Sunday, August 23, 2026

Ydi America’n camddeall ffynhonnell ei grym ei hun erbyn hyn?

Wel - mi wnes i ddweud wrth ailddechrau blogio y bydd mwy o blogio am faterion rhyngwladol cyn mynd ymlaen i flogio am bethau lleol iawn.  Felly dyma gadw at fy addewid o’r diwedd.


Mae Donald Trump wedi bod yn siarad am y Swistir eto.


Ar un lefel, mae’n ymddangos yn stori weddol fach am watches Swisaidd, tariffau, diffyg masnach a chyfraddau llog. Ond mewn gwirionedd mae’n dweud rhywbeth llawer mwy diddorol am y ffordd mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn gweld economi’r byd – ac, yn ehangach, am y ffordd mae MAGA yn deall gwleidyddiaeth ryngwladol.


Mewn cyfweliad diweddar, cyfeiriodd Trump at ddiffyg America mewn masnach nwyddau â’r Swistir o tua $39 biliwn. Dywedodd y gallai gael gwared ar y diffyg hwnnw gydag un strôc o’i feiro - neu ei autopen. - cyn mynd ymlaen i ddweud nad oedd America eisiau prynu watches na nwyddau eraill o’r Swistir mwyach.


Ac mewn sylw arall crynhodd ei ffordd o edrych ar fasnach yn berffaith:


“I call a deficit a loss.”


Mae’r frawddeg honno’n ddadlenol - nid camgymeriad bach ynglŷn â chyfrifon masnach ydi hi. Mae’n dinoethi ffordd arbennig iawn o edrych ar y byd.





Byd o enillwyr a chollwyr


Yn ffordd Trump o weld pethau, mae llawer iawn o gysylltiadau economaidd a rhyngwladol yn edrych yn ddogon tebyg i drafodion unigol.




Os ydi America’n gwerthu gwerth $60 biliwn o nwyddau i wlad arall ac yn prynu gwerth $100 biliwn ganddi, yna mae’r $40 biliwn o wahaniaeth yn “golled”.


Ond wrth gwrs - yn y byd go iawn - mae America wedi cael rhywbeth an ol am yr arian.  Mae wedi cael gwerth $100 biliwn o nwyddau.  ‘Does dim byd ynddo’i hun ynglŷn â diffyg masnach sy’n profi bod un wlad yn twyllo’r llall.


Yn achos y Swistir mae’r darlun hyd yn oed yn fwy cymhleth. Mae aur yn chwarae rhan anghymesur yn y ffigurau masnach nwyddau, mae America’n gwerthu gwasanaethau i’r Swistir, ac mae cwmnïau Swisaidd wedi buddsoddi symiau enfawr yn economi America.  Ddim cyfrif syml o “rydym ni wedi rhoi $40 biliwn iddyn nhw” ydi hwn.


Mae sylwadau Trump ynglŷn â chyfraddau llog yn datgelu camddealltwriaeth pellach ar ei ran.  Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod cyfraddau llog y Swistir yn llawer is na rhai America, fel petai hynny’n rhyw fargen ffafriol mae’r Swistir wedi llwyddo i’w chael ac y dylai America, fel y wlad fwyaf pwerus, allu mynnu bargen well. Ond - unwaith eto yn y byd go iawn - nid gwobr am fod yn wlad bwysig ydi cyfradd llog.


Mae cyfraddau llog yn adlewyrchu chwyddiant, twf, cyflogaeth, disgwyliadau economaidd, risg ac mae’n cael ei yrru gan ymddygiad marchnadoedd arian. Mae gan y Swistir hanes hir o chwyddiant isel iawn ac mae’r ffranc Swisaidd yn arian “safe haven”. Mae hynny’n creu amgylchiadau ariannol gwahanol iawn i rai’r Unol Daleithiau.


Ac wrth gwrs dydi Arlywydd America ddim yn gallu penderfynu drwy orchymyn faint ddylai llywodraeth America dalu am fenthyca hirdymor. Mae’r marchnadoedd yn penderfynu  hynny. i raddau helaeth.  Os ydi buddsoddwyr yn poeni am chwyddiant, dyled, diffygion cyllidol neu annibyniaeth y Banc Canolog, maent am fynnu llog uwch ar fondiau America.





Felly mae paradocs eithaf sylfaenol yma. Gall y polisïau sydd i fod i ddangos grym economaidd America greu’r union ansicrwydd sy’n gwneud benthyca’n ddrutach.


Ond mae’r pwynt ehangach yn fwy diddorol oherwydd bod yr un ffordd o feddwl i’w gweld mewn llawer iawn o bolisi rhyngwladol America heddiw.


Canada – defnyddio grym a’i golli


Ac mae’r hyn sy’n digwydd rhwng America a Chanada ar hyn o bryd yn enghraifft dda iawn.  Go brin bod dwy economi fawr yn y byd wedi’u hintegreiddio mor agos.


Mae’r ddwy wlad yn rhannu miloedd o filltiroedd o ffin. Mae cadwyni cyflenwi wedi’u hintegreiddio i’r fath raddau fel y gall rhannau ceir a chynhyrchion eraill groesi’r ffin sawl gwaith yn ystod y broses gynhyrchu. Ar ben hynny mae Canada’n gyflenwr enfawr o ynni i America.  Maent hefyd yn gynghreiriaid milwrol agos – yn aelodau o NATO ac yn cydweithio drwy NORAD i amddiffyn Gogledd America.


Ac wrth gwrs roedd ganddynt eisoes gytundeb masnach.  Yn wir, cytundeb a negodwyd gan Donald Trump ei hun yn ystod ei dymor cyntaf oedd USMCA, olynydd NAFTA.





A dyna Washington wedi troi unwaith eto at dariffau.


Mae’r anghydfod diweddar wedi cynyddu’n sylweddol, gyda thariffau Americanaidd newydd a bygythiadau o dariffau pellach, a Chanada hithau yn ymateb drwy godi tariffau ar America.. Ar un lefel mae’n hawdd gweld pam mae’r strategaeth yn apelio at Trump.


Mae economi America tua deg gwaith maint economi Canada. Mae mynediad at farchnad America yn hynod bwysig i fusnesau Canada.  Mae gan Washington leverage enfawr.  Felly mae Trump am ddefnyddio hwnnw.


Ond mae yna gwestiwn arall:


Beth mae defnyddio’r leverage hwnnw’n ei wneud i’r berthynas sydd wedi creu’r leverage yn y lle cyntaf?


Oherwydd nid tariffau’n unig yw ymateb Canada.  Mae Canada bellach yn ceisio lleihau ei dibyniaeth economaidd ar yr Unol Daleithiau.  Mae llywodraeth Mark Carney wedi rhoi mwy o bwyslais ar arallgyfeirio masnach tuag at Ewrop ac Asia, datblygu llwybrau allforio newydd a gwneud economi Canada yn llai agored i benderfyniadau Washington.


Wrth gwrs, fydd Canada ddim yn datgysylltu ei hun oddi wrth America yn llwyr. Mae daearyddiaeth a degawdau o integreiddio economaidd yn gwneud hynny’n hynod anodd os nad amhosibl.  Ond does dim angen iddi wneud hynny i’r newid fod yn arwyddocaol.


Os ydi Canada’n symud hyd yn oed cyfran cymharol fach  o’i masnach, ei buddsoddiad neu ei seilwaith ynni oddi wrth America, mae Washington wedi colli rhywfaint o’r fantais oedd ganddi gynt.


A dyma’r paradocs.


Gall America ddefnyddio ei maint economaidd i roi pwysau enfawr ar Ganada heddiw.

Ond os mai canlyniad hynny yw bod Canada’n treulio’r deng mlynedd nesaf yn lleihau ei dibyniaeth ar America, bydd yr un arf economaidd yn llai pwerus yn y dyfodol.





Mewn geiriau eraill mae’r grym wedi cael ei ddefnyddio – ond mae’r defnydd o’r grym yn dechrau erydu ffynhonnell y grym.


Ac mae’r un egwyddor yn berthnasol ymhell y tu hwnt i Ganada.


Gwledydd eraill fel cystadleuwyr – hyd yn oed pan maen nhw’n gynghreiriaid


Mae’r byd sydd yng ngolwg Trump yn aml yn ymddangos fel byd lle mae bron pob perthynas yn gêm sero-swm.  Os ydi gwlad arall yn ennill, mae America rywsut wedi colli. Os oes gan Ewrop ddiwydiant llwyddiannus, mae hynny’n beth amheus.

Os oes gan wlad warged masnach ag America, mae hynny’n dystiolaeth ei bod wedi manteisio ar America.


Os nad yw aelod NATO yn gwario digon ar amddiffyn, mae’r berthynas gyfan yn ymddangos fel petai America’n cael ei thwyllo.  Os nad yw cynghreiriad yn cefnogi Washington yn eu amrywiol ryfeloedd, l methiant ar ran y cynghreiriad yn hytrach na dewis synhwyrol gan wledydd sofran. 


Mae cwestiwn hollol deg ynglŷn â faint ddylai cynghreiriaid America ei gyfrannu at eu hamddiffyn eu hunain.  Ond mae problem sylweddol os mai dyna’r unig linyn mesur i farnu gwerth cynghrair.


Nid cytundeb yswiriant ydi cynghrair - mae’n ffynhonnell grym.


Dyma beth wnaeth America mor bwerus


Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd roedd America mewn sefyllfa unigryw.

Roedd llawer o Ewrop a Japan wedi eu dinistrio. Roedd economi America yn enfawr. Roedd ganddi allu diwydiannol heb ei ail a’r grym milwrol cryfaf yn y byd Gorllewinol.

Ac yn hytrach na throi’n ôl i mewn arni ei hun, arweiniodd America’r gwaith o adeiladu trefn ryngwladol newydd - Bretton Woods. Ac yn sgil Bretton Woods cafwyd:


Y Gronfa Ariannol Ryngwladol.


Banc y Byd.

GATT ac, yn ddiweddarach, Sefydliad Masnach y Byd.

NATO.

Cynghreiriau â Japan, De Korea, Awstralia a gwledydd eraill.

Rhwydwaith o ganolfannau milwrol ar draws y byd.

System ariannol gyda’r ddoler wrth ei chanol.


Rwan nid ymarferiad  elusennol oedd hyn - roedd yn rhan o  strategaeth ehangach.


Roedd America eisiau byd sefydlog lle gallai fasnachu. Roedd eisiau Ewrop a Japan ffyniannus oedd yn gallu prynu cynnyrch Americanaidd. Roedd eisiau atal yr Undeb Sofietaidd. Roedd eisiau llwybrau môr agored. Roedd  cynghreiriaid er mwyn gallu sicrhau hynny.


Ac roedd eisiau bod yng nghanol y system a dyna’. union beth ddigwyddodd.





Cost neu ased?


Dyma lle mae un o’r camddealltwriaethau mwyaf ym myd olwg Trump a MAGA.


Mae’n hynod  hawdd edrych ar ganolfan filwrol Americanaidd yn yr Almaen, Japan neu Dde Korea a gweld cost.  Mae eu cadw nhw’n ddrud..


Ond unwaith eto mae America’n cael rhywbeth yn ol?


Mae’n cael y gallu i osod grym milwrol filoedd o filltiroedd o’i thiriogaeth ei hun. Mae’n gallu symud lluoedd ac awyrennau’n gyflym. Mae’n cael gwybodaeth a seilwaith. Mae’n cael dylanwad dros bolisi diogelwch rhanbarthau cyfan. Mae’n gallu cadw ei gwrthwynebwyr ymhell iawn o dir America. Neu mewn geiriau eraill mae’n gallu bod yn superpower yn hytrach na’n rym rhanbarthol.


Pe bai China yn cael cynnig rhwydwaith o ganolfannau milwrol tebyg ar draws Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol, fyddai Beijing ddim yn gweld hynny fel baich. Byddai’n ei weld fel buddugoliaeth strategol anferth.


Mae’r un peth yn wir am NATO.  Mae America wedi gwario symiau enfawr ar amddiffyn Ewrop..  Ond yn gyfnewid mae ganddi gynghrair o rai o economïau mwyaf a mwyaf datblygedig y byd, gyda Washington wrth ei chanol.  Nid cost yn unig ydi hynny.  Mae’n ased strategol na all Rwsia na China ddod yn agos at ei efelychu.


Y ddoler


Mae’r un peth yn wir am y system ariannol.  Am ddegawdau mae’r ddoler wedi bod yn brif arian wrth gefn y byd.


Mae llywodraethau, banciau canolog, cwmnïau a buddsoddwyr yn dal doleri ac yn prynu dyled llywodraeth America. Mae rhan fawr o fasnach y byd yn cael ei phrisio mewn doleri.  Mae hynny’n rhoi manteision enfawr i Washington.  Mae’n creu galw byd-eang am asedau Americanaidd. Mae’n gwneud sancsiynau Americanaidd yn bwerus. Ac mae’n golygu bod penderfyniadau’r Federal Reserve yn effeithio ar economïau ym mhob cornel o’r byd.  Mae hynna’n rym go iawn, ond mae’r math yna o rym yn dibynnu ar rywbeth llawer mwy bregus nag awyrennau neu longau rhyfel.


Ymddiriedaeth.


Mae’r byd yn defnyddio’r ddoler oherwydd ei fod yn disgwyl i system America fod yn sefydlog, yn rhagweladwy ac yn ddibynadwy.  ‘Dydi’r ddoler ddim ar fin cael ei disodli fel prif arian wrth gefn y byd. Nid oes dewis arall amlwg.  Ond os ydi gwledydd yn dechrau poeni am ba mor rhagweladwy yw America, mae ganddynt reswm i ddechrau chwilio am ffyrdd o leihau eu dibyniaeth arni.


Unwaith eto, mae’r un patrwm.  Mae defnyddio mantais yn rhy ymosodol yn gallu rhoi cymhelliad i eraill geisio lleihau’r fantais honno.


Hollywood, Coca-Cola, McDonald’s a grym meddal


Ac yna mae’r rhan fwyaf anweledig ac anodd ei gwerthuso o’r system sy’n camiatau goruwchafiaeth America.  Hollywood. Disney. Coca-Cola. McDonald’s. Jazz. Roc a rôl. Hip-hop. Levi’s. Nike. Apple. Microsoft. Google. Facebook. Netflix ac ati ac ati.


Am ddegawdau mae America wedi cael rhywbeth nad oedd gan yr Undeb Sofietaidd erioed ac nad ydi China wedi llwyddo’n llawn i’w ail-greu hyd heddiw.


Roedd pobl led led y byd eisiau rhywbeth oedd gan America. Roedden nhw eisiau gwylio ei ffilmiau, gwrando ar ei cherddoriaeth, defnyddio ei thechnoleg, astudio yn ei phrifysgolion, buddsoddi yn ei chwmnïau ac, mewn nifer enfawr o achosion, byw yno.


Dyna be ydi grym meddal go iawn.


Mae’n golygu bod gwlad yn gallu dylanwadu ar eraill nid drwy eu gorfodi ond oherwydd bod rhywbeth amdani yn ddeniadol. Ac mae’n amhosibl creu hynny drwy orchymyn.


Y camgymeriad strategol


Mae Trump yn dda iawn am weld cost pethau.  Mae’n edrych ar ddiffyg masnach ac yn gweld colled.  Mae’n edrych ar ganolfan filwrol ac yn gweld bil.  Mae’n edrych ar NATO ac yn gweld aelodau nad ydynt yn talu digon. Mae’n edrych ar gymorth i gynghreiriad ac yn gofyn beth mae America’n ei gael yn ôl.  Mae’n edrych ar dariff ac yn gweld arian yn llifo i’r Trysorlys.


Yr hyn sy’n llawer anos ei roi mewn colofn ar daenlen ydi gwerth system - ymddiriedaeth.dibenadwyedd, cynghteiriaid, mynediad, dylanwad, goruwchafiaeth y ddoler, enw da. Mae’r rhain yn rhoi’r gallu i gael gwledydd eraill i wneud pethau oherwydd eu bod eisiau gweithio gyda America, nid oherwydd eich bod yn bygwth eu cosbi.


Dyna sut mae pŵer rhyngwladol go iawn yn gweithio.


Ac mae hyn yn bwysicach nag erioed


Rydym mewn cyfnod lle mae China’n cynyddu ei gallu economaidd a milwrol ac eisiau mwy o ddylanwad dros y system ryngwladol.


Mae Rwsia wedi dangos ei bod yn barod i ddefnyddio grym milwrol i newid ffiniau.


Mae’r Dwyrain Canol mewn cyfnod o ansicrwydd eithriadol.


Mewn byd felly, mantais fwyaf America dros ei gwrthwynebwyr efallai nad maint ei byddin ydi hi.


Ei chynghreiriaid ydi hi.


Does gan China ddim rhwydwaith tebyg o wledydd cyfoethog a datblygedig o’i chwmpas. Does gan Rwsia unrhyw beth tebyg.


Mae gan America NATO, Canada, Japan, De Korea, Awstralia a rhwydwaith llawer ehangach o bartneriaid. Ond dydi cynghreiriaid yn aros yn gynghreiriaid oherwydd eu bod yn credu bod y berthynas o fudd iddynt, nid am eu bod yn teimlo eu bod yn ddyledus i America.


Os ydynt yn dechrau gweld Washington fel ffynhonnell o ansicrwydd economaidd neu strategol, maent yn dechrau yswirio eu hunain yn erbyn America.  Dyna beth sy’n gwneud yr hyn sy’n digwydd yng Nghanada mor ddiddorol.’Dydi Canada heb droi’n elyn i’r Unol Daleithiau. Mae’n gwneud rhywbeth llawer mwy rhesymegol. - gofyn sut i wneud ei hun yn llai dibynnol arni.


Ac os ydi llawer o gynghreiriaid America yn dechrau gofyn yr un cwestiwn, mae rhywbeth sylfaenol ar newid.


Paradocs MAGA


Mae Trump yn honni bod y drefn ryngwladol wedi manteisio ar America. Ond gellir dadlau nad oes neb wedi elw mwy na’r Unol Daleithiau o’r drefn honno.


Roedd ganddi’r ddoler wrth ei chanol. Roedd ganddi’r farchnad gyfalaf fwyaf. Roedd ei chwmnïau ym mhobman. Roedd ganddi rwydwaith digymar o gynghreiriaid. Roedd ganddi ganolfannau milwrol ar draws y byd. Roedd ganddi ddylanwad anghymesur dros sefydliadau rhyngwladol. Ac roedd ei diwylliant yn treiddio i bron bob cymdeithas ar y blaned.


Nid darlun o wlad wedi’i cham-drin gan y system ydi hwnnw. Mae’n ddisgrifiad o’r wlad oedd yn eistedd yng nghanol system ryngwladol oedd o fudd sylweddol iddi.


Ac mae hynny’n arwain at gwestiwn sydd, i mi, yn llawer pwysicach na faint o dariff ddylai America ei godi ar oriawr Swisaidd neu ddarn car o Ontario.


Beth os ydi’r bobl sydd bellach yn rheoli’r pŵer mwyaf yn y system ryngwladol wedi camddeall sut y cafodd y pŵer hwnnw ei greu?


Oherwydd os ydych yn meddwl mai baich yw’r sefydliadau, y cynghreiriau a’r perthnasau sydd mewn gwirionedd yn gonglfaen i’ch grym, yna mae datgymalu’r rheini’n ymddangos yn rhesymegol.


Mae tariffau’n edrych yn gryf. Mae bygwth cynghreiriaid yn edrych yn gryf. Mae mynnu ufudd-dod yn edrych yn gryf. Mae gweithredu ar eich pen eich hun yn edrych yn gryf.


Ond ddim yr un peth ydi ymddangos yn bwerus â bod yn bwerus.


Gall America orfodi cost ar y Swistir.  Gall America orfodi cost llawer mwy ar Ganada.  Gall America fygwth Ewrop neu Japan neu Dde Korea â chanlyniadau os nad ydynt yn gwneud yr hyn mae Washington eisiau.  Dyna un o fanteision bod y wlad fwyaf pwerus yn y system.


Ond os mai canlyniad defnyddio’r grym hwnnw dro ar ôl tro yw bod gwledydd eraill yn adeiladu systemau masnach, amddiffyn a chyllid sy’n eu gwneud yn llai dibynnol ar America, yna mae pob buddugoliaeth dactegol yn gallu cyfrannu at golled strategol.


Mae defnyddio grym yn gallu dinistrio’r amodau sy’n cynhyrchu’r grym hwnnw.


Ac efallai mai dyna’r camgymeriad mwyaf peryglus sydd wrth galon llawer o bolisi tramor America ar hyn o bryd.


Mae Make America Great Again yn dechrau o’r rhagdybiaeth bod eraill wedi dwyn rhywbeth oddi ar America. Ond mae’n bosibl mai’r bygythiad mwyaf i’r seilwaith a wnaeth America mor bwerus yn y lle cyntaf ydi’r ffordd mae llawer o Americanwyr - gan gynnwys ei harweinyddiaeth gwleidyddol - yn camddaeall y seilwaith hwnnw.

No comments: