Thursday, October 14, 2010

Proses dewis ymgeiswyr Llais Gwynedd

Rwan, 'dwi ddim yn gwybod i sicrwydd os ydi'r genadwri a ganlyn yn wir - am rhyw reswm 'dydi aelodau Llais Gwynedd ddim yn siarad efo fi'n rhy aml - ond fy nealltwriaeth ydi bod y meicro grwp cwynfanus wedi creu proses dethol ymgeiswyr unigryw - mae sanhedrin mewnol yn meddwl am rhywun nad yw'n aelod a fyddai efo gobaith o gael ei ethol mewn ward benodol, ac yn ei ffonio a gofyn iddo / iddi sefyll yn eu henw. Os ydi hynny'n methu, maent yn ffonio rhywun arall - ac ati. Yn wir roedd rhywun yn dweud wrthyf heno mai trydydd dewis Llais (ar y gorau) oedd ei hymgeisydd llwyddiannus yn ward Seiont yr wythnos diwethaf. Pe byddai hyn oll yn wir, byddai ganddynt un o'r prosesau dethol ymgeiswyr mwyaf caedig ac anemocrataidd y tu allan i Ogledd Corea.

'Dwi'n teimlo braidd fel blogiwr Llais Gwynedd yn rhannu'r uchod heb fynd trwy broses wirio arferol y blog yma - ond 'does gen i ddim ffordd o wirio ag eithrio gofyn i fy narllenwyr sy'n perthyn i Lais Gwynedd (ac mae yna nifer ohonyn nhw yn ymweld a'r blog yma'n rhyfeddol o gyson) adael sylw yma ynglyn a'u proses dewis ymgeiswyr.

Felly trosodd atoch chi hogiau - tri chwestiwn:

  • Oes yna gyfle i bawb o'ch aelodau sefyll mewn etholiadau?
  • Ydi eich aelodau yn cael rhan yn y broses dewis ymgeiswyr?
  • A gafodd eich cynghorydd ar Gyngor Tref Caernarfon gynnig i sefyll ar eich rhan yn yr etholiad Cyngor Gwynedd yn ward Seiont?
Diolch - 'dwi'n edrych ymlaen am ymatebion.

4 comments:

Dyfrig said...

Ti'n son am "aelodau" Llais Gwynedd, ond faint o aelodau cyffredin sydd gan y blaid? Yn sicr mae ganddyn nhw gefnogwyr mewn etholiadau, ond dwi ddim yn gwybod faint o aelodau cyffredin sydd ganddyn nhw. Dwi wastad wedi bod o dan yr argraff mae'r grwp cynghorwyr yw'r "blaid" i bob pwrpas.

Cai Larsen said...

Pedwerydd cwestiwn efallai.

Anonymous said...

Ia, ond sut mae'n teimlo felly bod eu trydydd dewis nhw wedi curo dewis cyntaf y pleidiau eraill?

Cai Larsen said...

Wel a bod yn deg dydw i ddim yn gwybod os oes gwirionedd yn y stori trydydd dewis. Fel mae'n digwydd mi ddaethant ar draws ymgeisydd digon poblogaidd trwy ddilyn y dull yna.

Nid llwyddiant na theimladau'r ochr sydd wedi colli ydi'r pwynt, wrth gwrs - tyrloywder proses ddewis - a pha mor gynhwysol ydi'r broses honno.