Sunday, September 11, 2011

Cynhadledd Plaid Cymru 2011

'Dydw i ddim yn gynadleddwr mawr - tueddu i ddangos fy nhrwyn ar y dydd Sadwrn fydda i, a 'doedd eleni ddim yn eithriad.

Hyd y gallwn farnu roedd yn gynhadledd digon llwyddiannus, ac roedd rhai o'r areithiau - yn arbennig felly rhai Jill Evans a Rhuanedd Richards (a draddododd glincar o araith gyda llaw) yn rhoi lle i gredu bod dyddiau gwell ar y gorwel i'r Blaid yn genedlaethol.  'Dydi canfyddiadau'r adolygiad sy'n cael ei arwain gan Eurfyl ap Gwilym ddim yn gyhoeddus eto, ond roedd rhai o sylwadau Jill a Rhianydd yn awgrymu bod yr adolygiad am roi sylw i dair elfen sy'n ganolog i fethiant mis Mai.

  • Naratif y Blaid.  Mae'n bwysig bod ganddom naratif clir, syml a chyson.
  • Annibyniaeth.  'Dydi hi ddim yn gynaladwy i annibyniaeth fod yn un o amcanion sylfaenol y Blaid os nad ydym yn fodlon ei amddiffyn a'i hyrwyddo.
  • Trefniant.  Mae angen ail strwythuro ac ail drefnu'r Blaid ar lefel lleol ac yn genedlaethol. 
O roi sylw i'r materion uchod, bydd y Blaid mewn lle llawer gwell lle mewn blwyddyn.  Wedi'r cwbl - fel y dywedodd Rhuanedd yn ei haraith - mae'r tirwedd gwleidyddol ehangach yn llawer mwy ffafriol i;r Blaid nag oedd yn dilyn yr adolygiad diwethaf a gynhalwyd yn sgil trychineb 1979.

5 comments:

Anonymous said...

Beth am Elyn Jones? Araith dda?

menaiblog said...

Oedd - digon twt.

Anonymous said...

Wedi glwed cyfweliad Dafydd El ar y teledu ddydd Sadwrn, yna, gallaf i ddim pleidleisio drosto. A dweud y gwir, af mor bell a dweud y byddai etholi DET yn lladd y Blaid.

'Dyw ddim am gwneud cymhareb rhwng Cymru a'r Alban ... a gan hynny tynnu oddi dan traed ei blaid ei hun ffordd llwyddiannus a syml o esbonio i bobl Cymru beth gall Cymru fod.

Mae am fod yn 'rhanbarth Ewropeaidd fel Catalwnia'. Mae'n amlwg nad yr DET yn darllen newyddion Catalwnia chwaith gan fod hanner ei phoblogaeth nawr yn sôn am annibyniaeth ac mae'n debyg y bydd protestiadau cenedlaetholaidd mawr yno ymhen misoedd.

Ddim am drafod y cyfansoddiad - mae 'na 3 blaid arall o'r un farn.

Am hyrwyddo ynni gwynt. Dwi'n cytuno ag e yma, ond, roedd mwy o dan yn ei fol dros ffarm wynt mor nag oedd dros S4C - nad oedd ganddo ots amdanno.

Dydy Elin Jones ddim yn garismataidd, mae ei hareithio yn uffernol o wan, dydy ddim yn ddewr, dydy heb ddweud unrhyw beth diddorol na chofiadwy mewn 12 mlynedd, mae hi'n anweledig. Ond mae ganddi integriti ac o leiaf bydd hi ddim yn lladd ar genedlaetholdeb.

Sori DET - roeddwn i am bleidleisio drostat ond ar ôl gweld dy gyfweliad flippant a sarhaus ar BBC Wales dydd Sadwrn y gynhadledd, yna ti wedi colli fy fôt i. Rwy't ti'n ddyn peryglus. Rwyt ti'n gormod o risg.

Aled G J said...

Cytuno hefo'r uchod, ond byddwn yn ychwanegu bod angen i Plaid Cymru gyflwyno gweledigaeth realistig a chredadwy ar rol y Gymraeg ym mywyd Cymru. Does dim atebion hawdd fan hyn, ond rhywsut mae angen cyfuno pwyslais ar y rwan a'r dyfodol mwy tymor hir( dyweder 30-50 mlynedd)mewn modd sy'n taro tant hefo pobl ac yn gallu uno Cymry Cymraeg a Chymry-Di-Gymraeg. Y trueni wrth gwrs ydi na welan ni'r un person all gyflwyno hyn yn llwyddiannus, hynny yw Adam Price, wrth y llyw am beth amser i ddod. Ond, yn yr un ysbryd a bod yn ones a chlir gyda phobl Cymru ar fater annibyniaeth, does dim rheswm pam na all y Blaid gychwyn ar drafodaeth ar le'r iaith yn y dyfodol hefyd.

Anonymous said...

Beth am Simon Thomas?