Friday, January 08, 2016

Y diweddaraf gan Golwg

Nid colofn Gwilym Owen ydi'r offrwm o Golwg sy'n derbyn sylw yr wythnos yma - er ei bod werth ei darllen.  I dorri stori hir yn fyr mae Gwil wedi - fel sy'n arferol - sgwennu rhywbeth hyll am rhywrai neu'i gilydd yn ei golofn, mae un o'r rheiny wedi 'sgwennu llythyr at Golwg yn dweud rhywbeth hyll am Gwilym - ac mae'r hen fabi wedi dechrau udo crio a mynd ati i lenwi ei golofn efo manylion ei hanes meddygol mewn ymgais i'n cael ni i gyd i grio efo fo.  Tour de force mewn hunan dosturi, hunan gyfiawn.  Dim ond yng Nghymru mae'r math yma o rybish myfiol yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer cylchgrawn materion cyfoes.

Na, colofn arall yn yr wythnosolyn sy'n dennu'r sylw - y brif erthygl am Carwyn Jones a llifogydd yr A55 - Carwyn yn Tawelu'r Dyfroedd.  Bydd darllenwyr Blogmenai yn ymwybodol bod storm o feirniadaeth wedi udo uwch ben y Prif Weinidog ers ddydd San Steffan - oherwydd ei arafwch i ymateb i'r llifogydd, oherwydd iddo drio roi'r bai ar Ieuan Wyn Jones am lanast ei lywodraeth,  oherwydd iddo ddisgwyl bedwar diwrnod cyn dod i'r Gogledd, oherwydd iddo fethu a chyfarfod a thrigolion Tal y Bont, oherwydd iddo ddod yn ol mewn panic bedwar diwrnod yn ddiweddarach i wneud hynny, oherwydd iddo ddweud - yn gwbl anghywir - bod yr arian i ddelio a phroblem yr A55 wedi ei ryddhau gan ei lywodraeth,  oherwydd iddo honni'n gwbl ddi sail mai bai'r deiliaid tir lleol oedd y rheswm pam nad oedd y broblem wedi derbyn sylw, oherwydd iddo feio' n gwbl anheg swyddogion y cyngor oherwydd iddo ddianc yn ol i Gaerdydd cyn cwrdd a thrigolion Tal y Bont, oherwydd bod un o'i weinidogion wedi tyngu na fyddai llifogydd 2012 yn cael eu hailadrodd.

Beth bynnag - er bod yr erthygl yn son am un neu ddwy o'r beirniadaethau - mae'n derbyn eglurhad cwbl anghredadwy Carwyn Jones yn hollol anfeirniadol - ac yn dod i'r casgliad bod y dyn wedi tynnu 'r gwynt o hwyliau ei feirniaid, ac wedi dod, gweld a choncro.  Ym myd bach rhyfedd Golwg mae gwleidyddion pob amser yn eirwir 'da chi'n gweld.  Yn y cyfamser - yn y Byd go iawn roedd y beirniadu'n dal i ruo.

Swnio tipyn bach fel Pravda yn nyddiau olaf yr Undeb Sofietaidd yn dal i adrodd ar lwyddiannau economaidd ysgubol yr Undeb, poblogrwydd rhyfeddol Gorbachev a diolchgarwch y werin iddo - fel roedd yr holl sioe'n syrthio'n ddarnau o'i gwmpas. 

No comments: