Wednesday, February 02, 2011

Cyfrifiad eleni a'r iaith Gymraeg


Mae'n rhyfedd fel mae ymarferiad syml o hel ystadegau yn troi'n fater gwleidyddol cynhenus mor aml. Mae hyn yn arbennig o wir parthed y cyfrifiad. Yng Ngogledd Iwerddon er enghraifft y cwestiwn am gefndir crefyddol pobl fydd yn destun dadl ffyrnig - yn arbennig ag ystyried y gallai'r cyfrifiad yno yn hawdd ddangos bod y mwyafrif o bobl o gefndir Pabyddol am y tro cyntaf. Mae perthynas agos rhwng daliadau cenedlaetholgar a chefndir Pabyddol yn y fan honno wrth gwrs.

Yma yng Nghymru y cwestiwn ynglyn a'r gallu i siarad Cymraeg ydi'r un sydd o fwyaf o ddiddordeb gwleidyddol. Mae yna rhyw eironi mae'n debyg gen i mai'r bobl ar y pegynnau gwleidyddol (parthed yr iaith o leiaf) sy'n tueddu i ddarogan gwae. O safbwynt y gwrth Gymreigwyr, y lleiaf yn y byd sy'n siarad yr iaith, gorau oll. O'u safbwynt nhw mae nifer isel o siaradwyr yn dibrisio'r iaith ac yn cynnig dadl dda mai gwastraff adnoddau llwyr ydi gwario er mwyn hybu'r Gymraeg.

Ar ochr arall y ddadl mae'r cenedlaetholwyr diwylliannol pybyr yn darogan y gwaethaf fel rhan o ddadl ehangach bod angen mesurau cadarnach i amddiffyn yr iaith, a bod yr hyn a wneir ar hyn o bryd yn gwbl anigonnol.

'Dwi'n tueddu i fod ychydig yn fwy optimistaidd na'r naill garfan na'r llall. Mae'n ffaith i'r ganran sy'n siarad Cymraeg ostwng yn gyson trwy'r ganrif ddiwethaf nes cyrraedd isafswm o 18.5% yn 1991. Cafwyd tro ar fyd erbyn 2001 a chynyddodd y ganran i 20.5% erbyn 2001, ac awgrymodd arolwg iaith digon cynhwysfawr yn 2004 bod 21.7% yn siarad yr iaith erbyn hynny. Ni allaf weld y gogwydd yma'n newid cyfeiriad, ac rwy'n eithaf hyderus y bydd canlyniadau eleni yn dod yn weddol agos i 25%.

Mae yna fwy nag ystadegau moel i'r stori wrth gwrs. Mae llawer o'r cynnydd i'w briodoli i'r sector addysg, ac i gynnydd mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gymharol wan. Mewn llefydd fel hyn 'dydi siaradwyr Cymraeg ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith yn aml iawn, ac mae sylwedd i'r cwestiwn, beth yw pwynt cael siaradwyr Cymraeg os nad ydynt yn siarad Cymraeg?

Yn Golwg yr wythnos diwethaf neu'r un cynt roedd yr Athro Harold Carter yn awgrymu na fyddai yna unrhyw gymunedau gyda mwy na 75% yn siarad Cymraeg ynddynt ar ol erbyn cyfrifiad eleni. Mae'n debyg bod arwyddocad i'r ganran yma o ran trosglwyddiad iaith a'i statws yn y gymuned. Mae gen i barch mawr at yr athro, mae'n arbenigwr ar ddaearyddiaeth iaith sydd wedi arloesi yn y maes - ond 'dwi'n anghytuno efo'i ddarogan.

Ar un olwg mae'n hawdd gweld pam ei fod wedi dod i'r casgliad - er i'r nifer a'r ganran o siaradwyr Cymraeg gynyddu yng Nghymru, bu gostyngiad yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg - yn arbennig felly yn yr ardaloedd gwledig. Yn wir ugain ward yn unig oedd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg ynddynt yn 2001 - y cwbl yn y Gogledd Orllewin, a'r cwbl ond un yn rhai trefol.

Ond mae lle i gredu nad ydi pethau cyn waethed a hynny yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith - yn wir mae data caled sy'n awgrymu hynny. Pan fydd ysgolion yn cael eu harolygu gan ESTYN mae gofyn i'r pennaeth roi adroddiad ar y sefyllfa ieithyddol yn ei ysgol. Bydd yn rhoi adroddiad ar faint o'r plant sy'n defnyddio'r Gymraeg adref, ac ar faint o blant sy'n gallu ei siarad i safon iaith gyntaf. Mae'r tablau isod yn dangos y sefyllfa diweddaraf yn ysgolion uwchradd Gwynedd. Lle ceir lle gwag mae oherwydd nad yw'r ffigwr ar gael (yn hawdd o leiaf) yn yr adroddiad.

Ysgol Disgyblion Cymraeg adref
Safon iaith gyntaf
Ardudwy 380 30% 70%
Botwnnog 517 75% 98%
Brynrefail 724 65% 98%
Dyff Nantlle 507 87% 97%
Dyff Ogwen 437 78% 99%
Eifionydd 537 50%
Friars 1312 8%
Glan y Mor 518 75%
Syr Hugh Owen 890 87% 98.00%
Tryfan 370 46% 96%
Y Berwyn 428 60% 90%
Y Gader 309 33% 69%
Y Moelwyn 416 77% 98%
Tywyn 487 21.50% 63%

Rwan 'dwi'n prysuro i gydnabod bod Gwynedd yn Gymreiciach o lawer na'r un sir arall, a 'dwi'n gwybod nad ydi ysgol yn adlewyrchu dalgylch lleol yn y ffordd yr oedd ers talwm - ceir cryn dipyn o groesi ffiniau gan blant, ac mae rheswm ieithyddol am y croesi ffiniau hwnnw yn aml. 'Dwi'n cydnabod hefyd bod y ffigyrau yn gymysg, gyda'r canrannau sy'n siarad Cymraeg adref yn isel yn ardal ddinesig Bangor ac yn ne gwledig y sir.

Ond ag ystyried bod plant a'u rhieni yn cynrychioli canran uchel o'r boblogaeth ehangach, bod 6 o'r ysgolion uwchradd gyda 75% neu fwy o'u plant o gefndiroedd Cymraeg, a bod pob ysgol yn gwasanaethu pump neu chwech o wardiau, mae'n anodd iawn gweld sut y gellid peidio a chael wardiau efo mwy na 75% o'u trigolion yn siarad Cymraeg.

'Rwan nid dadlau o blaid gor optimistiaeth parthed rhagolygon y Gymraeg ydw i. Mae optimistiaeth di sail yn arwain at ymdeimlad o ddiogelwch di sail. Ond mae pesimistiaeth gormodol hefyd yn niweidiol - mae'n tanseilio statws y Gymraeg, mae'n creu ymdeimlad o anobaith ac mae'n gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn ran o leiafrif gwanach nag ydynt mewn gwirionedd. Mae hyn yn wir am sefyllfa'r Gymraeg tros y wlad i gyd, ac am ei sefyllfa yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

Felly - ar drothwy cyfrifiad 2011 (y cyfrifiad olaf mae'n debyg) - un apel fach i garedigion yr iaith. Defnyddiwch y data ieithyddol a gynhyrchir yn wrthrychol i adnabod cryfderau a gwendidau'r iaith tros Gymru. Gall defnyddio ffigyrau i greu darlun rhy ddu wneud mwy o ddrwg nag o les i achos y Gymraeg.

Data ysgolion oll o wefan arolygiadau ESTYN.

27 comments:

Anonymous said...

I think, that you have misled.

Anonymous said...

Do you know something we don't?

BoiCymraeg said...

Pam cyfrifiad olaf?

Cai Larsen said...

'Dwi'n deall bod y llywodraeth o'r farn bod dulliau amgen rhatach o hel y wybodaeth mae'r cyfrifiad yn ei gasglu.

Cai Larsen said...

Anon4.39

I don't think so - I'm merely making use of data submitted for inspection purposes. It's easy to check.

Ioan said...

"...a fyddai yna unrhyw gymunedau gyda mwy na 75% yn siarad Cymraeg ynddynt ar ol erbyn cyfrifiad eleni."

Dwi'n cytuno efo ti - rubbish llwyr! Cwestiwn lot gwell - faint o wardiau fydd na efo mwy na 85%?

"... ac rwy'n eithaf hyderus y bydd canlyniadau eleni yn dod yn weddol agos i 25%".

Sori, ddim mor hyderys. Mi roedd y twf yn 2001 mewn plant ardaloedd di-gymraeg (o 2% i 50% mewn llawer i ardal). Fydd hi ddim yn bosib ail adrodd y twf yna byth eto (yn amlwg). Mi fydd yn cynnydd yn y ganran 16-39 oed yn cael ei ganslo gan
a) Mewnfudo
b) Gostyngiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg 60+ oed

Mae 'mhres i ar tua 22%, efo cynnydd yn y nifer (ond ddim y ganran) yng Ngwynedd.

David said...

Difyr iawn , Cai, chwara teg, ond beth yw ystyr "safon iaith gyntaf"?

Oes yna linyn mesur gwrthrychol, neu ife barn neu argraff y prifathro neu'r brifathrawes sy yna, achos mae safonau'n amrywio o'r naill ysgol i'r llall, am wn i.

Ac o blith y garfan sydd â safon iaith gyntaf ond sy'n byw ar aelwyd Saesneg ei hiaith, faint wedyn sydd â'r awydd neu'r ymroddiad i ddefnyddio'r iaith, ac yn bwysica oll faint fydd yn ei siarad hi â'u plant nhw heb nain a thaid Cymraeg i'w hannog a'u helpu nhw?

Anonymous said...

I really like your blog.. very nice colors & theme.
Did you make this website yourself or did you hire someone to do it for you?
Plz reply as I'm looking to design my own blog and would like to know where u got this from. many thanks

My web blog :: http://cecececi.tumblr.com/

Anonymous said...

Nice answer back in return of this matter with firm arguments and telling everything about that.


Here is my web site hardwood floors
my webpage: hardwood floors

Anonymous said...

I'm extremely pleased to discover this website. I want to to thank you for your time for this particularly wonderful read!! I definitely appreciated every little bit of it and I have you bookmarked to check out new things on your site.

Also visit my blog :: hardwood flooring

Anonymous said...

Hi! I've been following your site for a while now and finally got the courage to go ahead and give you a shout out from Humble Texas! Just wanted to tell you keep up the great job!

Take a look at my web page :: hardwood floors

Anonymous said...

This post is really a nice one it helps new internet users, who are wishing in favor of blogging.


Here is my webpage - hardwood flooring

Anonymous said...

This post is really a nice one it helps new
internet users, who are wishing in favor of blogging.

Look into my site hardwood flooring
My site: hardwood flooring

Anonymous said...

Hi there, constantly i used to check blog posts here early in the dawn, because i love to
find out more and more.

Here is my blog - hardwood flooring

Anonymous said...

My developer is trying to persuade me to move to .net from PHP.
I have always disliked the idea because of the expenses.
But he's tryiong none the less. I've been using Movable-type on various websites for about a year and
am concerned about switching to another platform.
I have heard very good things about blogengine.net. Is there a way I can import all my wordpress content into
it? Any kind of help would be greatly appreciated!
hardwood floors installation

Also visit my webpage ... cleaning hardwood floors

Anonymous said...

Fabulous, what a weblog it is! This weblog provides helpful data to us, keep it up.



Also visit my web page hardwood floors

Anonymous said...

Good day! I just would like to give you a big thumbs up for the
excellent information you've got here on this post. I'll be coming back to your website for more soon.


Stop by my weblog: payday loan no faxing

Anonymous said...

Thanks in favor of sharing such a fastidious thought,
article is fastidious, thats why i have read it fully

Here is my site - nail fungus treatment

Anonymous said...

It's great that you are getting thoughts from this paragraph as well as from our discussion made here.

Feel free to surf to my web-site: hardwood floors

Anonymous said...

Please let me know if you're looking for a writer for your weblog. You have some really great posts and I think I would be a good asset. If you ever want to take some of the load off, I'd absolutely love to write some articles for
your blog in exchange for a link back to mine.
Please shoot me an email if interested. Thanks!

my homepage: toe nail fungus treatments
My web site: zetaclear reviews

Anonymous said...

Appreciate the recommendation. Will try it out.


Check out my homepage nail fungus treatment
My web page > zetaclear reviews

Anonymous said...

I'm not sure why but this blog is loading extremely slow for me. Is anyone else having this issue or is it a problem on my end? I'll check back later on and see if the problem still exists.


my page :: house cleaning phoenix

Anonymous said...

You're so interesting! I do not suppose I've read anything like that before.
So wonderful to discover somebody with genuine
thoughts on this subject matter. Really.. thanks for starting this up.

This site is something that is required on the web, someone with a bit of originality!


My blog ... phoenix house cleaning

Anonymous said...

A motivating discussion is worth comment. I do believe that you ought to publish more about this issue,
it might not be a taboo subject but typically folks don't discuss such subjects. To the next! Best wishes!!

Also visit my site commercial cleaning service
my web site - http://www.maidbrigade.com

Anonymous said...

I just like the helpful information you supply on your articles.
I will bookmark your weblog and take a look at once more right here frequently.
I am moderately certain I will be informed plenty of new
stuff right right here! Best of luck for the following!


My site: russian housekeeper

Anonymous said...

Thanks , I have just been looking for info approximately this
topic for ages and yours is the best I have found out so far.
But, what about the conclusion? Are you certain concerning the source?


Review my webpage :: hair loss remedy

Anonymous said...

It is truly a great and useful piece of info. I'm glad that you simply shared this helpful info with us. Please stay us up to date like this. Thank you for sharing.

Visit my web site; http://mervan.us/