Tuesday, February 01, 2011

Etholiad y Weriniaeth


Felly daeth diwedd ar y 30fed Dáil - yr un gwaethaf yn hanes y wladwriaeth ar sawl cyfri. Ar ddydd Gwener, Chwefror 25 y cynhelir yr etholiad cyffredinol. Mi fydd y Dáil Eireann nesaf yn dra gwahanol i'w ragflaenydd o ran ei gyfansoddiad. Bydd y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth y Weriniaeth, Fianna Fail, yn dychwelyd yn llawer, llawer llai o blaid seneddol nag y bu erioed o'r blaen, ac mae'n dra phosibl na fydd yn arwain llywodraeth arall am genedlaethau.

Yr hyn sy'n ddiddorol i sylwebydd o'r tu allan ydi os bydd yna ail strwythuro pell gyrhaeddol yng ngwleidyddiaeth y Weriniaeth. Yr hollt a agorodd mewn cymdeithas Wyddelig yn sgil y Rhyfel Cartref sydd wedi diffinio'r hollt wleidyddol trwy gydol hanes y wladwriaeth - gyda dwy blaid fawr geidwadol (Fianna Fail a Fine Gael) a phlaid llai ychydig i'r chwith iddynt (Llafur).

Mae peth ansicrwydd ynglyn a chanlyniad yr etholiad. Mae'r chwith Gwyddelig (Sinn Fein a nifer o fan bleidiau eraill) yn debygol o fod yn gryfach nag ydynt wedi bod o'r blaen, ac mae yna arwyddion bod y Blaid Lafur yn symud ychydig i'r chwith hefyd. Byddai sefyllfa lle ceid llywodraeth adain dde, ond gwrthblaid adain chwith yn rhywbeth newydd i'r Weriniaeth - er bod hynny'n gwbl nodweddiadol o wledydd Ewropeaidd eraill wrth gwrs. Mae sawl ffordd y gallai hynny ddigwydd - ond 'does yna ddim sicrwydd o bell ffordd. Serch hynny byddai sefyllfa felly yn debygol o 'normaleiddio' gwleidyddiaeth y Weriniaeth, a'i wneud yn fwy tebyg i wleidyddiaeth gwledydd democrataidd gorllewinol eraill

3 comments:

Anonymous said...

O ni'n meddwl mai'r Blaid Lafur oedd y yr unig blaid fawr i beidio gael eu creu o 'rhaniad' Sinn Fein?. Dim fael Finna Fail, a Fine Gael?.

Mae'n hollol amlwg mae Fine Gael fydd yn arwain y Llywodraeth, gyda help Llafur. Mae'n edrych yn debyg na fydd Finna Fail ddim yn colli GYMAINT o seddi a gallant. Ac dwi'n anghytuno gyda chwi, dwi'n meddwl fydd y blaid yn ol mewn pwer mewn dim. Dyna ydy natur gwleidyddiaeth- pobol yn anghofio am a mess sydd wedi cael ei wneud yn yr gorffenol.

Dwi mawr yn gobeithio na fydd Sinn Fein yn wneud yn dda, ond yn anffodus mae'n edrych fydd nhw dod a swm sylweddol o TD's yn ol i'r Dail. Hen blaid rhyfedd iawn ydy S.F os ydych yn edrych ar rhai o'i polisiau.

Felly er fydd "chwith" yn cwrdd a "de" hefo Fine Gael a Llafur. Y gwirionedd yw ydy bod y ddwy blaid yn rhai ganolog nawr. Fel mae pob plaid yn y D.U ar Iwerddon (heb law am Sinn Fein, BNP ayyb).

Mae'n anffodus mai Enda Kenny fydd yn dilyn y Llywodraeth. Dwin meddwl bod yr Iwerddon angen 'fresh start'- a mae hwn yn ddyn sydd wedi bod yn gwleidyddiaeth ers iddo fod yn 24oed. Maen ddyn ddiddorol- mae rhan fwyaf or wlad yn ei gasau e, ond mae pobol Mayo wrth ei fodd ag e. Dwi'n meddwl fe wneith on iawn fel arweinydd, just gobeithio neith om dechra chwarae golff hefor bancwyr fel nath Bertie!!

Anonymous said...

Tybed a oes modd ystyried Dail-efallai nid ar ol yr etholiad yma, ond o fewn y 10 mlynedd nesaf , lle y buasai Fianna Fail , a Fine Gael yn clymbleidio yn erbyn plaid Lafur llawer cryfach , er mwyn llywodraethu. Buasai'r offeiriaid a'r esgobion yn dathlu.
Ai dyma'r unig ffordd i'r Gwyddelod roi ysbrydion Collins a De Valera i orffwys ?

Cai Larsen said...

Anon 10:13

Mae gwreiddiau'r Blaid Lafur yn yr Irish Citizen army - byddin James Connolly.

Yn fwy diweddar ymunodd y Democratic Left efo'r Blaid Lafur. Adain wleidyddol yr hen Official IRA oedd y DL yn wreiddiol - ac oddi yno y daw llawer o'u harweinwyr - gan gynnwys yr un presenol a'r un blaenorol.