Friday, October 08, 2010

Is etholiad Seiont - un neu ddau o sylwadau

Mae nifer wedi mynegi syndod i Lais Gwynedd ennill sedd cyngor sir yn nhref Caernarfon - ac ar un olwg mae cyfiawnhad i'r syndod hwnnw oherwydd i'r grwp weithredu mewn ffordd sy'n groes i fuddiannau'r dref yn amlach na pheidio. Wedi dweud hynny roedd ganddynt ymgeisydd adnabyddus yn lleol yn sefyll mewn ward lle nad ydi Plaid Cymru yn arbennig o gryf, lle nad oedd Llafur wedi rhoi eu hymgeisydd cryfaf posibl ger bron yr etholwyr a lle'r oedd yr ymgeisydd annibynnol yn un gwan braidd. Yn wir mae'n bosibl mai dyma'r ward wanaf i Blaid Cymru yn Arfon y tu allan i ddinas Bangor - mae'n gryn gyfnod ers iddi gael cynghorydd sir yno, ac mae yna adegau yn gymharol ddiweddar pan nad ydym wedi bod efo hyd yn oed gynghorydd tref yn y ward.

Fel yr etholiad ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos diwethaf mae yna agweddau ar yr etholiad sy'n gwbl groes i naratif y cyfryngau. Er enghraifft roedd y Bib (eto fyth) wedi gwasgu pethau i ffitio eu dealltwriaeth eu hunain o'r sefyllfa yn eu hadroddiad ar y radio y bore yma, trwy nodi i'r ymgeisydd Llais Gwynedd guro'r un Plaid Cymru, heb ychwanegu mai ennill sedd oddi wrth y grwp annibynnol wnaethant, na bod Llafur yn drydydd eithaf pell, na bod y bleidlais annibynnol wedi chwalu ers 2008, nag i'r Toriaid gael ond 2.5% o'r bleidlais - record o rhyw fath mi dybiwn i.

O graffu ar y ffigyrau, mae'n amlwg i Lais Gwynedd gymryd llawer mwy o bleidlais Llafur nag un y Blaid. Un mesur o hyn ydi'r etholiad arall yn yr un ward ar gyfer y cyngor tref ar yr un noswaith. Dim ond Llafur a Phlaid Cymru oedd yn cystadlu. Wele'r canlyniad:

Canlyniadau Isetholiad Seiont

Glyn Thomas Plaid Cymru 466

Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur 452

Rwan yr un pleidleiswyr oedd yn pleidleisio yn y ddwy etholiad a chynyddodd pleidlais Llafur o 268 yn absenoldeb LlG a'r ddau ymgeisydd ymylol, tra'r aeth y bleidlais Plaid Cymru i fyny 187. Hynny yw roedd mwy o bobl sy'n tueddu tuag at Lafur wedi pleidleisio i Lais Gwynedd nag oedd yna o bobl sy'n tueddu tuag at y Blaid.

Cymhariaeth arall y gellir ei gwneud ydi efo'r etholiad cyffredinol eleni. Er nad ydi wardiau yn cael eu datgan ar wahan mewn etholiadau felly, mi fydd gan y pleidiau syniad go dda sut aeth pethau ym mhob ward, er eu bod yn tueddu i gadw'r wybodaeth o dan eu capiau. 'Dwi ddim yn meddwl fy mod yn datgelu cyfrinach fawr trwy ddweud i Lafur ddod ar y blaen yn weddol gyfforddus yn Seiont. Roedd eu canran o'r bleidlais yn etholiad neithiwr yn llai na hanner yr hyn roedd yn yr etholiad cyffredinol. Roedd canran y Blaid hithau wedi cwympo, ond gostyngiad cymharol fychan ydoedd (gostyngiad o tua wythfed o'r cyfanswm canrannol). Felly mae'n weddol amlwg i Lais Gwynedd wneud yn dda - ond ar draul Llafur oedd hynny yn bennaf, nid ar draul y Blaid - ond peidiwch a disgwyl i'r Bib ddweud hynny wrthych.

Un pwynt bach arall - roedd ymgyrch Llais Gwynedd yn un effeithiol - ond mewn ffordd ryfedd roedd hefyd yn dinoethi diffyg peirianwaith y grwp ar lawr gwlad (neu lawr tref y dyliwn ddweud efallai). Pobl o'r tu allan i'r dref oedd yn dosbarthu, marcio ac ati yn bennaf, ac roeddynt hefyd yn gynghorwyr yn aml. Go brin bod De Caernarfon erioed wedi gweld cymaint o aelodau etholedig nag y gwelodd tros y dyddiau diwethaf.

Roedd ymgyrch y Blaid, (ac i raddau llai un y Blaid Lafur) yn ymgyrchoedd pobl leol - hynny yw pobl sy'n byw yn y dref. Go brin y bydd y gefnogaeth allanol yma ar gael i Lais Gwynedd yng Nghaernarfon eto mewn unrhyw ymgyrch ag eithrio un is etholiad.

16 comments:

Anonymous said...

I feddwl fod PRIFATHRO ysgol gynradd mor gul a chwerw. Anhygoel. Gwn y gwnei ymosod arnaf am fy mod yn gadael sylwadau 'dienw', ond mae gennyf resymau cryf am hyn.

Efallai y dylset, fel mae'r Sais yn dweud, 'get a life'.
Derbynia fod pobl Cymru wedi colli ffydd mewn Plaid oeraidd, hunanol fel Plaid Cymru.

I feddwl eich bod wedi bod yn bygwth busnesau lleol am eu bod yn cefnogi Endaf Cooke.

Gyda llaw, dwi yn dal i ddisgwyl gweld llongyfarchiadu i Mr Cooke ar y blog cul yma.
Mwynha y penwythnos Cai.

menaiblog said...

Ahem - 'dydi o ddim yn arferol i'r blog yma longyfarch neb - ond mae'n arferol i enillwyr mewn etholiadau ddiolch yn gyhoeddus i'r swyddogion etholiadol.

Mae dweud, neu awgrymu rhywbeth negyddol am Lais Gwynedd yn aml yn esgor ar ymatebion hysteraidd a phersonol tebyg i'r uchod. Ond yn rhyfedd iawn 'does yna fawr ddim beirniadaeth o Lais Gwynedd yn y blogiad sydd wedi dy ypsetio di cymaint - dim ond dadansoddiad o ble mae pleidleisiau LlG wedi dod.

Pam bod hynny'n esgor ar gymaint o sterics?

Anonymous said...

Does yna ddim pwynt trio rhesymu efo pobl gul fel chdi.

Rwyt yn erbyn Llais Gwynedd, dim ots beth mae nhw yn ei wneud.
Pam na fedri di weld fod Plaid Cymru wedi cachu ar Gymru wledig?

menaiblog said...

Gyda llaw gyfaill, er nad ydi gadael sylwadau di enw ymysg y gweithredoedd mwyaf dewr, fyddai prin yn addas i mi ymosod arnat am hynny cyn fy mod yn caniatau sylwadau di enw.

menaiblog said...

Anon 10:42 - Does yna ddim pwynt trio rhesymu efo pobl gul fel chdi.

Rwyt yn erbyn Llais Gwynedd, dim ots beth mae nhw yn ei wneud.
Pam na fedri di weld fod Plaid Cymru wedi cachu ar Gymru wledig?

Efo pob parch dwyt ti ddim yn ceisio rhesymu - bytheirio'n hysteraidd wyt ti.

Anonymous said...

ti yn dangos dy gymeriad mor gryd yn y 'blogio' yma. Pob lwc i chdi yn y dyfodol.

menaiblog said...

Be 'di 'gryd'?

Alwyn ap Huw said...

Hold on Defi Anon, mae Cai wedi cyhoeddi dau bost sy'n tynnu sylw at y ffaith bod Llais Gwynedd wedi cael buddugoliaeth annisgwyl, ar un olwg, yn Seiont a bod Plaid Cymru wedi cael siom. Pe bai o ddim ond hanner mor gul a chwerw ag yr wyt ti'n awgrymu mi fyddai wedi anwybyddu'r stori'n llwyr, yn yr un modd ag y mae prif blogiwr Llais wedi anwybyddu llwyddiant y Blaid wrth gipio sedd Bodwydd pythefnos yn ôl!

Yn ward Bodwydd a Rhiw, mi gredaf, yr oedd Oil Moris Ifans yn cael ei gynhyrchu, pe bai ti wedi defnyddio ychydig bach ar dy gryd i leddfu'r poen hwyrach na fyddet ti wedi ymateb mewn ffordd mor flin i bost gweddol niwtral sy'n didoli'r canlyniad yn ei gyd-destun.

Anonymous said...

sori, cryf oedd o i fod

menaiblog said...

Ah - 'dwi'n gweld rwan.

DyfrigLlanelli said...

Tybed ydy Vaughan mewn ffordd i ymateb i sylwadau y BBC ar is-etholiad Seiont

Anonymous said...

DyfrigLlanelli - cytuno. Byddai'n ddiddorol derbyn sylwadau Vaughan ynglyn a dehongliad y Beeb o'r canlyniad - h.y. a'i dehongliad Uned Wleidyddol BBC Cymru yw'r naratif "Llais yn ennill ar draul y Blaid" neu ddehongliad diog / anwybodus / bwriadol gam-arweiniol newyddiadurwyr y BBC ym Mangor?

Anonymous said...

Erthygl ddiddorol - mae'n gwbl amlwg bellach mai ryw fath o fudiad "Tea Party" ar gyfer Gwynedd ydi LLG.

Nid "amddiffyn ysgolion gwledig" mo'r nod mewn gwirionedd (pa ysgol fach wledig sydd dan fygythiad yng Nghaernarfon?), ond yn hytrach pedlo ryw goctel o ddadleuon "anti politics" sydd yn bwydo ar bryderon a dig pobl mewn cyfnod anodd.

Gyda llywodraethau ar bob lefel yn cael eu gorfodi i wynebu penderfyniadau amhoblogaidd, nid bygythiad i'r Blaid yn unig mo mudiad Te Parti Gwynedd.

menaiblog said...

'Dwi ddim yn meddwl ei bod yn deg disgwyl i Vaughan wneud sylw o unrhyw fath - petai ymdriniaeth y Bib o is etholiadau yng Ngwynedd yn groes i bolisiau'r gorfforaeth, ni fyddai'n briodol iddo wneud sylwadau cyhoeddus ynglyn a hynny. Byddai'n fater mewnol.

Anonymous said...

Y peth odd am LLg ydi fod y rhan fwyaf ohonynt yn gyd aelodau o'r blaid ag wedi cael ei siomi, nid gan bolisiau y blaid, oon yn hytrach am eu bod heb cael ei dewis fel aelodau i sefyll mewn etholiad.

Biti fyd. Wrth gwrs, sw ni hefyd yn medru dadlau fod rhan fwyaf ohonynt yn nytars llwyr!

Dwi licio ffordd ma LLg yn dod ar fama yn deud fod Blog Menai yn gul a methu dadlau, a cwbl mae nhw yn ei wenud ydi sgwennu llwyth o sterics! Bechod de.

Un o Eryri said...

Newydd edrych yn fanylach ar y canlyniad yma. Yn 2008 'roedd Plaid Cymru yn 4ydd gyda tua 15% o'r bleidlais, ac yn yr Is-etholiad yma 'roedd ei phleidlais yn uwch, y ganran i fyny i tua 30%, a daeth yr ymgeisydd yn 2il. Buasai unrhyw sylwebydd niwtral yn dweud bod hon yn ganlyniad gwych i Blaid Cymru