Mae rhywfaint o'r stwff yma yn ffeithiol - rhaglenni dogfen neu'r newyddion er enghraifft, mae rhywfaint yn ddeunydd dychmygol - operau sebon neu ffilmiau. Mae'r rhan fwyaf yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol - rhaglenni dogfen hanesyddol neu ffilmiau cyfnod, ac mae rhaglenni chwaraeon byw neu agweddau ar ddarpariaeth newyddion cyfoes yn edrych ar y presenol. Mae rheolau sylfaenol ffiseg yn ei gwneud yn amhosibl edrych i 'r dyfodol - er bod ambell i raglen wedi ceisio cael hwyl yn gwneud hynny. A chymryd bod teledu wedi cyrraedd Dorset yn ystod y cyfnod pan roedd Leighton yn ei arddegau, gallai fod wedi dod ar draws rhaglen o'r enw Tommorrow's World oedd yn gwneud yn union hynny.
Rhywsut neu'i gilydd mae hyn oll wedi mynd heibio Leighton Andrews. Mae'n llafurio efo'r camargraff dybryd mai pelen grisial neu bortal sy'n arwain i 'r dyfodol ydi'r bocs yng nghornel ei ystafell. fyw. Ymddengys iddo ddod ar draws rhaglen o'r enw Byw Celwydd sydd - dwi'n deall - yn ddrama deledu, a chymryd ei bod yn darogan y dyfodol.
Hoffwn sicrhau holl ddarllenwyr Blogmenai, a Leighton yn arbennig nad ydi'r teledu yn caniatau i ni edrych i'r dyfodol. Petai hynny'n wir byddai 'n beth drwg iawn, iawn i Ladbrokes a Paddy Power. Yn wir, ym marn awdur Blogmenai, gwastraff amser llwyr ydi edrych ar y teledu - ond stori arall ydi honno.
Diweddariad 22:57
Ymddengys bod Leighton wedi darllen y blogiad, ac mae'r geiniog o'r diwedd - wedi degawdau - wedi syrthio.
3 comments:
Chwarae teg, mae'n rhaid ei fod yn newydd i'r peth teledu yma.
Rhaid i rywun ei gyflwyno i The Thick Of It, Yes Minister, Yes Prime Minister, Spitting Image.
Hwyrach ei fod wedi gweld clip o West Wing a meddwl mai'r newyddion oedd e, a bod Martin Sheen yn Arlywydd ar yr UDA.
Bechod :)
dim yn un o'r ymdrechion cryfaf arnai ofn Cai
mae gan pawb hawl mwynhau rhaglen ffuglennol does posib
Ond wrth gwrs - smalio bod rhaglen ddrama yn darogan y dyfodol ydi'r broblem.
Post a Comment