Sunday, October 24, 2010

Cymru fach mewn taenlen


Poblogaeth
(miloedd)
2009

Newid 04 - 09 (%) Canran o'r boblogaeth o oed pensiwn Genedigaethau am pob 1,000 o'r boblogaeth 2008 (%) Genedigaethau byw ysgafnach na 2.5kg 2008 (%)
Cymru 2999 1.9 21.7 11.9 7.8
Ynys Mon 69 0.7 25.6 11.3 8.2
Gwynedd 119 0.4 23.7 10.8 7.5
Conwy 111 0.4 28 10.4 7.9
Sir Ddinbych 97 1.8 25.1 11 7.3
Sir Fflint 150 0.5 20.8 11.5 6.8
Wrecsam 133 2.7 20.3 13.5 8
Powys 132 2.1 26.6 9.7 7.8
Ceredigion 76 0.9 24.7 7.7 4.5
Penfro 117 1.6 25.4 10.5 7
Caerfyrddin 181 2.3 24.3 10.9 6
Abertawe 231 2.2 21.5 11.9 5.9
Castell Nedd Port Talbot 137 0.7 22.1 11.3 9.7
Pen y Bont 134 2.6 21.2 12.1 13.3
Bro Morgannwg 125 2.6 21.5 11.9 8.4
Caerdydd 336 6.8 15.5 14.1 7.1
Rhondda, Cynon, Taf 234 0 20.1 12.4 8.2
Merthyr Tydfil 56 0.6 20.2 14 8.2
Caerffili 173 1.1 19.7 12.9 7.7
Blaenau Gwent 69 -0.4 21.5 12.5 8.7
Torfaen 91 0.3 21.6 11.6 8.3
Mynwy 88 1.2 24.3 10.4 6.4
Casnewydd 140 1.3 19.6 14.2 8.4




Marwolaethau babanod am pob 1,000 genedigaeth 2006 - 2008 (%) Marwolaethau am pob 1,000 o bobl 2008 (%) Diweithdra 2007 / 2008 (%) Canran sy'n hawlio un o'r prif fudd daliadau 2009 Cyflog cyfartalog (£)
Cymru 4.5 10.7 5.6 20.3 444.9
Ynys Mon 5.3 11.3 6.1 18.3 439
Gwynedd 4.4 11.6 5.6 15.1 408.3
Conwy 6.1 13.7 4.8 19.3 421.3
Sir Ddinbych 3.5 12.4 5.4 19.6 432
Sir Fflint 5.6 9.5 4.1 15.7 458.4
Wrecsam 2.8 10.3 5 18.2 459.7
Powys 4.7 10.8 4.1 14.3 410.5
Ceredigion 2.1 9.5 5 12.8 406.4
Penfro 4.8 11.8 4.3 17.8 431.7
Caerfyrddin 4.1 12.1 5.1 20.8 421.8
Abertawe 4.2 10.7 5.9 21 460.3
Castell Nedd Port Talbot 4.4 11.8 6.2 27.1 479.3
Pen y Bont 4 10.7 6 23.6 427.6
Bro Morgannwg 5.4 9.8 5.3 16.8 534.9
Caerdydd 4.2 8.5 6.3 17.7 483.2
Rhondda, Cynon, Taf 4.9 11.1 6 25.8 423
Merthyr Tydfil 5 11.3 7.5 30.6 388.6
Caerffili 4.5 10.3 6.7 26 412
Blaenau Gwent 5 12.1 7.4 30.1 361.6
Torfaen 5.4 11 7 22.8 427.7
Mynwy 5 10.1 3.5 13.8 509.9
Casnewydd 4.4 9.8 6.4 21.6 443.6

Data i gyd o datablog

Saturday, October 23, 2010

Is etholiadau dydd Iau

Dydi'r unig un i gael ei chynnal yng Nghymru (ar Gyngor Abertawe) ddim yn ymddangos yn ddel iawn o safbwynt y Blaid mae gen i ofn, nid bod y Mymbyls erioed wedi bod ymysg ein cadarnleoedd.

Ward Newton

Toriaid 545 (46.6;+9.2)
Lib Dems 299 (25.6;-28.4)
Llafur 187 (16.0;+16.0)
Annibynnol 108 (9.2;+9.2)
Plaid Cymru 31 (2.6;+2.6)


Mae'r cwymp yn mhleidlais y Lib Dems yn syfrdanol, gyda'u canran o'r bleidlais yn cael ei haneru. 'Dydi'r ward gyfoethog yma, sydd yn etholaeth Gwyr gyda llaw, ddim yn nodweddiadol o'r rhan fwyaf o Gymru o bell ffordd wrth gwrs. Ddydd Iau y cynhalwyd y set cyntaf o etholiadau tros y DU ers i ni gael manylion am y toriadau, ac o safbwynt y Lib Dems roedd y canlyniadau yn gymysg, ond yn arwyddocaol.

Gwnaethant yn eithaf da mewn nifer o wardiau cefnog yn Ne Lloegr, gan elwa yn bennaf ar draul y Toriaid. Ond yng Ngogledd Lloegr roedd gogwydd anferth yn eu herbyn - tros i 17% yn Manor Castle, yn Sheffield a chwalodd Llafur bawb arall yn Harworth sydd ar ffin Swyddi Efrog a Nottingham, gyda gogwydd o 13% oddi wrth y Toriaid. Roedd yna un canlyniad sal iawn i'r Lib Dems yn Ne Lloegr hefyd - gyda gogwydd o bron i 10% yn eu herbyn yn Barton and Sandhills sydd yn ninas Rhydychen.

Mae i hyn oll oblygiadau o safbwynt Cymru. Mae dylanwad prifysgolion yn gryf yn Manor Castle a Barton and Sandhills, ac maen nhw, ynghyd a Harworth, yn ddibynnol iawn ar wariant cyhoeddus. Mae prifysgolion a gwariant cyhoeddus hefyd yn bwysig yn nwy o'r dair etholaeth mae'r Lib Dems yn eu dal yng Nghymru ar lefel San Steffan - Ceredigion a Chanol Caerdydd. Ceir nifer o ardaloedd trefol yng Nghymru lle mae'r Lib Dems wedi cymryd lwmp o gefnogaeth traddodiadol Llafur ar rhyw lefel neu'i gilydd tros y blynyddoedd diwethaf, yn y dinasoedd ac yn rhai o etholaethau'r cymoedd.

Mae'n gynnar 'dwi'n gwybod i ddod i gasgliadau o lond dwrn o is etholiadau cyngor - ond os oes patrwm yn cael ei sefydlu tros y misoedd nesaf o'r Lib Dems yn gwaedu pleidleisiau i Lafur mewn ardaloedd prifysgol ac ardaloedd trefol sy'n ddibynnol ar wariant cyhoeddus, mi fydd yna gryn boeni ymysg Lib Dems Cymru wrth iddynt ystyried cyflwyno eu hunain ger bron yr etholwyr tros y wlad i gyd yn etholaethau'r Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Os ydych chi eisiau byw i fod yn hen _ _ _

_ _ _ ewch i fyw i Sir Geredigion _ _ _



Disgwyliad bywyd dynion 0 oed Disgwyliad bywyd dynion 65 oed Disgwyliad bywyd merched 0 oed Disgwyliad bywyd merched 65 oed
Cyfartaledd Cymru 77.2 17.4 81.6 20.1
Ynys Môn 76.7 17.4 81.9 20.4
Gwynedd 77.3 17.4 82 20.4
Conwy 77.1 17.9 81.5 20.5
Sir Ddinbych 77.9 18.2 81.3 20.1
Sir y Fflint 78.1 17.5 82 20.2
Wrecsam 77.4 17.4 81.2 19.8
Powys 79.5 18.6 83.2 21.4
Ceredigion 80.4 19.9 84.1 22.3
Sir Benfro 77.3 17.6 82.2 20.3
Sir Gaerfyrddin 77.3 17.3 81.3 20
Abertawe 76.9 17.5 81.6 20.2
Castell-nedd Port Talbot 76.2 16.9 80.7 19.6
Pen-y-bont ar Ogwr 76.4 16.9 81.2 19.9
Bro Morgannwg 78.2 18 82.6 20.9
Caerdydd 77 17.2 81.8 20.3
Rhondda Cynon Taf 75.5 16.4 80 18.8
Merthyr Tudful 74.6 16 79.3 19
Caerffili 76.1 16.5 81.1 19.5
Blaenau Gwent 75.6 16.4 79.1 18.5
Tor-faen 76.8 17 81 20
Sir Fynwy 79.5 18.7 83.3 21.5
Casnewydd 76.7 17 81.8 20.3

_ _ _ a pheidiwch a dweud nad ydych yn dysgu unrhyw beth defnyddiol ar flogmenai chwaith!

Data i gyd o datablog.

Friday, October 22, 2010

Ydi Rod Liddle yn hilgi?


Fedra i ddim peidio sylwi bod nifer ar y blogosffer Cymreig yn flin oherwydd i rhywun nad oeddwn erioed wedi clywed amdano tan ddoe o'r enw Rod Liddle, wneud sylwadau gwrth Gymreig. Yn wir mae Mabon wedi mynd mor bell a riportio'r creadur rhyfedd i'r heddlu am hiliaeth. Ymddengys mai erthygl ganddo sy'n argymell taflu S4C i fin sbwriel hanes sydd wedi codi'r holl stwr. Mae'r dyfyniad isod yn rhoi blas o oslef yr erthygl:

What an epic waste of money just to assuage the sensibilities of some of those miserable, seaweed munching, sheep-bothering pinch-faced hill tribes who are perpetually bitter about having England as a next door neighbour. S4C has become a state funded sinecure for the utterly talentless, the dregs who cannot even get a job at HTV (Cymru);

Os ydych (am rhyw reswm neu'i gilydd) eisiau darllen y campwaith yng nghyflawnder ei ogoniant llachar, gallwch edrych yma.

Mae'n gwestiwn digon diddorol os ydi Rod yn hilgi neu beidio. Ar un llaw mae Syniadau yn gwbl gywir i nodi mai gwlad ydi Cymru, ac nid hil, ac nad ydi sylwadau Rod yn rhai hiliol felly.

Ar y llaw arall mae rhywbeth digon anymunol yn ymgais Rod i briodoli nodweddion corfforol (pinch faced), moesol (sheep-bothering), cymeriadol (miserable, bitter, talentless dregs), anymunol i'r Cymry. 'Dydi hyn ddim yn ei wneud yn hiliol wrth gwrs, ond mae'n awgrymu bod ganddo ffordd ryfedd iawn o edrych ar y byd.

Mae ymgais i gysylltu'r Cymry efo nodweddion corfforol, emosiynol a moesol anghynnes yn eithaf cyffredin ymysg criw bach o ysgrifenwyr gwrth Gymraeg. Ystyrier AA Gill er enghraifft:

(The Welsh are) oquacious, dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls.

Neu Jeremy Clarkson:

It’s entirely unfair that some people are born fat or ugly or dyslexic or disabled or ginger or small or Welsh. Life, I’m afraid, is tragic

Mi fedrwn fynd ymlaen am dipyn yn dyfynnu'r math yma o beth (yn arbennig yn achos Clarkson). Rwan, yr hyn sydd yn drawiadol (ac ychydig yn sbwci) am y bobl 'ma ydi'r ymdrech maent yn mynd iddo i geisio creu gwahaniaethau hiliol rhwng Cymry a Saeson. Mae yna gyd destun hanesyddol i hyn wrth gwrs. 'Dydi o ddim yn ormodiaeth i ddweud bod hiliaeth yn un o syniadaethau creiddiol yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod Oes Fictoria, a bod chwilio am fan wahaniaethau hiliol yn rhywbeth o obsesiwn cenedlaethol.

Roedd damcaniaethau yn ymwneud ag uwchraddoldeb ac is raddoldeb hiliol yn gyffredin iawn ar y pryd - roedd Phrenology yn esiampl o hyn. Roedd llyfrau lu yn cael eu hysgrifennu ar y pwnc. Yr enwocaf efallai oedd Robert Knox - The Races of Men 1850, ond roedd llawer iawn o rai eraill hefyd.

Un o ddeilliannau hyn oedd bod y Fictorianiaid gyda ffordd wahanol iawn i ni o edrych ar y Byd. Roeddynt yn graddio pobl yn ol eu deallusrwydd - ac yn wir yn ol eu hawl i gael eu hystyried yn ddynol. Roedd y Celtiaid yn gymharol uchel yn nhrefn pethau - tua hanner ffordd i lawr yr ysgol - pobl dywyll iawn eu crwyn oedd ar y gwaelod - gyda'r Hotentots druan yn dal yr holl bentwr i fyny. Nid oes rhaid dweud wrth pwy oedd ar ben y rhestr.

Mae'r adroddiad a adwaenir fel Brad y Llyfrau Gleision yn adlewyrchu'n aml rhai o'r rhagfarnau Seisnig yn erbyn y Cymry - diffyg moesoldeb rhywiol ac ati. Mae'r un rhagfarnau i'w gweld yng ngwaith Caradoc Evans.

Roedd y rhagfarnau gwrth Wyddelig yn fwy eithafol wrth gwrs. Er enghraifft, mewn llythyr at ei wraig nododd Charles Kingsley wedi ymweliad a Sligo yn 1860:

I am haunted by the human chimpanzees I saw along that hundred miles of horrible country. I don't believe they are our fault. I believe ... that they are happier, better, more comfortably fed and lodged under our rule than they ever were. But to see white chimpanzees is dreadful; if they were black, one would not feel it so much, but their skins, except where tanned by exposure, are as white as ours.

Er gwaethaf y newidiadau sylweddol mewn agweddau cymdeithasol tuag at hil a hiliaeth yn ddiweddar, mae'r hen agweddau hiliol wedi eu gwreiddio'n dwfn, ac maent yn llawer, llawer mwy cyffredin nag y byddech yn ei gredu o'r cyfryngau torfol.

Rwan dydi'r gyfraith ddim yn caniatau dilorni pobl o hiliau eraill bellach, felly 'dydi hi ddim yn hawdd i bobl fel Clarkson, Liddle a Gill wneud sylwadau hiliol am bobl sydd o hiliau gwahanol iddyn nhw eu hunain. Felly maent yn gwneud sylwadau hiliol am bobl sydd o'r un hil a nhw eu hunain, ac yn chwilio am wahaniaethau hiliol er mwyn cyfiawnhau'r rheini.

Rhyw fath o siwdo hiliaeth ydi hyn mewn gwirionedd. Yr hyn y byddant yn hoffi ei wneud mewn gwirionedd fyddai gwneud sylwadau cyhoeddus sy'n dilorni pobl o Bacistan, India, y Caribi a'r gwledydd Arabaidd. Ond fedra nhw ddim - felly maent yn gwneud y peth agosaf posibl at hynny.

Felly ydi sylwadau Liddle am y Cymry yn hiliol? Nac ydynt wrth gwrs, mae Liddle yn perthyn i'r un hil a'r Cymry. Ond - serch hynny - mae'n gwbl rhesymol i gasglu bod Liddle, Gill, Clarkson et al yn hilgwn mewn gwirionedd gan eu bod yn mynd o'u ffordd i ddod mor agos a phosibl i wneud sylwadau hiliol yn gyhoeddus. Hiliaeth yr hilgi llwfr o bosibl - hilgwn sydd heb y gyts i sefyll yn gyhoeddus tros eu daliadau anymunol. Yn wir mae'r tri wedi cael eu cyhuddo o hiliaeth ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ni fyddai'n syndod o fath yn y byd deall bod eu hagweddau a'u hymgom preifat yn uwd o hiliaeth - yn union fel eu hen deidiau Fictorianaidd.

Wednesday, October 20, 2010

Beth am beidio a llafurio ar dir hesb y tro hwn?

Mae Aled yn nhudalen sylwadau'r blog isod ac Alwyn ar ei flog Saesneg yn codi'r cwestiwn yn eu gwahanol ffyrdd os ydi'r Mudiad Cenedlaethol yn rhy ddof o ran ei naratif ag ystyried digwyddiadau diweddar. Mae'n gwestiwn digon diddorol - ac amserol.

'Rwan un peth sydd y tu hwnt i amheuaeth ydi bod toriadau, neu'r bygythiad o doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus yn newid y tirwedd gwleidyddol yn sylweddol - a 'dydi'r newid hwnnw ddim o fudd i'r Mudiad Cenedlaethol. Roedd wythdegau'r ganrif ddiwethaf yn gyfnod llwm iawn i genedlaetholdeb Cymreig - ac roedd y tirwedd gwleidyddol bryd hynny'n ddigon tebyg i'r hyn ydyw heddiw.

'Dydi hi ddim yn anodd gweld pam. Os mai toriadau mewn gwariant cyhoeddus ydi'r brif stori wleidyddol, mae'n dilyn y bydd plaid sydd yn cael ei chysylltu efo gwariant cyhoeddus yn gwneud yn dda mewn ardaloedd lle mae gwariant felly yn bwysig.

Y Blaid Lafur ydi'r blaid sy'n cael ei chysylltu a gwariant cyhoeddus yn llygaid y rhan fwyaf o bobl, a does yna ddim llawer y gall y Blaid wneud am hynny. Mae pobl yn reddfol yn cysylltu gwariant cyhoeddus efo Llafur, fel y maent yn ein cysylltu ni efo gwladgarwch. Pan mae pobl yn teimlo o dan fygythiad personol, tuedda gwladgarwch i ddod yn tipyn o foethusrwydd - yn ei ffurf gwleidyddol o leiaf. Pan mae pobl yn teimlo bod y bygythiad hwnnw'n wan maent yn fwy tebygol o fynegi eu gwladgarwch ar ffurf gwleidyddol - fel y gwnaethant yn etholiadau cyntaf y Cynulliad er enghraifft. Mewn sefyllfa fel hyn mae gwleidydda oddi mewn i'r tirwedd gwleidyddol yr ydym ynddo ar hyn o bryd yn wastraff ynni ac amser o safbwynt y Blaid. Yr unig obaith o lwyddo ydi trwy geisio newid y tirwedd gwaelodol.

Y ffordd o gamu ymlaen ydi trwy wthio yr hyn sydd yn ein gwneud yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol i ganol y talwrn etholiadol a'i drin fel ased, yn hytrach na'i guddio a cheisio bod yn fwy llafuraidd na'r Blaid Lafur.

Mae'n amlwg bod perthynas gweddol glos rhwng ein statws cyfansoddiadol a'n tan berfformiad economaidd parhaus. Mae caniatau i wlad arall gymryd pob penderfyniad economaidd arwyddocaol ar ein rhan yn ffordd gweddol amlwg o grefu ar ein gliniau am fethiant economaidd. 'Dydi'r cysylltiad rhwng tan berfformiad economaidd a diffyg rheolaeth tros ein economi ddim yn cael ei wyntyllu yn ddigon aml, na chyda digon o arddeliad. Y brif ddadl tros annibyniaeth - yr unig un sydd yn bwysig mewn gwirionedd - ydi'r un sy'n sydd wedi ei gwreiddio yn niffyg gallu'r drefn bresennol i wella perfformiad economaidd Cymru, a'i methiant i godi ansawdd bywyd trwch pobl Cymru.

'Dwi ddim yn amau bod gwleidydda oddi mewn i'r matrics sydd mor gyfforddus, mor gyfarwydd, mor Brydeinig yn haws nag ydi ceisio newid y tirwedd gwleidyddol sylfaenol trwy gysylltu'r tlodi endemig sy'n bla ar y rhan fwyaf o'n gwlad gyda'n dibyniaeth ar y wladwriaeth Brydeinig - a thrwy estyniad dibyniaeth ar y Blaid Lafur. Ond y ffaith i ni gymryd y dewis hawdd tros y degawdau ydi'r rheswm pam yr ydym ni ymhle yr ydym heddiw, a pham bod y Blaid Lafur yn lle maen nhw.

Siawns bod yr amser wedi dod i ddysgu'r wers a cheisio llafurio ar dir mwy ffrwythlon o ran ei botensial am unwaith.

Pam bod cynlluniau Hunt yn farwol i ddarlledu cyfrwng Cymraeg


Oni bai am ddifrifoldeb y goblygiadau, byddai yna rhywbeth digri - mewn ffordd grotesg - am y syniad o S4C yn cael ei hwrjio o un aelwyd ddi groeso i un arall fel rhyw hen ewythr sydd wedi hen golli ei bwyll, ei ddannedd a phob rheolaeth ar ei bledren, yn cael ei hun yn rhan o rhyw anghydfod teuluol ynglyn ag etifeddiaeth. Yn arbennig ag ystyried yr holl drafferth mae'r sianel wedi mynd iddo i fod yn barchus, yn sefydliadol, i bihafio ac i beidio a chicio yn erbyn y tresi.

Ond mae'n rhaid rhoi hynny i un ochr oherwydd bod deilliannau posibl y fargen a drawyd echnos rhwng y llywodraeth a'r Bib yn ymylu ar fod yn farwol i S4C. Wna i ddim ail adrodd yr hyn sydd wedi ei ddweud heddiw gan John Walter Jones, Alun Ffred na Chymdeithas yr Iaith. Y pwynt yr hoffwn ei wneud fodd bynnag ydi bod honiad Cheryl Gillan ar Wales Today neithiwr bod y llywodraeth yn gosod darlledu cyfrwng Cymraeg ar sail cadarn naill ai'n gelwyddog, neu'n brydachu'r ffaith bod gan Cheryl holl allu ymenyddol dafad sydd wedi cael clec ar ei phen efo morthwyl. Mi egluraf pam - yn syml iawn, iawn fel y gall hyd yn oed Cheryl ddeall.

Roedd darlledu Cymraeg ar sail gadarn cyn i blaid Cheryl gael eu dwylo ar rym gwleidyddol yn San Steffan - o ganlyniad i'r ffaith iddynt ennill yr etholiad cyffredinol yn Lloegr. 'Dydi o ddim rwan. Mae dau brif reswm am hyn.

Yn gyntaf mi fydd cyllideb y sianel yn nwylo corff sy'n cystadlu yn uniongyrchol yn ei herbyn mewn amrediad eang o feysydd. Felly mi fydd pwysau sylweddol - oddi mewn ac o'r tu allan i strwythurau swyddogol - i S4C addasu yr hyn mae'n ei ddarparu er mantais i'r Bib, ac yn groes i fuddiannau'r sianel Gymraeg. Mae'n dra thebygol y bydd hyn yn arwain at golli mwy o wylwyr na fydd eisoes wedi eu colli o ganlyniad i'r £25m fydd eisoes wedi ei dorri, cyn i weddillion bydol S4C gael ei drosglwyddo i Portland Place.

Yn ail mae'n anodd gweld sut na fydd rhaid i S4C orfod cystadlu am adnoddau gyda holl gydrannau eraill y Bib, ac mae'n anos fyth gweld sut goblyn mae'n bosibl iddynt gystadlu am yr adnoddau hynny. 'Dydi'r Bib heb ei ffurfio i amddiffyn darlledu cyfrwng Cymraeg, 'dydi cyflawni'r rol yna ddim am gario fawr o bwysau oddi mewn i'w chyfundrefn dyrannu cyllid. Neu i roi'r peth mewn ffordd arall 'dydi S4C gyda'i chynulleidfa fechan a'i chostau cynhyrchu uchel ddim yn gwneud fawr o synnwyr yn nhermau'r ffordd mae'r Bib yn edrych ar y Byd. Faint bynnag o adnoddau mae S4C yn ei gael - petai hynny ond yn £20m, mae'n mynd i ymddangos yn ddrud i benaethiaid y Bib. Cyn gynted a throsglwyddir S4C i grafangau'r Bib bydd yn cychwyn ar daith i lawr allt serth tuag at ddifancoll.

Byddai wedi bod yn llawer, llawer gwell trosglwyddo'r holl, job lot i'r Cynulliad - hyd yn oed os na fyddai yna lawer o adnoddau ariannol yn dod i'w ganlyn. Mae yna gefnogaeth wleidyddol i'r cysyniad o ddarlledu cyfrwng Cymraeg ym Mae Caerdydd - ar draws y pleidiau. 'Does yna ddim mewath o gefnogaeth i hynny yn Portland House. A hyd yn oed petai'r Cynulliad yn penderfynu na allai ariannu'r sianel ac yn ei chau, ein penderfyniad ni fyddai fo, mi fyddai'n rhan o'n gwleidyddiaeth ac mi fyddai'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o fyw efo'n penderfyniad. Efo'r drefn yma mae pob dim allan o'n gafael, allan o'n rheolaeth, y tu allan i'n strwythurau a'n diwylliant gwleidyddol.

A thra ein bod mewn hwyliau chwerw, ydych chi'n cofio'r lluniau o David Cameron yn dod i Gaerdydd yn fuan wedi iddo gael ei godi'n brif weinidog (a'r het wirion Kirsty Williams yn rhedeg i estyn croeso iddo)? Dangos parch at y sefydliadau datganoledig oedd y syniad am wn i. Mae'r penderfyniad yma - sydd wedi ei gymryd heb ymgynghori efo S4C, nag efo'r Gweinidog Diwylliant a Threftadaeth yng Nghaerdydd, nag efo'r Bib yng Nghymru - nag o bosibl hyd yn oed efo'r Swyddfa Gymreig ei hun (heb son am fan bethau megis pobl Cymru wrth gwrs) - yn dangos hyd a lled y parch hwnnw. Zilch.

Tuesday, October 19, 2010

Trefn gyllido S4C i newid

'Dwi ddim yn meddwl bod fawr neb yn disgwyl y byddai cyllido S4C yn cael ei drosglwyddo i'r Bib - er y bydd y sianel Gymraeg yn cadw ei hanibyniaeth ymarferol - mae'n ymddangos. 'Does yna ddim son am faint o bres fydd y Bib yn ei gael ynghyd a'r gyfrifoldeb.

Mae'n fuan i feddwl am yr holl oblygiadau mae'n debyg gen i - ond mae dau beth yn fy nharro, dau beth sydd mewn gwirionedd yn gysylltiedig:

(1) Mae'r Bib ac S4C i raddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd - ond mi fydd y naill yn gyfrifol am gyllido'r llall - a hynny mewn cyfnod lle bydd pwysau cyllidol sylweddol ar y ddau gorff.

(2) Mi fydd y sefyllfa od a pharadocsaidd uchod yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd S4C yn cael ei lyncu yn ei gyfanrwydd gan y gorfforaeth maes o law - ac mae hynny'n agor pob math bosibiliadau - llawer ohonynt yn ddigon anymunol.

A dyma rhywbeth arall i feddwl amdano - mae'r manylion yn hynod o denau ar hyn o bryd, ond rydym wedi clywed heddiw y bydd y tal am drwydded deledu yn cael ei rewi am chwe mlynedd. Beth os mai bwriad y llywodraeth ydi codi rhan o'r cyllid ar gyfer S4C trwy godi mwy am y drwydded yng Nghymru na sy'n cael ei godi yng ngweddill y DU?


Sain Tathan yn rhan batrwm ehangach o danseilio economi Cymru

Canolfan hyfforddi arfaethiedig Sain Tathan ydi'r sefydliad Cymreig diweddaraf i flasu'r fwyell. Fedra i ddim honni fy mod yn colli llawer o ddagrau yn yr achos hwn a dweud y gwir, ond ychwanegwch hwnnw at y swyddfa basports yng Nghasnewydd a'r morglawdd ar draws yr Hafren, a'r hyn sy'n debygol o ddigwydd i S4C a'r cynllun i drydaneiddio'r rheilffordd i Gaerdydd tros y dyddiau nesaf, ac mae'n weddol amlwg bod patrwm pendant ar y gweill i dorri'n ol yn sylweddol ar gynlluniau cyfalaf ac ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

'Dwi'n gwybod bod hyn oll yn digwydd mewn cyd destun o doriadau tros y DU, ond mae'n anodd osgoi'r teimlad bod Cymru yn cymryd mwy na'i siar o'r boen ar hyn o bryd. A'r gwir ydi y byddai Cymru'n dioddef mwy na'r rhan fwyaf o'r DU petai'n derbyn yr un siar o'r toriadau na phawb arall - mae'r sector cyhoeddus yn fwy (mewn termau cymharol) yng Nghymru nag yw yn y rhan fwyaf o weddill y DU, ac mae'r sector preifat yn wan ac yn ddibynnol iawn ar y sector cyhoeddus. Mi fyddai trefn deg yn rhoi llai o doriadau i Gymru - nid mwy.

Ond peidiwch a disgwyl i'r glymblaid yn Llunain gydnabod pwysigrwydd ychwanegol gwariant cyhoeddus i economi Cymru - cydadran fechan o wladwriaeth Brydeinig ydi Cymru iddyn nhw, ac un lle nad oes yna fawr ddim yn y fantol o safbwynt etholiadol - 5% o aelodau seneddol y Lib Dems sydd yng Nghymru a llai na 2% o rai'r Toriaid. Disgwyliwch fwy o doriadau na'r rhan fwyaf o'r DU a disgwyliwch ddiffyg cydnabyddiaeth llwyr o'r niwed ychwanegol mae toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn debygol o'i gael ar economi'r wlad.

Monday, October 18, 2010

Saturday, October 16, 2010

Gwersi o'r Iwerddon ynglyn a chlymbleidio


Blogiad diweddar gan Vaughan wnaeth i mi feddwl am y gwersi y gallwn eu cymryd o glymbleidiau yn Iwerddon wrth ystyried clymbleidio yr ochr yma i'r Mor Celtaidd. Mae trefn bleidleisio Iwerddon yn sicrhau bod llywodraeth glymbleidiol yn cael ei ffurfio mor aml a pheidio.

Wedi cymryd gwers o hanes etholiadol y Weriniaeth 'dwi'n digwydd anghytuno a hi oedd Vaughan, sef bod y PDs wedi marw oherwydd iddynt glymbleidio. Yn fy marn bach i, clymbleidio oedd y rheswm i'r PDs oroesi ymhell wedi i'r amodau a ddaeth a nhw i fodolaeth edwino. Yn wir, 'dwi'n eithaf siwr y byddai'r diwedd wedi dod yn 2002 oni bai bod canfyddiad erbyn diwedd yr ymgyrch etholiadol bod Fianna Fail yn debygol o ennill yr etholiad gyda mwyafrif llwyr - ac roedd llawer o bobl dosbarth canol mewn etholaethau allweddol yn fodlon rhoi benthyg eu pleidlais i'r PDs er mwyn atal hynny rhag digwydd.

Ta waeth, stori arall ydi honno. Yr hyn sy'n fwy diddorol ydi pa wersi y gallwn eu cymryd oddi wrth ein cymdogion agosaf. Awgrymaf y canlynol.

Gwers 1: Gall clymbleidio, hyd yn oed efo gelynion gwleidyddol chwyrn, gynnig achubiaeth i bleidiau sydd yn wynebu dirywiad hir dymor. Rydym eisoes wedi trafod sut achubwyd Fine Gael rhag troi'n amherthnasol pan glymbleidiodd John A Costello efo rhai o elynion ideolegol mwyaf ffyrnig ei blaid yn 1948.

Gwers 2: Gall yr etholwyr fod yn ddi drugaredd efo pleidiau sy'n tynnu allan o glymbleidiau heb reswm da. Rydym hefyd wedi edrych mor gyflym y dilynwyd llanw Dick Spring gan drai etholiadol yn naw degau'r ganrif ddiwethaf.

Gwers 3: Gall y partneriaid lleiaf mewn clymbleidiau gael mwy o ddylanwad o lawer na mae eu maint yn awgrymu fyddai'n bosibl - ac o ganlyniad gallant yrru newid radicalaidd. Er enghraifft polisiau Clann na Poblachta ynglyn a newid cyfansoddiadol a datblygu gofal iechyd rhad ac am ddim oedd prif nodweddion llywodraeth glymblaid 1948. Polisiau marchnad rydd y PDs oedd rhai o nodweddion mwyaf amlwg llywodraethau clymblaid 1997 - 2002 a 2002 - 2007.

Gwers 4: Gall clymbleidiau fod yn hynod anisgwyl o ran eu cyfansoddiad. Mae hanes llywodraethol y Weriniaeth yn llawn esiamplau o lywodraethau wedi eu ffurfio o bleidiau tra gwahanol. Mae'r un presennol - FF, y Blaid Werdd, gweddillion y PDs a chyfuniad hynod eclectig o aelodau annibynnol (rhai ymysg aelodau mwyaf adain Dde'r Dail, ac eraill ymysg y pellaf i'r Chwith). Yn y pen draw mae mathemateg yn bwysicach na syniadaeth pan mae clymbleidiau yn cael eu ffurfio.

Gwers 5: Mae clymbleidiau gan amlaf yn sefydlog. Er bod ambell i glymblaid wedi syrthio'n ddarnau, eithriadau ydi'r rheiny. Fel rheol mae clymbleidiau mor sefydlog a llywodraethau un plaid.

Rwan, 'dwi ddim yn honni fod pob gwers yn drosglwyddadwy i Gymru na Phrydain - mae trefn bleidleisio a diwylliant gwleidyddol y Weriniaeth yn dra gwahanol i'r hyn sy'n gyfarwydd i ni - ond maen nhw'n rhoi lle i gnoi cil.

Llafur Cymru yn gloddesta ar fethiant Llafur y DU

Llwyddodd Llafur i ennill dwy is etholiad yng Nghymru ddydd Iau, gan gadw sedd yn hawdd yng Nghastell Nedd Port Talbot, a chymryd sedd oddi wrth y Blaid gyda mwyafrif bach, ond gogwydd sylweddol yn Nhreherbet yn Rhondda Cynon Taf.

Rhondda Cynon Taf CBC: Treherbert

Llafur 883 (50.8;+9.7),
Plaid Cymru 855 (49.2;-9.7)
Mwyafrif 28
Cyfradd pleidleisio 40%

Castell Nedd Port Talbot: Gogledd Castell Nedd

Llafur 437 (57.2;-5.3),
Neath Port Talbot Ind Party 144 (18.8;-18.6),
Plaid Cymru 132 (17.3;+17.3),
Lib Dem 51 (6.7;+6.7)
Mwyafrif 293.
Cyfradd Pleidleisio 24.08%


Felly dyna ni - esiampl o Lafur yn gwneud yn dda yng Nghymru o ganlyniad i wrthwynebiad i doriadau sy'n cael eu gweithredu oherwydd i Lafur yn Llundain wneud smonach llwyr o economi'r DU.

Friday, October 15, 2010

Diwrnod arall yn hanes sianel o dan warchae

Felly dyma ni ddiwrnod cythryblus yn hanes S4C yn dod i ben gydag ymddiswyddiad arall sydd hyd yn hyn yn ddi eglurhad. Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu'r sianel sydd wedi neidio tros yr ochr y tro hwn.

Mi ddechreuodd y diwrnod efo cyfweliad hynod bigog gan Arwel Ellis Owen ar Radio Cymru. Ymateb oedd Arwel i stori gan Vaughan bod Jeremy Hunt, Gweinidog Treftadaeth y DU eisoes wedi penderfynu gorfodi toriadau o 20% i 30% ar y Sianel. Yr hyn oedd yn ymddangos i fod wedi troi'r drol oedd awgrym gan Vaughan Roderick bod dogfen a baratowyd gan y gorfforaeth yn amlinellu effeithiadau toriadau posibl, yn rhy hwyr i effeithio ar benderfyniad y llywodraeth. Roedd Arwel yn bendant nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud. Am beth ydi fy marn i werth, mi fyddwn yn tybio bod y ddau ddyn yn gywir - mae Vaughan yn gywir i'r penderfyniad gael ei wneud ynglyn ag amrediad y toriad (20% i 30%), ac mae Arwel yn gywir yn yr ystyr nad yw'r union ffigwr wedi ei benderfynu eto. Serch hynny mae'n weddol amlwg bod wythnos nesaf am fod yn un anodd iawn i'r sianel - yn arbennig a deall heno bod y gyllideb ysgolion yn ogystal a'r gyllideb iechyd yn Lloegr yn debygol o gael eu harbed. Mae'r arbediad i'r ddwy gyllideb sylweddol yma yn sicrhau y bydd y toriadau yn y gweddill yn sylweddol iawn.

Wedyn yn ystod y prynhawn aeth Arwel ati i geisio ehangu'r ddadl (ac ennill cyfeillion pwerus) trwy honni bod y newidiadau sydd ar y gweill yn nhrefn cyllido S4C yn gosod cynsail a allai effeithio ar ddarlledwyr eraill - yn arbennig felly y BBC. Yn y cyfamser roedd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Diwylliant a Hamdden yng Nghaerdydd yn gwneud ymdrech i dynnu sylw at bwysigrwydd y sianel o safbwynt y berthynas rhwng Cymry Cymraeg a rhai di Gymraeg.

Mae pethau'n argoeli'n ddrwg mae gen i ofn - a gallwn gymryd bod brwydr hir o'n blaenau i sicrhau cyfundrefn ddarlledu deilwng trwy gyfrwng y Gymraeg - brwydr roedd llawer ohonom yn hyderu oedd wedi ei hen ennill





Thursday, October 14, 2010

Sefyll yn y bwlch yn erbyn yr Americanwyr

Hmm - felly 'dwi wedi llwyddo i sicrhau nad ydi'r categori blogio Cymraeg ei iaith yng ngwobrau'r Wales Blog Awards heno wedi syrthio i ddwylo Americanaidd fel Manchester United neu Lerpwl. Wedi dweud hynny 'dwi'n poeni ychydig cyn fy mod wedi anfon un o fy meibion i'r Chapter i gasglu'r dystysgrif a bod yna win a ballu yn cael ei hwrjio ar y mynychwyr. Ar wahan i'w nain, fo ydi'r peth agosaf at lwyr ymwrthodwr yn y teulu - dwi'n gobeithio na fydd y creadur yn sal yn y bore.

Llongyfarchiadau (trwy fy nannedd) i'r unig flogiwr gwleidyddol Cymreig y gwn amdano sydd wedi ei leoli ymhellach i'r gogledd na fi - y Tori o Ynys Mon, the Druid am ennill yr unig gategori gwerth ei ennill - yr un gwleidyddol.

Yr unig gysur ydi fy mod wedi ll'nau'r llawr efo'r uffar pan mae pobl yn cael cyfle i bleidleisio.

Proses dewis ymgeiswyr Llais Gwynedd

Rwan, 'dwi ddim yn gwybod i sicrwydd os ydi'r genadwri a ganlyn yn wir - am rhyw reswm 'dydi aelodau Llais Gwynedd ddim yn siarad efo fi'n rhy aml - ond fy nealltwriaeth ydi bod y meicro grwp cwynfanus wedi creu proses dethol ymgeiswyr unigryw - mae sanhedrin mewnol yn meddwl am rhywun nad yw'n aelod a fyddai efo gobaith o gael ei ethol mewn ward benodol, ac yn ei ffonio a gofyn iddo / iddi sefyll yn eu henw. Os ydi hynny'n methu, maent yn ffonio rhywun arall - ac ati. Yn wir roedd rhywun yn dweud wrthyf heno mai trydydd dewis Llais (ar y gorau) oedd ei hymgeisydd llwyddiannus yn ward Seiont yr wythnos diwethaf. Pe byddai hyn oll yn wir, byddai ganddynt un o'r prosesau dethol ymgeiswyr mwyaf caedig ac anemocrataidd y tu allan i Ogledd Corea.

'Dwi'n teimlo braidd fel blogiwr Llais Gwynedd yn rhannu'r uchod heb fynd trwy broses wirio arferol y blog yma - ond 'does gen i ddim ffordd o wirio ag eithrio gofyn i fy narllenwyr sy'n perthyn i Lais Gwynedd (ac mae yna nifer ohonyn nhw yn ymweld a'r blog yma'n rhyfeddol o gyson) adael sylw yma ynglyn a'u proses dewis ymgeiswyr.

Felly trosodd atoch chi hogiau - tri chwestiwn:

  • Oes yna gyfle i bawb o'ch aelodau sefyll mewn etholiadau?
  • Ydi eich aelodau yn cael rhan yn y broses dewis ymgeiswyr?
  • A gafodd eich cynghorydd ar Gyngor Tref Caernarfon gynnig i sefyll ar eich rhan yn yr etholiad Cyngor Gwynedd yn ward Seiont?
Diolch - 'dwi'n edrych ymlaen am ymatebion.

Wednesday, October 13, 2010

'Llwyddiant' i Cheryl

Mae Cheryl Gillan yn hawlio llwyddiant ysgubol oherwydd mai 255 o swyddi sydd i'w colli yn y Swyddfa Basports yng Nghasnewydd yn hytrach na'r 300 a wintyllwyd yn y cyfryngau ddoe. 'Dydan ni ddim yn gwybod os ydi Cheryl yn gwneud unrhyw ymdrech i arbed cyllideb S4C - mae'r Gweinidog Diwylliant wedi ein rhybuddio ni heddiw bod yr holl gyfundrefn ddarlledu yng Nghymru o dan warchae.

Os ydi Cheryl yn ceisio arbed S4C, ac os ydi hi'n cael yr un math o 'lwyddiant' ag y cafodd efo'r Swyddfa Basports, waeth i'r sianel roi'r ffidil yn y to rwan hyn.

Tuesday, October 12, 2010

Andrew Marr a'r blogosffer


'Dydi Andrew Marr o'r Bib ddim yn meddwl llawer o'r blogosffer gwleidyddol.

Dyfynaf:

Most citizen journalism strikes me as nothing to do with journalism at all_ _ _.
A lot of bloggers seem to be socially inadequate, pimpled, single, slightly seedy, bald, cauliflower-nosed, young men sitting in their mother's basements and ranting. They are very angry people.

"OK – the country is full of very angry people. Many of us are angry people at times. Some of us are angry and drunk. But the so-called citizen journalism is the spewings and rantings of very drunk people late at night.


Mae Mr Marr yn gywir i'r graddau bod yna flogio difrifol o wael a gor emosiynol i'w weld yn weithiau, ac mae yna lawer iawn o flogio di ddim. Mae yna hefyd flogio arbennig o dda ar gael. Ar ei orau mae blogio gwleidyddol yn llenwi twll na all y Bib ei lenwi yn yr ystyr ei fod yn rhoi perspectif gwahanol, llai sefydliadol nag un y gorfforaeth, ac yn aml bydd gwybodaeth y Bib yn llai trylwyr, ac yn fwy arwynebol na'r hyn sydd gan rhai blogwyr.

A dweud y gwir mae sylwadau Mr Marr yn nodweddiadol o'r hyn sydd yn aml yn fy mhoeni am ohebiaeth gwleidyddol y Bib - ceir tueddiad parhaus i geisio gwneud i sefyllfaoedd cymhleth ffitio i mewn i ddehongliadau syml. Diogi newyddiadurol mewn geiriau eraill. Mae'r byd blogio yn gymhleth ac yn amrywiol - ac yn eironig ddigon mae newyddiadura gwleidyddol gorau'r Bib yng Nghymru i'w gael ar flogiau Vaughan a Betsan ac nid ar y cyfryngau prif lif.

O - a rhag ofn bod rhywun a diddordeb, mae gen i fwy o wallt, llai o blorod, clustiau twtiach a mwy o blant nag Andrew a 'dwi heb fyw efo mam ers 1978. Fydda i ddim yn gwylltio'n aml chwaith.

Lle S4C yn y darlun Prydeinig

Ynghanol yr holl boeni am ddyfodol S4C mae'n werth ystyried beth ydi maint y sianel mewn perthynas a'r busnes darlledu yn y DU yn ei gyfanrwydd. Mi fyddwch yn cofio mae'n debyg gen i bod refeniw presennol S4C yn dod i tua £100m y flwyddyn. Yn ychwanegol at hyn bydd y sianel yn terbyn rhaglenni 'am ddim' gan y BBC. Y dybiaeth ar hyn o bryd yw y gallai S4C golli tua chwarter ei refeniw tros bedair blwynedd - tua £25m i gyd - er y gallai'r toriad fod yn fwy o lawer.

'Rwan mae'r ffigyrau hyn yn ymddangos yn sylweddol - ac mae'r £75m (o bosibl) fydd gan y sianel yn weddill o refeniw blynyddol ar ddiwedd y cyfnod yn dal i ymddangos i'r llygaid lleyg yn dipyn go lew o bres. Ond sut ydi refeniw felly yn edrych yng nghyd destun y sefyllfa Brydeinig yn ei chyfanrwydd? Mae'r tabl isod yn rhoi syniad o refeniw'r darlledwyr Prydeinig.

B Sky B £5.9bn
BBC £3.6bn
ITV (2009) £1.9bn
Channel 4
£0.83bn
Channel Five £0.27bn
S4C £0.1bn

Mewn geiriau eraill mae refeniw S4C yn 0.8% o refeniw y chwech prif gorfforaeth darlledu. Mae gwariant BSkyB ar hysbysebu eu cynnyrch yn sylweddol uwch nag ydi holl refeniw S4C - (£127m yn 2007). Mae BSkyB mewn sefyllfa i wario tua £1bn y flwyddyn ar chwaraeon - deg gwaith cyfanswm gwariant S4C ar hyn o bryd. Maent yn gwario £278m ar ffilmiau. Mi fydd cyfran S4C o'r refeniw yn lleihau os ydi'r toriadau sy'n cael eu hystyried yn cael eu gwireddu - gan o bosibl gyrraedd 0.5% neu lai o'r cyfanswm Prydeinig.

'Dwi'n sylweddoli fy mod yn gwneud cymhariaeth ychydig yn gamarweiniol gan bod y pum darlledwr arall yn darlledu ar hyd a lled y DU, yn hytrach nag yng Nghymru yn unig. Ond mae S4C yn cystadlu yn y farchnad Brydeinig ehangach - mae'r cwbl ohonom sydd ar gael i S4C fel gwylwyr hefyd ar gael i'r sianeli eraill.

Mae S4C yn ei chael yn anodd i gystadlu ar hyn o bryd. Y sianel ei hun sy'n gyfrifol am rhai o'r ffactorau sy'n gyrru hyn, ond mae rhai ffactorau pwysig y tu hwnt i'w rheolaeth - yn arbennig felly y ffaith eu bod yn bysgodyn bach mewn pwll hynod o fawr a ffyrnig o gystadleuol. Canlyniad glastwreiddio presenoldeb S4C ymhellach yn y cwiltwaith ehangach fydd cyfyngu ymhellach ar allu'r sianeli i gystadlu - a rhoi hergwd go arw iddi tuag at ei thranc.

Data o datablog

Sunday, October 10, 2010

Mynd a'r busnes dwyieithrwydd yma'n rhy bell?

Peidiwch a fy nghamddeall, 'does yna neb yn fwy balch o weld arch farchnadoedd a 'ballu yn defnyddio'r Gymraeg na fi. Ond, ydi hi'n wirioneddol angenrheidiol i gyfieithu petrol i _ _ wel, petrol?

Ymddengys bod Morrisons, Caernarfon yn credu hynny beth bynnag.

Cheryl ar flaen y gad - yn anffodus

Rhyddhad gweddol fychan ydi nodi bod Cheryl Gillan yn gwneud ei gorau i achub unig swyddfa basports Cymru yng Nghasnewydd rhag cael ei chau gan ei llywodraeth.

Rhywsut dydi'r ffaith bod y ddadl tros gadw'r swyddfa yn cael ei harwain gan Ysgrifennydd Gwladol nad oedd yn rhy siwr pwy ydi prif weinidog Cymru tan fis Mai, ddim yn rhoi rhyw lawer o hyder i mi y bydd y frwydr arbennig yma'n cael ei hennill.

Saturday, October 09, 2010

Llongyfarchiadau i'r aelodau seneddol Cymreig

Gan bod yna gwyno mawr nad ydw i'n defnyddio'r blog yma fel cyfrwng i longyfarch gwrthwynebwyr gwleidyddol ar eu llwyddiannau etholiadol, dwi'n hapus i longyfarch yr aelodau seneddol Llafur Cymreig ar eu llwyddiant ysgubol yn yr etholiadau mewnol i gabinet cysgodol y Blai Lafur Brydeinig.

Rhag ofn nad ydych erioed wedi clywed am yr aelodau Cymreig a roddodd eu henwau ymlaen, 'dwi wedi lliwio eu henwau yn goch (neu rhywbeth - 'dwi'n ddall i liw a 'does neb wrth law i mi ofyn os ydw i wedi cael fy lliwiau yn iawn).

Ed Balls 179 ETHOLWYD

Hilary Benn 128 ETHOLWYD

Roberta Blackman-Woods 63

Ben Bradshaw 53

Kevin Brennan 64

Chris Bryant 77

Andy Burnham 165 ETHOLWYD

Liam Byrne 100 ETHOLWYD

Vernon Coaker 85

Yvette Cooper 232 ETHOLWYD

Mary Creagh 119 ETHOLWYD

Wayne David 30

John Denham 129 ETHOLWYD

Angela Eagle 165 ETHOLWYD

Maria Eagle 107 ETHOLWYD

Rob Flello 15

Caroline Flint 139 ETHOLWYD

Mike Gapes 12

Barry Gardiner 41

Helen Goodman 80

Peter Hain 97

David Hanson 38

Tom Harris 54

John Healey 192 ETHOLWYD

Meg Hillier 106 ETHOLWYD

Huw Irranca-Davies 28

Kevan Jones 68

Alan Johnson 163 ETHOLWYD

Tessa Jowell 152 ETHOLWYD

Eric Joyce 10

Barbara Keeley 87

Sadiq Khan 128 ETHOLWYD

David Lammy 80

Chris Leslie 26

Ivan Lewis 104 ETHOLWYD

Ian Lucas 34

Fiona Mactaggart 88

Pat McFadden 84

Ann McKechin 117 ETHOLWYD

Alun Michael 11

Jim Murphy 160 ETHOLWYD

Gareth Thomas 71

Emily Thornberry 99

Stephen Timms 79

Stephen Twigg 55

Shaun Woodward 72

Iain Wright 43

Mae'r drefn i ethol cabinet cysgodol yn un eithaf syml - mae gan pob aelod seneddol ddeuddeg pleidlais - ac mae'n rhaid iddynt roi chwe phleidlais i ddynion a chwech arall i ferched.

Rwan o'r 259 aelod seneddol sydd efo pleidlais daw 26 o Gymru - tua 10% o'r cyfanswm. Mae angen tua 100 o bleidleisiau i ethol aelod. Mewn geiriau eraill petai holl aelodau Cymru yn cytuno i bleidleisio i'w gilydd, ni fyddai llawer o fantais i'w chael. Wnaeth hynny ddim digwydd fel mae bleidlais ryfeddol o isel Alun Michael yn ei ddangos yn glir.

Mae'r sefyllfa yn drosiad o broblem sylfaenol Cymru - mae'n rhy fach i gael dylanwad ar sut mae penderfyniadau'n cael eu cymryd ar lefel Prydeinig. Mae hynny hyd yn oed yn wir am y Blaid Lafur Seneddol Brydeinig, lle mae dylanwad y Cymry yn llawer, llawer cryfach nag yw dylanwad yr wyth ceidwadwr Cymreig sydd ar goll yn rhywle ymhlith y blaid seneddol Doriaidd o 307 aelod.

Friday, October 08, 2010

Is etholiad Seiont - un neu ddau o sylwadau

Mae nifer wedi mynegi syndod i Lais Gwynedd ennill sedd cyngor sir yn nhref Caernarfon - ac ar un olwg mae cyfiawnhad i'r syndod hwnnw oherwydd i'r grwp weithredu mewn ffordd sy'n groes i fuddiannau'r dref yn amlach na pheidio. Wedi dweud hynny roedd ganddynt ymgeisydd adnabyddus yn lleol yn sefyll mewn ward lle nad ydi Plaid Cymru yn arbennig o gryf, lle nad oedd Llafur wedi rhoi eu hymgeisydd cryfaf posibl ger bron yr etholwyr a lle'r oedd yr ymgeisydd annibynnol yn un gwan braidd. Yn wir mae'n bosibl mai dyma'r ward wanaf i Blaid Cymru yn Arfon y tu allan i ddinas Bangor - mae'n gryn gyfnod ers iddi gael cynghorydd sir yno, ac mae yna adegau yn gymharol ddiweddar pan nad ydym wedi bod efo hyd yn oed gynghorydd tref yn y ward.

Fel yr etholiad ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos diwethaf mae yna agweddau ar yr etholiad sy'n gwbl groes i naratif y cyfryngau. Er enghraifft roedd y Bib (eto fyth) wedi gwasgu pethau i ffitio eu dealltwriaeth eu hunain o'r sefyllfa yn eu hadroddiad ar y radio y bore yma, trwy nodi i'r ymgeisydd Llais Gwynedd guro'r un Plaid Cymru, heb ychwanegu mai ennill sedd oddi wrth y grwp annibynnol wnaethant, na bod Llafur yn drydydd eithaf pell, na bod y bleidlais annibynnol wedi chwalu ers 2008, nag i'r Toriaid gael ond 2.5% o'r bleidlais - record o rhyw fath mi dybiwn i.

O graffu ar y ffigyrau, mae'n amlwg i Lais Gwynedd gymryd llawer mwy o bleidlais Llafur nag un y Blaid. Un mesur o hyn ydi'r etholiad arall yn yr un ward ar gyfer y cyngor tref ar yr un noswaith. Dim ond Llafur a Phlaid Cymru oedd yn cystadlu. Wele'r canlyniad:

Canlyniadau Isetholiad Seiont

Glyn Thomas Plaid Cymru 466

Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur 452

Rwan yr un pleidleiswyr oedd yn pleidleisio yn y ddwy etholiad a chynyddodd pleidlais Llafur o 268 yn absenoldeb LlG a'r ddau ymgeisydd ymylol, tra'r aeth y bleidlais Plaid Cymru i fyny 187. Hynny yw roedd mwy o bobl sy'n tueddu tuag at Lafur wedi pleidleisio i Lais Gwynedd nag oedd yna o bobl sy'n tueddu tuag at y Blaid.

Cymhariaeth arall y gellir ei gwneud ydi efo'r etholiad cyffredinol eleni. Er nad ydi wardiau yn cael eu datgan ar wahan mewn etholiadau felly, mi fydd gan y pleidiau syniad go dda sut aeth pethau ym mhob ward, er eu bod yn tueddu i gadw'r wybodaeth o dan eu capiau. 'Dwi ddim yn meddwl fy mod yn datgelu cyfrinach fawr trwy ddweud i Lafur ddod ar y blaen yn weddol gyfforddus yn Seiont. Roedd eu canran o'r bleidlais yn etholiad neithiwr yn llai na hanner yr hyn roedd yn yr etholiad cyffredinol. Roedd canran y Blaid hithau wedi cwympo, ond gostyngiad cymharol fychan ydoedd (gostyngiad o tua wythfed o'r cyfanswm canrannol). Felly mae'n weddol amlwg i Lais Gwynedd wneud yn dda - ond ar draul Llafur oedd hynny yn bennaf, nid ar draul y Blaid - ond peidiwch a disgwyl i'r Bib ddweud hynny wrthych.

Un pwynt bach arall - roedd ymgyrch Llais Gwynedd yn un effeithiol - ond mewn ffordd ryfedd roedd hefyd yn dinoethi diffyg peirianwaith y grwp ar lawr gwlad (neu lawr tref y dyliwn ddweud efallai). Pobl o'r tu allan i'r dref oedd yn dosbarthu, marcio ac ati yn bennaf, ac roeddynt hefyd yn gynghorwyr yn aml. Go brin bod De Caernarfon erioed wedi gweld cymaint o aelodau etholedig nag y gwelodd tros y dyddiau diwethaf.

Roedd ymgyrch y Blaid, (ac i raddau llai un y Blaid Lafur) yn ymgyrchoedd pobl leol - hynny yw pobl sy'n byw yn y dref. Go brin y bydd y gefnogaeth allanol yma ar gael i Lais Gwynedd yng Nghaernarfon eto mewn unrhyw ymgyrch ag eithrio un is etholiad.

Llais Gwynedd yn taro'n ol

Cafodd Llais Gwynedd lwyddiant heno yn ward Seiont yng Nghaernarfon, gan ennill sedd oddi wrth y grwp annibynnol. Bydd hyn yn ryddhad iddynt ar ol iddynt golli un o'u seddau ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos diwethaf i Blaid Cymru. Y canlyniad yn llawn oedd:

James Endaf Cooke Llais Gwynedd 399

Gareth Edwards 91

Llinos Mai Thomas Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru 23

Menna Wyn Thomas Plaid Cymru 279

Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur 184


Pob clod i Menna Thomas am berfformiad da mewn ward sydd yn hanesyddol wedi bod yn un anodd i'r Blaid. Mi fydd Llafur yn hynod siomedig na wnaethant yn well mewn ward lle maent wedi cael cryn lwyddiant yn y gorffennol agos.

Bydd o beth cysur i'r Blaid bod gwr Menna, Glyn wedi ennill yr is etholiad cyngor tref yn y ward a thrwy hynny sicrhau rheolaeth i'r Blaid ar Gyngor Tref Caernarfon am y tro cyntaf erioed.

Cadwodd Llafur eu sedd cyngor tref yn ward gyfagos Cadnant yn weddol hawdd.

Tuesday, October 05, 2010

Guto'n dechrau cicio yn erbyn y tresi yn barod!


Pleser anisgwyl ydi cael fy hun yn cytuno efo fy nghymydog Guto Bebb ynglyn ag anhegwch cynlluniau'r llywodraeth glymblaid i amddifadu trethdalwyr sy'n talu'r lefel uchaf o dreth incwm o fudd dal plant. 'Dwi'n cytuno mai dyma un o'r pethau mwyaf anheg sydd erioed wedi digwydd yn hanes y Ddynoliaeth.

Gadewch i ni ystyried teulu cwbl nodweddiadol o Gaernarfon fel enghraifft o erchylldra'r anhegwch yma, gyda'r tad yn aelod seneddol digon cyffredin ar gyflog o £65,738, y wraig yn rhannu ei hamser rhwng edrych ar ol y teulu a gweithio'n rhan amser am ychydig filoedd y flwyddyn. Teulu o faint digon cynrychioladol 0 Ogledd Caernarfon ydyw - gyda phump o blant.

Fel mae pethau'n sefyll gallai'r teulu bach ddisgwyl budd dal plant o £20.30 yr wythnos am y plentyn cyntaf a £13.40 yr wythnos ar gyfer pob un o'r pedwar arall. Daw hyn a ni at gyfanswm o £3,842.80 tros flwyddyn. Hen ddigon i brynu gwyliau go lew yn haul De Ffrainc - hyd yn oed i deulu o saith. Ond och a gwae, mae hynny oll yn mynd i ddiflannu gydag un clic o fysedd merchetaidd George Osborne.

Meddyliwch mewn difri calon am orfod trampio o gwmpas blydi Sir Benfro ynghanol gwynt a glaw Awst efo pump o blant wrth eich cwt. Does yna neb yn fwy ymwybodol o ddwyster poenus a dirdynnol y profiad hwnnw na fi.

Monday, October 04, 2010

Annwyl Glyn _ _ _

Mae blogiadau cyfrwng Saesneg yn brin iawn ar flogmenai, ond 'dwi'n gwneud eithriad heddiw. Copi o'r isod o sylwadau 'dwi wedi eu gadael (mewn tri rhan oherwydd cyfyngder lle) ar flog yr aelod seneddol Toriaidd, Glyn Davies. 'Dwi'n gobeithio bod y sylwadau yn cyfleu pwysigrwydd sydd i bobl fel Glyn geisio defnyddio eu holl ddylanwad i amddiffyn y bygythiad sylweddol mae S4C yn ei wynebu ar hyn o bryd.

Annwyl Glyn

As a member of Alun Ffred’s party who blogs regularly on Welsh language issues, I’m more than willing to recognize that your party has an honourable record of supporting & encouraging the language. After all S4C was established under a Tory government, as was the first Welsh Language Act.

I’m also happy to endorse your suggestion that it’s not in the interests of the language to be seen as the sole preserve of my own party. The language belongs to all the Welsh people whether they speak it or not, & people from right across the political spectrum should be encouraged to support it. The support that you & other Welsh Tory politicians have given to the language is testament to the eclectic nature of political support for it. I’m even willing to give Jeremy Hunt the benefit of the doubt, & accept your assurances that Mr Hunt recognizes the importance of S4C to the language – although I suppose that it wouldn’t be wholly surprising if he wasn’t 100% au fait with the intricacies of the Welsh language & the structures that support it four months into his spell as UK culture minister.

Having said all that, the support that you and other members of your party give to the Welsh language does bestow a responsibility on you, as it does on the rest of us. This responsibility involves recognizing that the survival of the language involves proactive support at all levels of government. In practical terms this means that as a general principle, supporters of the language should recognize that the structures that support it should be protected insofar as that is possible, & use whatever influence they have to protect those structures. S4C is a vital component of that support structure.

People of my generation who took part in the campaign for a Welsh language TV channel in the late seventies remember well the feeling then that the Welsh language was in terminal decline, & that the numbers & percentage who spoke it would continue to decline until both reached negligible levels. Happily this vista failed to materialise, & the prospects for the language have improved considerably since that period. It isn’t difficult to see why – in contemporary Wales the language is seen by many as relevant, dynamic and modern - and is thus linked to personal and collective aspiration. This is the complete antithesis of how the language was viewed for much of the last century. S4C – whatever we might think of it’s Authority, & whatever we might think of it’s corporate behaviour, has been a key component of the set of factors that came together to transform people’s attitude to the language & their understanding of it’s relevance to their lives.

It goes without saying that severe cuts in the broadcaster’s budget would have a severe effect on the channel, & more importantly on the way people perceive it. I commented earlier on the responsibility that all of us who support the language have to ensure it’s well being. At the risk of causing offence by suggesting that Mr Hunt’s understanding of the importance of S4C to people’s perception of the language might be limited, I’d like to implore on you & the other Welsh Tory MPs to reiterate to him S4C’s key importance in supporting the language, & to keep any cuts to a minimum. I realize that many Tory MPs are busily lobbying to protect various recipients of public money at the moment. But knowing as I do that the language is as important to you as it is to me, and knowing that at this point representations by Tory MPs carry far more weight than those of politicians from other parties, it’s of the utmost importance that you utilise that influence to it’s maximum at this juncture.

Failure in this regard would be extremely detrimental to the Welsh language, but it would also be detrimental to the reputation your party has built of being broadly supportive of the language and it’s interests. Political parties are usually judged by their most recent actions, & your party will be judged harshly by the Welsh people and by history if you inflict the ruinous cuts that are being considered at the moment on the S4C budget.

Glyn, please see what you can do, and encourage other Welsh Tory MPs to do all they can do. Much depends on your success.

Diolch

Cai Larsen

Sunday, October 03, 2010

Paradocs y Blaid Lafur Gymreig

Mae'r blog yma, ynghyd a nifer o rai eraill wedi tynnu sylw at wendid Llafur yn nhermau eu haelodaeth yng Nghymru. Mae yna ochr arall i'r stori fodd bynnag, sef y polau piniwn. Mae rhai o'r rhain bellach yn rhoi Llafur ar y blaen ar lefel Prydeinig. Mae'r polau yng Nghymru a'r Alban yn dda iddynt hefyd, ac mae Gareth Hughes yn gweithio ei hun i fyny braidd wrth ystyried y polau Cymreig a godidogrwydd nefolaidd y syniad o lywodraeth Lafur di glymblaid yng Nghaerdydd.

'Rwan, mae'n debyg y dylai Gareth fod wedi nodi'r ffaith ei bod hi mymryn bach yn beryglys cymryd gormod o sylw o bol sydd wedi ei gymryd yng nghanol cyhoeddusrwydd Cynhadledd flynyddol (fel roedd y pol YouGov Cymreig). Ond wedi dweud hynny, mae'r ffaith yn aros bod yna baradocs gwleidyddol gwaelodol yn bodoli ar hyn o bryd - gwendid Llafur yng Nghymru o safbwynt aelodaeth a pheirianwaith ochr yn ochr a chryfder cynyddol yn y polau piniwn. Mae hefyd yn ffaith i Lafur yn y gorffennol lwyddo i adeiladu cefnogaeth sylweddol yng Nghymru pan maent wedi bod allan o rym yn San Steffan.

Felly beth sydd y tu ol i'r paradocs - aelodaeth mae'n debyg yn is nag yw wedi bod ers canrif, ond cefnogaeth ar lawr gwlad yn cynyddu? Mi fyddwn i'n tueddu i edrych ar bethau fel hyn. Mae aelodaeth isel y Blaid Lafur yng Nghymru yn adlewyrchiad o farwolaeth y Gymru a roddodd fodolaeth i'r Blaid Lafur - Cymru'r byddinoedd mawr o weithwyr, Cymru'r undebau llafur a Chymru'r diwydiannau trwm oedd wedi eu gwladoli.

Mae eu llwyddiant i ddenu cefnogaeth 'feddal' (hy pobl sy'n dweud eu bod am bleidleisio iddynt, ond sydd a dim diddordeb mewn chwarae rhan yn y mudiad) yn adlewyrchiad o'r ffaith bod neges ganolog Llafur o honni mai nhw sydd am amddiffyn gwasanaethau a gwariant cyhoeddus, yn un sy'n effeithiol mewn gwlad lle mae cymaint o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau a gwariant cyhoeddus.

A dyna ydi problem sylfaenol y Blaid - 'dydi dadl ganddi ei bod hefyd eisiau amddiffyn gwasanaethau a gwariant cyhoeddus ddim yn cystadlu efo'r un ddadl gan Lafur - mae Llafur yn cael llawer mwy o glust gan y cyfryngau Prydeinig, ac mae'r ffaith mai plaid Brydeinig ydyw yn rhoi hygrededd i'r canfyddiad y bydd y blaid yn gallu gweithredu ar eu haddewidion yn y dyfodol.

Yr ateb ydi cynnal y ddadl ar dirwedd gwleidyddol arall a cheisio sefydlu cysylltiad ym meddwl yr etholwyr rhwng gor ddibyniaeth ar wariant cyhoeddus (neu mewn geiriau eraill tlodi) a gor ddibyniaeth ar y wladwriaeth Brydeinig yn gyffredinol a'r Blaid Lafur yn benodol. Wedi'r cwbl - fel y dywedodd Ron Davies yn y gynhadledd eleni, mae Cymru yn dal ar waelod bron i pob tabl sy'n mesur tlodi a dibyniaeth wedi tair blynedd ar ddeg o lywodraeth Llafur yn Llundain - ac mae hynny yn ei dro yn ein gwneud yn ddiymadferth yn wyneb y toriadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Mae'n cymryd gyts i geisio cynnal y ddadl wleidyddol ar y tirwedd yma ar drothwy etholiad Cynulliad, oherwydd bod dadl felly yn ymddangos ar un olwg yn wahanol iawn i'r naratifau gwleidyddol Prydeinig ehangach - ond dyna'r unig ffordd o sicrhau nad ydym yn gorfod dioddef pedair blynedd o ddominyddiaeth Llafur yng Nghaerdydd mae gen i ofn.

Friday, October 01, 2010

Croeso Mabon

Da ydi gweld blog gwleidyddol newydd dwyieithog - un Mabon ap Gwynfor.

Mabon ydi ymgeisydd y Blaid yn Ne Clwyd yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, mae hefyd ymysg gwleidyddion ifanc mwyaf addawol Cymru, ac mae unrhyw un a'i clywodd yng nghynhadledd y Blaid eleni yn gwybod ei fod yn areithiwr penigamp.

Croeso Mabon.

Cais bach i'r BBC

'Dwi'n gwybod bod Gwynedd ymhell i'r gogledd o Landaf, ymhell o wareiddiad dinesig Pontcanna, a'n bod ni i gyd mor debyg i'n gilydd nad ydi hi'n bosibl i selogion y Cameo Club weld y gwahaniaeth rhyngom pan rydym yn cyrraedd y ddinas yn ein heidiau i weld gem beldroed neu rygbi.

Ond er cymryd hyn oll i ystyriaeth 'dwi'n dal i deimlo y dylai'r Bib wneud rhyw fath o ymdrech i wneud yn siwr bod eu storiau am y Gogledd yn ffeithiol gywir. Er enghraifft roedd newyddion y Bib y bore yma yn ein sicrhau bod Plaid Cymru wedi ad-ennill un o'r seddi yr oedd wedi ei cholli ar Gyngor Gwynedd i Lais Gwynedd.

'Dwi'n deall mai naratif newyddiadurol etholiadau lleol 2007 oedd i Lais Gwynedd ennill seddau gan Blaid Cymru yn sgil yr hen gynllun ad drefnu ysgolion. Ond nid dyna ddigwyddodd yn Bowydd a Rhiw - sedd Llafur oedd hon cyn dyfodiad Llais Gwynedd. Fe'i henillwyd gan y meicro grwp wedi is etholiad a alwyd yn sgil marwolaeth yr aelod Llafur, Ernest Williams yn ystod ymgyrch etholiadau lleol 2007. Prin i'r Blaid gael ei chynrychioli yn yr ardal erioed.

Yn eironig ddigon yr unig dro y gallaf feddwl amdano i'r ardal gael cynrychiolydd Plaid Cymru (cyn Paul) ar gyngor sir oedd am gyfnod byr yn ol yn nyddiau'r hen Gyngor Gwynedd pan roedd rhannau sylweddol o'r ward bresennol yn ward Gwilym Euros Roberts (oedd yn aelod o'r Blaid ar y pryd wrth gwrs).

Felly y stori ffeithiol gywir yw i'r Blaid lwyddo i gymryd sedd gan Lais Gwynedd mewn ardal sydd wedi bod yn un wan iddi (ar lefel llywodraeth leol o leiaf) yn hanesyddol - ac i Lafur fethu hyd yn oed ddod o hyd i ymgeisydd.

'Rwan - mae'r blog yma - yn ogystal a llawer o flogiau Cymreig eraill yn llwyddo i gael y rhan fwyaf o bethau (fwy neu lai) yn ffeithiol gywir, efo dim byd mwy nag un boi efo cyfrifiadur, mynediad i Google, ychydig o wybodaeth ynglyn a'r hyn maent yn 'sgwennu amdano, ambell i gysylltiad yma ac acw a'r amynedd i wirio ffeithiau cyn eu cyhoeddi.

Mi fyddai dyn yn disgwyl i gorfforaeth anferth fel y Bib i wneud ychydig yn well.

Ffigyrau'r mis