Mae'n ddiddorol nodi bod Plaid Lafur Arfon o'r farn bod yna gefnogaeth 'unfrydol' iddynt ym Maesgerchan yng nghyffiniau Bangor, Caernarfon a Bethesda.
Dwi wedi canfasio ardaloedd yn Arfon ers degawdau, ac erioed wedi dod ar draws yr unman efo cefnogaeth unfrydol i'r Blaid - ac mae hynny'n cynnwys ardaloedd megis Twthill yn agos at ganol Caernarfon, Llandwrog, y Waunfawr neu Benygroes lle mae'r gefnogaeth i'r Blaid cyn uched - os nad yn uwch - nag ydyw mewn unrhyw ward yng Nghymru.
Ond mae'n un o nodweddion hynod Llafur Arfon bod yna gefnogaeth rhyfeddol iddynt pan maent yn canfasio. Cafwyd degau o adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am gefnogaeth gryf neu anhygoel i 'newid yn lleol' yn ystod ymgyrch mis Mai. Yn anffodus wnaeth y gefnogaeth honno ddim amlygu ei hun ar ddiwrnod yr etholiad pan gafwyd gogwydd o tua 4% yn erbyn Llafur.
Dwi'n dweud nad ydw i erioed wedi dod ar draws cefnogaeth unfrydol i'r Blaid o'r blaen - ond mae'r un peth yn wir am bawb arall ag eithrio Llafur Arfon a Kim Jong Un. Does yna ddim cefnogaeth unfrydol i Sinn Fein ar y Lower Falls, dim cefnogaeth unfrydol i Lafur yn Toxteth, dim cefnogaeth unfrydol i'r SNP yn East End Dundee, dim cefnogaeth unfrydol i'r Toriaid yn Huntingdon a dim cefnogaeth unfrydol i'r Dib Lems yn _ _ _ anghofiwch honna.
Ond er mai sgorio tua 30% fydd Llafur mewn etholiadau San Steffan yn yr etholaeth, a thua 26% mewn etholiadau Cynulliad (mae eu perfformiad yn rhyfeddol o sefydlog) a llai o lawer na hynny mewn etholiadau cyngor - mae'n ymddangos bod ardaloedd yn Arfon sydd yn eu cefnogi'n unfrydol.
Gadewch i ni ystyried yr ardaloedd dan sylw am funud fach. Mae'n wir bod gan Lafur gefnogaeth barchus iawn ym Maesgerchen - cawsant ychydig mwy na hanner y bleidlais ym mis Mai - ond roedd y gyfradd pleidleisio yno gyda'r isaf yn yr etholaeth. Mae G'narfon yn fwy cymhleth gyda'r bleidlais Lafur yn amrywio o tua 17% yn agos at y Fenai i tua 47% y rhannau tlotaf i'r de o Afon Cadnant. Ar draws y Dre roedd y Blaid yn llawer cryfach na Llafur efo rhai ardaloedd yn polio mwy na 60% iddi. Mae yna hefyd nifer uchel iawn o aelodau o Blaid Cymru yn byw yng Nghaernarfon. Mae Bethesda'n symlach - cafodd Llafur tua chwarter y bleidlais tra bod yna gannoedd ar gannoedd o bleidleisiau Plaid Cymru ym mocs y pentref - mwy na mewn unrhyw focs arall yng Nghymru mae'n debyg. Roedd yna fwy na dwy bleidlais Plaid Cymru am pob un Llafur ym mocs Bethesda.
Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o'r honiadau o gefnogaeth anhygoel rwan ac yn ystod etholiad San Steffan y llynedd mewn etholaeth lle mae Llafur yn wan ( yng nghyd destun Cymru). Efallai nad ydi'r hogiau yn gwybod sut i ganfasio a'u bod yn cymryd gair clen fel tystiolaeth o gefnogaeth etholiadol. Efallai eu bod nhw jyst yn twyllo eu hunain. Neu wrth gwrs efallai eu bod yn credu ei bod yn OK i ddweud ychydig o gelwydd wrth yr etholwyr gan gymryd bod rheiny yn rhy wirion i weld trwyddynt ac yn rhy ddwl i'w parchu na'u cymryd o ddifri. Mae yna rhywbeth yn hynod o Lafuraidd am yr agwedd ddilornus honno at bobl gyffredin mae gen i ofn.
3 comments:
Jyst rhag ofn nad yw Sion Jones yn gyfarwydd a pholisi ailgylchu Llywodraeth (Llafur) y Cynulliad, dyma fo, (o wefan y Llywodraeth)
"Rydym yn gosod polisïau a thargedau i gynghorau a busnesau eu dilyn er mwyn helpu Cymru i gynhyrchu llai o wastraff.
Pe bai pawb yn byw fel rydym ni’n byw yng Nghymru, byddai angen bron i dair planed er mwyn darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid yw hynny’n opsiwn i Gymru bellach felly, rhaid inni leihau’r gwastraff a gynhyrchir. "
Llai o wastraff. Rhaid inni leihau gwastraff a gynhyrchir - Rwan - pa ran o'r negas hon sy'n achosi trafferthion i Sion Jones ?
"Pe bai pawb yn byw fel rydym ni’n byw yng Nghymru, byddai angen bron i dair planed er mwyn darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid yw hynny’n opsiwn i Gymru bellach[...]"
Nid yw hynny'n opsiwn i Gymru BELLACH, sylwer. Oedd Llywodraeth Cymru wir yn ystyried buddsoddi mewn dwy blaned ychwanegol ar un pwynt?!
Chwarae teg rwan, Cai. Cefnogaeth unfrydol mewn 'rhannau' o Maes G ddwedwyd. Ac mae hynny'n wir am y ddau dy efo drysau coch tua canol y stad. Mae dau dy yn ffitio i mewn i'r diffiniad o 'rhannau' dwi'n meddwl?
Post a Comment