Diddorol ydi darllen ar flog Vaughan am fanylion trefniadau'r Toriaid ar gyfer dewis ymgeiswyr i etholiadau'r Cynulliad.
Yn ol Vaughan yn yr etholaethau targed fe fydd 'na nifer gyfartal o ddynion a menywod ar y rhestr fer. Digon teg ar un olwg, mi fydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y caiff mwy o ferched eu dewis. Mi fyddwn fodd bynnag yn nodi nad yw cymryd y cam yma ynddo'i hun yn mynd i newid fawr ddim ar record echrydus y Toriaid o ddewis merched mewn seddi enilladwy yng Nghymru (dyn ydi pob AC Toriaidd ag eithrio un a phob un o'u ACau). Os oes yna ddiwylliant mysogenistaidd ymysg aelodau'r blaid yng Nghymru, 'dydi caniatau i ferched fynd cyn belled a rhestr fer ddim yn debygol o newid pethau rhyw lawer - byddant yn cael eu haberthu wrth allor rhagfarnau Toriaidd yn ystod y cam hwnnw yn hytrach nag yn ystod yr un blaenorol.
Mae Vaughan hefyd yn dweud hyn - yn y rhanbarthau fe fydd aelodau cynulliad presennol sy'n dymuno sefyll eto yn cael y seddi brig gyda'r lle gwag uchaf wedi ei glustnodi ar gyfer menyw. Fel mae Vaughan yn awgrymu bydd hyn yn delio efo problem fach ddelicet sydd gan y Toriaid yng Ngorllewin De Cymru, a bydd yn arwain at ethol un ferch. Mae hefyd yn newyddion gwych i Messrs Bourne, Williams, Isherwood, Graham ac ati. Trefniant bach neis iawn sy'n rhoi sedd cwbl saff i AC sydd eisoes wedi ei ethol - ta waeth pa mor ddiog a di ddim ydi'r dyn.
Mae hefyd yn newyddion penigamp i'n hen gyfaill Oscar. Chwi gofiwch y ddadl chwerw braidd rhyngof i a'r dyn sydd bellach yn Aelod Ceidwadol Aberconwy y llynedd. Roeddwn i'n cwyno bod Mohammad Ashghar wedi cael cynnig yr ail le ar restr De Ddwyrain Cymru gan y Toriaid, yn groes i'r rheolau bryd hynny (rhywbeth roedd Bourne ac Oscar ei hun yn ei gadarnhau) tra bod Guto'n dweud na wnaethpwyd y fath addewid.
Mae'r rheolau newydd yma'n agor y ffordd yn eithaf twt i Oscar gael yr ail safle i'r Toriaid yn y De Ddwyrain.
Dyna i ni gyd ddigwyddiad lwcus ynte?
No comments:
Post a Comment