Tuesday, May 01, 2012

Etholiadau dydd Iau a phol YouGov

Mae fy nghyfaill Simon Dyda wedi cyhoeddi ffigyrau'r pol YouGov diweddaraf ar ei flog.  Yn fras - yng nghyd destun y polio sy'n ymwneud a'r etholiadau lleol - mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd sylweddol ym mhleidlais Llafur (21%), cwymp sylweddol ym mhleidlais  Annibynnol a'r Lib Dems, a chwymp llai ym mhleidlais Plaid Cymru a chynnydd bach ym mhleidlais y Toriaid.

Rwan, 'dydw i ddim yn un sy'n diystyru polau nad ydw i'n hoffi eu canlyniad, ac yn y gorffennol mae'r blog yma wedi bod yn euog o chwerthin ar ben pobl sy'n gwneud hynny.  Ond 'dwi am wneud eithriad o'r pol yma - mae yna agweddau arno sy'n peri cryn broblem i mi.


'Dydi'r broblem ddim yn ymwneud a'r Blaid fel y cyfryw - mae'r pol yn darogan cwymp o tua 3% yn ei phleidlais.  Mae hynny'n bosibl -  canlyniadau 2008 oedd y rhai gorau yn hanes y Blaid ar lefel lleol. 

Yr hyn sy'n peri mwy o broblem ydi'r cynnydd yn y bleidlais Doriaidd.  Mae'r polau Prydeinig yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid yn cwympo cymaint ag 17% tra bod pleidlais Llafur yn codi 8%.  Mae hyn yn newid anferthol.    Rwan mi fedra i gredu bod Plaid Lafur Carwyn Jones yn gwneud yn well nag un Ed Milliband, ond fedra i ddim credu bod Plaid Doriaidd Andrew R T Davies yn gwneud yn llawer, llawer gwell nag un David Cameron.  Dwi'n deall bod y gwaith maes wedi dyddio rhyw gymaint, a bod llawer o ddwr gwleidyddol wedi mynd o dan y bont ers ei gymryd - ond dydi hynny ddim yn egluro poblogrwydd cymharol y Toriaid yn y pol newydd. 

Yn fy marn bach i mi bydd dwy brif stori yn dod i'r amlwg fore Gwener.  Y gyntaf bydd Llafur yn ail gipio cynghorau a gollwyd ganddynt yn ystod y deuddeg mlynedd diwethat - a byddwn yn disgwyl i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd fod ymhlith y rheiny.  Y stori arall fydd cyflafan cynghorwyr Toriaidd. 

Mi fydd yna straeon eraill hefyd. Dwi ddim yn amau bod YouGov yn gywir bod cwymp sylweddol am fod yn y gynrychiolaeth Annibynnol. Mae'r nifer o gynghorwyr Annibynnol wedi bod yn cwympo'n gyson am ddegawdau, ond atalwyd y cwymp hwnnw yn 2008 pan bleidleisiodd llawer o bobl yn rhai o'r Cymoedd i ymgeiswyr Annibynnol fel protest yn erbyn Llafur. Mi fydd y gogwydd hanesyddol yn cael ei ail sefydlu ddydd Iau, ac mi fydd y gogwydd hwnnw yn un amlwg iawn.

O ran y Lib Dems, rydym wedi hen gymryd yn ganiataol y bydd eu pleidlais yn cwympo, ond 'dydw i ddim yn meddwl y bydd y gwymp mor drawiadol ag un y Toriaid - beth bynnag mae YouGov yn ei ddweud. Byddant yn colli'r grym sydd ganddynt ym mhob cyngor maent yn ei arwain - ond y nhw fydd y prif wrthblaid ynddynt o hyd.

O ran y Blaid, 'dwi'n eithaf ffyddiog y byddwn yn ail o'r pleidiau o ran nifer cynghorwyr, ac y byddwn yn dal ein tir yn lled dda o ran canran y bleidlais. Mae'n debygol y byddwn yn dal Gwynedd, ac er y bydd dal Caerffili yn anodd mae'n bosibl ac mae yna bosibilrwydd rhesymol o gipio Ceredigion.

O - a byddaf yn mynd ati i fwyta fy nhrilbi os bydd Llafur yn cael y 48% o'r bleidlais gel mae YouGov yn ei awgrymu.

8 comments:

Anonymous said...

Roedd y pol piniwn hwn yn fy mhoeni i hefyd, gan mai Leanne oedd yr arweinydd ail-fwyaf poblogaidd (Y DU gyfan cofier) ymhlith yr etholwyr. Dim ond Carwyn Jones oedd yn fwy poblogaidd na hi. Nid yn unig oedd hi'n curo Andrew RT Davies a Kirsty Williams,yn hawdd, roedd hi hefyd yn fwy poblogaidd na Miliband a Cameron.
A hynny wedi cwta fis yn y job! Da iawn Leanne! Dalied ati!

Y cwestiwn sy'n codi yw ble yn union y cafodd y pol hwn ei gynnal?
Mae'n bur debyg felly, mai yn y De a'r Cymoedd y gwnaed y gwaith pennaf, o edrych ar yr ymatebion hyn.

Diddorol!

Hogyn o'r Ynys

Alwyn ap Huw said...

Byddwn i ddim yn synnu gweld cynnydd bychan yng nghanran pleidlais y Ceidwadwyr a hynny am ddau reswm. Y gyntaf yw bod nifer o gyn cynghorwyr "Annibynnol" mewn ardaloedd megis Conwy, Powys Penfro ac ati yn sefyll fel Torïaid "go iawn" eleni, bydd y rhain yn sicr o gadw rhywfaint o'u pleidlais bersonol o dan eu baner newydd. Yr ail reswm yw oherwydd bod ymgyrch Llafur i ddanfon neges i Sansteffan yn mynd i annog cefnogwyr y llywodraeth yn Llundain i ddanfon neges amgen i un Llafur i lawr yr M4

How Gets said...

Fe fydd Plaid tybiwn yn colli tir yng Ngwynedd yn bennaf oherwydd mewn ambell sedd mae safon yr ymgeiswyr yn drychinebus.

Dylan said...

Dylet ti roi arian ar hynny, How Gets. Mae pawb arall yn anghytuno.

Anonymous said...

Gobeithio cawn updets Gwynedd o'r cyfri gan y blog yma?

Anonymous said...

Ia, fydd na gyfri yn syth heno. Yntau fory mae nhwn digwydd?

Anonymous said...

10.30 Dydd Gwener mae'r cyfri (yng Ngwynedd)

Anonymous said...

Mi fydd canlyniada yn cael eu diweddaru ar wefan gwynedd fora gwenar wrth i'r canlyniada gael eu cyhoeddi