· Bwriedir talu am y 50,000 o brentisiaethau gyda siâr Cymru o lefi prentisiaethau y Deyrnas Gyfunol, sydd werth £150m i Gymru bob blwyddyn.
· Bwriedir gwneud hyn oherwydd cred y Blaid na ddylai unrhyw berson ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru fod tu allan i addysg, swydd a hyfforddiant ac er mwyn gwella rhagolygon y genhedlaeth nesaf.
· Ar hyn o bryd mae 12,200 o bobl ifanc Cymru rhwng 16 a 18 – un o bob deg – y tu allan i addysg, swydd a hyfforddiant, sydd yn llawer gormod.
· Mae Plaid Cymru yn credu bod prentisiaethau yn cynnig llwybr i’r byd gwaith sydd yr un mor werthfawr â chwrs prifysgol ac mae’n gwleidyddion yn benderfynol o sicrhau fod y ddau lwybr yma yn cael eu hystyried i fod yn gyfartal yn y dyfodol.
1 comment:
9 mlynedd yn ôl roedd tua 1 o bob 10 person ifanc 16 I 24 oed, a born I 1 o bob 5 person ifanc 19 I 24 oed yn NEET.
Heddiw, naw mlynedd a dwy faniffesto Llafur yn ddiweddarach mae'r ffugurau yn union yr un fath!
Am ddamniol!
9 mlynedd a dim, DIM gwella ar obeithion ein pobl ifenc.
Rhaid cael newid.
Post a Comment