Sunday, October 03, 2010

Paradocs y Blaid Lafur Gymreig

Mae'r blog yma, ynghyd a nifer o rai eraill wedi tynnu sylw at wendid Llafur yn nhermau eu haelodaeth yng Nghymru. Mae yna ochr arall i'r stori fodd bynnag, sef y polau piniwn. Mae rhai o'r rhain bellach yn rhoi Llafur ar y blaen ar lefel Prydeinig. Mae'r polau yng Nghymru a'r Alban yn dda iddynt hefyd, ac mae Gareth Hughes yn gweithio ei hun i fyny braidd wrth ystyried y polau Cymreig a godidogrwydd nefolaidd y syniad o lywodraeth Lafur di glymblaid yng Nghaerdydd.

'Rwan, mae'n debyg y dylai Gareth fod wedi nodi'r ffaith ei bod hi mymryn bach yn beryglys cymryd gormod o sylw o bol sydd wedi ei gymryd yng nghanol cyhoeddusrwydd Cynhadledd flynyddol (fel roedd y pol YouGov Cymreig). Ond wedi dweud hynny, mae'r ffaith yn aros bod yna baradocs gwleidyddol gwaelodol yn bodoli ar hyn o bryd - gwendid Llafur yng Nghymru o safbwynt aelodaeth a pheirianwaith ochr yn ochr a chryfder cynyddol yn y polau piniwn. Mae hefyd yn ffaith i Lafur yn y gorffennol lwyddo i adeiladu cefnogaeth sylweddol yng Nghymru pan maent wedi bod allan o rym yn San Steffan.

Felly beth sydd y tu ol i'r paradocs - aelodaeth mae'n debyg yn is nag yw wedi bod ers canrif, ond cefnogaeth ar lawr gwlad yn cynyddu? Mi fyddwn i'n tueddu i edrych ar bethau fel hyn. Mae aelodaeth isel y Blaid Lafur yng Nghymru yn adlewyrchiad o farwolaeth y Gymru a roddodd fodolaeth i'r Blaid Lafur - Cymru'r byddinoedd mawr o weithwyr, Cymru'r undebau llafur a Chymru'r diwydiannau trwm oedd wedi eu gwladoli.

Mae eu llwyddiant i ddenu cefnogaeth 'feddal' (hy pobl sy'n dweud eu bod am bleidleisio iddynt, ond sydd a dim diddordeb mewn chwarae rhan yn y mudiad) yn adlewyrchiad o'r ffaith bod neges ganolog Llafur o honni mai nhw sydd am amddiffyn gwasanaethau a gwariant cyhoeddus, yn un sy'n effeithiol mewn gwlad lle mae cymaint o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau a gwariant cyhoeddus.

A dyna ydi problem sylfaenol y Blaid - 'dydi dadl ganddi ei bod hefyd eisiau amddiffyn gwasanaethau a gwariant cyhoeddus ddim yn cystadlu efo'r un ddadl gan Lafur - mae Llafur yn cael llawer mwy o glust gan y cyfryngau Prydeinig, ac mae'r ffaith mai plaid Brydeinig ydyw yn rhoi hygrededd i'r canfyddiad y bydd y blaid yn gallu gweithredu ar eu haddewidion yn y dyfodol.

Yr ateb ydi cynnal y ddadl ar dirwedd gwleidyddol arall a cheisio sefydlu cysylltiad ym meddwl yr etholwyr rhwng gor ddibyniaeth ar wariant cyhoeddus (neu mewn geiriau eraill tlodi) a gor ddibyniaeth ar y wladwriaeth Brydeinig yn gyffredinol a'r Blaid Lafur yn benodol. Wedi'r cwbl - fel y dywedodd Ron Davies yn y gynhadledd eleni, mae Cymru yn dal ar waelod bron i pob tabl sy'n mesur tlodi a dibyniaeth wedi tair blynedd ar ddeg o lywodraeth Llafur yn Llundain - ac mae hynny yn ei dro yn ein gwneud yn ddiymadferth yn wyneb y toriadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Mae'n cymryd gyts i geisio cynnal y ddadl wleidyddol ar y tirwedd yma ar drothwy etholiad Cynulliad, oherwydd bod dadl felly yn ymddangos ar un olwg yn wahanol iawn i'r naratifau gwleidyddol Prydeinig ehangach - ond dyna'r unig ffordd o sicrhau nad ydym yn gorfod dioddef pedair blynedd o ddominyddiaeth Llafur yng Nghaerdydd mae gen i ofn.

2 comments:

Plaid Whitegate said...

Dwi'm yn derbyn y ddadl for gor-ddibyniaeth (sydd ddim yn cael ei ddiffinio) ar wariant cyhoeddus yn gyfystyr a thlodi. Gweler Sweden fel enghraifft o wlad a gwariant cyhoeddus uchel.
Wrth gwrs, nid Sweden ydi Cymru oherwydd - fel rwyt ti'n deud - mae na broblem gyda'r ffordd mae pres cyhoeddus yn cael ei wario.
Dwi'n credu y bod hi'n wirion bost ildio'r holl ddadl gwrth-toriadau i Llafur sydd wedi bod yn gyfrifol am y llanast economaidd sy'n achosi'r toriadau yn y lle cynta. Pam na wnaethon nhw fynd ar ol y bancwyr a'r miliwynyddion sydd ddim yn talu trethi? Dyna dir ffrwythlon iawn os ydi fy mhrofiad o siarad gyda pobl yn Wrecsam werth rhywbeth.

Cai Larsen said...

Dwi ddim yn anghytuno efo hyn yn y bon PW.

Mi fyddwn serch hynny yn gwneud y ddau sylw canlynol.

Gor ddibyniaeth ar y wladwriaeth ydi sefyllfa lle mae canran uchel o'r boblogaeth yn ddibynol ar gwahanol fudd daliadau - dyna ein sefyllfa ni.

Dydw i ddim yn dweud na ddylid tynnu sylw at fethiannau economaidd Llafur - er bod eraill yn gwneud hynny wrth gwrs. 'Dwi'n awgrymu hynny yn y darn dwi'n meddwl. Serch hynny dim ond y ni sydd mewn sefyllfa i ffurfio cysylltiad rhwng statws cyfansoddiadol y wlad a'i thlodi.