Monday, October 06, 2008

Iwerddon 1948 - pam y gall bod mewn grym ynddo'i hyn fod yn hanfodol i lwyddiant etholiadol?



John A Costello - Prif Weinidog Fine Gael o 1948 i 1951.


Mae Cymru'n Un yn un oed. 'Dwi'n falch bod y cytundeb yn bodoli, ac mae wedi siomi nifer ohonom ar yr ochr orau.

Cyn parhau 'dwi'n rhyw ymddiheuro am obsesiwn y blog hwn gyda gwleidyddiaeth Gwyddelig, ond mae'r penblwydd cyntaf hwn yn fy atgoffa o etholiad a ddigwyddodd chwe deg o flynyddoedd yn ol yr Iwerddon - yr etholiad a achubodd ail blaid fwyaf y wlad Fine Gael.

Erbyn 1945 roedd Fine Gael wedi suddo i waelod y gasgen. Nhw, neu o leiaf eu rhagflaenwyr Cumann na nGaedhel oedd wedi rheoli'r wladwriaeth rydd am ddeg blynedd cyntaf y wladwriaeth honno cyn cael eu sgubo i un ochr gan blaid llawer mwy awchus am rym - Fianna Fail Eamonn De Valera. Ers y dyddiau hynny roedd Fine Gael wedi bod yn raddol lithro tuag at fedd gwleidyddol. 1945 oedd yr isafbwynt.

Cynhalwyd 5 is etholiad ar un diwrnod ym mis Rhagfyr 1945 - dim ond mewn un oedd gan Fine Gael - y brif wrthblaid ymgeisydd - Mayo. Er mai nhw oedd yn amddiffyn y sedd cafodd Fianna Fail dair gwaith cymaint o bleidleisiau na nhw. Roedd hyn oll mewn cyd destun o etholiad cyffredinol ar ol etholiad cyffredinol o golli pleidleisiau a cholli seddi. Etholiad cyffredinol gwaethaf yn hanes y blaid oedd un 1944.

Wrth ddynesu at etholiad cyffredinol 1948 roedd pethau yn edrych yn wirioneddol ddu ar Fine Gael - nid oedd ganddi arian na threfniadaeth cenedlaethol na hyd yn oed digon o ymgeiswyr i allu ennill grym ar ei phen ei hun. Roedd ei gwleidyddiaeth gwrth genedlaetholgar ond lled bleidiol i'r Gymadwlad wedi dyddio ac yn wrthyn i elfennau sylweddol o'r etholwyr. 'Roedd cymhlethdod arall hefyd - roedd plaid newydd - Clann na Poblachta - plaid Wereniaethol radicalaidd gwahanol iawn i Fine Gael wedi ymddangos, ac roedd yn fygythiad gwirioneddol i Fianna Fail ymysg y dosbarth gweithiol gweriniaethol.

Pan ddaeth etholiad 1948, roedd yn wir yn un sal i Fine Gael, er iddynt ennill tair sedd newydd a chodi eu cyfanswm i 31. Ni wnaeth Clann_na_Poblachta cystal a'r disgwyl, gan ennill deg sedd yn unig. Yn eironig ddigon y ffaith bod Fianna Fail wedi addasu'r ffiniau etholiadol er mwyn tanseilio Clann na Poblachta oedd yn gyfrifol am y seddi ychwanegol i Fine Gael.

Enillodd Fianna Fail fwy na neb arall o seddi yn hawdd iawn. Ond ni lwyddwyd i gael mwyafrif llwyr, a daeth pawb arall at ei gilydd i'w diorseddu - Fine Gael, Clann na Poblachta, Clann na Talhmad (plaid y ffermwyr), dwy fersiwn oedd yn casau ei gilydd o'r Blaid Lafur, a nifer o aelodau annibynnol. Roedd hyn ar un olwg yn anhygoel - roedd Fine Gael a Clann na Poblachta cyn belled oddi wrth ei gilydd na fyddai'n bosibl iddynt fod. Roedd rhaid i Fine Gael gael gwared o'i harweinydd, Richard Mulcahy oherwydd ei gysylltiadau efo'r Rhyfel Cartref.

Yn fwyaf sydyn roedd Fine Gael nid yn unig mewn llywodraeth, ond roeddynt yn arwain y llywodraeth hwnnw. Tair blynedd yn unig oedd bywyd Dail 1948, ond roedd ymysg y llywodraethau mwyaf radicalaidd a diddorol y Weriniaeth. Dail 48 oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Weriniaeth (yn hytrach na'r Wladwriaeth Rydd) yn ogystal ag am fesurau arloesol ym maes tegwch cymdeithasol megis y Mother and Baby Scheme

Roedd Fianna Fail yn ol mewn llywodraeth erbyn 1951, ond roedd rhagolygon Fine Gael wedi eu trawsnewid yn llwyr, enillwyd naw sedd ychwanegol, ac ym 1954 roedd gan Fine Gael 50 sedd (15 y tu ol i FF) a 32% o'r bleidlais. Maent wedi bod yn ail blaid y Weriniaeth yn hawdd ers hynny.

Nid oedd yr un ffawd oedd yn aros Clann na Poblachta cystal. Collwyd pob un namyn dwy o'u seddi yn 51 ac erbyn diwedd y 50au roedd y blaid yn farw i bob pwrpas.

'Rwan 'dwi'n sylweddoli fy mod yn gwthio cymhariaethau rhwng Iwerddon a Chymru yn rhy aml, ond 'dwi'n meddwl ei bod yn werth ystyried y rhesymau oedd wrth gefn ffawd gwahanol y ddwy blaid wrth ystyried Cymru'n Un.

Problemau sylfaenol Fine Gael cyn 1948 oedd eu bod yn amherthnasol a bod eu lleoliad gwleidyddol (political positioning) ymhell o ganol gwleidyddiaeth y pryd. Roedd trwch yr etholwyr yn fwy cenedlaetholgar na nhw, a chyda mwy o ddiddordeb mewn tegwch cymdeithasol.

Roedd llywodraeth 48 yn ateb y ddwy broblem - mae plaid sydd mewn llywodraeth yn amlwg yn berthnasol, ac roedd polisiau ei phartneriaid yn tynnu'r blaid tua'r canol - roedd ei lleoliad gwleidyddol bellach yn fwy blaengar yn gymdeithasol ac yn fwy cenedlaetholgar.

Ar y llaw arall roedd symud i'r canol yn farwol i Clann na Poblachta - roedd plaid genedlaetholgar arall Fianna Fail i gymryd ei hetholwyr gweriniaethol. Plaid niche oedd hi, nid plaid y canol.

Daw hyn a ni at Blaid Cymru yn 2008. Beth sy'n debygol i ddigwydd iddi hi yn sgil Cymru'n Un?

Yn gyntaf, prif broblem y Blaid yn draddodiadol ydi'r ffaith ei bod yn amherthnasol tros rannau sylweddol o Gymru. Mae Cymru'n Un wedi datrys hynny. Mae plaid sydd mewn llywodraeth yn berthnasol - hyd yn oed yn Wrecsam neu Dorfaen.

Yn ail mae'r cytundeb wedi tynnu'r Blaid tua'r canol mewn ffordd ychydig yn gwahanol i'r hyn a ddigwyddodd i Fine Gael. Mae gwleidyddiaeth y Blaid wedi bod yn agos at y canol Cymreig mewn termau cymdeithasol ers y saithdegau, ond oherwydd bod y Blaid yn gymharol amherthnasol, nid yw hyn wedi bod yn amlwg tros llawer o'r wlad. Mae hynny wedi newid bellach - a hyn (ynghyd a gwendid Llafur) sydd wedi bod yn gyfrifol am lwyddiant y Blaid yn etholiadau lleol 08 mewn llefydd hynod anhebygol.

Ac mae rhywbeth arall wrth gwrs - yn gwahanol i Clann na Poblachta mae'n bosibl i'r Blaid newid ac addasu rhyw gymaint. 'Does yna ddim bwystfil cenedlaetholgar arall megis Fianna Fail yn aros yn y cefndir i lyncu ei phleidleisiau pob tro mae'n mentro oddi ei thir traddodiadol.

2 comments:

Anonymous said...

blog da ... fel arfer!

Fy mhryder i yw fod y Blaid ddim yn creu'r agenda yn y Llywodraeth. Mae sawl mesur o ran yr iaith, symboliaeth etc y gall y Blaid ei harwain o Goleg Ffederal i .cym fyddai'n trawsnewid Cymru. Hyd yn oed petai'r Blaid yn golli yn '11 (fel FG yn '51) fydd hi'n anodd iawn i Lafur ei gwrthdroi a gan hynny bydd rhyw fath o gyd-destun Gymreig fydd yn cryfhau'r Blaid (a Chymreictod) yn y dyfodol.

Fy mhryder i yw fod Llafur am ddenfydio'r danchwa economaidd (mess sydd o'u creadigaeth nhw i raddau helaeth) fel esgus i ganolbwyntio ar schoolsnhospitals ac 'oh, sori, bois, sdim arian i Coleg Ffederal, Deddf Iaith, .cym, etc'.

Fel yna bydd Llafur yn nacau cenedlaetholdeb Gymreig a'r Blaid yn colli nifer o'i chefnogwyr.

Cafodd y Blaid gynhadledd didrafferth yn 08 ond bydd angen iddi ddangos fod ganddi bethau 'pleidiol' i'w dangos yn 09 rhag i'w haelodaeth (a Chymru) feddwl mai ond estyniad o'r Blaid Lafur yw hi.

Mae dangos fod y Blaid yn 'gyfrifol' mewn grym ddim yn strategaeth ynddi hyn i ennill fots. Roedd y LibDems yn eitha competent yn eu clymblaid a Llafur a gwnaeth hynny ddim lles iddynt. Mae disgwyl i blaid fod yn competent fel mae disgwyl i nofelydd allu sillafu. Ond nid crap ar ramadeg a sillafu sy'n gwneud nofelydd dda ac nid bod yn 'competent' sy'n gwneud llywodraeth dda, llwyddiannus.

menaiblog said...

Pwyntiau digon diddorol - a rhai diddorol gan Hen Rech Flin ar ei flog hefyd.

Mi geisiaf lunio ymateb mewn diwrnod neu ddau os caf amser.