Showing posts with label etholiadau lleol. Show all posts
Showing posts with label etholiadau lleol. Show all posts

Sunday, May 06, 2012

Canlyniadau'r etholiadau lleol a'r dyfodol i'r Blaid

Dwi'n rhyw gytuno efo Alwyn a Jason bod y canlyniadau i'r Blaid ddydd Iau yn well na mae'r cyfryngau wedi awgrymu. Llwyddwyd i sefyll yn gryfach na'r pleidiau unoliaethol sy'n rheoli yn Llundain yn erbyn y llanw Llafur, ac roedd y Blaid yn ail clir. Yn wir roedd y canlyniad ymysg y tri gorau yn hanes y Blaid mewn llywodraeth leol.

Yn bwysicach efallai! mae yna is strwythur yn sefyll ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Cadwyd presenoldeb yn yr ardaloedd mae'r Blaid wedi llwyddo i sefydlu presenoldeb tros y ddegawd diwethaf - Wrecsam, Torfaen, ardaloedd dosbarth gweithiol yng Nghaedydd ac ati. Bydd yr amgylchiadau yn haws yn 2017 - bydd Llafur ar lefelau lleol a Chynulliad wedi gorfod cymryd llawer - llawer iawn o benderfyniadau amhoblogaidd, ac ar ben hynny mae'n ddigon posibl y byddant yn rheoli yn San Steffan erbyn hynny hefyd.

Dwi'n digwydd bod yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Dwy sedd yn unig sydd gan y Blaid yma bellach - mae'r ddwy yn y Tyllgoed. Ond ni fyddai'n cymryd newid mawr i ni ad ennill y seddi a gollwyd yng Nghreigiau, Glan yr Afon a'r Tyllgoed, ac ennill tair sedd ychwanegol yn Grangetown. Byddai hynny'n rhoi cyfanswm o 10 sedd. Byddai gogwydd ychydig yn fwy yn dod a thair sedd arall yn Elai, er bod rhaid cyfaddef i Mr Patel & co sefydlu gafael go gadarn ar Dreganna bellach. Mae cael gwleidydd fel Neil McKevoy ar Gyngor Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i fynd ar ol pob cam amhoblogaidd y bydd rhaid i Lafur eu cymryd.

Ond mae dibynnu ar lanw a thrai etholiadol fel hyn yn gam gwag yn y pendraw - rydym yn agored i don arall o boblogrwydd Llafuraidd ymhellach yn y dyfodol. Yr hyn sydd rhaid ei wneud ydi difa'r ddadl tros bleidleisio i Lafur - ac ar un olwg dylai hynny fod yn hawdd. Mae llawer o'r sawl a bleidleisiodd i Lafur ddydd Iau wedi gwneud hynny oherwydd eu bod yn meddwl bod gwneud hynny yn ffordd o'u hamddiffyn eu hunain, eu cymunedau a Chymru. Yr eliffant yn ystafell Llafur ydi'r ffaith bod hanes yn dweud wrthym yn gwbl glir nad ydi pleidleisio i Lafur yn amddiffyn Cymru, cymunedau nag yn wir unigolion.

Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud i Lafur 'ennill' pob etholiad o bob math yng Nghymru ers 1918. Ac eto rydym yn dlotach na'r unman arall yn y DU, mae mwy o amddifadedd yma, mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth les, mwy o ddiweithdra hir dymor, llai o fuddsoddiad, llai o gynhyrchu, llai o gyfoeth. Fydd yr ychydig flynyddoedd nesaf ddim gwahanol - bydd ein perfformiad economaidd cymharol yn parhau i syrthio yn ol, ac yn ol ac yn ol. Mae'r blog yma wedi trafod y rheswm pam ar sawl achlysur - does gennym ni ddim mynediad i'r lefrau economaidd fydda'n ein galluogi i wneud iawn am ein hanfanteision strwythurol a daearyddol.

Mae dyn yn deall pam na fyddai cyd bleidiau unoliaethol Llafur eisiau gwneud llawer o hyn - ond dyma'r unig opsiwn sydd ar gael i'r Blaid mewn gwirionedd - tynnu sylw at fethiant y presennol, methiannau'r gorffennol a chynnig llwybr cadarnhaol a chredadwy i gywiro'r sefyllfa yn y dyfodol. Mae pethau mor syml a hynny yn y bon.

Saturday, May 05, 2012

Etholiadau Gwynedd - ambell i sylw brysiog

Mi fyddaf yn trafod yr etholiadau yn ehangach maes o law, ond yn y cyfamser ambell i sylw brysiog ynglyn a sut aeth pethau yng Ngwynedd:

Ni thorrodd y don Lafuraidd ar draethau Gwynedd - gydag eithriad rhyfedd Bethel. Yn wir roedd y cochion yn lwcus ar y coblyn o gadw pedair sedd - cadwodd Gwen ei sedd yn Nhregarth o chwe phleidlais (mwy o fwyafrif nag a gafodd o'r blaen erbyn meddwl), dychwelwyd Brian eto fyth yn ddi wrthwynebiad, ac enilliodd David Gwynfor sedd gan y Blaid gyda 66 o bleidleidiau yn unig a phedwar o fwyafrif yn un o Rotten Boroughs Gwynedd ym Mangor.

Mae'r cyfryngau yn tueddu i weld gwleidyddiaeth Gwynedd mewn termau cystadleuaeth ffyrnig rhwng y Blaid a Llais Gwynedd, ond rhywsut neu'i gilydd roedd y frwydr rhyngddynt yn eithaf di niwed y tro hwn. Do, mi lwyddodd Llais i ddiorseddu un cynghorydd Plaid Cymru ym Motwnnog, ond dyna'r unig ward i weld cynghorydd o'r naill blaid yn colli ei sedd i'r llall. Mi gollodd y Blaid seddi, ac mi enilliodd seddi - ond ddim yn erbyn Llais Gwynedd. Mi enillodd Llais seddi, ond ar draul ymgeiswyr annibynnol. Gall y ddwy blaid fod yn fodlon ac yn anfodlon ar yr un pryd. Roedd perfformiad y ddwy blaid ychydig yn well nag oedd yn 2008, ond byddai'r Blaid wedi gobeithio ennill grym yn llwyr, a methodd wneud hynny o drwch adain pryf, tra byddai Llais wedi hanner gobeithio dod yn ail, ond ni lwyddwyd i wneud hynny chwaith.

Mae'r map o Wynedd bellach yn edrych yn eithaf rhyfedd, gyda'r Blaid yn dominyddu yn yr ardaloedd trefol ac ym Meirion, tra bod Llais yn dominyddu yn Nwyfor. Mae Llafur yn dal ei gafael ar eu mymryn bregus yn y Gogledd Ddwyrain tra bod y Lib Dems bron iawn wedi eu gwasgu allan o Fangor. Mae'r Annibyns yn ymddangos yma ac acw ar hyd y sir.

Yn ol eu harfer wnaeth y Toriaid ddim trafferthu efo Gwynedd. Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud eu bod wedi canolbwyntio eu holl ymdrechion ar un ward yn unig, gan ennill 98 o bleidleisiau yn honno.

Felly, i grynhoi - mi gymrodd Gwynedd ei lwybr bach gwleidyddol ei hun - un sydd wedi ei intergreiddio'n llwyr oddi wrth weddill Cymru. Mi gafodd y patrymau gwleidyddol ehangach cyn lleied o effaith ar Wynedd nag a gafodd patrymau Gwynedd ar weddill Cymru.

Diweddariad - ymddiheuriadau i'r Toriaid, roedd ganddynt ymgeisydd yn Nhywyn hefyd - daeth yn olaf.

Friday, May 04, 2012

Sibrydion o Wynedd

Does yna ddim o'r isod yn sicr - does yna ddim un bleidlais wedi ei chyfri.

Bethel - Llafur (PC colli)
Menai Caernarfon - Plaid cadw
Peblig Caernarfon - PlId cadw
Cadnant - Plaid cadw
Deiniolen - Annibynnol (Plaid colli)
Bontnewydd Plaid cadw
Llandwrog Ann cadw
Penygroes Plaid cadw
Talysarn LlG ennill
Llanaelhaearn Ll G ennill
Llanystumdwy Plaid cadw
Nefyn - LlG colli i Annibynnol
Bermo Plaid ennill gan Llafur
Brithdir Plaid cadw
Cricieth - annibynnol ennill Plaid colli.
Gogledd Pwllheli - plaid ennill gan annibynnol
Marchog LlFur colli i annibynnol
Botwnnog - agos PC / Llais
Aberdaron Plaid Cadw
Pentir Plaid cadw
De Pwllheli - LlG cadw
Seiont LlG cadw - ail sedd yn ansicr.
Tremadog LlG cadw
Dwyrain Port - annibynnol ennill gan Plaid
Dewi - Plaid colli i Annibynnol
Morfa Nefyn - Plaid Cadw
Gerlan - Plaid cadw
Clynnog - LlG cadw
Llandwrog - LlG cadw

Plaid yn ennill pob sedd maent wedi sefyll amdanynt ym Meirion gydag eithriad posibl Tywyn.

Mae nifer o seddi yn agos iawn. Tregarth agos, Llanllyfni agos, Botwnnog agos, Waunfawr agos.

Mae nifer o seddi ym Mangor yn agos iawn, ac mae yna bosibilrwydd y gall y Blaid gipio seddi'r Lib Dems ym Menai. Ond mae'n bosibl y collir seddi eraill - pethau'n agos iawn mewn nifer.

Gallai'r Blaid gael cyn lleied a 32 neu cymaint a 42. 38 sydd ei angen i ennill grym llwyr.

Fel y dywedais, sibrydion yn unig ydi'r uchod

Tuesday, May 01, 2012

Etholiadau dydd Iau a phol YouGov

Mae fy nghyfaill Simon Dyda wedi cyhoeddi ffigyrau'r pol YouGov diweddaraf ar ei flog.  Yn fras - yng nghyd destun y polio sy'n ymwneud a'r etholiadau lleol - mae'r ffigyrau yn dangos cynnydd sylweddol ym mhleidlais Llafur (21%), cwymp sylweddol ym mhleidlais  Annibynnol a'r Lib Dems, a chwymp llai ym mhleidlais Plaid Cymru a chynnydd bach ym mhleidlais y Toriaid.

Rwan, 'dydw i ddim yn un sy'n diystyru polau nad ydw i'n hoffi eu canlyniad, ac yn y gorffennol mae'r blog yma wedi bod yn euog o chwerthin ar ben pobl sy'n gwneud hynny.  Ond 'dwi am wneud eithriad o'r pol yma - mae yna agweddau arno sy'n peri cryn broblem i mi.


'Dydi'r broblem ddim yn ymwneud a'r Blaid fel y cyfryw - mae'r pol yn darogan cwymp o tua 3% yn ei phleidlais.  Mae hynny'n bosibl -  canlyniadau 2008 oedd y rhai gorau yn hanes y Blaid ar lefel lleol. 

Yr hyn sy'n peri mwy o broblem ydi'r cynnydd yn y bleidlais Doriaidd.  Mae'r polau Prydeinig yn awgrymu y bydd pleidlais y Toriaid yn cwympo cymaint ag 17% tra bod pleidlais Llafur yn codi 8%.  Mae hyn yn newid anferthol.    Rwan mi fedra i gredu bod Plaid Lafur Carwyn Jones yn gwneud yn well nag un Ed Milliband, ond fedra i ddim credu bod Plaid Doriaidd Andrew R T Davies yn gwneud yn llawer, llawer gwell nag un David Cameron.  Dwi'n deall bod y gwaith maes wedi dyddio rhyw gymaint, a bod llawer o ddwr gwleidyddol wedi mynd o dan y bont ers ei gymryd - ond dydi hynny ddim yn egluro poblogrwydd cymharol y Toriaid yn y pol newydd. 

Yn fy marn bach i mi bydd dwy brif stori yn dod i'r amlwg fore Gwener.  Y gyntaf bydd Llafur yn ail gipio cynghorau a gollwyd ganddynt yn ystod y deuddeg mlynedd diwethat - a byddwn yn disgwyl i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd fod ymhlith y rheiny.  Y stori arall fydd cyflafan cynghorwyr Toriaidd. 

Mi fydd yna straeon eraill hefyd. Dwi ddim yn amau bod YouGov yn gywir bod cwymp sylweddol am fod yn y gynrychiolaeth Annibynnol. Mae'r nifer o gynghorwyr Annibynnol wedi bod yn cwympo'n gyson am ddegawdau, ond atalwyd y cwymp hwnnw yn 2008 pan bleidleisiodd llawer o bobl yn rhai o'r Cymoedd i ymgeiswyr Annibynnol fel protest yn erbyn Llafur. Mi fydd y gogwydd hanesyddol yn cael ei ail sefydlu ddydd Iau, ac mi fydd y gogwydd hwnnw yn un amlwg iawn.

O ran y Lib Dems, rydym wedi hen gymryd yn ganiataol y bydd eu pleidlais yn cwympo, ond 'dydw i ddim yn meddwl y bydd y gwymp mor drawiadol ag un y Toriaid - beth bynnag mae YouGov yn ei ddweud. Byddant yn colli'r grym sydd ganddynt ym mhob cyngor maent yn ei arwain - ond y nhw fydd y prif wrthblaid ynddynt o hyd.

O ran y Blaid, 'dwi'n eithaf ffyddiog y byddwn yn ail o'r pleidiau o ran nifer cynghorwyr, ac y byddwn yn dal ein tir yn lled dda o ran canran y bleidlais. Mae'n debygol y byddwn yn dal Gwynedd, ac er y bydd dal Caerffili yn anodd mae'n bosibl ac mae yna bosibilrwydd rhesymol o gipio Ceredigion.

O - a byddaf yn mynd ati i fwyta fy nhrilbi os bydd Llafur yn cael y 48% o'r bleidlais gel mae YouGov yn ei awgrymu.

Sunday, April 29, 2012

Sibrydion o'r wardiau

Cyn yr etholiadau diwethaf mi es ati i gynhyrchu dadansoddiad gweddol gynhwysfawr o'r gwahanol ornestau yng Ngwynedd. 'dydw i ddim am wneud hynny y tro hwn - yn rhannol oherwydd diffyg amser, ac yn rhannol oherwydd y ffaith bod unrhyw ddarogan yr oeddwn yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio i bwrpas propoganda yn amlach na pheidio. Ond waeth i ni gael cip bach ar un neu ddwy o'r straeon sy'n ymddangos trwy fwg y frwydr.

I ddechrau cydymdeimlad Blogmenai i'r Cynghorwyr Annibynnol Dilwyn Lloyd (Talysarn) a Sion Roberts (Gogledd Pwllheli) sydd wedi cefnogi Llais Gwynedd yn gyson tros gyfnod o bedair blynedd, ond sy'n cael eu hunain efo gwrthwynebwyr o'r grwp hwnnw. Ymddengys bod y ddau wedi eu hypsetio braidd gan y ffasiwn ddatblygiad. Trist iawn, ond dyna ydi natur y broses ddemocrataidd mae gen i ofn hogiau.

Fel y gwelwyd eisoes, mae pethau braidd yn fler i lawr yn Ne Meirion rhwng Louise Hughes o Lais Gwynedd a'r ymgeisydd Annibynnol, John Haycock.

Yn y cyfamser, mae ymgeisydd y Lib Dems yn ward Glyder ym Mangor yn canoli ei ymgyrch yn llwyr o gwmpas tyllau yn y lon - er a bod yn deg mae ei ohebiaeth hefyd yn cyfeiro at goed wedi syrthio, siop wag, llygod mawr a'r angen i dorri coed sy'n amharu ar olygfeydd pobl. 'Dydi o ddim yn anisgwyl bod Doug eisiau son am lygod mawr, coed a thyllau yn y palmant yn hytrach na'i Blaid ei hun a'i pholisiau yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, ond wir Dduw mae gohebiaeth Doug yn dod a dimensiwn cwbl newydd i'r term dog shit Liberals. Mae fel patai pob cyfeiriad at unrhyw beth nad yw'n gorwedd ar y palmant wedi ei ddileu o'i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth lleol. Does neb yn disgwyl i Lib Dem fel Doug ddyrchafu ei lygaid i'r mynyddoedd, ond efallai y byddai edrych ar rhywbeth -unrhyw beth o gwbl - ag eithrio'r palmant yn syniad.

Atal llywodraethiant gan Blaid Cymru yng Ngwynedd ydi prif ddadl ymgeisydd Llais Gwynedd yn Llanfair a Llanfarian! Roger Payne. Ymddengys bod y Blaid wedi defnyddio eu 'rheolaeth' o'r Cyngor i wneud pob math o bethau ofnadwy megis cymryd penderfyniadau cynllunio dadleuol, codi treth y cyngor, ail strwythuro ysgolion a chartrefi gofal ac ati. Rhywbeth nad yw'n gyfeirio ato ydi'r ffaith nad ydi Gwynedd yn cael ei rheoli gan Blaid Cymru. Mae Gwynedd bron yn unigryw yng Nghymru yn yr ystyr bod grym yn cael ei rannu rhwng pob plaid a grwp. Yn wir, er bod y Blaid efo mwyafrif llwyr eithaf cyfforddus ar y cyngor erbyn hyn, mae'n dewis peidio a manteisio ar ei hawl i gael mwyafrif llwyr ar Fwrdd y Cyngor. Y cydbwysedd ar y Bwrdd ydi Plaid Cymru 7, Annibynnol 4, Llais Gwynedd 2, Lib Dems 1 a Llafur 1.

Yma yn Arfon mae prif ddyn Llafur, Tecwyn Thomas, yn cael trafferth deall pam bod ei blaid yn cael cymaint o drafferth i ddenu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.  Efallai y byddai eistedd yn ol a gofyn iddo'i hun beth mae helynt pamffledi Trelai yn ei ddweud am agweddau gwaelodol llawer yn ei blaid tuag at y Gymraeg, a beth mae'r agweddau hynny yn eu dweud wrth Gymry Cymraeg ynglyn a'i blaid yn syniad.  Serch hynny mae'n rhaid llongyfarch nifer o'u hymgeiswyr sy'n fyfyrwyr ac yn dod o'r tu allan i Gymru.  Yn ol Tecwyn maent yn bwriadu aros yma ar ol graddio.  Mae'n gryn gamp cael gwaith yn lleol hyd yn oed wedi graddio yn yr oes sydd ohoni, ond ymddengys bod yr ymgeiswyr Llafur wedi cael eu swyddi ymhell cyn graddio. Da iawn nhw.

Ar nodyn ychydig yn wahanol 'dydw i ddim yn ddyn Facebook fy hun, ond i'r sawl yn eich plith sydd efo cyfri ac eisiau perspectif arall ar bethau, gallwch weld yr etholiad o safbwynt Llais Gwynedd yma.  Anaml y byddaf yn rhoi hysbys i Llais, ond am yr un tro hwn 'dwi'n fodlon gwneud eithriad. 

Gallwch ddysgu pob math o ffeithiau diddorol yno - megis pam bod Louise Hughes yn edmygu Prif Weinidog Awstralia, a pam bod Aeron Jones (ward Llanwnda), yn rhagweld llwyddiant ym Mangor, er nad oes gan Lais Gwynedd cymaint ag un ymgeisydd yn sefyll yn y ddinas.

Mi gewch chi fwy o newyddion fel 'dwi'n ei gael.

Friday, April 27, 2012

Pwy sy'n cael trafferth recriwtio?

Mae ymdriniaeth digon diddorol yn Golwg ddoe o'r etholiadau lleol yng Nghaerdydd, Gwynedd, Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Mae ymdriniaeth cymharol fanwl o'r fath yn rhywbeth i'w ganmol i'r graddau ei fod yn anarferol yng nghyd destun y cyfryngau Cymreig. Mae'r Bib wrth gwrs yn rhy brysur yn canolbwyntio ar geisio creu brwdfrydedd tros y frenhiniaeth i roi llawer o sylw i'r broses ddemocrataidd yng Nghymru, ond dydi'r cyfryngau eraill fawr gwell chwaith.

Beth bynnag mae eu hymdriniaeth o'r etholiadau yma yng Ngwynedd ychydig yn anghytbwys i'r graddau bod yr ornest yn cael ei phortreadu fel un rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru, er bod mwy o ymgeiswyr gan y grwp Annibynnol na sydd gan Llais Gwynedd, a'i bod yn debygol y bydd y grwp Annibynnol yn fwy nag un Llais ar ol yr etholiad - yn union fel y bu tros y bedair mlynedd ddiwethaf.

Yr hyn ddaeth a gwen i fy wyneb yn arbennig oedd sylwadau un o arweinwyr Llais, Alwyn Gruffydd ynglyn ag ymgeiswyr y Blaid. Dyfynnaf:

Mae gweld cyn-gynghorwyr Plaid Cymru yn ceisio ad ennill eu seddau ar Gyngor Gwynedd yn awgrymu fod y Blaid yn cael trafferth recriwtio gwaed newydd.
Rwan yn ol fy nghyfri i mae yna ymgeisydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru nad oedd yn gwneud hynny yn 2008 yn y wardiau canlynol:

Glyder, Llanllyfni, Llanwnda, Penisarwaun, Seiont, Talysarn, Tregarth, Waunfawr, Y Bontnewydd, Y Groeslon, Menai - Bangor (2 sedd), Abererch, Llanaelhaearn, Llanystumdwy, Clynnog, Nefyn, Dwyrain Porthmadog, Tudweiliog, Llanengan, Abermaw, Bowydd a Rhiw, Diffwys a Maenofferen, Llanbedr, Llanuwchllyn, Penrhyndeudraeth, Cricieth.

Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 27 ymgeisydd 'newydd'.  29 o ymgeiswyr - hen neu newydd - sy'n sefyll tros Lais Gwynedd.


Dwi'n gwybod bod rhai o'r ymgeiswyr yn ymladd y seddi yn enw'r Blaid y tro hwn, tra eu bod yn eu hymladd ar ran rhywun arall yn 2008, a dwi hefyd yn gwybod i un neu ddau sefyll ar ran y Blaid ymhellach yn ol yn y gorffennol nag yn 2008. 

Dwi hefyd yn gwybod ei bod yn amser etholiad a bod gwleidyddion yn gyffredinol yn troelli ac yn gor ddweud ar amser felly.  Mae hynny'n ddigon dealladwy.  Ond bobol bach, mae hon yn gryn droelliad. 

Tuesday, April 24, 2012

Russell a Leanne

Mae'n ddiddorol deall nad ydi Leanne Wood yn bwriadu derbyn yr £20,000 blynyddol yn ychwanegol y byddai ei statws fel arweinydd Plaid Cymru yn ei sicrhau iddi.

Mae'r un mor ddiddorol bod Plaid Cymru yn Nhonyrefail yn gwneud defnydd o'r ffaith ac yn ei gyferbynnu efo ymddygiad un o'r cynghorwyr lleol ac arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Russell Roberts. Mae Russell wedi llwyddo i wneud i gynrychiolaeth gyhoeddus weithio'n berffaith - iddo fo ei hun os nad i'w etholwyr. Llwyddodd i gael pum joban gyda chyflog o £100,000 rhyngddynt. Russell ydi un o'r gwleidyddion sy'n ennill y mwyaf o bres yng Nghymru, os nad Prydain.

Ddim yn aml y bydd gol mor gyfangwbl agored a hon yn ymddangos mewn gwleidyddiaeth leol.

Saturday, April 21, 2012

Plaid Cymru ar y blaen yn yr etholiadau lleol!

Wel, mewn ffordd o leiaf.

Yn ol y Bib cafodd 22 o Bleidwyr eu hethol yn ddi wrthwynebiad.

Mae hyn yn cymharu efo 18 Llafurwr, 16 Tori, 6 Lib Dem a 31 o'r pleidiau a grwpiau eraill.

Dechrau da o leiaf.

Tuesday, April 10, 2012

Amgylchiadau ehangach yn rhoi cyfle i'r Blaid yn etholiadau lleol eleni?

Fel rydym wedi ystyried yn frysiog yn y gorffennol, mae'r hinsawdd etholiadol yn y DU wedi newid yn sylweddol ers i George Osborne fod ddigon caredig a defnyddio ei gyllideb i ddangos yn glir i ni bod ei lywodraeth yn llywodraethu yn bennaf er budd pobl gyfoethog - pobl fel aelodau'r llywodraeth. Yn wir, yn ol rhai o polau mae'r Toriaid ar 30% - lefel nad ydynt wedi gostwng iddo ers dyddiau Michael Howard.

Yr hyn sy'n ddidddorol- ac efo arwyddocad posibl o safbwynt Cymru, ydi methiant Llafur i gymryd mantais o'r sefyllfa - mae eu rhifau nhw hefyd yn gostwng neu'n fflat yn y polau. Mae'r polau, yn ogystal ag is etholiad Bradford West yn awgrymu mai pleidiau sydd y tu allan i gonsensus cyfforddus San Steffan sy' n elwa, gyda'r UKIP yn gwneud yn dda yn y polau a George Galloway yn sgubo i fuddugoliaeth yn is etholiad Bradford West. Mae'r polau a'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd Llafur yn cael cweir yn etholiadau lleol yr Alban, ac y bydd Ken Livingstone yn methu yn ei ymgais i ail ennill marroliaeth Llundain.

Y cwestiwn diddorol i'n pwrpas ni ydi - i ba raddau y bydd y patrwm hwn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru yn yr etholiadau lleol? 'Dydi'r cyfryngau Cymreig ddim yn comisiynu polau piniwn yn aml iawn, felly rydym mewn tywyllwch braidd ynglyn a'r tirwedd etholiadol yma.

Ers datganoli mae Cymru wedi tueddu i ddilyn ei thrywydd etholiadol ei hun i rai graddau - ddim yn adlewyrchu patrymau Lloegr yn llwyr, ond ddim yn dilyn trywydd mor wahanol a'r Alban chwaith.

Mae'r tystiolaeth sydd gennym yn awgrymu bod Llafur wedi ennill cefnogaeth yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 2010. Oherwydd hynny mae pobl wedi tueddu i gymryd y bydd Llafur yn ad ennill tir yn etholiadau lleol 2012 wedi eu perfformiad trychinebus yn 2008. Ond tybed i ba raddau y bydd hynny'n digwydd - er i Lafur wneud yn gymharol dda yn etholiadau'r Cynulliad 2011, ni lwyddwyd i ad ennill mwyafrif - ac hynny mewn amgylchiadau hynod ffafriol. Cymysg, ar y gorau ydi eu record mewn is etholiadau cyngor wedi bod ers 2010.

Efallai bod gwleidyddiaeth ehangach nag un Cymru yn rhoi cyfle i bleidiau sydd y tu allan i'r consensws unoliaethol, neo ryddfrydig i ennill tir. Dim ond un plaid felly sydd yng Nghymru sydd a'r adnoddau a'r drefniadaeth i gymryd mantais o newid strwythurol o'r fath, a Phlaid Cymru ydi honno.

Fel rheol niweidiol ydi effaith patrymau gwleidyddol Prydeinig o safbwynt y Blaid. Gallai eleni - o bosibl - fod yn eithriad.