Thursday, August 13, 2026

Ynglyn a drama Neil Foden S4C

 Pan welais gyhoeddiad S4C eu bod yn bwriadu darlledu cyfres ddrama dair rhan am Neil Foden yn 2027, fy ymateb cyntaf oedd teimlo’n anghyfforddus.


Y Pennaeth fydd enw’r gyfres, gyda Mark Lewis Jones yn chwarae rhan Foden. Yn ôl S4C, bydd yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy’n cael eu cam-drin, gan archwilio sut y manteisiodd Foden ar eu hamgylchiadau, ynghyd â methiannau’r gweithdrefnau diogelu a’r cyfleoedd a gollwyd i atal troseddau pellach.


Mae’n bwysig cydnabod hynny. Dydi S4C ddim yn awgrymu drama sy’n edrych ar Foden a’i droseddau yn unig. Maen nhw’n dweud yn benodol eu bod am fynd i’r afael â’r methiannau diogelu a’r cyfleoedd a gollwyd hefyd. Dwi’n croesawu hynny, ac mae’n amlwg o’r hyn mae S4C wedi’i ddweud yn eu datganiad eu bod yn ymwybodol o sensitifrwydd y mater.


Fy mhryder i, serch hynny, ydi bod ffocws y ddrama ei hun yn mynd i’w gwneud hi’n anodd iawn gwneud cyfiawnder â’r methiannau hynny.


Os mai prif linyn y naratif yw Foden, ei berthynas â’r merched a’r ffordd y gwnaeth eu cam-drin dros nifer o flynyddoedd, yna mae perygl y bydd y methiannau sefydliadol yn dod yn gefndir i stori’r troseddwr, yn hytrach na bod y system a’i methiannau yn destun y ddrama ei hun.


Ac i mi, dyna’r ffordd anghywir i fynd o gwmpas pethau.


Dwi’n deall pam fod rhywun wedi gweld potensial dramatig yn y stori.


Ond dwi ddim yn meddwl mai dyma’r stori y dylid  ei hadrodd.


Dwi’n dweud hynny o safbwynt sydd, efallai, ychydig yn wahanol i safbwynt y rhan fwyaf o bobl fydd yn gwylio’r gyfres.


Pan gyhoeddwyd Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder (CPR), yr adolygiad annibynnol i’r modd y cafodd pryderon am Foden eu trin, roeddwn i’n Gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi Cyngor Gwynedd. Dwi hefyd wedi cadeirio’r ymchwiliad craffu a sefydlwyd i edrych ar drefniadau diogelu yn ysgolion Gwynedd yn sgil yr hyn oedd wedi dod i’r amlwg. Roeddwn hefyd yn gadeirydd Grŵp Plaid Cymru Cyngor Gwynedd am y rhan fwyaf o’r cyfnod rhwng arestio Foden a chyhoeddi’r CPR – er i mi gael fy symud o’r rôl honno yn fuan cyn cyhoeddi’r CPR.


O ganlyniad, treuliais gryn dipyn o amser yn darllen, gwrando, trafod, holi a meddwl am yr hyn roedd achos Foden yn ei ddweud wrthym – nid yn unig am un troseddwr, ond am y systemau a’r diwylliant oedd o’i gwmpas.


Ac yn sgil hynny dwi’n meddwl bod S4C mewn perygl o ganolbwyntio ar y stori anghywir.


Dydi’r stori ddim yn gorffen efo Foden


Rydym yn gwybod pwy oedd Neil Foden.


Rydym yn gwybod beth wnaeth o. Cafodd ei roi o flaen llys. Cafodd ei euogfarnu. Cafodd ei garcharu am 17 mlynedd.


Ond wrth imi ddarllen Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder – a’i fewnoli – yr hyn sy’n amlwg ydi nad stori am droseddwr rhyw unigol yn unig oedd hon.


Roedd hi hefyd yn stori am fethiant sefydliadol.


Tynnodd yr adolygiad sylw at dros 50 o gyfleoedd i weithredu neu ymyrryd. Roedd rhybuddion. Roedd pryderon. Roedd gwybodaeth mewn gwahanol rannau o’r system. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth y Senedd, wrth gyhoeddi’r adroddiad, mai methiant oedd hwn nid cymaint o ran diffyg polisïau, ond o ran gweithredu’r polisïau a dilyn y canllawiau ar lawr gwlad gan yr asiantaethau oedd ynghlwm. 


Mae hynny’n wahaniaeth pwysig.


Dydi’r wers ddim yn syml fod angen polisi gwell, ffurflen newydd neu gwrs hyfforddi arall. Y wers ydi y gall system sydd, ar bapur, yn edrych yn ddigonol fethu’n drychinebus os nad ydi pobl yn gweithredu ar wybodaeth, os nad yw pryderon yn cael eu cysylltu â’i gilydd, os nad yw pobl mewn awdurdod yn cael eu herio, ac os nad oes diwylliant sy’n rhoi diogelwch plant uwchlaw statws neu enw da sefydliad.


I mi, dyna’r mater arwyddocaol sydd yn aros.


Nid: pam oedd Neil Foden yn gwneud yr hyn roedd yn ei wneud?


Ond: sut ar y ddaear y cafodd barhau i’w wneud am gymaint o amser?


Yr hyn roedd y CPR yn ei ddweud wrthym


Mae perygl crynhoi Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder i’r ffaith fod dros 50 o gyfleoedd wedi’u colli.


Roedd yr adroddiad yn dweud llawer mwy na hynny.


Roedd yn sôn am rym ac awdurdod.


Am ddiwylliant sefydliadol.


Am anhawster herio pobl mewn swyddi uchel.


Am beidio â gwrando’n ddigonol ar blant.


Am wybodaeth oedd yn bodoli mewn gwahanol lefydd heb i’r system greu darlun cyflawn ohoni.


Am weithdrefnau oedd yn bodoli ond nad oeddent bob amser yn cael eu gweithredu fel y dylent.


Am lywodraethu ac atebolrwydd.


Ac am y “chilling effect” – yr effaith lle mae diwylliant neu ymddygiad unigolion mewn grym yn gwneud pobl eraill yn llai tebygol o herio neu godi pryder.


Dyna pam mae’n gamgymeriad, yn fy marn i, trin achos Foden fel cyfres o gamgymeriadau unigol neu gyfleoedd unigol a gollwyd.


Roedd y patrwm yn llawer mwy difrifol na hynny.


Roedd yr hyn oedd ger ein bron yn dystiolaeth o broblemau oedd yn ymestyn ar draws system.


Ac mae’n arwyddocaol bod cynllun ymateb diweddarach Cyngor Gwynedd ei hun yn cynnwys yr angen i ystyried trefniadau fel bod y Cyngor yn ymateb ar unwaith ac yn gwirio ei systemau pan fydd pryder sylweddol yn codi a allai fod yn systemig ei natur. 


I mi, mae hynny’n mynd at galon yr hyn aeth o’i le.


Ymateb y Cyngor


Ac yma mae rhan arall o’r stori nad ydw i’n meddwl y dylid ei hosgoi.


Yn fy marn i, un o wendidau ymateb cychwynnol Cyngor Gwynedd oedd ei fethiant i fynd i’r afael yn ddigon uniongyrchol â’r posibilrwydd amlwg ein bod yn edrych ar fethiannau systemig, yn hytrach na chyfres o ddigwyddiadau unigol.


Roedd gwaith yn digwydd. Roedd Cynllun Ymateb wedi’i greu cyn cyhoeddi’r CPR, sefydlwyd Bwrdd Ymateb annibynnol ei gadeiryddiaeth, ac ar ôl cyhoeddi Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder cafodd y cynllun hwnnw ei ddiwygio i gynnwys themâu ac argymhellion yr adolygiad. 


Dwi ddim am awgrymu felly nad oedd dim yn cael ei wneud.


Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng gwneud pethau ac wynebu’n llawn yr hyn mae tystiolaeth yn ei ddweud wrthych.


Ac mae’r amseriad yn bwysig hefyd.


Aeth misoedd lawer heibio ar ôl arestio Foden cyn i’r Cyngor ddechrau edrych yn ddigon trylwyr ar y cwestiwn ehangach: a oedd rhywbeth o’i le ar y system ddiogelu ei hun?


I mi, dydi hynny ddim yn fanylyn gweinyddol ar ymyl y stori. Mae’n rhan o’r stori. Mae’n ganolog i’r stori. 


Os mai un o’r prif themâu yn y CPR ydi diwylliant sy’n ei gwneud yn anodd herio awdurdod, gweld patrymau, cysylltu gwybodaeth ac wynebu problemau anghyfforddus, yna mae’n rhaid gofyn a oedd yr oedi cyn edrych yn ddigon dwfn ar y system ar ôl arestio Foden yn adlewyrchu rhai o’r nodweddion diwylliannol hynny hefyd.


Dwi ddim yn dweud bod ateb syml i’r cwestiwn hwnnw. Ond mae’r cwestiwn yn un na ellir ei osgoi.


Pan fo dros 50 o gyfleoedd i ymyrryd wedi’u methu; pan fo’r methiannau’n ymestyn dros gyfnod hir; pan fo gwahanol unigolion, ysgolion ac asiantaethau yn ymddangos yn y naratif; pan fo cwestiynau’n codi am weithredu gweithdrefnau, rhannu gwybodaeth, herio awdurdod a diwylliant – mae’n anodd gweld hynny fel dim byd llai na rhybudd enfawr am y system ei hun.


Roedd angen gofyn nid yn unig:


“Beth sydd angen inni ei newid?”


ond hefyd:


“Beth oedd yn ein diwylliant, ein llywodraethu a’n ffordd o weithio a ganiataodd hyn i ddigwydd?”


Ac efallai hefyd:


“Pam na ofynnwyd y cwestiwn hwnnw’n ddigon dwfn, yn ddigon buan, ar ôl i Foden gael ei arestio?”


Mae hwnnw’n gwestiwn llawer mwy anghyfforddus.


Ac mae sefydliadau, fel pobl, yn aml yn llawer gwell am lunio cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol nag ydyn nhw am edrych yn ddi-flewyn-ar-dafod a gonest ar eu hymddygiad eu hunain yn y gorffennol.


Ond heb wneud yr ail, mae perygl na fydd yr un cyntaf byth yn ddigon.


Ymchwiliad Craffu y Pwyllgor Craffu Addysg?


Roedd ein hymchwiliad craffu ni’n edrych ymlaen yn hytrach nag yn ceisio ail-redeg ymchwiliadau’r gorffennol. Ein gwaith oedd ceisio sicrhau bod y trefniadau sydd ar waith yn ysgolion Gwynedd heddiw yn ffit i bwrpas a mor gryf ag y gallant fod.


Fe wnaethom ymweld ag ysgolion. Fe wnaethom siarad â staff ac â phlant a phobl ifanc. Fe wnaethom edrych ar hyfforddiant, trefniadau adrodd, cofnodi pryderon, rôl llywodraethwyr, llais y plentyn, mannau diogel, oedolion dibynadwy a’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i rhannu.


Ond roedd un cwestiwn yn rhedeg drwy’r gwaith i gyd:


Sut ydyn ni’n sicrhau na all yr hyn ddigwyddodd yn achos Foden ddigwydd eto?


A pho fwyaf roedden ni’n edrych ar y mater, y mwyaf amlwg oedd nad ydi diogelu effeithiol yn ymwneud â gweithdrefn yn unig.


Mae’n ymwneud â diwylliant.


Gallwch gael polisi rhagorol mewn ffeil. Gallwch gael ffurflen briodol. Gallwch sicrhau bod pawb wedi mynd ar gwrs.


Ond os ydi aelod o staff yn ofni herio pennaeth, mae yna broblem.


Os ydi gair oedolyn pwerus yn cario mwy o bwys na gair plentyn, mae yna broblem.


Os yw pryderon bach yn cael eu cofnodi ar wahân heb i neb edrych am batrwm, mae yna broblem.


Os nad oes neb yn gofyn pam fod staff yn gadael, pam fod cwynion yn codi  yn barhaus neu pam fod yr un enw’n ymddangos dro ar ôl tro, mae yna broblem.


Ac os ydi’r sefydliad ei hun yn fwy cyfforddus yn amddiffyn ei enw da nag yn gofyn cwestiynau anodd amdano’i hun, mae yna broblem fawr iawn.


Grym, statws a’r gallu i herio


Un o’r pethau pwysicaf i mi yn y CPR oedd y darlun oedd yn cael ei greu o rym a statws.


Roedd Foden yn bennaeth profiadol ac amlwg. Roedd ganddo awdurdod.


Ac mae hynny’n codi cwestiwn sy’n llawer ehangach nag un dyn neu un ysgol.


Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun mewn sefydliad yn dod mor bwerus neu mor uchel ei barch nes ei fod yn anodd ei herio?


Beth sy’n digwydd pan fo rhywun iau, rhywun llai profiadol neu blentyn yn dweud rhywbeth sy’n gwrthdaro â gair person mewn safle o awdurdod?


Pwy sy’n cael ei gredu?


Pwy sy’n teimlo’n ddigon hyderus i ddweud:


“Na. Mae rhywbeth o’i le yma”?


Dyna pam fod diwylliant mor bwysig mewn diogelu.


Gallwn gael polisïau ardderchog. Gallwn gael ffurflenni. Gallwn gael hyfforddiant.


Ond os nad yw pobl yn teimlo’n ddiogel i herio, mae gennym broblem.


Y “chilling effect


Un o’r ymadroddion mwyaf trawiadol yn Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder oedd y “chilling effect”.


Mae’r term yn disgrifio rhywbeth sy’n gallu digwydd mewn sefydliadau heb i neb roi gorchymyn i bobl gadw’n dawel.


Mae pobl yn dysgu pwy sydd â grym.


Maen nhw’n dysgu beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn herio.


Maen nhw’n dysgu pa gwestiynau sy’n gyfforddus a pha rai sydd ddim.


Ac yn raddol gall diwylliant ddatblygu lle mae pobl yn llai parod i godi pryderon.


I mi, mae hynny’n llawer mwy brawychus na Neil Foden fel unigolyn.


Mae Neil Foden yn y carchar.


Ond gall y math o ddiwylliant sy’n caniatáu i unigolion pwerus fynd heb eu herio fodoli mewn unrhyw ysgol, cyngor, corff cyhoeddus, busnes neu sefydliad.


Dyna’r wers sydd angen ei dysgu.


Mr Bates vs The Post Office


Ac mae gennym enghraifft ddiweddar o’r hyn y gall drama ei wneud pan mae’n canolbwyntio ar y peth iawn.


Roedd Mr Bates vs The Post Office yn ddrama am bobl go iawn oedd wedi dioddef anghyfiawnder ofnadwy. Ond nid stori am gyfrifiadur Horizon oedd hi yn y bôn.


Roedd hi’n stori am sefydliad.


Am bobl oedd â grym dros eraill.


Am dystiolaeth oedd ddim yn ffitio’r naratif swyddogol yn cael ei diystyru.


Am unigolion oedd yn dweud nad oeddent wedi gwneud dim o’i le yn cael eu gwrthod, eu herlid a’u disodli gan sicrwydd y sefydliad ei fod ef yn gwybod yn well.


Ac wedyn roedd hi’n stori am ymdrech hir pobl gyffredin i orfodi sefydliad pwerus i wynebu’r gwir.


Dyna pam roedd y ddrama mor bwerus. ITV ei hun oedd yn disgrifio’r gyfres fel hanes brwydr hir yr is-bostfeistri i glirio eu henwau; a daeth yn ddrama newydd fwyaf ITV ers dros ddegawd. 


Roedd llawer o’r ffeithiau eisoes yn y parth cyhoeddus cyn darlledu’r ddrama.


Roedd ymchwiliadau wedi bod. Roedd adroddiadau. Roedd newyddiadurwyr wedi gwneud gwaith am flynyddoedd.


Ond gwnaeth drama rywbeth gwahanol.


Fe wnaeth wneud methiant sefydliadol yn ddealladwy ar lefel ddynol ac emosiynol.


Dyna’r cyfle oedd gan S4C yma.


A dwi’n derbyn yn llwyr eu bod yn dweud eu bod am ymdrin â’r methiannau sefydliadol yn Y Pennaeth. Dydi fy nadl ddim mai eu bod nhw’n bwriadu eu hanwybyddu.


Fy nadl ydi bod strwythur y ddrama fel y’i disgrifir ar hyn o bryd yn gwneud y dasg honno’n llawer anos.


Os mai’r merched, eu perthynas â Foden a’i droseddu ef yw’r prif naratif, yna mae’n debygol y bydd y system yn ymddangos ar yr adegau pan fydd hi’n methu ag ymyrryd.


Ond mae’r system ei hun yn stori.


Sut oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud?


Sut oedd gwybodaeth yn teithio – neu ddim yn teithio?


Pam nad oedd patrymau’n cael eu gweld?


Sut oedd awdurdod yn gweithredu?


Sut oedd pobl oedd yn codi pryderon yn cael eu trin?


A pham, hyd yn oed ar ôl arestio Foden, na chafodd y cwestiwn am iechyd ac effeithiolrwydd y system ei hun ei wynebu’n ddigonol am fisoedd?


Dyna’r cwestiynau sydd angen amser, cymeriadau a gofod dramatig eu hunain.


Nid cefndir ydyn nhw.


Nhw ydi’r stori.


Byddai honno’n ddrama eithriadol o berthnasol – nid yn unig i Wynedd ond i Gymru gyfan, ac ymhell y tu hwnt i Gymru.


Mae drama yma


Dyna pam nad ydw i’n gwrthwynebu’r syniad o ddrama.


Yn wir, dwi’n meddwl bod yna ddrama eithriadol o bwerus i’w gwneud.


Ond petawn i’n ei hysgrifennu, fyddwn i ddim yn dechrau gyda Neil Foden a merch ifanc.


Byddwn i’n dechrau efo’r arestio.


Mae’r newyddion yn torri.


Mae Foden yn cael ei dynnu o’r system.


Ac yna mae’r camera’n troi oddi wrtho ef ac at y sefydliadau oedd wedi bod o’i gwmpas.


Mewn ysgol ac mewn swyddfeydd cyhoeddus mae pobl yn dechrau gofyn cwestiynau.


Mae ffeiliau’n cael eu hagor.


Mae hen e-byst yn cael eu hailddarllen.


Mae rhywun yn cofio sgwrs.


Mae rhywun arall yn cofio pryder.


Mae rhywun yn sylweddoli bod ganddo un darn o wybodaeth a bod gan rywun arall ddarn arall.


Ac yn araf mae’r cwestiwn yn dechrau ffurfio:


Sut wnaethon ni fethu hyn?


Wedyn gallai’r ddrama fynd yn ôl mewn amser.


Nid i ail-greu’r cam-drin, ond i ddangos y cyfleoedd a gollwyd.


Un penderfyniad yma.


Un pryder na chafodd ei wthio ymhellach fan draw.


Darn o wybodaeth na chafodd ei rannu.


Plentyn na chafodd ei wrando arni’n ddigon gofalus.


Rhywun yn amau ei farn ei hun oherwydd statws rhywun arall.


Rhywun yn penderfynu peidio â herio.


Polisi oedd yn bodoli ar bapur ond na chafodd ei weithredu fel y dylai.


Ond wedyn byddai’r ddrama’n symud ymlaen hefyd.


Wythnosau ar ôl yr arestio.


Misoedd ar ôl yr arestio.


Mae’r achos troseddol yn symud yn ei flaen, ond beth sy’n digwydd y tu mewn i’r sefydliad?


Pryd mae’r cwestiwn yn newid o “beth wnaeth Neil Foden?” i “beth oedd o’i le ar y system a ganiataodd iddo wneud hynny?”


Pwy sy’n gofyn y cwestiwn?


Pwy sydd ddim eisiau ei ofyn?


Pa mor hawdd ydi hi i ddweud bod hwn yn achos eithriadol am un dyn eithriadol, yn hytrach na derbyn y posibilrwydd llawer mwy anghyfforddus bod y system ei hun wedi methu?


Ac os aeth misoedd heibio cyn i’r system ei hun gael ei harchwilio’n ddigonol, pam?


Dyna lle byddwn i’n cysylltu’r digwyddiadau ar ôl yr arestio yn uniongyrchol â themâu’r CPR.


Oherwydd gall y diwylliant sy’n ei gwneud hi’n anodd herio pennaeth pwerus cyn ei arestio hefyd wneud sefydliad yn araf i herio ei dybiaethau ei hun wedi’r arestio.


Gall y diwylliant sy’n methu cysylltu darnau o wybodaeth cyn argyfwng hefyd fethu gweld patrwm systemig ar ôl yr argyfwng.


Gall y reddf i osgoi cwestiynau anghyfforddus fodoli cyn ac ar ôl i droseddwr gael ei ddal.


Ac felly byddai’r ddrama’n gofyn nid yn unig:


Sut wnaeth Foden fynd heb ei atal?


Ond hefyd:


Ar ôl iddo gael ei atal, pa mor gyflym oedd y sefydliadau o’i gwmpas yn barod i ddeall pam eu bod nhw wedi methu?


Dyna, i mi, ydi’r ail hanner o’r stori.


Ac mae’n bosibl mai dyna’r rhan bwysicaf oll.


Dyna sut mae methiant sefydliadol yn digwydd.


A dyna hefyd sut mae sefydliad naill ai’n dysgu o fethiant – neu’n methu â gwneud hynny.


Mae drama yn gallu dangos hynny mewn ffordd na all adroddiad fyth ei wneud.


Oes gwir angen inni weld y cam-drin?


Mae hyn hefyd yn dod â mi at y rhan o gynllun S4C sy’n fy ngwneud fwyaf anghyfforddus.


Mae’r gyfres i fod i ddilyn dwy ferch ifanc dros nifer o flynyddoedd ac archwilio sut y manteisiodd Foden ar eu sefyllfaoedd personol.


Unwaith eto, mae’n deg dweud bod S4C hefyd yn dweud y bydd y gyfres yn archwilio’r gweithdrefnau diogelu a’r cyfleoedd a gollwyd. Dwi ddim yn diystyru hynny.


Ond mae drama dair rhan yn gorfod dewis beth sydd yn ei chanol - beth yw ei chalon.


Ac os yw’r prif stori’n dilyn Foden a’r merched dros flynyddoedd, faint o le sydd mewn gwirionedd i archwilio’n fanwl y diwylliant sefydliadol, y systemau rhannu gwybodaeth, y llywodraethu, y berthynas rhwng asiantaethau, yr anhawster o herio awdurdod – ac, yn bwysig, yr hyn ddigwyddodd y tu mewn i’r Cyngor yn y misoedd ar ôl yr arestio?


Dyna pam dwi’n poeni am y ffocws.


Nid am nad ydi S4C yn bwriadu sôn am y methiannau.


Ond oherwydd bod y stori maen nhw wedi dewis ei rhoi yn y blaendir yn gallu gwthio’r methiannau mwyaf arwyddocaol i’r cefndir.


A wedyn mae’r cwestiwn arall.


Beth fyddwn ni’n ei ddysgu drwy weld actor yn chwarae Neil Foden yn meithrin perthynas â merch ifanc?


Oes angen ail-greu hynny er mwyn i ni ddeall bod yr hyn wnaeth o yn ofnadwy?


Dwi ddim yn meddwl bod angen.


Ac mae hyn oll yn eithriadol o ddiweddar. Bydd tair blynedd yn unig rhwng dedfrydu Foden a darlledu’r gyfres.


Mae’r merched a’u teuluoedd yn dal i fyw gyda chanlyniadau’r hyn ddigwyddodd. Felly hefyd nifer fawr o bobl eraill oedd ynghlwm â’r ysgol a’r sefydliadau o’i chwmpas.


Mae S4C yn dweud bod goroeswyr yr achos llys yn ymwybodol o’r prosiect ac wedi cael cynnig cefnogaeth broffesiynol.


Mae hynny i’w groesawu.


Ond mae bod yn ymwybodol o rywbeth yn wahanol iawn i fod yn gyfforddus ag ef.


Rhoi Foden yng nghanol y llwyfan eto


Mae yna broblem arall.


Mae Mark Lewis Jones, un o actorion mwyaf adnabyddus Cymru, yn mynd i chwarae Neil Foden.


Mae hynny, bron yn anochel, yn gwneud Foden yn gymeriad dramatig mawr.


Byddwn yn ei weld. Byddwn yn ei glywed. Byddwn yn gweld ei berthynas â phobl eraill. Bydd actor medrus yn ceisio gwneud cymeriad credadwy, cyflawn ohono.


Mae hynny’n rhan o’r hyn mae drama yn ei wneud.


Ond oes gwir angen rhoi Neil Foden yng nghanol y llwyfan unwaith eto?


Yn enwedig pan fo stori lawer mwy defnyddiol i’w hadrodd.


Y cwestiwn dwi’n dal i ddod yn ôl ato


Ar ddiwedd ein hymchwiliad craffu, roedd gennym gyfres o argymhellion ynghylch hyfforddiant, cofnodi pryderon, rhannu gwybodaeth, llais plant, oedolion dibynadwy, rôl llywodraethwyr ac atebolrwydd.


Roedd y manylion hynny’n bwysig.


Ond y wers fwyaf oedd rhywbeth llawer symlach.


Dydi diogelu ddim yn gweithio oherwydd bod polisi da mewn ffeil. Mae’n gweithio pan fo diwylliant lle mae pobl yn gwrando, yn rhannu gwybodaeth, yn gweld patrymau ac, yn bwysicaf oll, yn barod i herio.


Mae hynny hefyd yn egluro pam nad oes modd rhoi’r mater hwn yn y gorffennol dim ond am fod Foden wedi mynd i’r carchar.


Fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru yn y Senedd ym mis Mehefin, dim ond rhan o’r cyfiawnder oedd sicrhau bod Foden yn cael ei euogfarnu a’i garcharu; y cyfiawnder gwirioneddol ydi sicrhau bod y mesurau ar waith i atal rhywbeth tebyg rhag digwydd eto. (Welsh Parliament)


Dyna pam dwi’n meddwl bod yna ddrama bwysig iawn i’w ‘sgwennu am achos Neil Foden.


Ond dwi ddim yn meddwl mai drama am Neil Foden y dylai hi fod.


Mae’n ddrama am rym.


Am statws.


Am dawelwch.


Am ofn herio.


Am blant nad oedd oedolion bob amser yn gwrando arnynt fel y dylent.


Am wybodaeth na chafodd ei chysylltu.


Am weithdrefnau na chafodd eu gweithredu.


Am ddiwylliant.


Am lywodraethu.


Am atebolrwydd.


Am ddewrder ac am ddiffyg dewrder.


Ac am yr hyn sy’n digwydd pan fydd sefydliadau sydd yno i amddiffyn plant a phobl fregus yn methu – ac wedyn yn gorfod penderfynu pa mor onest y maent yn barod i fod am y rhesymau dros y methiant hwnnw.


Mae S4C yn dweud eu bod am gyffwrdd â rhai o’r cwestiynau hynny. Dwi’n gobeithio’n fawr y byddan nhw’n gwneud hynny.


Ond dwi’n ofni bod penderfyniad wedi ei wneud i adeiladu’r ddrama o amgylch Foden, ei droseddu a’i berthynas â’r merched yn golygu mai fo, yn anochel, fydd canolbwynt y stori.


Ac os mai felly fydd hi, bydd y stori bwysicaf oll mewn perygl o aros ar yr ymylon.


Rydym eisoes yn gwybod bod Neil Foden yn droseddwr rhyw.


Ar ôl darllen Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac ar ôl treulio misoedd yn craffu ar y trefniadau diogelu sydd gennym heddiw, mae’r cwestiwn sy’n aros yn un gwahanol:


Sut y llwyddodd y system i beidio â’i atal – beth oedd yn y system honno a ganiataodd hynny – pam gymerodd gymaint o amser ar ôl ei arestio i archwilio’r system ei hun yn ddigon dwfn – a sut ydyn ni’n sicrhau na fydd yr un math o fethiant yn digwydd eto?


Dyna’r stori y byddwn i eisiau gweld S4C yn ei hadrodd.


‘Dydw i ddim yn hyderus, o’r hyn rydym wedi’i glywed hyd yma am ffocws Y Pennaeth, mai dyna’r stori y byddwn ni’n ei chael.  Ac os felly bydd cyfle gwirioneddol wedi ei golli.

No comments: