Friday, September 09, 2011

Gair bach arall am wleidyddiaeth Iwerddon

Bydd etholiad arlywyddol Gweriniaeth Iwerddon yn cael ei gynnal ar Hydref 27 eleni.  Mae bron yn sicr y bydd Michael D Higgins o'r Blaid Lafur, neu Gay Mitchell o Fine Gael yn cael ei ethol i'r swydd sydd i bob pwrpas yn un symbolaidd. Mae dau ymgeisydd annibynnol hefyd yn debygol o gael eu henwebu i sefyll. 



Cymhlethdod diddorol ydi ei bod bellach yn debygol bydd Sinn Fein yn datgan bwriad i gynnig ymgeisydd yn ystod y dyddiau nesaf.  'Does gan y blaid ddim digon o aelodau yn seneddau Iwerddon i fedru enwebu ymgeisydd (mae angen 20 aelod - 14 sydd ganddynt yn y Dail a 2 yn y senedd) - ond mae nifer o aelodau annibynnol y Dail yn agos at SF yn wleidyddol, ac mae'n debyg bod y rhifau ar gael os oes angen.

Mae sawl enw wedi ei awgrymu i sefyll ar eu rhan - Adams, McGuinness, Mickey Harte (rheolwr tim pel droed Gwyddelig Tyrone a gafodd ei hun yn y newyddion ddechrau'r flwyddyn pan lofryddwyd ei ferch, Michaela McAreavey ar ei mis mel yn Mauritius) yn ogystal a nifer o wleidyddion etholedig o'r Weriniaeth.  Y son diweddaraf fodd bynnag ydi mai Michelle Gildernew, aelod seneddol Fermanagh / South Tyrone (yn y Gogledd) fydd y dewis. 

Ar un olwg byddai'n ddewis rhyfedd - er ei bod yn adnabyddus iawn yn y Gogledd, ychydig o drigolion y Weriniaeth sy'n gwybod fawr ddim amdani.  Ond mae ganddi ei chryfderau fel ymgeisydd.  Yn wahanol i lawer o wleidyddion etholedig eraill ei phlaid 'does ganddi hi ddim cefndir milwrol - mae ei chefndir gwleidyddol yn y mudiad hawliau sifil, ffaith sydd wedi peri i lawer o gefnogwyr naturiol yr SDLP bleidleisio iddi.  Yn ychwanegol mae ei phroffeil yn dra gwahanol i broffeil y ddau brif ymgeisydd - mae'n fenywaidd, yn gymharol ifanc ac yn magu teulu ifanc - mae ymgeiswyr felly wedi gwneud yn dda yn erbyn gwleidyddion mwy confensiynol mewn etholiadau arlywyddol yn ddiweddar..


'Dydi Gildernew nag unrhyw ymgeisydd arall y bydd SF yn ei ddewis ddim yn debygol o ennill yr etholiad, ond mae'r ffaith nad ydi Fianna Fail yn bwriadu cynnig ymgeisydd yn rhoi cyfle gwych i'r blaid weriniaethol geisio dwyn pleidleisiau ei phrif gystadleuydd am  bleidlais 'werdd' yn y Weriniaeth, a'u cadw.  Y gystadleuaeth rhwng FF a SF am y bleidlais wereniaethol draddodiadol fydd nodwedd fwyaf diddorol gwleidyddiaeth y Weriniaeth tros y ddegawd nesaf - degawd fydd yn cael ei dominyddu ar lefel llywodraethol gan elynion traddodiadol gwereniaethwyr Gwyddelig. 

No comments: