Tuesday, September 13, 2011

Cystadleuaeth blogiau Total Politics

Mae canlyniadau'r gystadleuaeth yma yn dechrau cael eu rhyddhau, gyda Blogmenai yn ddeuddegfed ymysg blogiau adain chwith.  Mae Syniadau, Welsh Ramblings, Plaid Wrecsam a Leanne Wood hefyd ar y rhestr.

Mae'n fater o gryn gywilydd i Flogmenai ddod dri lle oddi tan yr arch falwr cachu Alastair Campbell.  Ta waeth, mae amser yn gwella pob clwyf.

Ar nodyn arall, mae'n ymddangos na fydd yna restr benodol ar gyfer blogiau Cymreig y tro hwn.  Efallai yr af ati i lunio un o'r prif restrau - os ydi'r canlyniadau yn ffafriol wrth gwrs!

3 comments:

Gwenwyn Surion said...

Mewn post cynharach yr wyt yn nodi Fel cenedl rydym yn gymharol rhydd o lygredd - 'dydi cymryd amlenni brown sy'n llawn pres ddim at ein dant o gwbl.

Sut felly bod blog mor bisar â BlogMenai wedi dod mor uchel yn y gystadleuaeth?

Alwyn ap Huw said...

Damnia Cysill! Grawnwin Surion oedd awdur y sylw diwethaf i fod!

Cai Larsen said...

Hmm - mi fydd rhaid i mi feddwl am honna.