Thursday, September 08, 2011

Pam y byddai arddel ol genedlaetholdeb yn wenwyn pur i'r Blaid

Mae yna rhywbeth addas mae'n debyg gen i yn y ffaith  i Dafydd Ellis Thomas ddiffinio ei wleidyddiaeth fel un ol genedlaetholgar ar y diwrnod i Margaret Richie, arweinydd yr unig blaid wirioneddol ol genedlaetholgar yn y DU - yr SDLP (un o bleidiau Gogledd Iwerddon) - roi'r ffidil yn y to. 

Am y rhan fwyaf o'i hanes y blaid yma oedd prif lais cenedlaetholwyr Gogledd Iwerddon - a chyrhaeddodd ei phenllanw etholiadol yn etholiadau Ewrop 1994 pan ddaeth John Hume o flaen pawb arall - gan gynnwys Ian Paisley - gan ennill 29.2% o'r bleidlais.  Ers hynny mae cefnogaeth y blaid wedi llithro o etholiad i etholiad, ac mae ei chanran o'r bleidlais bellach yn llai na hanner yr hyn oedd ym 1994.  O edrych yn fanwl ar etholiadau Cynulliad a lleol 2011 mae patrwm pendant i'w cefnogaeth - maent yn cael eu gwasgu'n ddi drugaredd mewn ardaloedd dosbarth gweithiol trefol ac ym mron i pob ardal wledig i'r gorllewin i'r Afon Bann - perfedd diroedd hunaniaeth Wyddelig yng Ngogledd Iwerddon.  Maent yn dal eu tir mewn ardaloedd trefol mwy cyfoethog, ac mewn ambell i ardal wledig ddosbarth canol i'r de i Belfast - yn arbennig felly yn Ne Down. 


Er enghraifft  yr SDLP oedd yn cynrychioli Gorllewin Belfast yn 1992 wedi iddynt ennill 43% o'r bleidlais ym 1987.  13.2% oedd eu pleidlais yno ym mis Mai eleni.  Cawsant 23.5% o'r bleidlais yn Fermanagh South Tyrone ym 1992 a 9.6% eleni.  Maen nhw'n dal i ennill cefnogaeth rhesymol mewn rhai ardaloedd dosbarth canol Pabyddol, ond mae eu cefnogaeth wedi diflannu bron yn llwyr ymysg pobl dosbarth gweithiol.  O ran trefniadaeth mae pethau'n waeth - maent ar chwal tros y rhan fwyaf o'r dalaith gyda'u haelodaeth yn syrthio fel carreg. 

'Dydi'r rhesymau am hyn ddim yn anodd i'w harenwi - pan roddodd Sinn Fein eu cysylltiad efo trais i'r neilltu, roedd eu gwleidyddiaeth di amwys genedlaetholgar yn fwyaf sydyn yn nes at lle'r oedd y rhan fwyaf o etholwyr Pabyddol y Gogledd nag oedd gwleidyddiaeth mwy anelwig yr SDLP.  Cymhlethwyd hyn gan y ffaith i genedlaetholwyr poblogaidd o fewn y blaid megis Seamus Mallon ymddeol o wleidyddiaeth tua'r un pryd.

Unwaith eto mae yna resymau eithaf clir tros hyn yn ei dro.  Mae cenedlaetholdeb yn ddi eithriad  yn fwy atyniadol i'r rhan fwyaf o bobl nag ol genedlaetholdeb.  Mae cenedlaetholdeb yn apelio at reddfau sylfaenol  - ymlymiad at uned wleidyddol gydlynys y gellir uniaethu a hi yn hawdd.  Efallai bod rhywbeth llwythol am hyn - ond mae llwytholdeb yn reddf sylfaenol.

'Dydi ol genedlaetholdeb ddim yn apelio at unrhyw reddf o gwbl mewn gwirionedd.  Y cwbl ydyw yn ei hanfod ydi cydnabyddiaeth bod hunaniaethau diwylliannol a chenedlaethol yn edwino yn wyneb grymoedd anferth economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.  Mae agweddau i'r gydnabyddiaeth yma sy'n apelio at y rhyddfrydig a'r cymharol gyfoethog - y math o bobl sy'n byw ar y Malone Road yn Ne Belfast er enghraifft..  Wedi'r cwbl mae'r globaleiddio economaidd sy'n rhan greiddiol o'r prosesau mae ol genedlaetholdeb yn eu cydnabod wedi dod a chryn gyfoeth i'r eisoes gymharol gyfoethog.

Ond i'r rhan fwyaf o bobl - ac yn arbennig pobl nad ydynt yn gyfforddus o safbwynt economaidd, ac yn arbennig i bobl a hunaniaeth genedlaethol gryf - prosesau amhersonol sydd y tu hwnt i'w rheolaeth ydi'r rhai a gysylltir ag ol genedlaetholdeb, a phrosesau nad ydynt yn eu croesawu ar hynny.

'Dydi hi ddim yn addas i blaid genedlaetholgar fel Plaid Cymru gysylltu ei hun efo hyn oll am resymau syniadaethol ac am resymau etholiadol ymarferol.  Byddai dawnsio i diwn ol genedlaetholgar yn groes i'r rhan fwyaf o egwyddorion cenedlaetholgar a byddai'n agor gagendor rhwng y Blaid a'r union bobl hynny mae'n ceisio apelio atynt.  Dyna pam na fydd pleidlais y Pleidiwr hwn yn mynd ar gyfyl unrhyw ymgeisydd am yr arweinyddiaeth sy'n cysylltu ei hun mewn unrhyw ffordd efo'r siwdo syniadaeth yma. 

15 comments:

Anonymous said...

Mae'n rhaid credu fod Dafydd El yn trio creu record o gael 0 pleidlais yn yr etholiad arweinyddiaeth. Mae'r dyn wedi trio'n perswadio ei fod yn gwbod be mae'n neud ers chwarter canrif ond y gwir ydi ei fod o wedi bod fyny tin sefydliad Prydain ers cyhyd fel iddo golli'i ffordd yn llwyr.

Dylan said...

Dw i'n gwerthfawrogi'r gwaith mae DET wedi'i wneud yn dod ag urddas a hygrededd i'r Cynulliad fel sefydliad, ond mewn difri calon mae'r sylwadau yma wedi dangos yn glir nad ydi o ddim ffit i fod ar gyfyl yr arweinyddiaeth. Byddai'n well gen i wahodd Mohammed Asghar yn ôl ac ethol hwnnw'n arweinydd na gweld Dafydd El wrth yr awennau.

Simon Brooks said...

Clyw! Clyw! Dehongliad campus. At hyn, byddwn yn ychwanegu fod lot o'r ffraeo fu yn y gorffenol rhwng y mudiad iaith a'r Blaid wedi deillio o syniadau ol-genedlaetholgar am le'r iaith yn y genedl. Angen claddu'r syniadau gwirion ma nad ydynt yn gwneud fawr o synnwyr deallusol chwaith.

Hogyn o Rachub said...

"Mae'r dyn wedi trio'n perswadio ei fod yn gwbod be mae'n neud ers chwarter canrif ond y gwir ydi ei fod o wedi bod fyny tin sefydliad Prydain ers cyhyd fel iddo golli'i ffordd yn llwyr."

Dwi'n meddwl bod hyn yn taro'r hoelen ar ei phen - mae lot o bobl yn trio dadlau ei fod o'n wleidydd 'craff' sy'n gwybod yn union be mae o'n ei wneud, dadleua rhai (fel yr Hen Rech) ei fod yn "athro". Ond fedra i ddim meddwl am unrhyw aelod o unrhyw blaid sydd wedi dros gyfnod mor hir mynd ati'n fwriadol i danseilio'i blaid ei hun, a dyna mae o wedi'i wneud ers cyn cof.

Dydi Dafydd Êl ddim ffit i gynrychioli Plaid Cymru heb sôn am ei harwain. Mae'n destun cywilydd i gangen Dwyfor Meirionnydd barhau i'w roi ymlaen i sefyll ers cyhyd.

maen_tramgwydd said...

Dwi'n cytuno'n llwyr a'r sylwebau uchod.

Anonymous said...

Dyma'r dyn a fu'n gyfrifol am ddyluniad a chelfi mewnol adeilad y Cynulliad. Cyfle euraidd i esbonio a dathlu hanes ac hunaniaeth Cymru. Ond oherwydd ei ddogma ol-genedlaetholaidd wele Gynulliad heb ddim byd i chydnabod y diwylliant a'r bobl a roes fodolaeth iddo. Mae fel cadeilan heb Grist.

Mae'r agwedd ol-genedlaetholaidd yma'n boblogaidd iawn gyda'r Brits. Er eu bod hwythau'n honi weithiau eu bod nhw'n ol genedlaetholaidd mae nhw'n glynu at wladwriaeth, diwylliant ac iaith sy'n ddigon cryf nad oes angen iddi frwydro'n 'genedlaetholaidd' dros eu gwerthoedd.

Peidiwch byth trystio Marxydd, hyd yn oed ol-Farxydd. Erthygl gan Sion Jobbins yn y Cambria cyfredol yn dangos gwreiddiau gwrth-genedl fychan llawer ar y Chwith.

http://cambriapolitico.com/is-wales-economically-viable/

menaiblog said...

Diolch gyfeillion am y sylwadau. Ag ystyried goslef rhai o'r sylwadau hoffwn bwysleisio nad oes gennyf ddim oll yn erbyn DET yn bersonol - 'dwi jyst yn meddwl bod y math o wleidyddiaeth mae'n ei harddel yn ddiwerth a ffuantus.

Simon - Mae'r mater iaith yn ddiddorol. Mae'n weddol amlwg y bydd rhaid i'r Blaid, os yw i symud ymlaen wneud rhywbeth am y canfyddiad ymysg llawer mai plaid ar gyfer y Cymry Cymraeg ydi hi. Bydd rhaid iddi wneud hynny mewn modd nad yw yn gwanio ei chefnogaeth i'r iaith - mae'r dasg yna yn heriol, ond yn bosibl.

Yr hyn sy'n bwysig ydi nad ydi'r gamp yma yn cael ei chyflawni tra'n tynnu ar rai o'r syniadau sydd ynghlwm ag ol genedlaetholdeb. Byddai hynny'n wrth gynhyrchiol o ran y Gymraeg, a gallai hefyd yn hawdd fod yn wrth gynhyrchiol o safbwynt y di Gymraeg.

Anhysb 12:37. 'Dwi'n rhyw feddwl bod Sion yn gor gymhlethu o ran safbwynt y Chwith Brydeinig tuag at genhedloedd llai. Mae eu byd nhw wedi ei seilio ar bwysigrwydd undod dosbarth. Mae'r syniad o undodau o fath arall yn tynnu'n groes i hyn - felly'r rwdlan am bobl y Rhondda efo mwy yn gyffredin gyda phobl Birmingham na sydd ganddynt efo pobl Ynys Mon.

Cigfran said...

Mae gan Dafydd El weledigaeth ryfeddol,er ei amryfal wendidau,mae llawer o'i sylwadau'n gwneud lot o synnwyr.

Mi fues yn canfasio/drosto yn y ddwy etholiad diwaethaf ac yn rhyfeddu mor uchel ydoedd ei barch,gyda math mor eang o bobol.

Mae'r pleidiau Prydeinig ddigon bodlon ein gweld fel plaid fach efo ambell sedd ar y cyrrion.Mae'r wasg yn gymorth enfawr iddynt gan amddifadu unrhyw sylw i'r Blaid tu hwnt i ryw son am annibyniaeth a pan mae rhuwin yn cwyno am sylwadau haerllug amdanom,neu ein iaith, gan rhyw sais enwog.

Mae na lawer o gefnogwyr pybur y blaid ,hefyd yn gefnogol o'r teulu brenhinol,yr X factor, ac elfennau eraill o ddiwilliant a sefydliadau saesnig eu natur .

Mae son am annibyniaeth yn ein rhoi mewn bocs,ac yn ei gwneud yn hawdd i Hain,Bryant ar anghynhesion eraill son am "sepratists",a "cutting off" ac "isolation",gyda holl ddilyniant negyddol y termau hynny.

Pwynt Dafydd El ,dwi'n meddwl, yw mai drwy gamau bychan ,cynhwysfawr y daw hunan reolaeth yn ewrop,ac nid drwy ryw wrthryfel dawel tros nos.Rhan fawr o hynny yw osgoi 'r bocs mae ein gwrthwynebwyr yn dymuno ei gau amdanom gan ddisgrifio weledigaeth eang gynhwysfawr all apelio yng nghymoedd y de,arfordir y gogledd yn ogystal a'n cadarnleoedd

Mae o'n llygad ei le a dwy'n anghytuno a 'r sylwadau uvchod.

maen_tramgwydd said...

Cigfran:

"...son am annibyniaeth..."

"...gyda holl ddilyniant negyddol y termau hynny"

Peidiwn son amdanynt felly?

Awn a'n cenedl mewn "camau bach" i'n bedd, gan ddilyn yr Arglwydd?

menaiblog said...

Dwi ddim yn siwr os ti'n cyfeirio at fy mlogiad i 'ta sylwadau cyfranwyr eraill.

Ymosod ar y ffaith i DET gysylltu ei hun efo ffug syniadaeth ol genedlaetholdeb mae fy mlogiad i. Dwyt ti ddim mewn gwirionedd yn ymateb i'r feirniadaeth honno.

Rhiannon Jones said...

Hyd y gwelaf mae yma sawl diffiniad cymleth a dryslud o'r term ol-genedlaetholdeb wedi ymddangos yn y sylwadau. Diolch i Cigfran am ei ddehongliad syml sef:'mai drwy gamau bychan ,cynhwysfawr y daw hunan reolaeth yn Ewrop,ac nid drwy ryw wrthryfel dawel tros nos'.

Yn rhyfedd iawn, digon tebyg yn fy marn i, oedd syniadeth Elin Jones dros annibynniaeth yn ei haraith ardderchog hithau yn y Gynhadledd.

Credaf o ddifri fod y dehongliadau uchod yn gor-ymateb ac yn cymylu rhywbeth sydd yn ei hanfod yn synhwyrol a rhesymegol.

Rhiannon Jones said...

Hyd y gwelaf mae yma sawl diffiniad cymleth a dryslud o'r term ol-genedlaetholdeb wedi ymddangos yn y sylwadau. Diolch i Cigfran am ei ddehongliad syml sef:'mai drwy gamau bychan ,cynhwysfawr y daw hunan reolaeth yn Ewrop,ac nid drwy ryw wrthryfel dawel tros nos'.

Yn rhyfedd iawn, digon tebyg yn fy marn i, oedd syniadeth Elin Jones dros annibynniaeth yn ei haraith ardderchog hithau yn y Gynhadledd.

Credaf o ddifri fod y dehongliadau uchod yn gor-ymateb ac yn cymylu rhywbeth sydd yn ei hanfod yn synhwyrol a rhesymegol.

menaiblog said...

Dydi Cigfran ddim yn cynnig unrhyw ddiffiniad o ol genedlaetholdeb. Yn hytrach mae'n disgrifio ei farn ei hun am sut y dylid mynd ati i ennill annibyniaeth.

Mae ol genedlaetholdeb yn ddamcaniaeth sy'n disgrifio glastwreiddio hunaniaethau cenedlaethol ochr yn ochr a'r cynnydd mewn pwysigrwydd endidau rhyng genedlaethol - ac yn priodoli'r naill i'r llall.

Dywed DET "Rydw i’n rhan o’r dewis amgen, gwyrdd, Ewropeaidd, ôl-genedlaetholgar. Ewropead rhanbarthol ydw i a dydw i ddim am newid fy marn"

Sori - dwi'n genedlaetholwr - felly 'dwi o'r farn mai gwlad ac nid rhanbarth ydi Cymru. Byddwn wedi tybio bod hynny'n greiddiol i'r ffordd mae cenedlaetholwr Cymraeg yn gweld y Byd.

Mae'n wir bod angen symud at annibyniaeth gam wrth gam, ond mae awgrym Cigfran na ddylid siarad am annibyniaeth rhag i Peter Hain ddweud pethau hyll am y Blaid yn symptomatig o'r fyddylfryd sydd wedi'n harwain at y problemau rydym yn eu hwynebu heddiw.

'Dwi'n falch i'r gynhadledd bleidleisio yn unfrydol bod y blaid yn credu mewn annibyniaeth.

Cigfran said...

Dwi ddim yn son am beidio defnyddio'r gair annibyniaeth,nac ychwaith ei arddel fel nod tymor hir y Blaid.

Fy mhwynt yw fod angen osgoi'r trap o gael ein cam ddiffinio gan ein gelynion gwleidyddol wrth ddefnyddio term mor amwys i mwyafrif helaeth o bobol.

Siaradwch ac adeiladwyr ,trydanwyr a plymars ym mhen Llyn er enghraifft ,haen naturiol o bleidleisiau'r blaid ac mi fysan nhw'n poeni am be fysai annibyniaeth yn ei olygu iddyn nhw?

Mae llawer o'u gwaith bellach yn dod gan Saeson yn ymddeol o Loegr ac yn gwario ar eu cartrefi ymddeol.
Hawdd i Lafur sgorio pwyntiau drwy ddweud y buasai annibyniaeth yn amddifadu y gweithwyr hyn o'u incwm -rwtsh,mi wn ,ond dwi wedi clywed y sylwadau hyn yn cael eu gwneud gan drydanwr lleol yn ddiweddar.

Dwi'n gobeithio y daw gweithgor Eurfyl a "blueprint" economaidd i ni allu gwerthu neges syml, mai unig ffordd y gwnaiff economi Cymru wella yw drwy ethol Pleidwyr ar pob lefel,a bod y camau cyfansoddiadol yn allweddol i sicrhau hyn,ond yn eilradd i'r nod o wella bywydau pobol.

Y Robin Goch said...

Rhowch glod i'r Gigfran . . . ac i Dafydd El. Nawr yw'r amser i roi'r gorau i freuddwydio gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bosib yn y byd o'n cwmpas.