Mae ymdriniaeth yr Independent on Sunday o sylwadau gwrth Gymreig Roger Lewis yn ddigon dadlennol ac mae'n codi sawl 'sgwarnog digon diddorol. Rydym eisoes wedi edrych yn frysiog ar y stori yma wrth gwrs.
Adrodd y stori sydd eisoes yn gyfarwydd i ni yng Nghymru mae'r Indie yn y bon, ac ychwanegu eu lein eu hunain bod Jonathan Edwards wedi gwneud iddo'i hun edrych yn wirion braidd oherwydd bod y rhan fwyaf o Gymry o'r farn ei fod yn gwneud mor a mynydd o fater bach. Maent yn 'profi' eu pwynt trwy gyfeirio at neu ddyfynnu nifer ol bobl sydd o bosibl yn ymddangos fel esiamplau perffaith o Gymreictod twymgalon os ydych yn edrych ar y Byd o Canary Wharf - Chris Bryant, Carol Vorderman, Lembit Opik, Stephen Fry a Gyles Brandreth.
'Rwan pan mae rhywun yn eistedd yn ol ac yn meddwl am y peth mae'n rhyfeddol fel mae'r arfer o ddweud pethau cas am grwpiau o bobl wedi mynd yn llawer, llawer llai cyffredin nag y bu. Roedd yn gyffredin ddeg mlynedd ar hugain yn ol i ddod ar draws sylwadau sarhaus am drigolion gwledydd eraill ac am elfennau oddi mewn i gymdeithas ym Mhrydain ar y cyfryngau prif lif, ac mewn bywyd pob dydd. 'Dydi hynny ddim yn gyffredin erbyn heddiw - er bod modd meddwl am eithriadau mewn rhai cyd destunnau - mae sylwadau dilornus am ferched yn gyffredin iawn ymysg perfformwyr rap, mae ambell i gomediwr megis Frankie Boyle yn hoff o wneud hwyl ar ben yr anabl, mi fydd comidiwyr du yn gwneud hwyl am benpobl ddu eraill weithiau. Ond mae sylwadau cyhoeddus o'r fath yn rhyfeddol o brin erbyn heddiw - hyd yn oed mewn bywyd pob dydd.
Fel rheol mae sylwadau dilornus sydd wedi eu cyfeirio tuag at grwpiau mawr o bobl yn ennyn ymateb lled hysteraidd. Er enghraifft roedd rhywun o'r enw Stephen Fry yn ddigon parod i daflu'r cyhuddiad o homoffobia tuag at David Cameron pan ymddangosodd rhywun o Wlad Pwyl sydd ag agweddau tuag at bobl hoyw na fyddai'n plesio mewn parti caws a gwin yn Hampstead, yng nghynhadledd y Toriaid; ac aeth boi o'r enw Chris Bryant yntau i ben y caets wedi i George Osborne ei alw'n Pantomime Dame gan egluro ddigon snifflyd bod homoffobia yn Nhy'r Cyffredin yn gwbl anerbyniol. Mae'r ddau (trwy gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs) yn hoyw - a 'does yna ddim perthynas o gwbl rhwng eu canfyddiad o ddifrifoldeb homoffobia a'r ffaith eu bod nhw eu hunain yn digwydd perthyn i'r grwp a ddilornir gan homoffobiaid - nid bod y gymuned hoyw wedi ei dilorni yn y naill achos arbennig yma na'r llall mewn gwirionedd.
Mae'n hawdd gweld pam bod agweddau wedi newid. Cyn y chwe degau roedd Prydain yng nghanol ymerodraeth enfawr oedd yn rheoli bywydau pob math o bobl ar hyd a lled y Byd. O'r chwe degau ymlaen diflanodd yr ymerodraeth a dechreuodd trigolion y cyn ymerodraeth symud i Brydain mewn niferoedd sylweddol iawn. 'Dydi dilorni pobl rydych yn eu rheoli pan maent yn byw ymhell ddim yn broblem o safbwynt cydlyniad cymdeithasol, ond pan maent yn byw i fyny'r lon mae'r stori'n wahanol.
Yn y Brydain newydd a dyfodd o chwe degau'r ganrif ddiwethaf ymlaen roedd yr agweddau hiliol amrwd oedd yn nodweddu llawer o bobl Prydain yn y gorffennol yn wirioneddol beryglys. O ganlyniad cafwyd newid mewn agweddau sefydliadol a symudwyd tuag at syniadaeth sy'n pwysleisio cydraddoldeb a pharch - ac yn raddol daeth y rhan fwyaf (er nad pawb wrth gwrs) i goleddu'r gwerthoedd yna. Roedd hyn oll yn cyd fynd a newidiadau eraill mewn cymdeithas - newidiadau mewn rol merched ac erydiad rhai o'r strwythurau hierarchaidd oedd wedi bodoli ar rhyw ffurf neu'i gilydd ers canrifoedd. Roedd papurau newydd rhyddfrydig megis yr Independent yn gydadrannau pwysig o'r newid oherwydd iddynt gynorthwyo i greu'r fframwaith deallusol lle gallai ddigwydd.
Roedd grwpiau cynhenid wedi dioddef yn enbyd yn y gorffennol oherwydd rhagfarnau hefyd - pobl hoyw er enghraifft. Roedd y sefyllfa newydd o gymorth sylweddol i'r grwpiau hyn - os ydi goddefgarwch tuag at ddiwylliannau a grwpiau ethnig eraill yn ddymunol, felly mae'n dilyn bod goddefgarwch tuag at bobl sydd a rhywioldeb gwahanol hefyd yn ddymunol. Mae'r cynnydd sylweddol yn hawliau'r anabl wedi datblygu yn y cyd destun ehangach yma hefyd.
Mae'n ddiddorol felly bod rhai grwpiau yn gallu cael eu dilioni o hyd, a bod pobl megis Chris Bryant, Stephen Fry a Lempit Opik - pobl sy'n uchel eu cloch pan mae grwpiau eraill yn cael eu dilorni - yn fodlon lled amddiffyn y dilorni hwnnw.
Fel y dywedais, ychydig o ddilorni cyhoeddus sydd ar ol. 'Dwi ddim yn siwr pam ein bod yn fodlon derbyn geiriau i ganeuon poblogaidd sy'n argymell trais tuag at ferched mewn deunydd megis gangsta rap. Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod y ffaith bod y sawl sy'n perfformio'r stwff yn amlwg yn arddel gwerthoedd diwylliannol sy'n dod o ochr arall yr Iwerydd yn rhywbeth i'w wneud efo'r ateb. Mae yna elfen bach o chwerthin ar ben y rapiwr a'i agweddau cyntefig.
'Dydi jocs Gwyddelig ddim yn boblogaidd bellach - mi laddwyd y stereoteip o Wyddel dwl yn rhannol gan y Teigr Celtaidd, ond yn bwysicach gan ddeg mlynedd ar hugain o naratif gan y wladwriaeth Brydeinig oedd yn mynnu eu bod yn ymladd yn erbyn gelyn hynod soffistigedig ar ffurf y Mudiad Gweriniaethol yn yr Iwerddon.
A daw hyn a ni at y Cymry. Pam ei bod yn dderbyniol i wneud sylwadau gwrth Gymreig, ond nad yw'n dderbyniol i wneud rhai gwrth Iddewig? Efallai bod rhan o'r ateb yn deillio o'r ffaith nad oes yna rhyw lefel mawr o atgasedd tuag at Gymry yn Lloegr yn gyffredinol, ac nad oes yna deimlad ein bod wedi dioddef llawer yn sgil ein arwahanrwydd. Mae pobl o ganlyniad yn edrych ar Gymry yn wahanol i Arabiaid, Iddewon neu bobl o Bacistan. Oherwydd nad oes yna rhyw deimlad bod yna berygl ynghlwm a thynnu ar y Cymry, mae'n hawdd cymryd yr agwedd bod gwneud mor a mynydd am ychydig o sylwadau cas am y Gymraeg a'i siaradwyr yn wirion. Mae'r un peth yn wir am Ffrancwyr - grwp arall mae'n dderbyniol i'w dilorni. Mae'r ffaith ein bod yn debyg i Saeson mewn aml i ffordd yn gwneud y gwahaniaeth rhyngom ni a grwpiau eraill yn y cyswllt hwn.
Y drwg efo cymryd yr agwedd yma ydi hyn - pan rydym yn dechrau dadlau ei bod yn iawn i ddilorni rhai grwpiau - ond bod dilorni grwpiau eraill yn ymylu ar fod yn drosedd yn erbyn y ddynoliaeth - rydym yn dechrau ymosod ar resymeg mewnol, ac felly seiliau deallusol y ty cardiau o syniadaethau goddefgar sydd wedi ei adeiladu arnynt.
Mae'r seiliau deallusol hynny o dan gryn straen ar hyn o bryd beth bynnag. Pan mae'r rhyddfrydig a'r goddefgar - pobl fel Bryant ac Opik, a phapurau fel yr Indie - yn dechrau naddu i mewn iddynt hefyd, mae rhywun yn dechrau ofni am ddyfodol y gyfundrefn syniadaethol sydd mor annwyl iddynt.

4 comments:
Roedd cwyno wrth yr heddlu'n hurt, ac mae hynny wedi gwneud drwg dw i'n credu. Mae unrhyw un sy'n rhoi cyfle ar blât i Chris Bryant ddweud pethau cywir (ond hunan-gyfiawn) yn amlwg wedi gwneud camgymeriad.
Mae Simon Brooks wedi awgrymu y dylid defnyddio'r broses yna fel arf gan ei fod yn cael ei ddefnyddio yn erbyn unrhyw Gymry sy'n dweud pethau "annerbynniol" yn y cyfeiriad arall. Efallai bod mymyryn o deilyngdod i'r ddadl honno, ond dw i heb fy argyhoeddi. Hoffwn ein gweld ni'n codi uwchlaw hynny.
Mae'n sicr na fyddai pobl yn amddiffyn Mr Lewis petai wedi ysgrifennu'r geiriau yna am unrhyw garfan leiafrifol arall. Mae hynny'n ddadlennol. Ond nid rhedeg at yr heddlu yw'r ateb, hyd yn oed os mai dyna fydd gelynion yr iaith yn ei wneud os bydd Cymro'n dweud rhywbeth "annerbynniol".
Yn ogystal â bod yn wrthun (am resymau rhyddid mynegiant), mae cwyno wrth yr heddlu wedi backfirio yn dactegol. Gobeithio bydd hyn yn wers.
Chris Bryant AS ar sylw Greasy Wops Alun Cairns
Rhondda Labour MP Chris Bryant said: “David Cameron has had over two months to decide whether or not Alun Cairns should be sacked as the Tory candidate in the Vale of Glamorgan. “It’s very much decision time for David Cameron on this issue.
“Failing to sack Alun Cairns shows how indecisive Cameron really is when it comes to taking tough decisions.”
AS Gymreig sydd yn amlwg yn credu bod joc dichwaeth am Eidalwyr yn waeth drosedd nac ymosodiad giaidd ar genedligrwydd ei etholwyr!
"Dydi jocs Gwyddelig ddim yn boblogaidd bellach - mi laddwyd y stereoteip o Wyddel dwl yn rhannol gan y Teigr Celtaidd"
Cymry = Gwyddelod newydd
Twp, tlawd, "quaint", acen doniol, ayyb.
Diolch Alwyn - mi anghofiais am wopgate.
Dwi ddim yn dadlau y dylid mynd at yr heddlu Dylan - go brin y bydd y DPP byth yn gweld bod gobaith realistig i ennill yr achos.
Y pwynt sydd gen i ydi hyn - mae Mr Bryant efo teimladau cryfion ynglyn a hawliau Eidalwur a phobl hoyw.
'Dydw i ddim yn hoyw, a 'dydw i ddim yn Eidalwr. Mae Mr Bryant yn gofyn am fy nghefnogaeth i amddiffyn hawliau hoyw ac Eidalaidd trwy apelio at syniadaeth mae'n gobeithio 'dwi'n ei rannu efo fo y dylai pawb fod a statws cyfartal.
Mae hyn oll yn ddigon teg - ond pan mae'n dweud - ' o gyda llaw 'dydi'r grwp ti'n perthyn iddo (Cymry Cymraeg) ddim yn rhan o'r fframwaith sy'n sicrhau statws cyfartal i bawb', wedyn mae'n tanseilio ei fframwaith syniadaethol ei hun trwy greu sefyllfa lle nad oes gen i a phobl debyg i mi unrhyw fuddsoddiad yn y fframwaith syniadaethol sy'n sicrhau hawliau hoyw ac Eidalaidd.
Post a Comment