Mater sy'n codi'n aml ar y blog hwn ydi'r ffaith bod grym gwleidyddol i Lafur yng Nghymru yn arwain yn ddi eithriad bron at ddefnyddio'r grym hwnnw i bwrpas enwebu cyfeillion gwleidyddol i gyrff cyhoeddus, a phenodi cyfeillion gwleidyddol i swyddi cyhoeddus. Rydym wedi nodi sawl gwaith bod aelodaeth o 'r Blaid Lafur yn ffordd llawer mwy effeithiol o 'fynd ymlaen' yn an haeddianol yn y Gymru gyfoes nag ydi aelodaeth o'r Seiri Rhyddion.
Mae'r stori yma'n esiampl berffaith. Byddai rhywun yn meddwl y byddai gwleidyddion Llafur yn ceisio osgoi'r math yma o beth mor agos at etholiadau - ond y gwir syml ydi nad ydynt yn gweld fawr ddim o'i le ar y math yma o ymddygiad. Trosiad perffaith o'r hyn ydi Cymru heddiw.
2 comments:
I ba gorff ydi'r rheina?
Heddlu'r De
Post a Comment