Sunday, January 31, 2016

Storm amherffaith i Lafur ym mis Mai?

Dydi hi ddim yn bosibl gweld i'r dyfodol wrth gwrs - ac mae hynny'r un mor wir pan rydym yn ceisio rhagweld etholiadau na phan rydym yn ceisio rhagweld unrhyw beth arall.  Serch hynny mae yna deimlad - cyffredinol bron - ar hyn o bryd y bydd etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai yn rhai anodd iawn, iawn i Lafur.  

Nid 'teimlad' yn unig sydd y tu ol i'r canfyddiad yma, mae yna ddata sy'n awgrymu hynny hefyd.  Mae'r polau 'cenedlaethol' - yn yr ystyr Brydeinig - yn awgrymu bod Llafur yn perfformio'n gymharol wael a bod y bwlch rhyngddyn nhw a'r Toriaid yn araf gynyddu.  Mae'r polau Cymreig yn awgrymu bod y blaid tua 10 pwynt yn is nag oedden nhw ar yr un pwynt yn y cylch etholiadol ddiwethaf - ac roedd y polau bryd hynny yn gor ddweud y gefnogaeth i Lafur.  Ac wedyn mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu ei bod yn debygol iawn na fydd Llafur yn symud yn ol i gymharu a 2011.  Roedd Etholiad Cyffredinol y llynedd hefyd yn etholiad gwael i Lafur yng Nghymru.



Beth ydi'r rhesymau yn y dirywiad hwn yng nghefnogaeth Llafur?  Fel ym mhob stori fel hyn mae yna sawl rheswm.  Ceisiwn edrych ar un neu ddau.  

1). Mae'r gefnogaeth i Lafur yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn gyffredinol yng  ers 1997.  Gellir dangos hyn mewn sawl ffordd.  Ystyrier eu cadarnleoedd er enghraifft.  Roedd pleidlais Llafur yn y Rhondda yn 30,318 yn Etholiad Cyffredinol 1997, 15,976 gawson nhw y llynedd.  Y ffigyrau cyfatebod ar gyfer Dwyrain Abertawe ydi 29,151 a 17,807 a Merthyr / Rhymni 30,012 a 17,618.

2).  Bu Llafur mewn grym ers 1997.  Mae pleidiau sydd mewn grym am gyfnodau maith yn tueddu i'w chael yn anos fel mae amser yn mynd rhagddo. 

3).  Mae gan Llafur record ddifrifol o wael o lywodraethu  ac maent wedi bod ar eu gwaethaf pan maent wedi bod yn rheoli ar eu pennau eu hunain.  Oherwydd gwendid y cyfryngau Cymreig dydi record wael Llafur heb gael y sylw mae'n ei haeddu yn y gorffennol.  Ond arweiniodd y ffaith mai llywodraeth Carwyn Jones oedd yr unig weinyddiaeth Lafur yn y DU at gryn sylw gan y papurau Llundeinig yn y misoedd cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd.  Cafwyd yr ymdriniaeth hysteraidd arferol wrth gwrs.

4).  Mae Llafur Prydain mewn cyflwr sydd ddim ymhell o fod yn un o ryfel cartref parhaus - dydi pleidleiswyr ddim yn hoffi pleidiau rhanedig sy'n ffraeo'n fewnol.  

5). Mae'r sylw cyfryngol mae Llafur Prydain yn ei gael bron yn unfrydol negyddol - o'r Guardian i'r Mail i'r Telegraph.  

6). Mae Llafur yn ei chael yn anodd i gael eu pleidleiswyr i bleidleisio mewn etholiad Cynulliad.  3/4 y sawl a bleidleisiodd trostynt yn 2010 wnaeth hynny yn 2011 - ac roedd etholiad 2011 yn etholiad dda iddynt.  Tua 53% o bleidleiswyr 2005 bleidleisiodd i Lafur yn 2007.  Petai hynny yn digwydd ym mis Mai byddai'r bleidlais yn is na 300,000 - y bleidlais isaf i Lafur yn hanes y Cynulliad.

7). Maent yn ei chael yn anodd i gael actifyddion i weithio ar gyfer etholiad Cynulliad.  Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn llawn o straeon am ganfasio drws i ddrws yn y misoedd cyn Etholiad Cyffredinol y llynedd.  Ychydig iawn o hynny sydd i 'w glywed eleni.  Does yna ddim tystiolaeth bod y miloedd a ymaelododd a'r blaid i gefnogi Corbyn yn fodlon gweithio mewn etholiad Cynulliad.

8). Fel y sonwyd yn ddiweddar mae absenoldeb llwyddiant llywodraethol ynghyd a natur wasgaredig y gwrthwynebiad i Lafur yn ei gwneud yn anodd i Lafur greu naratif etholiadol effeithiol a chredadwy.  Mae hon yn broblem sylweddol.

Fel y dywedais ar y cychwyn - fedran ni ddim rhagweld y dyfodol, a gall pethau newid - ond ar hyn o bryd mae'n edrych fel petai Llafur yn wynebu rhywbeth sy'n ymylu at fod yn storm berffaith.

1 comment:

Anonymous said...

yr hyn sy'n rwystredig yw nad yw'r Blaid fel petai'n manteisio ar hyn, neu'n hytrach, er gwaetha gwaith da y Blaid, dydy'r pleidweiswyr heb ddod atom. Wn i ddim pam.

Ond petawn i'n un o reolwyr y Blaid faswn i'n defnyddio Adam Price yn amlach. Mae'n amlwg fod y neges hyd hyn heb cydio'n iawn felly mae rhaid newid a dod รข ffactor newydd. More of the same ddim am ddigwydd.

Angen i holl gefnogwyr y Blaid i fybd allan i ganfasio. Yn etholiad 2015 roedd fot y Blaid yn dda ac Ukip yn wan lle'r roedd ymgyrch lleol gref gan y Blaid. Rhaid i'r cefnogwyr helpu gyda'r canfasio.