yn y Gymraeg ar ddiwedd CA2.
- Asesir 80.4% o ddisgyblion y sir fel Cymry iaith gyntaf ar ddiwedd CA3 ac mae'r patrwm yn CA4 yn ddigon tebyg.
- Roedd 81.5% o ddisgyblion y sir yn sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf.
- Mae mwyafrif llethol (100% yn y rhan fwyaf ohonynt) o ddisgyblion pob ysgol uwchradd yn y sir, ag eithrio un, yn astudio pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.