Wednesday, October 20, 2010

Pam bod cynlluniau Hunt yn farwol i ddarlledu cyfrwng Cymraeg


Oni bai am ddifrifoldeb y goblygiadau, byddai yna rhywbeth digri - mewn ffordd grotesg - am y syniad o S4C yn cael ei hwrjio o un aelwyd ddi groeso i un arall fel rhyw hen ewythr sydd wedi hen golli ei bwyll, ei ddannedd a phob rheolaeth ar ei bledren, yn cael ei hun yn rhan o rhyw anghydfod teuluol ynglyn ag etifeddiaeth. Yn arbennig ag ystyried yr holl drafferth mae'r sianel wedi mynd iddo i fod yn barchus, yn sefydliadol, i bihafio ac i beidio a chicio yn erbyn y tresi.

Ond mae'n rhaid rhoi hynny i un ochr oherwydd bod deilliannau posibl y fargen a drawyd echnos rhwng y llywodraeth a'r Bib yn ymylu ar fod yn farwol i S4C. Wna i ddim ail adrodd yr hyn sydd wedi ei ddweud heddiw gan John Walter Jones, Alun Ffred na Chymdeithas yr Iaith. Y pwynt yr hoffwn ei wneud fodd bynnag ydi bod honiad Cheryl Gillan ar Wales Today neithiwr bod y llywodraeth yn gosod darlledu cyfrwng Cymraeg ar sail cadarn naill ai'n gelwyddog, neu'n brydachu'r ffaith bod gan Cheryl holl allu ymenyddol dafad sydd wedi cael clec ar ei phen efo morthwyl. Mi egluraf pam - yn syml iawn, iawn fel y gall hyd yn oed Cheryl ddeall.

Roedd darlledu Cymraeg ar sail gadarn cyn i blaid Cheryl gael eu dwylo ar rym gwleidyddol yn San Steffan - o ganlyniad i'r ffaith iddynt ennill yr etholiad cyffredinol yn Lloegr. 'Dydi o ddim rwan. Mae dau brif reswm am hyn.

Yn gyntaf mi fydd cyllideb y sianel yn nwylo corff sy'n cystadlu yn uniongyrchol yn ei herbyn mewn amrediad eang o feysydd. Felly mi fydd pwysau sylweddol - oddi mewn ac o'r tu allan i strwythurau swyddogol - i S4C addasu yr hyn mae'n ei ddarparu er mantais i'r Bib, ac yn groes i fuddiannau'r sianel Gymraeg. Mae'n dra thebygol y bydd hyn yn arwain at golli mwy o wylwyr na fydd eisoes wedi eu colli o ganlyniad i'r £25m fydd eisoes wedi ei dorri, cyn i weddillion bydol S4C gael ei drosglwyddo i Portland Place.

Yn ail mae'n anodd gweld sut na fydd rhaid i S4C orfod cystadlu am adnoddau gyda holl gydrannau eraill y Bib, ac mae'n anos fyth gweld sut goblyn mae'n bosibl iddynt gystadlu am yr adnoddau hynny. 'Dydi'r Bib heb ei ffurfio i amddiffyn darlledu cyfrwng Cymraeg, 'dydi cyflawni'r rol yna ddim am gario fawr o bwysau oddi mewn i'w chyfundrefn dyrannu cyllid. Neu i roi'r peth mewn ffordd arall 'dydi S4C gyda'i chynulleidfa fechan a'i chostau cynhyrchu uchel ddim yn gwneud fawr o synnwyr yn nhermau'r ffordd mae'r Bib yn edrych ar y Byd. Faint bynnag o adnoddau mae S4C yn ei gael - petai hynny ond yn £20m, mae'n mynd i ymddangos yn ddrud i benaethiaid y Bib. Cyn gynted a throsglwyddir S4C i grafangau'r Bib bydd yn cychwyn ar daith i lawr allt serth tuag at ddifancoll.

Byddai wedi bod yn llawer, llawer gwell trosglwyddo'r holl, job lot i'r Cynulliad - hyd yn oed os na fyddai yna lawer o adnoddau ariannol yn dod i'w ganlyn. Mae yna gefnogaeth wleidyddol i'r cysyniad o ddarlledu cyfrwng Cymraeg ym Mae Caerdydd - ar draws y pleidiau. 'Does yna ddim mewath o gefnogaeth i hynny yn Portland House. A hyd yn oed petai'r Cynulliad yn penderfynu na allai ariannu'r sianel ac yn ei chau, ein penderfyniad ni fyddai fo, mi fyddai'n rhan o'n gwleidyddiaeth ac mi fyddai'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o fyw efo'n penderfyniad. Efo'r drefn yma mae pob dim allan o'n gafael, allan o'n rheolaeth, y tu allan i'n strwythurau a'n diwylliant gwleidyddol.

A thra ein bod mewn hwyliau chwerw, ydych chi'n cofio'r lluniau o David Cameron yn dod i Gaerdydd yn fuan wedi iddo gael ei godi'n brif weinidog (a'r het wirion Kirsty Williams yn rhedeg i estyn croeso iddo)? Dangos parch at y sefydliadau datganoledig oedd y syniad am wn i. Mae'r penderfyniad yma - sydd wedi ei gymryd heb ymgynghori efo S4C, nag efo'r Gweinidog Diwylliant a Threftadaeth yng Nghaerdydd, nag efo'r Bib yng Nghymru - nag o bosibl hyd yn oed efo'r Swyddfa Gymreig ei hun (heb son am fan bethau megis pobl Cymru wrth gwrs) - yn dangos hyd a lled y parch hwnnw. Zilch.

3 comments:

Aled G J said...

Fyddwn i ddim yn anghytuno o gwbl a'r dadansoddiad hwn. Mae Jeremy Hunt wedi gweithredu fel math o Bontius Peilat cyfoes drwy olchi'i ddwylo o'r broblem gan wybod yn iawn beth fydd tynged S4C o'i drosglwyddo i "ofal" y BBC. Ond mae'r stori hon yn llawer mwy na jest sianel deledu mae gen i ofn: mae'n drosiad o'r modd y mae Llywodraeth Lloegr yn ystyried Cymru, h.y gyda dirmyg a dihidrwydd llwyr. Mae'n rhaid gofyn y cwestiwn pam bod hyn dal i fod yn wir, a hynny wedi deng mlynedd o ddatganoli?? Onid y caswir ydi bod rhan o hyn i'w wneud a'n mudiad cenedlaethol di-ddannedd, saff, canol y ffordd a chyffyrddus? Mudiad sydd wedi rhoi ei ffydd i gyd mewn adeiladu consensws bach clyd ynghylch pa mor ddymunol y byddai i Gymru gael mwy o barch a mwy o rym dros ei bywyd cenedlaethol. Mae realpolitik Jeremy Hunt wedi dangos mai ty ar y tywod ydi'r consensws hwn, consensws sy'n golygu dim byd mewn gwirionedd. Efallai rwan y bydd ein mudiad cenedlaethol yn gweld bod rhaid wrth narratif newydd o wrthdaro a "resistance" i symud yr achos yn ei flaen Hen bryd ddudwn i.

menaiblog said...

Dydw innau ddim yn anghytuno efo llawer o hynna chwaith. Mi gynhyrcha i flogiad ar oblygiadau'r toriadau / cicio S4C o gwmpas y lle i'r mudiad fory os y caf amser, neu'r diwrnod wedyn.

Anonymous said...

Uffern....mae e'n edrych fel inbred or crach Seisnig!