Sunday, January 24, 2016

Ychwanegiad bach i flogiad ddoe

Os ydi pol diweddaraf Panelbase yn yr Alban yn gywir, mae'n fwy na phosibl mai trydydd fydd Llafur yn etholiadau Mis Mai yn yr Alban.  Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol wedi bod yn mynd yn llai yn gyson.  Ond hyd yn oed petai'r lleihad cyson yn y bwlch yn dod i ben - ag ystyried cymlethdodau'r system etholiadol - gallai'r ffigyrau a geir ar hyn o bryd roi mwy o seddi i'r Toriaid na Llafur.  

Byddai hynny'n newid syfrdanol mewn gwlad sydd wedi ei dominyddu gan Lafur ers chwe degau'r ganrif ddiwethaf.

1 comment:

Marconatrix said...

Mae'r paragraff cyntaf yma yn llygad ei le :

https://weegingerdug.wordpress.com/2016/01/24/grasping-at-a-crocodile-penis/

"Dau feddwyn yn ymryson am daksi sy'n barod wedi mynd" :-)