Saturday, January 02, 2016

Helynt Tal y Bont - cwestiwn o arweinyddiaeth

Yn ystod ei ymweliad byrhoedlog a'r Gogledd gwnaeth Carwyn Jones ddatganiad digon rhyfedd i'r Daily Post:

But facing calls from Plaid Cymru for planned drainage works at the Aber/Tai Meibion section of the A55 to be stepped up, the First Minister stood firm, adding: There was a plan in 2009 to deal with the A55, the Plaid Cymru minister at the time decided not to press on with those proposals. But we want to make sure those works can move on now in January 2017.

Rwan yn anffodus mae hyn yn edrych fel ymgais fwriadol i gamarwain etholwyr gan Brif Weinidog yn y misoedd cyn etholiad Cynulliad.  Fel mewn llawer o ymgeisiadau i gamarwain mae'n defnyddio'r dechneg o gywasgu dwy stori debyg  i un stori, ac wedyn cymryd yr hyn mae ei angen i gamarwain o'r stori newydd.

Mae'n wir bod cynllun i uwchraddio'r A55 heb fynd rhagddo pan oedd Ieuan Wyn Jones yn gyfrifol am ffyrdd yn ol yn 2009.  Ond nid cynllun delio efo llifogydd oedd hwnnw, uwchraddiad cyffredinol oedd o. Ni fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r llifogydd yn ardal Tal y Bont / Abergwyngregyn.  Byddai gormodedd dwr yn y caeau cyfagos wedi gwneud ei ffordd i'r A55 yr un fath yn union.

Rhoddodd Cyngor Gwynedd gynllun at ei gilydd i ddelio efo llifogydd yn yr ardal dan sylw yn dilyn llifogydd yn 2012.  Cynllun penodol i ddelio efo llifogydd oedd hwnnw.  Byddai wedi sicrhau bod gormodedd dwr yn cael ei ffrydio i Afon Ogwen cyn iddo gyrraedd yr A55.  Gofynwyd am adnoddau i ariannu'r cynllun gan Lywodraeth Cymru, ond ni ryddhawyd yr £1.5m y fyddai ei angen i weithredu'r cynllun gan lywodraeth Carwyn Jones.  Pe byddai'r adnoddau wedi eu rhyddhau byddai'r gwaith wedi ei wneud tros haf y llynedd, ac ni fyddai llanast Gwyl San Steffan erioed wedi digwydd.  Efallai bod Mr Diog yn ddiog, ond dydi o ddim digon diog i wneud  ychydig o gamarwain. 

Mae yna ddau bwynt yn codi o hyn oll.  Yn gyntaf mae 'n ymddangos o ddatganiad Carwyn Jones ei fod o dan yr argraff bod y cynlluniau i uwchraddio'r A55 yn 2017 am ddelio efo'r broblem llifogydd yn Tal y Bont / Abergwyngregyn.  Dydyn nhw ddim.  Os mai dyna 'r unig beth sydd ganddo i'w gynnig bydd yr un lle yn cael ei foddi y flwyddyn nesaf, neu 'r un wedyn, neu 'r un wedyn.  Os yw eisiau delio efo'r broblem mae o angen rhyddhau'r arian i weithredu cynllun Cyngor Gwynedc a chael y gwaith wedi ei wneud tros yr haf.  Haf 2016.

Mae'r ail yn ymwneud ag arweinyddiaeth.  Dydi'r diogi a'r ymlwybro araf i 'r Gogledd mewn cyfnod o argyfwng heb adlewyrchu 'n dda ar arweinyddiaeth Carwyn Jones.  Dydi 'r ras wyllt yn ol i lawr i'r De heb adlewyrchu'n dda arno fo chwaith, na 'r addewid brysiog i ddod yn ol i'r Gogledd eto.  Mae'r dyn yn edrych yn fwy tebyg i io io nag arweinydd.  Ond dydi camwarwain ddim yn adlewyrchu 'n dda ar ei arweinyddiaeth chwaith.  Fel mae'r blog yma wedi pregethu trosodd a throsodd yn y gorffennol,  'dydan ni ddim yn ceisio camarwain y sawl rydym yn eu parchu.  Os ydi Carwyn Jones yn parchu pobl Tal y Bont - a Chymru 'n ehangach, dylai dderbyn ei gyfrifoldebau, cyfaddef i fethiant pan mae angen gwneud hynny, a mynd ati i unioni'r methiant yn hytrach na cheisio hwrjo'r gyfrifoldeb am ei fethiannau ei hun ar eraill trwy gamarwain yr etholwyr. 

3 comments:

Anonymous said...

Pam na fwriwyd ymlaen gyda'r uwchraddio yn 2009 ?

Cai Larsen said...

I gael pres i wella'r A470 - ond does wnelo'r penderfyniad hwnnw ddim oll a'r llifogydd - fel mae'r blogiad yn gwneud yn glir.

Anonymous said...

Ok, diolch.