Thursday, May 17, 2012

Llongyfarchiadau_ _ _

_ _ _ i Dyfed Edwards (PC Penygroes) ar gael ei ethol yn arweinydd Cyngor Gwynedd, i Selwyn Griffiths (PC Borthygest) ar gael ei ethol yn gadeirydd y Cyngor a Huw Edwards (PC Cadnant) ar gael ei godi'n is gadeirydd.

6 comments:

Anonymous said...

Llongyfarchiadau. Falch o weld sylwadau Dyfed yn son am frwydro dros ein cymunedau gwledig a'r Gymraeg. Mae angen dangos yn glir bod y Blaid yn gwneud hyn i wrthwneud celwyddau Llais Gwynedd

Anonymous said...

a son am Lais Gwynedd...dyla mwy gael ei wneud or ffaith eu bod wedi twyllo etholwyr Nefyn. Dewisiodd yr etholwyr beidio a mynd hefo Llais Gwynedd drwy ethol aelod annibynol...ddim ond i'r diawl dan din hwnnw (cymeryd ar ol ei dad!) fynd drosodd atynt yn syth ar ol yr etholiad! Gwarthus ac yn fwy byth yn creu joc dros bobl leol Nefyn.

Anonymous said...

Mae gadael grwp gwleidyddol ac ymuno ag un arall ar fater o egwyddor yn un peth, ond mae newid grwp bythefnos yn unig ar ol etholiad yn gwbl warthus. Siawns fod dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol neu'r ombwdsmon i ymyryd pan mae cynghorydd yn camarwain ei etholwyr fel hyn?

Cai Larsen said...

Dyna ydi'r drefn yn y DU - mi'r ydan ni'n ethol unigolion ac wedyn maen nhw'n rhydd i wneud fl y mynant.

Cai Larsen said...

Mi drodd un o Doriaid Powys un o'r grwpiau Annibynnol hyd yn oed ynghynt - ar ol wythnos dwi'n meddwl.

Anonymous said...

Mae Plaid Cymru wedi troi llawer o aelodau Annibynnol wrth fygwth cystadlu eu seddi.

'Roedd yna un aelod o Plaid Cymru ar Cyngor Gwynedd, ar ol iddo symyd i fyw i Sir Ddinbych, fe safodd o dros y Blaid Lafur.