Sunday, September 13, 2009

Ac wedyn dyna i ni Carwyn Jones


Mae Carwyn yntau yn ei flog gwych a gwreiddiol yn egluro i ni bod pleidlais i Blaid Cymru mewn gwirionedd yn bleidlais i'r Toriaid.

Eglurwyd hyn i ni yn fanwl iawn yn ystod etholiadau'r Cynulliad yn 2007. Prif ladmerydd y newyddion yma yn y parthau hyn oedd Martin Eaglestone. Dadl Martin oedd nad oedd yn bosibl i Lafur gyd weithio efo'r Blaid oherwydd gwahaniaethau athronyddol cymhleth a dwys - llawer rhy gymhleth a dwys i Martin fedru eu trafod na hyd yn oed eu harenwi. Felly byddai pleidlais i'r Blaid yn arwain at lywodraeth Doriaidd yng Nghaerdydd - ac roedd pawb yn gwybod bod rheiny yn bwyta babis ac yn lluchio'r henoed i'r ffynnon.


Beth bynnag daeth yr etholiad, cafodd Martin gweir ac roedd Llafur ar eu gliniau yn crefu ar y Blaid i glymbleidio efo nhw mewn chwinciad chwanen. Oni bai am lwyddiant y Blaid yn yr etholiadau hynny ni fyddai plaid Martin yn rhannu grym heddiw.

Fast forward i 2009, ac mae Carwyn yn ail adrodd yr un hen fantra blinedig.

Hoffwn awgrymu'n garedig ac yn wylaidd mai'r hyn mae Carwyn yn ei olygu pan mae'n dweud bod pleidlais i'r Blaid yn bleidlais i'r Toriaid mewn gwirionedd, ydi na all feddwl am cymaint ag un rheswm call pam y byddai rhywun eisiau pleidleisio i Lafur yn hytrach nag i Blaid Cymru, felly mae'n gwau ffantasi lliwgar ac afresymegol ac yn stwffio hwnnw ger ein bron.

Cwestiwn bach i Lais Gwynedd

Hmm dau gyfraniad treiddgar yn ymwneud a chynhadledd y Blaid yn Llandudno tros y dyddiau diwethaf.

Mae Guto Bebb wedi dod i gasgliadau pendant bod y peth i gyd yn bantomeim hyd yn oed cyn iddo ddigwydd - ac felly dangos ei fod yn credu bod ganddo'r gallu anarferol (a defnyddiol 'dwi'n siwr) i ragweld y dyfodol.

Wedyn mae yna un o rants rhannol ddealladwy enwog un o gynghorwyr Llais Gwynedd. Os 'dwi'n deall y tantro yn gywir mae Gwilym wedi cael ei ypsetio'n lan oherwydd i Adam Price feiddio beirniadu'r Toriaid yn ei araith arbennig ddoe.

'Rwan mae'r cwestiwn wedi ei godi ar flog Gwilym eisoes - i bwy mae o'n pleidleisio pan nad yw Llais Gwynedd yn sefyll mewn etholiad? Am resymau sydd yn glir iddo fo'i hun yn unig, nid oedd yn fodlon ateb. Mae ambell i gynghorydd arall Llais Gwynedd yn ddigon gonest i gyfaddef ei fod yn gobeithio gweld llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Toriaid. Mae gonestrwydd yn rhinwedd i'w edmygu.

Felly, yn y gobaith o gael rhyw lun ar ateb, mi ofynaf y cwestiwn eto mewn ffordd ychydig yn wahanol. Ydi Llais Gwynedd yn argymell i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio i rhyw blaid neu'i gilydd? Mae dyn yn cymryd (nid bod unrhyw fath o sicrwydd na chysondeb ynglyn a phrosesau meddwl aelodau LlG wrth gwrs) eu bod yn anghymeradwyo pleidleisio i Blaid Cymru, gan eu bod dragwyddol yn cael eu poeni gan weledigaethau erchyll ac anymunol o aelodau'r blaid honno'n dawnsio'n noeth yn y coed efo'r anifeiliaid gwyllt a'r diafol.

Ond beth am eu cyd bleidiau unoliaethol, gwrth genedlaetholgar? Mynegodd Alwyn bryderon eisoes bod aelodau o'i deulu wedi pleidleisio i UKIP oherwydd nad oedd enw aelod o Lais Gwynedd ar y papur pleidleisio. 'Dwi ddim yn credu i hynny ddigwydd yn aml iawn a dweud y gwir, ond mae'n amlwg o dystiolaeth Alwyn iddo ddigwydd ambell waith.

Ydyn nhw'n fodlon o leiaf argymell nad yw eu cefnogwyr yn pleidleisio i'r blaid arbennig honno?

Saturday, September 12, 2009

Ydi hi'n bosibl ennill poblogrwydd trwy gymryd penderfyniadau amhoblogaidd?

'Dwi'n gwybod ei fod o'n swnio'n gwestiwn gwirion - ond beth ydym i'w wneud o'r pol piniwn yn Express fory sy'n darogan gogwydd sylweddol iawn tuag at yr SNP yn etholiadau San Steffan yn 2010 ac etholiadau Holyrood yn 2011.

Petai'r canlyniadau yn cael eu gwireddu byddai Llafur yn colli hanner ei haelodau seneddol yn San Seffan, a byddai gan yr SNP fwy o seddi nag unrhyw ddwy o'r pleidiau unoliaethol efo'i gilydd yn Holyrood.



Mae'n debyg gen i y bydd hyn yn siom enfawr i'r pleidiau unoliaethol yn yr Alban - roeddynt yn gobeithio y gallant elwa'n etholiadol yn sgil y ffaith i weinidog cartref yr Alban, Kenny MacAskill, ryddhau'r bomiwr Al-Megrahi, yn ystod yr haf, oherwydd ei fod yn marw o gancr.

Aeth y pleidiau unoliaethol yn yr Alban i ben y caets - ac roedd yn edrych am wythnos neu ddwy wedi'r penderfyniad bod yr SNP wedi dioddef niwed etholiadol sylweddol. Ond chymerodd hi fawr o amser i'r SNP ail ennill eu mantais glir tros y pleidiau eraill yn y polau.

Y cwestiwn diddorol ydi pam? Un rheswm mae'n debyg ydi ymateb bisar y Blaid Lafur i'r holl beth. Roeddynt yn groch yn erbyn ar lefel Holyrood, ond yn gwrthod mynegi barn ar lefel San Steffan, tra bod tystiolaeth yn adeiladu eu bod wedi gwneud eu gorau y tu ol i'r lleni, i ryddhau Al-Megrahi.

Ond efallai bod rheswm arall pwysicach. Roedd y penderfyniad yn un roedd angen stumog go gryf i'w gymryd - ond roedd hefyd yn benderfyniad oedd y unol a chyfraith yr Alban. Mae'r gyfraith yn caniatau, yn wir yn annog trugaredd o dan yr amgylchiadau hyn. Trwy gymryd y penderfyniad roedd Kenny MacAskill yn dangos ei fod yn fodlon mentro amhoblogrwydd er mwyn gweithredu'n unol a chyfraith ei wlad.

Mi fyddwn i'n rhoi mwy o ymddiriedaeth mewn dyn felly, nag mewn un sy'n fodlon anwybyddu cyngor cyfreithiol er mwyn peidio a cholli poblogrwydd etholiadol. Ymddengys bod llawer iawn o Albanwyr yn cytuno efo fi.

Cynhadledd Plaid Cymru


Dydw i ddim yn rhyw gynadleddwr mawr mae gen i ofn - ond mi fyddaf yn mynychu cynhadledd flynyddol y Blaid ar y dydd Sadwrn, a 'doedd y tro hwn ddim yn eithriad.

'Rwan mae yna berygl mewn ceisio darllen gormod i mewn i unrhyw gynhadledd wleidyddol - mae nhw'n ddigwyddiadau digon artiffisial ar sawl gwedd. Serch hynny mae'n rhaid i mi ddweud i mi fwynhau'r diwrnod - roedd y lle'n llawn - roedd yr areithiau yn rhai digon caboledig. ac roedd ymdeimlad pendant y gallai'r Blaid - yn wir y dylai'r Blaid - dorri pob record o ran cynrychiolaeth yn San Steffan y flwyddyn nesaf. Byddai ennill chwech neu saith sedd, a bod yn ail cryf mewn efallai ddwsin o rai eraill yn ein rhoi mewn safle lle y gallwn edrych ymlaen at gyfle gwirioneddol i arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Roedd un neu ddau o bwyntiau yn fy nharo fodd bynnag.

Yn gyntaf roedd cryn dipyn o'r ymosod gwleidyddol yn cael ei gyfeirio at y Toriaid. Ar un wedd mae hyn yn anarferol - fel rheol y blaid sydd mewn llywodraeth sydd yn derbyn beirniadaeth mewn digwyddiad fel hyn. Fodd bynnag mae'r ffordd yma o fynd ati yn synhwyrol - mae pawb yn gwybod bod Llafur yn wynebu cweir anferthol yn yr etholiad nesaf - ac mae strategaeth o hawlio'r tir o amddiffyn y wlad oddiwrth y Toriaid yn allweddol os yw'r Blaid i ddod yn brif rym gwleidyddol Cymru - fel rydym wedi ei drafod yma.

Yn ail roedd yn amlwg o araith feistrolgar Adam Price ei fod yn awyddus i ysgwyd llwch San Steffan oddi ar ei draed. Mae Vaughan yn cyffwrdd a hyn yma. Dweud mae Vaughan y bydd tri gwleidydd o sylwedd arbennig yn sefyll yn enw'r Blaid yn 2011 - ac mae'n enwi dau - Dafydd Wigley ac Adam. 'Dwi'n cymryd mai'r trydydd sydd ganddo mewn golwg ydi Ron Davies. Mae ansawdd rhai o'r aelodau sydd gan y Blaid yn y Cynulliad eisoes yn uwch o lawer na'r hyn sydd gan y pleidiau eraill i'w gynnig. Byddai etholiad Cynulliad gydag Adam yn sefyll yn (dyweder) Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Dafydd yn sefyll yng Ngorllewin Clwyd a Ron yng Nghaerffili (neu o bosibl Islwyn) yn un lle byddai proffeil y Blaid yn uchel - yn llawer uwch nag un unrhyw blaid arall.

Y trydydd pwynt ydi'r refferendwm. Y son oedd y byddai refferendwm i gael pwersau pellach i'r Cynulliad yn cael ei gynnal yn hydref 2010 - ychydig fisoedd cyn etholiadau'r Cynulliad. Byddai hwn yn amser da ar sawl cyfrif. Yn gyntaf byddai'r awyrgylch o greisis sy'n sicr o ddilyn toriadau'r Toriaid mewn gwariant cyhoeddus yn gwneud y tebygrwydd o ganlyniad cadarnhaol. Mae hefyd yn bosibl y byddai canlyniad da yn y refferendwm yn rhoi hwb etholiadol i'r Blaid yn genedlaethol - fel a ddigwyddodd yn sgil refferendwm 1997.

Felly, ar ddiwedd cynhadledd - am y tro cyntaf erioed, gallaf ddweud fy mod yn teimlo ein bod mewn sefyllfa i hyderu y bydd y ddwy flynedd nesaf yn rhai trawsnewidiol o ran hynt etholiadol y Blaid ac o ran statws cyfansoddiadol Cymru. Yr her i ni fel Pleidwyr ydi gafael yn y cyfle a'i goleddu. Efallai na ddaw cyfle tebyg am genhedlaeth arall.

Wednesday, September 09, 2009

Cwis bach rhif 3

Yn ysbryd y ddadl bach yma mae'n bleser o'r eithaf gen i osod cwis bach arall ger eich bron:

1 Pwy ddywedodd: we insisted on reserving the right to bomb niggers

(A)

(B)


(C)


2 Pwy ddywedodd am Adolf Hitler - One man has accomplished this miracle. He is a born leader of men. A magnetic, dynamic personality with a single-minded purpose, a resolute will and a dauntless heart. He is not merely in name but in fact the national Leader.

(A)
(B)
(C)


3 Pwy ddywedodd am Hitler: The greatest living German?

(A)
(B)

(C)

Tuesday, September 08, 2009

Etholiad 2010 a gwers o 1983 i'r Mudiad Cenedlaethol


Sylwadau diddorol gan ddau o flogiau gorau Cymru - Welsh Guerilla Warefare a Syniadau ynglyn ag erthygl gan Adam Price yn y Western Mail heddiw.

Rhybudd a geir gan Adam ei bod yn bryd i'r Mudiad Cenedlaethol droi ei sylw at y Toriaid a pharatoi am gyfnod gwleidyddol ol Lafur. Mae Syniadau yn anghytuno efo un agwedd yn benodol ar ei ddadl - sef y dylai'r Blaid fynu (petaem yn cael ein hunain mewn senedd grog) bod y Pwyllgor Dethol Cymreig yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol Cymru yn hytrach nag un y DU. Ei gred yw bod hyn yn ffordd o daflu rhaff achub i Lafur gan mai nhw sy'n debygol o fod a'r mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru. Mae'r canfyddiad hwn yn un cywir.

Beth am edrych yn ol chwarter canrif am funud i 1983 - isafbwynt etholiadol Llafur yn y DU?

Ychydig o dan 27% yn unig o bleidlais Brydeinig a sicrhawyd gan Lafur - mymryn mwy na'r glymblaid Rhyddfrydol / SDP. Oherwydd trefn etholiadol boncyrs y DU cawsant fwy o seddi o lawer na'r glymblaid wrth gwrs. Gwnaeth Llafur yn well yng Nghymru - o tua deg pwynt canrannol - ond roedd hyn yn isafbwynt hanesyddol yng Nghymru iddynt.

Aeth Llafur ati i ail adeiladu rhwng 1983 ac 1997 tros y DU - ond yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt ail adeiladu'n gynt o lawer yng Nghymru. Yn etholiad 1987 roedd Llafur ar 29.5% yn Lloegr ond ar 45% yng Nghymru. 34% a 49.5% oedd y ffigyrau cymharol yn 1992. Roedd Llafur unwaith eto'n dominyddu yng Nghymru tra'u bod yn gymharol wan o hyd yn Lloegr.



'Rwan roedd nifer o resymau tros lwyddiant Llafur i ail adeiladu'n gyflym yng Nghymru - peirianwaith effeithiol, effaith polisiau economaidd y Toriaid ar Gymru, y ffaith mai Cymro oedd yn arwain y blaid er enghraifft. Ond mi fyddwn i'n dadlau bod rheswm arall hefyd - Llafur oedd ffocws y gwrthwynebiad Cymreig i lywodraeth Seisnig a Thoriaidd yng Nghymru. Mae'n hawdd i bobl sydd ag argyhoeddiadau gwleidyddol cryf i werthfawrogi bod llawer o bobl yn pleidleisio am resymau negyddol - pleidleisio yn erbyn rhywbeth, ac nid pleidleisio o blaid rhywbeth mae lleiafrif sylweddol o etholwyr. Pleidlais yn erbyn y Toriaid mwy na phleidlais tros Lafur oedd cyfadran arwyddocaol o'r cynnydd cyflym hwn yn eu pleidlais rhwng 83 a 92.

Mi fydd y Toriaid yn ennill fis Mai nesaf, a byddant yn ennill yn hawdd - fydd yna ddim senedd grog. Mae'n bosibl y bydd Llafur yn ennill llai o bleidleisiau tros y DU nag y gwnaethant yn 83, ac mae'n weddol sicr y digwydd hynny yng Nghymru. Bydd Cymru'n dioddef fwy na'r unman arall oherwydd ein bod yn ddibynnol iawn ar wariant cyhoeddus, a bydd hwnnw'n cael ei dorri i'r bon. Hefyd mae ein Senedd yn rhy wan o ran pwerau i gynnig gwarchodaeth effeithiol i'r wlad. Ond mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwers o beth ddigwyddodd yn wythdegau a nawdegau'r ganrif ddiwethaf. Os caiff Llafur y cyfle i'w cyflwyno eu hunain fel ffocws gwrthwynebiad y genedl i lywodraeth Doriaidd, byddant yn ailadeiladu'n gyflym eto.

Her wleidyddol fawr y Mudiad Cenedlaethol tros y ddegawd nesaf fydd gwneud ei hun yn hytrach na Llafur yn ffocws i wrthwynebiad Cymru i'r llywodraeth Doriaidd. Dyma pam mai etholiadau Cynulliad 2011 fydd y rhai pwysicaf yn hanes y Blaid, ac efallai yn hanes Cymru. Os bydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda, ac yn cael ei hun yn chwarae rhan arweiniol yn y llywodraeth nesaf yng Nghaerdydd, gall sicrhau bod y Cynulliad - a thrwy hynny hi ei hun, yn ganolbwynt i wrthwynebiad cenedlaethol i lywodraeth Doriaidd - fel y gwnaeth y Blaid Lafur chwarter canrif ynghynt. O lyddo i wneud hyn gellir disgwyl gwobr etholiadol sylweddol.



Golyga hyn bod rhaid i'r Blaid (fel mae Adam yn awgrymu) ymosod yn bennaf ar y Toriaid yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd cadw mewn cof mai'r gwir elyn ydi Llafur - y traddodiad unoliaethol Llafur ac nid yr un Toriaidd sydd wedi rhwystro Cymru rhag esblygu'n gyfansoddiadol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Y ffordd fwyaf effeithiol o ddifa Llafur ydi trwy chwarae rol tebyg i'r un a chwaraewyd ganddyn nhw chwarter canrif yn ol.

Sunday, September 06, 2009

Polau Piniwn Mis Awst

Mewn blynyddoedd diweddar mae'r polau piniwn ym mis Awst cyn etholiad cyffredinol wedi bod yn hynod debyg i ganlyniad yr etholiad cyffredinol ei hun. Mae rhywbeth ychydig yn ddigri am hyn mae'n debyg - er gwaetha'r holl wario, er gwaetha'r holl ymgyrchu, er gwaetha'r holl dantro, er gwaetha'r holl hysteria, er gwaetha'r cynllwynio a'r triciau budur yn ystod y misoedd cyn etholiad cyffredinol, mae'r patrymau pleidleisio eisoes wedi eu sefydlu - ac ychydig iawn y gellir ei wneud i newid pethau.

Does yna ddim polio Cymreig o unrhyw werth (yn wahanol i'r Alban), felly 'does gennym ni ddim llawer i fynd arno o ran polio sy'n berthnasol yn benodol i Gymru. Ar lefel Prydeinig roedd y polau yn erchyll i Lafur - gan awgrymu y bydd eu canran o'r bleidlais yn cwympo efallai ddeg pwynt canrannol. 'Dydyn nhw ddim yn arbennig o dda i'r Lib Dems chwaith gydag awgrym y byddant yn is nag 20%. Ar y llaw arall mae lle i gredu y bydd y pleidiau llai yn gwneud yn dda, ac y bydd y Toriaid yn cynyddu eu pleidlais o efallai 9%.

Mae'n anodd cyfieithu hyn i gyd destun Cymreig, gan fod gwleidyddiaeth etholiadol yn gwahanol yma bellach i weddill y DU. Ond mae'n rhesymol i gasglu y bydd pob sedd Lafur ag eithrio rhai'r cymoedd a Dwyrain Abertawe mewn perygl. 'Dydi hyn ddim yn golygu y byddant i gyd yn cael eu colli wrth gwrs - ond byddai pob dim ag eithrio'r rhai 'dwi wedi eu henwi yn gystadleuol.

Posibilrwydd arall ydi y bydd y Lib Dems yn colli eu seddi gwledig yng Nghymru, ond yn ennill un neu ddwy o rai dinesig - ac felly'n troi'n blaid ddinesig yma yng Nghymru o leiaf.

Gallai'r map etholiadol Cymreig edrych yn rhyfedd iawn erbyn mis Mehefin nesaf.

Saturday, September 05, 2009

A ddylai'r BNP fod yn blaid gyfreithlon?

Yn ol blog Saesneg Alwyn mae yna tipyn o ddadlau ar hyn o bryd rhwng rhai o flogwyr y Blaid a Peter Black ynglyn a sut y dylid ymateb i'r BNP. Mae Alwyn yn nodi ei fod yn cytuno efo Peter Black nad oes angen anghyfeithloni'r blaid neo ffasgaidd.

'Rwan 'dwi heb fod yn dilyn y ddadl mor agos ag Alwyn, ond fedra i ddim gweld neb yn dadlau tros eu gwneud yn anghyfreithlon fel y cyfryw - dadl ydi hi yn y bon ('dwi'n meddwl) ynglyn a pha mor briodol ydi hi iddyn nhw gael stondin mewn sioe ym Mro Morgannwg - efallai fy mod wedi methu rhywbeth yma.

Ta waeth, mae'n codi pwynt digon diddorol - ydi hi'n briodol i wahardd rhai pleidiau gwleidyddol oherwydd bod eu credoau'n wrthyn i'r rhan fwyaf o bobl? Mi fyddwn i'n tueddu i ochri efo Alwyn ynglyn a hyn am unwaith.

Y drwg efo anghyfreithloni grwpiau oherwydd eu heithafiaeth ydi bod yr hyn a ystyrir yn eithafol yn newid yn gymharol rheolaidd, ac mae'r hyn sy'n cael ei ystyried yn eithafol yn ddibynnol ar o lle'r ydych yn edrych ar bethau.

Er enghraifft, yn Oes Fictoria roedd y rhan fwyaf o bobl yn BNPwyr i'r graddau bod rhywbeth yn ymylu ar gonsensws o'r farn bod rhai hiliau dynol yn uwchraddol i hiliau dynol eraill. Yr agwedd yr ydym yn ei hystyried yn ryddfrydig erbyn heddiw oedd y farn 'eithafol' bryd hynny. O edrych yn ol ymhellach, roedd yna amser pryd ystyrid bod safbwynt oedd yn bleidiol i anghyfreithloni caethweisiaeth yn eithafol.

Mae yna bobl sy'n ystyried cenedlaetholdeb Cymreig yn eithafol heddiw. Er enghraifft 'dwi'n dyfynu'r isod o flog Stonemason - y blogiwr mwyaf gwrth Gymreig ar y blogosffer mae'n debyg.

…… where its ultimate objective is separation, is much the same as an external aggressor that would invade a country, the only exception is where not even 1 citizen objects to the nationalist objective, only then is it legitimate.

Welsh nationalism is little different to any aggressor of the past.

In Wales today, the major political players need to divorce themselves from Plaid Cymru, lest they become tainted as political aggressors.


Hynny yw, o edrych ar Gymru o'r safbwynt yma mae mynegi'r gobaith y bydd Cymru rhyw ddiwrnod yn annibynnol ynddo'i hun yn weithred ymysodol. Mae'r awdur yn disgrifio ei hun fel Ceidwadwr (nid bai y Blaid Geidwadol ydi hynny wrth gwrs), ac mewn materion ag eithrio ei gasineb rhyfedd tuag at genedlaetholdeb Cymreig mae'n ymddangos yn weddol agos at y prif lif Ceidwadol. Rydym eisoes wedi edrych ar farn digon tebyg gan geidwadwr (c fach) mwy eithafol - John Walker.

It doesn't matter whether Plaid play the short game or the long game - they are still, ultimately, a destructive force in British politics and they should be marginalised by the 'Brits' at every opportunity.

'Dwi ddim yn dadlau am funud bod yr agwedd yma yn ganolog i ideoleg ceidwadiaeth Seisnig cyfoes, ond mae edefyn felly yn sicr yn bodoli oddi mewn i'r brodwaith ideolegol hwnnw. 'Dydi hi ddim yn bosibl gweld o flaen llaw pa agweddau ar geidwadiaeth Seisnig (nag unrhyw ideoleg arall o ran hynny) fydd yn bwysig yn y dyfodol. Yr hyn yr ydym yn gwybod ydi bod natur ideolegau yn amrywio'n sylweddol o gyfnod i gyfnod. Rydym hefyd yn gwybod mai ceidwadiaeth Seisnig ydi'r ideoleg sydd fwyaf llwyddiannus am drosglwyddo trwy'r canrifoedd ar yr ynysoedd hyn.

I roi pethau mewn ffordd arall 'does ganddom ni ddim ffordd o wybod os mai ni fydd yn cael eu hystyried yn 'eithafwyr' yn y dyfodol. Os oes yna gynsail o ddeddfu i wahardd pleidiau ar sail y canfyddiad o eithafiaeth, 'dydan ni ddim yn gwybod os y caiff y ddeddfwriaeth honno ei defnyddio yn ein herbyn ni ar rhyw bwynt yn y dyfodol.

Mae hanes y ganrif ddiwethaf yn Ewrop a thu hwnt yn ddigon o ddadl i sicrhau nad ydi gwleidyddiaeth sydd wedi ei seilio ar gasineb tuag at, neu o leiaf ddrwgdybiaeth o hiliau eraill yn llwyddo. 'Does yna ddim dyfodol i blaid fel y BNP oherwydd ein bod yn gwybod beth sydd yn digwydd pan mae pobl sy'n coleddu credoau sylfaenol y BNP yn ennill grym. Atgoffa pobl hyd at syrffed o hynny ydi'r ateb gorau i bleidiau hiliol.

Un nodyn bach arall cyn gorffen - 'dydi dweud nad ydw i'n cytuno a gwahardd pleidiau gwleidyddol ddim yn golygu fy mod yn credu y dylai digwyddiadau megis Ffair Bro Morgannwg ganiatau iddynt eu defnyddio i ledaenu propoganda. Mae'n gywilydd ar y trefnwyr eu bod yn eu derbyn yno.

Thursday, September 03, 2009

Faint fyddai buddugoliaeth i'r Toriaid yn ei gostio i Gymru?

Newydd weld y blogiad diddorol yma mewn perthynas a Gogledd Iwerddon. Mae'n berthnasol i Gymru hefyd.

Mewn datganiad ddoe dywedodd Roger Helmer, un o Aelodau Ewropiaidd Y Toriaid, y byddai ei blaid yn tynnu o faterion cyflogaeth a chymdeithasol Ewrop pe byddent yn cael eu hethol - dyma ei union eiriau - withdraw from European social and employment affairs.

'Rwan mae dwy ochr i geiniog European social and employment affairs - deddfwriaeth a throsglwyddiad arian. Mae Cymru'n derbyn swm sylweddol o arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop - £1.6 biliwn i fod yn fanwl gywir rhwng 2007 a 2013. Mae tua £545 miliwn (32%) yn cael ei fuddsoddi mewn busnesau, £755 miliwn (45%) mewn pobl a bron £345 miliwn (20%) ar gyfer adfywio cymunedol, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.

Wnaeth Helmer ddim son os oedd yn fwriad gan y Toriaid i ddigolledu Cymru am yr adnoddau ariannol fydd yn cael ei golli o ganlyniad i'r gorffwylldra ideolegol yma. Mi fyddwn i'n betio cryn dipyn nad ydi hynny hyd yn oed wedi cael ei ystyried.

Wednesday, September 02, 2009

Etholiad Cyffredinol 2010 - y betio

Mae efallai naw mis i fynd hyd yr etholiad cyffredinol ac mi fydd y blog yma - yn ogystal a nifer o rai eraill 'dwi'n siwr yn edrych ar beth sy'n debygol o ddigwydd mewn gwahanol etholaethau Cymreig (a thu hwnt) yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mi wnawn ni gychwyn trwy gael golwg ar yr ods bwcis sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae pob dim oddi ar wefan Ladbrokes ag eithrio ail set o brisiau Gorllewin Casnewydd (Raymond Chandler) a'r trydydd am yr etholaeth honno (Paddy Power). Ymddiheuriadau am y blerwch.

Aberconwy:

Toris 2/7

Plaid Cymru 7/2

Llafur 8/1

Lib Dems 25/1


Arfon:

Plaid Cymru 1/10

Llafur 6/1

Toris 14/1

Lib Dems 100/1


Ceredigion:

Plaid Cymru 8/11

Lib Dems evens

Toris 25/1

Llafur 100/1


Llanelli:

Llafur 1/2

Plaid Cymru 6/4

Toris 50/1

Lib Dems 100/1


Trefaldwyn:

Lib Dems

1/3

Toris

2/1

Llafur

100/1

Plaid Cymru

100/1


Dwyrain Casnewydd:



Llafur

1/2

Lib Dems

9/4

Toris

6/1

Plaid Cymru

100/1



Gorllewin Casnewydd:


Llafur

4/6

Toris

evens

Lib Dems

50/1

Plaid Cymru

100/1


Llafur 10/11

Toris 4/5

Lib Dems33/1

Plaid Cymru100/1







Llafur 8/11


Toris 10/11


Lib Dems 40/1


Plaid Cymru100/1



Gorllewin Abertawe:

Selection

Odds

Lib Dems

5/6

Llafur

evens

Toris

10/1

Plaid Cymru

100/1


Ynys Mon:


Plaid Cymru - 1/3

Llafur - 9/4

Toriaid - 16/1

Lib Dems - 100/1

Monday, August 31, 2009

Beth sydd gan blogmenai a trinity Mirror yn gyffredin

Bydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn yn ymwybodol nad wyf yn or hoff o bapurau Trinity Mirror.

'Dwi ddim yn hollol siwr os i lawenhau neu beidio o ddeall bod gwerthiant papurau dyddiol a Sul y grwp anymunol, Prydeinllyd hwn yng Nghymru yn syrthio fel carreg. Wele'r ffigyrau diweddaraf:

South Wales Echo - 41,550 (-9.9%)
The Western Mail - 33,693 (-10.3%)
Daily Post (Cymru) - 34,601 (-5.0%)
Wales on Sunday - 44,591 (-16.5%)

Ar un olwg mae hyn yn newyddion arbennig o dda, ond yr unig broblem ydi bod y pedwar rhecsyn uchod o leiaf yn Gymreig yn ystyr ehangaf y gair hwnnw. Efallai nad ydi eu cyn ddarllenwyr yn darllen dim byd Cymreig bellach.

Mae dyn yn rhyw hanner gobeithio bod y We'n llenwi'r bwlch, ond a barnu oddi wrth fy mlog fy hun sydd wedi colli darllenwyr tros y mis neu ddau diwethaf, 'dydi hynny ddim yn wir chwaith.

Mae blogmenai pob amser yn awyddus i dorri tir newydd - ac yn yr ysbryd hwnnw mi fyddaf o hyn allan yn cyhoeddi maint fy nghynulleidfa misol ar ddiwrnod olaf pob mis - hyd yn oed os ydi nifer fy narllenwyr yn mynd i'r un cyfeiriad a nifer darllenwyr papurau Trinity Mirror.






Y panic twf poblogaeth - lle mae idiotrwydd y Dde a'r Chwith yn cwrdd

Mae'n debyg y dyliwn ddatgan buddiant cyn cychwyn ar hwn - mae gen i bump o blant.

Tua'r amser yma pob blwyddyn, mae yna fyllio a thantro bod y boblogaeth yn tyfu'n rhy gyflym - gan y wasg Geidwadol yn bennaf, ond gan bobl mwy rhyddfrydig weithiau hefyd. Mae'r erthygl anymunol a hiliol yma yn y Daily Mail gan Amanda Platell yn esiampl o gonsyrn y Dde.

Ymddengys bod y ffaith bod 61,000,000 o bobl yn byw ym Mhrydain bellach yn rhywbeth y dylem oll dreulio llawer iawn o amser yn poeni amdano. Yn wir mae'n stwmp ar stumog llawer bod y boblogaeth yn tyfu y tu allan i Brydain, gyda rhywun o'r enw David Attenbrough yn cefnogi ymgyrch corff sinister a rhyfeddol o fysneslyd o'r enw'r Optimal Population Trust i gosbi gwledydd tramor oni bai eu bod yn cadw eu poblogaeth yn isel. Mae un o'u prif noddwyr - Jonathan Porrit, un o gyn arweinwyr Y Blaid Ecolegol - rhagflaenwyr Y Blaid Werdd yn bendant ei bod yn 'anghyfrifol' i bobl gael mwy na dau o blant.

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn poeni eu hunain yn sal oherwydd bod tebygrwydd y bydd poblogaeth y DU yn 77,000,000 erbyn 2050. Mae'n od braidd i' r Mail ddod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt eu hunain a chorff sy'n gwneud defnydd o naratif amgylcheddol y Chwith gyfoes megis yr OPT - ond dyna fo mae yna ambell i briodas rhwng pobl anisgwyl iawn weithiau.

Mae yna bobl wedi bod yn poeni bod yna ormod o bobl eraill ers i ni gael _ _ wel pobl ar y Ddaear. Roedd yr athronydd Sieiniaidd Han Fei-tzu wedi cael ei hun mewn stad am y peth yn y drydydd ganrif CC, ac roedd Plato o'r farn y dylai pobl ddechrau dympio eu merched ar wladwriaethau eraill os oedd poblogaeth y ddinas wladwriaeth yn mynd yn fwy na 5,040.

Nawdd Sant y sawl sy'n poeni am ormod o bobl ydi Thomas Malthus rheithor gydag Eglwys Lloegr yn Oes Fictoria. Rydym eisoes wedi gweld sut wnaeth ei ddamcaniaethu fo gyfrannu at leihau'r boblogaeth yn Iwerddon a thu hwnt.

Canolbwynt damcaniaeth Malthus oedd yr 'amhosebilrwydd' i gyflenwad bwyd y Byd gadw i fyny efo twf arithmataidd y boblogaeth. Roedd cyd destun gwleidyddol i'r ddamcaniaeth wrth gwrs - roedd Malthus yn erbyn datblygu deddfau i roi cymorth i'r tlodion ac roedd o blaid deddfau oedd yn trethu mewnforio bwyd i Brydain. Roedd ei ddamcaniaethu, wrth gwrs, yn bolycs o'r radd eithaf - fel y cawn weld yn ddiweddarach. Roeddynt hefyd yn bolycs peryglys iawn.

'Dydi hynny heb stopio i bobl a mudiadau cyfoes a diweddar wneud defnydd o'i nonsens. Y lol yma sydd y tu cefn i lawer o ddadleuon yr OPT. Un o lyfrau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf ar y pwnc oedd campwaith Paul R Ehrlich - The Population Bomb (1968).

Roedd Paul o'r farn mai'r gorau y gellid ei ddisgwyl oedd y byddai canoedd o filiynau o bobl yn marw yn saithdrgau'r ganrif ddiwethaf. Byddai'r UDA yn stopio rhoi cymorth i India a'r Aifft erbyn 1974, byddai'r Pab wedi derbyn yr egwyddor o atal cenhedlu, byddai Asia, Affrica, De America a'r Byd Arabaidd yn cael eu hysgwyd gan ymladd am fwyd. Byddai bwyd yn cael ei ddognu yn America ac Ewrop. 2 biliwn fyddai poblogaidd y Byd erbyn 2025, 1.5 biliwn erbyn 2050. Yr unig ateb i hyn yn ol Ehrlich oedd gwenwyno cyflenwadau dwr efo cemegolion atal cenhedlu. Wna i ddim manylu ar y gwaethaf yr oedd Paul yn poeni amdano, rhag bod rhai o fy narllenwyr gyda thueddiad at hunllefau.

Wnaeth methiant treuenus ei ddarogan ddim ei atal rhag cyhoeddi llyfr arall - The Population Explosion efo'i wraig Anne yn 1990. Does yna ddim llawer o dystiolaeth yn yr ail lyfr i Paul fod wedi dysgu llawr o'r ffaith na ddaeth dim o holl ddarogan gwae'r llyfr cyntaf.

Un neu ddau o ffeithiau - mae poblogaeth y Ddaear wedi cynyddu mwy nag erioed (o lawer) yn ystod y ganrif ddiwethaf - ac mae'r GDP ar gyfer pob un o'r bobl yna wedi cynyddu mwy nag erioed hefyd. Er enghraifft roedd GDP y pen (Byd eang) tua phum gwaith yn uwch ar ddiwedd y ganrif nag oedd ar y cychwyn. Roedd y nifer o bobl oedd yn dioddef o brinder bwyd parhaus wedi lleihau ac felly hefyd y gyfradd o blant oedd yn marw. Roedd pobl ym mhob gwlad bron yn gallu disgwyl byw yn hirach - yn hirach o lawer. Roedd India - gwlad roedd Ehlrich o'r farn nad oedd yna unrhyw obaith o gwbl iddi oherwydd dwysedd ei phoblogaeth wedi gwneud ei hun yn hollol hunan gynhaliol o ran bwyd erbyn diwedd y ganrif diwethaf. Roedd ei phoblogaeth wedi tyf'n sylweddol hefyd

'Rwan - mae dwysedd poblogaeth yn stwmp ar y sawl sy'n poeni am boblogaeth Prydain. Dwysedd poblogaeth y Byd ydi
45.21 person y km sgwar o dir. Dwysedd y DU ydi 246 (sydd trwy gyd ddigwyddiad bron yn union yr un peth ag un Pennsylvania- talaith sydd a 2 biliwn acer o fforestydd, naw miliwn acer o dir ffermio sy'n cynhyrchu gwerth tros i ddeugain biliwn dolar o fwyd yn flynyddol). Mae yna 51 o wledydd efo dwysedd uwch - gan gynnwys Singapore (6,814), Macau (18,705), Hong Kong (6,326), De Korea (487), Yr Iseldiroedd (395). Hynny ydi rhai o wledydd a rhanbarthau mwyaf cyfoethog y Byd. Mae yna 22 o wledydd gyda llai na 10 person y km sgwar - tua hanner ohonynt ymhlith y tlotaf yn y Byd.

Daw hyn a ni'n ol at erthygl bach hiliol Amanda. Yr amheuaeth sydd gen i pob amser yr ydwyf yn darllen y math yma o nonsens ydi nad gormod o bobl ydi'r broblem - ond gormod o bobl o'r math anghywir. Alla i ddim yn fy myw gredu y byddai Amanda yn gwneud ei hun mor sal yn poeni petai'r holl bobl yna yn rhai tebyg i'r sawl sy'n gwneud eu siopa yn Waitrose, yn mwynhau guacamole ac yn teithio mewn tractorau Chelsea.

Sunday, August 30, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 3

Y trydydd cyfraniad i'r ddadl oedd un Hogyn o Rachub, neu'r Tatw o Rachub fel mae'n rhaid i ni ddod i'w adnabod bellach.

Dydi ei gyfraniad ddim yn un sy'n ymwneud a'r ddeuoliaeth brogarwch / cenedlaetholdeb fel y cyfryw - ond yn hytrach mae'n ymgais digon treiddgar i ddadelfennu'r feddylfryd genedlaetholgar yng Nghymru. Mae'n rhannu'r feddylfryd honno i bedwar categori - Cenedlaetholdeb Diwylliannol / Traddodiadol, Cenedlaetholdeb Ideolegol, Cenedlaetholdeb Economaidd, Cenedlaetholdeb Dinesig/Sifig.

'Does gen i ddim problem efo'r categoreiddio ynddo'i hun - mae o'n ddigon cywir. Mi fyddwn yn nodi fodd bynnag nad ydi hi'n bosibl gosod unigolion mewn categoriau twt - mae pobl ychydig yn fwy cymhleth na hynny. Mi fyddwn i'n gosod fy hun ym mwy nag un o gategoriau HoR - a 'dwi'n meddwl y byddai'r rhan fwyaf o genedlaetholwyr yn gallu gosod eu hunain mewn mwy nag un hefyd.

Mae HoR a minnau wedi croesi clefyddau ynglyn a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd yn y gorffennol. 'Dwi ddim yn derbyn bod y gwahaniaeth rhwng cenedlaetholwyr yng Ngwynedd er enghraifft a Chaerdydd mor amrwd ag y mae HoR yn awgrymu. Un o Gaerdydd ydi'r Mrs - mi fyddwn i'n ei disgrifio fel mwy o genedlaetholwraig diwylliannol / traddodiadol na fi. Ydi cenedlaetholdeb Owen John Thomas mewn difri yn ofnadwy o wahanol i un HoR?

Wedi dweud hynny mi fyddwn yn derbyn bod yna wahaniaethau - ac mae'n anhepgor bod gwahaniaethau - mae hanes a diwylliant y ddau ranbarth yn dra gwahanol. Yr her ydi sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym yn gyffredin - felly mae symud ymlaen. Fel 'dwi wedi nodi yn y gorffennol, bydd darpariaeth addysg Gymraeg yn cael ei drawsnewid er gwell yn y brifddinas - y cynnydd mwyaf mewn darpariaeth ers blynyddoedd lawer. Mi fydd hyn yn digwydd o dan weinyddiaeth sy'n cynnwys cynghorwyr Plaid Cymru. Ydi o ots os mai McKevoy, Ford, Islam, Singh ydi cyfenwau rhai o'u cynghorwyr, a'u bod wedi dod i mewn i'r Mudiad Cenedlaethol ar hyd llwybr gwahanol iawn i un HoR a finnau.

Saturday, August 29, 2009

Gair bach o gysur i Mr Paul Flynn


Mae nifer o flogwyr wedi gwneud hwyl am ben Paul Flynn tros yr wythnos neu ddwy diwethaf oherwydd ei ymateb hunan bwysig a phwdlyd i'r ffaith na wnaeth yn arbennig o dda yn 'etholiad' Totalpolitics. Mae Paul o'r farn mai'r unig eglurhad am ei ganlyniad siomedig ydi bod cynllwyn anferth yn bodoli ymhlith blogwyr Cymreig yn gyffredinol a Phleidwyr yn benodol. Felly mae Paul yn dipyn o conspiracy theorist pan mae'n dod i egluro'r anfadwaith arbennig yma.

Fedar Paul ddim deall sut y gwnaeth cymaint o flogiau Cymreig mor dda, ac mae'n syndod mawr iddo i flog Vaughan ddod yn y deg uchaf a hwnnw wedi ei 'sgwennu yn uniaith Gymraeg. Daeth y blog hwn yn uwch nag un Vaughan gyda llaw, ac mae hwnnw hefyd yn uniaith Gymraeg (fwy neu lai). Mae i mi ddod yn uchel yn 'rhyfeddach' ar un olwg nag i un Vaughan wneud hynny - 'does gen i ddim cymaint o gysylltiadau na Vaughan, ac mae ei flog o yn un proffesiynol. Mi ddyliwn ychwanegu mewn gonestrwydd bod ei flog o'n well nag ydi fy un i hefyd.

Efallai bod y ffaith nad ydi Paul wedi sylwi ar hynny yn awgrymu pam ei fod yn cael anhawster deall y sefyllfa. 'Dydi o ddim yn ymddiddori yn y blogosffer Cymreig, ac nid yw ei flog mewn gwirionedd yn rhan o'r blogosffer hwnnw. Ceisiaf gynnig ychydig o gymorth iddo ddod i delerau efo'r anghyfiawnder erchyll mae'n gorfod ymdopi a fo.

Paul - mathemateg syml sydd y tu ol i'ch problem - 'does yna ddim cynllwyn gan flogwyr Cymreig yn gyffredinol na'r Pleidwyr drwg, drwg chwaih. Petai yna un fi fyddai'r cyntaf i wybod - a 'dwi'n gwybod dim. Fodd bynnag, mae yna scene blogio gwleidyddol Cymreig - mi'r ydan ni'n darllen blogiau ein gilydd. Anaml iawn er enghraifft y byddaf i'n darllen blog o'r tu allan i Gymru (ag eithrio poliicalbetting.com) . Mae'n dilyn felly ein bod ni'n pleidleisio i'n gilydd yn hytrach nag i flogiau o'r tu allan i Gymru.

Oherwydd bod y pleidleisiau o Gymru yn tueddu i fynd i flogiau Cymreig mae'r ffaith nad oes llawer o flogiau Cymreig yn cael ei negyddu o safbwynt pleidleisio. Mewn sefyllfa lle mae pleidleisiau yn cael eu bwrw mewn cylch cyfyng, mae pob pleidlais yn fwy pwerus na'r rhai lle maent yn cael eu dosbarthu'n ehangach.

Mae yna fwy o flogwyr a phleidleiswyr o lawer yn Lloegr - ond mae eu pleidleisiau yn cael eu gwasgaru'n eang iawn. Mae yna llai o bleidleiswyr yng Nghymru - ond 'does yna ddim yn agos cymaint o flogiau i bleidleisio trostynt - felly mae mwy ohonynt yn mynd i'r un blogiau. Mae'r cylch pleidleisio yn gyfyng.

Mae hyn yn wir am flogiau sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng. Mae yna is scene Cymraeg ei hiaith. Ychydig o flogiau felly sydd ar gael - ond mae siaradwyr Cymraeg yn tueddu i bleidleisio trostynt a pheidio gwasgaru ymhellach. Mi fyddwn yn tybio i mi dderbyn pleidleisiau'r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg a bleidleisiodd. Pe bawn yn 'sgwennu yn Saesneg, ni fyddai llawer o'r rheini ar gael i mi.

'Dydi'ch blog chi ddim yn un arbennig o Gymreig, ac nid yw'n rhan o'r scene mewn gwirionedd. O ganlyniad rydych yn cystadlu efo blogiau o'r blogosffer Seisnig - lle ceir mwy o bleidleisiau, ond hefyd mwy o gystadleuaeth am bleidleisiau.

'Rwan, er gwaethaf yr hunan bwysigrwydd a'r sancteiddrwydd, a'r ymlyniad rhyfedd i Peter Hain 'dwi'n hoff o Paul Flynn. Mae'n Gymro da ac yn ddatganolwr brwd. Mae ymhell bell o fod yn un o'r defaid llywaeth, lleddf ac ufudd, y nodwyr pennau ar clywch clywchwyr proffesiynol sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o etholaethau Llafur yng Nghymru. Unoliaethwr, ond unoliaethwr 'da'. Yn yr ysbryd yna mae gen i fymryn o newyddion da iddo o'r holl fusnes - sef hyn:

Y rheswm bod yna gorlan neilltuol Gymreig wedi datblygu yn y blogosffer gwleidyddol ydi oherwydd bod Cymru wedi datblygu ei gwleidyddiaeth neilltuol ei hun. Adlewyrchiad o'r Byd go iawn ydi'r blogosffer, ac adlewyrchiad o'r Byd gwleidyddol ydi'r blogosffer gwleidyddol.

Ugain mlynedd yn ol (petai'r We yn bodoli bryd hynny), byddai blog Mr Flynn ymhell o flaen y blogiau Cymreig eraill - a dweud y gwir go brin y byddant yn bodoli. Byddwn yn meddwl y byddai'n cytuno mai pris bach i'w dalu ydi cael cweir gan flog Vaughan, neu hyd yn oed flogmenai er mwyn gweld Cymru'n datblygu fel gwlad efo'i gwleidyddiaeth unigryw a neilltuol hi ei hun.

Ordovicius

Mae'n ddrwg gen i nodi nad ydi fy nghyfaill Simon wedi cymryd ei gwymp yn rhestr y blogwyr yn arbennig o dda.

Ta waeth - 'dwi'n siwr y bydd yn ol yn ei briod le yn y tri uchaf y flwyddyn nesaf - os y bydd yn cofio blogio weithiau wrth gwrs - sy'n fwy nag y gellir ei ddweud am Mr Paul Flynn.

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 2

'Dwi am gychwyn trwy ddyfynu rhan o ymateb HRF i fy sylwadau yn ail ran ei ymateb i mi:

Os ydy pobl Bontddu am gadw eu hysgol , iawn gad iddynt dalu, trwy dreth blwyfol, y swm uwchben y cyfartaledd i'w gadw ar agor. Os yw'r gost yn rhy uchel i ganiatáu i hynny digwydd gad i fwrdd yr ysgol penderfynu uno efo'r Bermo, y Ganllwyd, Llanelltud, Dolgellau neu Lesotho er mwyn cyfiawnhau cadw presenoldeb ysgol yn y Llan. Gad i bobl Bontddu, yn hytrach na swyddogion Caernarfon, penderfynu nad yw cadw ysgol y llan yn syniad cynaliadwy!

Cyfeirio mae HRF yma wrth gwrs at y ddadl ysgolion, ac mae'n cynnig ateb i ddwy o'r elfennau sy'n gyrru'r agenda ailstrwythuro ysgolion tros Gymru, sef cost ysgolion llai a'r gwahaniaeth rhwng gwariant y plentyn mewn ysgolion mwy a rhai llai. Er bod y ddwy elfen yma'n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn debyg, maent mewn gwirionedd yn wahanol - mae'r naill yn ymwneud ag effeithiolrwydd cyllidol tra bod y llall yn ymwneud a thegwch cymdeithasol.

Mae'n disgrifio ei ateb - sef rhoi'r cynnig i godi treth cyngor uwch mewn ardal os ydi ysgol yn ddrud i'w chynnal - fel un ceidwadol. Mae'r sylw yn hollol gywir - mae'n ateb ceidwadol yn ystyr ariannol / cyllidol y gair hwnnw. 'Dwi'n ystyried y syniad hefyd yn un diddorol iawn - er na fydd o fawr o syndod i neb sy'n darllen y blog hwn yn aml nad ydw i'n cael fy hun ar yr un ochr i bethau nag Alwyn. Mater i lywodraeth San Steffan wrth gwrs fyddai newid deddfwriaeth trethiant - felly ar y lefel honno y byddai mynd i'r afael a mater fel hyn. 'Dwi'n cymryd mai trwy refferendwm lleol y byddai cymuned yn penderfynu os ydynt eisiau ysgol neu beidio.

Gadewch i ni edrych ar ychydig o ffigyrau. Cyn dechrau dyliwn bwysleisio nad ydw i yn defnyddio ffigyrau go iawn yma - does gen i ddim rhai wrth law, a byddai'n amhriodol ymdrin ag ysgolion penodol ar flog sy'n gyhoeddus i bawb.

Cymerer am funud bod ysgol fechan o 23 o blant, a bod y gwariant y pen ar y plant hynny yn £5,200, tra bod gwariant cyfartalog y sir mae'r ysgol ynddi yn £2,700. Ceir gwahaniaeth felly o £2,500 y plentyn rhwng gwariant yr ysgol a'r gwariant cyfartalog. O gyfieithu hyn i wariant tros yr ysgol byddwn yn son am 23 x £2,500 sydd yn £57,500. Felly o gymryd syniad HRF ar ei symlaf, byddai'n rhaid codi cymaint a hynny trwy drethiant lleol ychwanegol yn y gymuned o dan sylw.

Mae'n rhesymol cymryd mai cymuned o tua 400 o bobl fyddai'n cynnal ysgol o'r maint yma. Gallwn gyfieithu hyn i 200 cartref. Felly byddai'n rhaid i'r 200 cartref yna godi £57,500 trwy drethiant lleol ychwanegol. Mae hyn yn swm sylweddol o bres. Byddai'r dreth ychwanegol yn £287.50 y flwyddyn yn ychwanegol i bob cartref yn yr ardal.



Mae hefyd yn rhesymol cymryd y byddai 23 o blant yn dod o tua 15 teulu gwahanol. Byddai tua 200 o deuluoedd yn y pentref. Canran fechan o deuluoedd fyddai efo plentyn yn yr ysgol gynradd. Mae'n ddigon posibl y byddai rhieni a pherthnasau agos y 23 plentyn sydd yn yr ysgol yn ystyried bod talu £300 yn rhesymol am addysg leol i'w plant - ond son am efallai chwarter y tai yn y gymuned ydym ni wedyn. Fyddai'r tri chwarter arall eisiau talu bron i £300 ychwanegol? Efallai, ond fyddwn i ddim yn betio'n rhy drwm ar ganlyniad cadarnhaol refferendwm a dweud y gwir. Byddai modd chwarae o gwmpas efo'r ffigyrau wrth gwrs - disgwyl dim ond hanner y gost ychwanegol i gael ei godi'n lleol ac ati.

Ta waeth am hynny, mi gymerwn am ennyd bod pobl yn pleidleisio'n gadarnhaol mewn refferendwm ac ystyried y goblygiadau.

Yn gyntaf, byddai byw mewn llefydd gwledig yn ddrytach na fyddai byw mewn cymunedau trefol. Mae hyn eisoes yn wir wrth gwrs - mae'r ffaith bod pobl yn gorfod teithio ymhell i ganolfannau cyflogaeth ac at wasanaethau yn golygu bod cost uwch i fyw mewn ardal wledig beth bynnag. Os ydi'r ardal yn un sy'n apelio at bobl 'o'r tu allan' mae'r gost yn uwch eto oherwydd bod tai yn fwy drud nag ydynt mewn canolfannau trefol. Cost uwch byw mewn llefydd gwledig ydi un o'r prif ffactorau pam bod pobl yn symud o gymunedau gwledig i rhai trefol. Byddai trefniant fel hyn yn atgyfnerthu'r broses - y broses yma ydi prif ffynhonnell argyfwng ysgolion bychain yn y lle cyntaf.

Yn ail byddai'n gynsail gwirioneddol beryglys i gefn gwlad. Mae pob gwasanaeth yn ddrytach i'w ddarparu yng nghefn gwlad nag yn unman arall - hel sbwriel, fan llyfrgell, cymorth yn y cartref - pob un dim. Ar hyn o bryd mae'r gost ychwanegol yma'n cael ei rannu rhwng pawb - pobl sy'n byw mewn cymunedau trefol a rhai gwledig fel ei gilydd. Byddai gwneud i gymunedau dalu union gost y gwasanaethau maent yn ei dderbyn unwaith eto'n gwneud ardaloedd gwledig yn anatyniadol i fyw ynddynt a rhai trefol yn fwy atyniadol.

Mae'n eironi am wn i bod pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig (fel HRF) yn tueddu i fod yn geidwadol, tra bod rhai sy'n byw mewn cymunedau trefol (fel fi) yn tueddu i fod yn llai felly. Byddai gweithredu egwyddorion ceidwadiaeth cyllidol ar sir sydd a chymunedau cymysg (hy rhai trefol a gwledig) fel Gwynedd yn wirioneddol niweidiol i gefn gwlad (ac yn gymharol fanteisiol i gymunedau trefol).

Mae'r syniad yn un diddorol - ond 'dwi'n anghytuno sylfaenol efo fo oherwydd y byddai'n arwain at wneud cefn gwlad yn llai hyfyw o lawer nag yw heddiw.

Friday, August 28, 2009

Brogarwch vs Cenedlaetholdeb rhan 1

'Reit ta, brogarwch a 'ballu.

Cafwyd cryn ymateb i fy mlogiad oedd yn awgrymu bod honni i fod yn genedlaetholwr / wraig a phleidleisio i bleidiau rhanbarthol yn anghydnaws a'i gilydd. 'Dydw i ddim yn cytuno efo'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau mae gen i ofn. Mi gawn i olwg brysiog ar un neu ddau ohonynt. Mi gychwynwn ni gyda chyfraniad Dyfrig ar ei flog answyddogol.

Dadl lled Adferaidd sydd gan Dyfrig yn y bon - sef bod amddiffyn y Gymraeg yn bwysicach na dim arall gwleidyddol ac mai ar lefel Gwynedd gyfan y gellir gwneud hynny orau. 'Dwi'n gweld tair problem sylweddol efo'r dadansoddiad yma.

Yn gyntaf tua un siaradwr Cymraeg o pob wyth sy'n byw yng Ngwynedd. Yn ganrannol mae'r Gymraeg yn gryfach yng Ngwynedd nag yw mewn unrhyw sir arall, ond mae dadansoddiad sy'n anwybyddu saith o pob wyth siaradwr Cymraeg yn amlwg yn ddiffygiol. Mae unrhyw strategaeth i amddiffyn y Gymraeg angen bod yn ddeublyg - yn lleol a chenedlaethol.


'Dwi'n derbyn wrth gwrs bod Gwynedd ar y blaen i pob sir arall o ran amddiffyn y Gymraeg, a 'dwi hefyd yn nodi mai go brin y byddai'r sir mor flaengar oni bai am ddylanwad cryf Plaid Cymru arni.

Yn ail mae'r feddylfryd Adferaidd wedi dyddio bellach - meddylfryd sy'n canolbwyntio ar y gwledig a'r gorllewinol ydi hi yn y bon. Pan fydd haneswyr yn y dyfodol yn edrych yn ol ar hynt y Gymraeg yn nhraean olaf y ganrif ddiwethaf a chychwyn y ganrif yma, nid y patrwm mwyaf amlwg fydd un o ddirywiad ond yn hytrach ddwy un o ailddosbarthiad. Mae'r blog hwn eisoes wedi nodi bod 19 o'r 20 ward sydd ag 80% neu fwy yn siarad Cymraeg yn rhai trefol (neu o leiaf fwrdeisdrefol). Trefol hefyd ydi'r ardaloedd lle cafwyd twf yn y nifer a'r canrannau sy'n siarad Cymraeg. Ardaloedd gwledig ydi'r rhai lle cafwyd y lleihad mwyaf o ran canrannau a niferoedd.

'Dydi hi ddim yn bosibl edrych ar Gymru a'r Gymraeg yn yr un ffordd yn 2009 nag oedd hi yn 1979 - mae digwyddiadau, neu yn hytrach brosesau cymdeithasegol wedi trawsnewid pethau. 'Does yna ddim ffordd sicrach o niweidio'r Gymraeg na chymryd arnom ein bod yn byw mewn gwlad sydd wedi diflannu ers degawdau.

Yn drydydd dydi hi ddim yn bosibl trin un agwedd ar fywyd cenedlaethol a gwleidyddiaeth - un pwysig iawn, ond un cyfyng fel yr unig reswm tros wleidydda yn etholiadol. Nid felly mae gwleidyddiaeth etholiadol yn gweithio.

Thursday, August 27, 2009

Guto, David ac Oscar

'Dwi'n rhyw ddeall o flog Ceidwadwyr Aberconwy nad yw pawb o griw'r cwch Geidwadol yn rhwyfo i'r un cyfeiriad yn yr etholaeth.

Waeth i mi heb a honni fy mod yn arbenigwr ar yr etholaeth arbennig yma. Er ei bod drws nesaf i'r un 'dwi'n byw ynddi mae yna nifer o etholaethau eraill 'dwi'n eu hadnabod yn well o lawer. Serch hynny hoffwn wneud sylw neu ddau ar y ddadl rhwng Oscar - Ceidwadwr ac awdur un o flogiau mwyaf diflas a phlwyfol Cymru a Guto Bebb - ymgeisydd y Toriaid yn yr etholaeth.

I ddechrau mae Oscar yn cwyno bod ei sylwadau ar flog Ceidwadwyr Aberconwy yn cael eu cymedroli - hynny yw nad ydynt yn cael eu cyhoeddi. 'Dwi wedi cael yr un broblem pan 'dwi wedi ceisio gwneud sylwadau (digon ffeind a chymharol anwleidyddol). 'Dwi ddim yn meddwl bod fy sylwadau fi wedi cael eu cymedroli - 'dwi'n weddol siwr bod nam technegol ar y blog ac nad yw'n bosibl gadael sylwadau o bob peiriant yno. Mae'r diffyg sylwadau cefnogol neu feirniadol, yn awgrymu fy mod yn gywir.





Mae Oscar yn cymharu Guto'n anffarfiol efo David Jones, aelod seneddol etholaeth gyfagos Gorllewin Clwyd ac awdur blog sydd bron mor ddiflas (ond ddim mor blwyfol) ag un Oscar ei hun. Mae'n ymddangos bod y naill yn ganolbwynt gweithgaredd brwdfrydig a hynod effeithiol tra bod y llall yn treulio'i oriau'n hamddena mewn hammock yng ngardd gefn ei annedd sylweddol sydd wedi ei leoli yn rhywle anymunol, gorllewinol a Chymreig ynghanol y defaid, y derwyddon, y niwl, y gwynt a'r eithafwyr.

'Rwan, dydw i'n amlwg ddim yn un o gefnogwyr mawr Guto - ond efallai y dyliwn dynnu sylw at ganlyniadau'r etholiadau cyffredinol diwethaf. Roedd Guto'n sefyll yn hen sedd Conwy tra bod David erbyn hynny wedi dianc o'r fan honno i sedd mwy Ceidwadol Gorllewin Clwyd. Bu bron iddo a chyflawni'r wyrth o fethu a churo Gareth Thomas. Roedd yna ogwydd o fwy na 4% tuag at Guto tra bod y gogwydd tuag at David yn llai na hanner hynny. Yn wir perfformiad Guto oedd yr un gorau i'r Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru, ac un o'r rhai gorau yng Nghymru gyfan ar ddiwrnod digon symol i'r Toriaid.



Cwyn fawr arall Oscar ydi bod Guto'n ymddiddori gormod mewn materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad ac mewn etholaethau cyfagos (hy rhai gorllewinol llawn defaid, derwyddon, niwl, nashis ac ati). 'Rwan mae'r gwyn gyntaf yn wirioneddol idiotaidd gan y byddai osgoi trafod materion sy'n ymwneud a'r Cynulliad yn golygu osgoi trafod tua 80% o'r hyn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar etholwyr Aberconwy. Mae'n rhaid cyfaddef bod diddordeb mawr Guto yn Arfon ychydig yn od ar un olwg, ond rhesymau - ahem - hanesyddol sydd wrth gefn hynny. Mae hefyd yn digwydd byw yn yr etholaeth honno.

Felly beth yn union ydi problem Oscar? Gellir cael goleuni ynglyn a hyn (os fawr ddim arall) ym mlog David Jones - blog mae Oscar yn meddwl y Byd ohono. 'Dwi'n rhestru teitlau diweddar blogiadau David:

Prescott Clears It Up.
Dump Russell Brand & Save £1,000,000.
Healthandsafety Corner - rhywbeth am flodau yn Llundain.
Time to reassess CCTV - rhywbeth am gamerau yn Llundain.
PMS Headache - rhy ddiflas i mi ddarllen y peth i gyd ond rhywbeth i'w wneud efo llefarydd Brown ar rhywbeth neu'i gilydd.
Redwood is Right; Recall Parliament.
More Power for Councils.
Lewis Letter Doesn't Stack Up - roeddwn yn meddwl am eiliad mai cyfeirio at lythyrwr mwyaf toreithiog Cymru (ac efallai'r Byd), Robin Lewis oedd David yma, ond rhywun o'r enw Ivan Lewis sy'n rhywbeth neu'i gilydd yn y Swyddfa Dramor sydd ganddo mewn golwg.
Quintissentially Mandelson.
Shame is Too Much To Expect From Mr MacAskill.
Miliband and Gadaffi Can't Both Be Telling The Truth.
Miliband's Silence Dishonours Britain.

Mae hanner y lincs sydd ym mlog David yn cyfeirio rhywun at ddeunydd darllen dyddiol y dyn - y Telegraph, neu'r Sunday Times.

'Rwan mi wnes i awgrymu ar gychwyn y darn yma mai blog Oscar ydi'r mwyaf cachlyd yng Nghymru - ond o nofio trwy'r llyn o ddiflasdod yma, 'dwi wedi newid fy meddwl. Yr unig flog gwaeth nag un Oscar ydi blog ei arwr. 'Does yna ddim byd diddorol, dim byd lleol, dim byd gwreiddiol, dim byd treiddgar, dim mymryn o wybodaeth na ellid ei gael yn rhywle arall ar gyfyl y domen dail yma o flog. Y cwbl sy'n cael ei gyflwyno ger ein bron ydi ailadroddiad o ddehongliad Adain Dde bland a chwbl ragweladwy'r papurau mae rhyw greadur druan yn gorfod eu stwffio trwy dwll llythyrau David pob bore. Mae cadw'r blog yn wastraff amser llwyr.

Pam bod Oscar wedi dotio cymaint ar flog David felly - onid yw'n gallu fforddio i brynu'r Telegraph a'r Sunday Times trosto'i hun?

Efallai, ond mae'n debyg gen i mai Seisnigrwydd world view y blog sy'n apelio at Oscar druan. Mae ei flog o ei hun yn Seisnig ond yn lleol o ran ei ddiddordebau, tra bod un David yn Seisnig ond yn 'genedlaethol' o ran ei ddiddordebau yntau. Mae'r ddau yn mynd efo'u gilydd fel hufen a jam. Mae blog Aberconwy yn cynnwys elfennau lleol a 'chenedlaethol'. Mae rhywfaint o'r 'lleol' yn ymwneud ag ardal ehangach na gogledd etholaeth Aberconwy, ac mae'r elfennau 'cenedlaethol' yn genedlaethol yn ystyr Cymreig yn hytrach na Phrydeinig y gair hwnnw.

Problem Guto ydi ei fod yn rhy Gymreig (ac efallai'n rhy wrthnysig Gymreig) i gydadran sylweddol o aelodau a chefnogwyr plaid sydd yn ei hanfod yn Brydeinllyd o ran gwleidyddiaeth ac yn Seisnig o ran diwylliant. Mi fyddai un neu ddau yn dweud bod hon yn groes mae wedi ei chreu iddo'i hun - ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn rhyw gydymdeimlo efo fo am unwaith.

Wednesday, August 26, 2009

Mr el-Megrahi a Lt William Calley (neu fideos gwleidyddol 4)


Fel y gwyddoch 'dwi wedi bod i ffwrdd am gyfnod - ond roedd stori rhyddhau
Abdelbaset Ali al-Megrahi a'r ymateb hysteraidd a'r sgorio pwyntiau gwleidyddol idiotaidd gan y pleidiau unoliaethol a'u cefnogwyr a gododd yn sgil hynny yn stori hyd yn oed yn Bosnia.

'Rwan dydi rhyddhau carcharorion sydd wedi cyflawni gweithredoedd erchyll gan wleidyddion ddim yn arbennig o anarferol - yn wir 'dydi o ddim yn anarferol o gwbl.

'Dwi'n siwr bod darllenwyr blogmenai yn cofio Jack Straw (a'r llysoedd) yn rhyddhau dyn oedd wedi lladd llawer mwy o bobl na phawb arall yr ydym yn son amdanynt yn y blog hwn efo'i gilydd. Llun o'r cyfaill hwnnw, ei wraig ac aelod o blaid Mrs Annabelle Goldie a aeth ati i ymgyrchu gydag arddeliad a brwdfrydedd o blaid ei ryddhau a geir isod.



Enghraifft arall oedd rhyddhau 428 o garcharorion yng Ngogledd Iwerddon (gan gynnwys 143 oedd wedi eu carcharu am oes) ar ddiwedd y ddegawd diwethaf fel rhan o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Roedd y rhain yn cynnwys dynion megis
Bik McFarlane oedd yn gyfrifol am lofruddio 5 o bobl yn Bayardo Bar ar y Shankill - gan gynnwys tair dynes oedd yn cerdded heibio'r bar - mae'n debyg i Mr McFarlane eu saethu'n stribedi efo machinegun, neu Johnny Adair, gwr bonheddig a oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo'r UFF yng Ngogledd Belfast yn ystod cyfnod pan drochwyd strydoedd cul yr Ardoyne gyda gwaed Pabyddion.

Mae yna ddwsinau o achosion anwleidyddol - er enghraifft rhyddhau Anthony Jeffs oedd wedi lladd heddwas yn ol yn y nawdegau cynnar gan lywodraeth geidwadol.

Mae llawer o'r sterics ynglyn a'r achos yma yn deillio o'r ffaith bod dimensiwn Eingl Americanaidd i'r stori - mae America yn flin iawn am y sefyllfa. Mae gan America hanes hir o ryddhau carcharorion sydd wedi llofruddio wrth gwrs - ond mae'n help mawr os ydi'r carcharor wedi bod yn ddigon gofalus i lofruddio pobl nad ydynt yn Americanwyr. Roedd llywodraeth America yn gefnogol iawn i ryddhau carcharorion Gogledd Iwerddon er enghraifft.

Esiampl (ymysg llawer) o oddefgarwch America tuag at rhai carcharorion ydi achos milwr o'r enw William Calley. Calley oedd arweinydd ymysodiad gan fyddin America ar bentref My Lai yn Fiet Nam ar Fawrth 16, 1968, pan laddwyd rhwng 347 i 504 o drigolion y pentref ('does yna neb yn hollol siwr). Roedd llawer o'r meirwon wedi eu arteithio, eu treisio, wedi eu cam drin yn rhywiol neu wedi cael rhannau o'u cyrff wedi eu torri i ffwrdd cyn eu lladd. Gwrthododd tri o'r milwyr Americanaidd gymryd rhan yn y gyflafan a gwnaethant eu gorau i atal y drychineb. Am eu dewrder cawsant eu condemni yn senedd America, cawsant eu boddi mewn llythyrau bygythiol gwenwynig a gadawyd darnau o anifeiliaid wrth eu drysau.



Cyhuddwyd 26 o swyddogion byddin yr UDA mewn cysylltiad a'r digwyddiad yn 1971. Un yn unig a gafwyd yn euog - William Calley prif swyddog yr uned oedd yn gyfrifol am y gyflafan - cafodd ei ddedfrydu i fywyd o lafur caled yn y carchar. Esgorodd hyn ar gyfnod o hysteria cenedlaethol - nid anhebyg i'r hyn a ddigwyddodd pan ryddhawyd el Megrahi yn America - ond hysteria yn erbyn carcharu, nid hysteria yn erbyn rhyddhau a gafwyd ar yr achlysur hwnnw wrth gwrs.



Gofynodd Jimmy Carter (oedd i ddod yn arlywydd yn ddiweddarach) i bawb ddreifio gyda'u goleuadau ymlaen fel protest. Roedd y baneri yn chwifio ar hanner mast yn Indiana. Aeth George Wallace i weld Calley yn y carchar. Yn ol polau piniwn, roedd 79% o Americanwyr yn erbyn y ddedfryd. Gofynodd nifer o senedd dai taleithiol yr UDA i'r llys fod yn drugarog - er nad oedd gweithrediad cyfraith milwrol yn ddim oll o'u busnes.

Ddiwrnod wedi'r ddedfryd gorchmynodd yr arlywydd (Nixon) y dylai Calley gael ei garcharu o dan amodau House Arrest yn Fort Beling. Yn y diwedd tair blynedd a hanner o ddedfryd a gafodd Calley - y cwbl ohono ag eithrio diwrnod wedi eu dreulio yn ei gartref yn Fort Beling. Daeth y gan bach isod - The Ballad of Lt Calley - yn boblogaidd am gyfnod.

Mwynhewch.



Mae enghreifftiau eraill o ryddhau cynnar yn America- rhai yn ddiweddar iawn. 521 diwrnod o ddedfryd o 4-6 blynedd a dreuliodd Lynndie England - un o arteithwyr Abu Grahib. Dim ond dau aelod arall o'r sawl a arteithiodd (ac oedd hefyd yn gyfrifol am dreisio a llofruddio) carcharorion a gafodd garchar o ganlyniad i'r digwyddiadau hynny - un am fis neu ddau yn unig.

Mae'n un o ffeithiau bywyd bod mewn llywodraeth bod problemau fel yr un oedd yn wynebu llywodraeth yr Alban yn codi o bryd i'w gilydd - cafodd Jack Staw ei hun mewn sefyllfa digon tebyg fel y gwelsom yn gynharach. Mae dadleuon cryf o'r ddwy ochr yn achos Al Megrahi - ond yn ymarferol cyfyng iawn oedd dewis llywodraeth yr Alban - fel mae
blog Saesneg Alwyn yn nodi.

Gall rhywun ddeall ymateb perthnasau'r sawl a laddwyd (er nad ydi'r rheiny yn unfrydol wrth gwrs) ond mae'r ymateb hysteraidd i benderfyniad llywodraeth yr Alban gan wleidyddon unoliaethol yn sinicaidd ar y gorau.

Mae'r safonau dwbl yn America, lle ceir diwylliant o wrthwynebiad i garcharu Americanwyr am ladd neu gam drin tramorwyr, tra'n daer o blaid lluchio'r goriad pan mae tramorwyr yn lladd neu'n cam drin Americanwyr yn waeth na hynny. Duw yn unig a wyr pam bod rhai pobl yr ochr yma i For yr Iwerydd yn is ymwybodol yn rhannu'r gred bod bywydau Americanaidd yn fwy gwerthfawr na bywydau pobl eraill.

Sunday, August 23, 2009

60 blog uchaf Cymru

Mae`n gryn syndod i mi ddeall o flog HRF bod y blog hwn wedi dod yn drydydd. Mae`r ddau sydd o fy mlaenyn flogiau arbennig o dda ac mae nifer dda o`r rhai sy`n is na fi yn fwy haeddianol o lawer na fi hefyd. Beth bynnag diolch i bawb a fotiodd.

`Dwi`n deall o flog Paul Flynn bod cynllwyn gan flogwyr Plaid Cymru i gefnogi ei gilydd.

Mae`n gryn siom i mi na adawodd neb i mi wybod am y cynllwyn hwnnw.

Llythyr o Sarajevo!

Dwi’n ‘sgwennu’r ychydig frawddegau hyn o Sarajevo (mae’n debyg gen i mai dyma’r blogiad Cymraeg cyntaf i ddechrau efo’r frawddeg arbennig yna).

Mae’r drafodaeth (ddiddorol iawn) sydd wedi codi yn sgil fy mlogiad diwethaf ynglyn a’r tyndra a geir rhwng gwleidyddiaeth rhanbarthol a chenedlaetholdeb yn peri cryn syndod i mi – er fy mod yn hapus i fod wedi ysgogi trafodaeth mor ddiddorol. Byddaf yn ymateb i ddau flogiad HRF yn ogystal ag i ddau flogiad Hogyn o Rachub a Dyfrig wedi i mi ddod adref – a chael mynediad fforddiadwy i’r We.

Dwi’n ymwybodol bod ‘sgwennu am wyliau ar flog mentro efelychu’r person boring hwnnw sy’n mynnu dod draw ar ol mynd ar ei wyliau i ddangos ei luniau. Fy mwriad wrth gyflwyno’r sylwadu isod ydi ceisio canolbwyntio ar yr hyn sy’n berthnasol i’r blog gwleidyddol hwn. Os oes yna rhywun ddigon trist i fod eisiau darllen am wyliau rhywun arall, mae gen i flog (‘dwi’n ei gadw ar fy nghyfer i fy hun) ar yr union bwnc yma.

Beth bynnag, yn ol at Bosnia Herzegovina. Efallai bod prif ddinas y wlad yma yn lle addas iawn i drafod y ddeuoliaeth ryfedd sydd rhwng brogarwch a chenedlaetholdeb. Rhag bod neb yn camddeall, ‘dwi ddim yn gwneud cymhariaeth uniongyrchol gyda Chymru yma – mae’r hyn sy’n gwahanu’r Bosniaid yn llawer mwy sylfaenol na’r hyn sy’n ein gwahanu ni, ac mae gwreiddiau`r gwahaniaethau hynny wedi ei blanu’n dwfn yn y pridd lle mae’r hyn sydd wedi hollti Ewrop am ganrifoedd lawer. Mae’r hyn sy’n ein gwahanu ni’n haws mynd i’r afael a fo, diolch byth. Cyffredinol iawn ydi unrhyw gymhariaeth y gellir ei gwneud yma.

Prif enwogrwydd Sarajevo mae’n debyg ydi i’r weithred a gychwynodd y Rhyfel Byd Cyntaf ddigwydd yma, sef llofruddiaeth yr Arch Ddug Franz Ferdinand ym 1914. Ail ymddangosodd y ddinas yn y newyddion rhyngwladol ym 1992 pan oedd yr hen wladwriaeth Iwgoslafaidd yn datgymalu, gydag un gwladwriaeth Iwgoslafia yn troi’n nifer – Serbia, Croatia a Bosnia Herzegovina a effeithwyd yn bennaf gan y rhyfel. Roedd yr effaith ar Bosnia Herzegovina yn bell gyrhaeddol ac yn ddirdynnol – lladdwyd tua 100,000 o boblogaeth o tua 4,000,000, a chafwyd symudiadau poblogaeth anferth. Term a fathwyd yn ystod y cyfnod yma yn Bosnia Herzegovina ydi ‘puro ethnig’.

Ymysodwyd ar Sarajevo gan fyddin Bosniaid Serbia a byddin Iwgoslafia ym 1992. Gwarchau’r ddinas – pan gafodd ei hamgylchynu a’i bomio am 1,400 diwrnod oedd yr hiraf yn hanes modern Ewrop. ‘Dwi’n eistedd wrth deipio hyn ar fryn tua 1km o ganol yr hen dref.


Mae tua hanner y llwybr i lawr i’r dref wedi ei amgylchu gan fynwent sy’n cynnwys cannoedd ar gannoedd o feddi gwyn – pob un ohonynt ar gyfer pobl a laddwyd rhwng 1992 a 1995, pob un ohonynt o ganlyniad i warchau’r Serbiaid. Ceir adeiladau wedi eu difa gan fomio a hoel bwleti ar waliau adeiladau hyd heddiw, er bod y lle wedi ei drwsio yn llawer gwell nag ail ddinas y Weriniaeth – Mostar er enghraifft -

Mae hefyd yn gyffredin i weld rhestr o’r sawl a laddwyd yn y cyffuniau ar adeiladau.


Canlyniad y rhyfel yma ydi Bosnia Herzegovina fel ag y mae heddiw – gwlad sydd efallai’n fwy rhanedig a dysfunctional nag unrhyw wlad arall yn y Byd. Ceir tri grwp ethnig yn y wlad, Bosniaks sy’n Fwslemiaid, Croatiaid sy’n Babyddion, a Serbiaid sy’n dilyn yr Eglwys Uniongred. Mae’r tri grwp yn honni eu bod yn siarad ieithoedd gwahanol – er bod y bobl sy’n deall y pethau yma yn dadlau eu bod oll yn siarad Serbo Croat gydag acenion gwahanol.

Mae enw’r wlad yn gyfuniad o ddau ranbarth daearyddol - Bosnia a Herzegovina.

Mae’r wlad yn cynnwys dwy wladwriaeth – Republika Srpska ar gyfer y Serbiaid a Ffederasiwn y Mwslemiaid a’r Croatiaid. Rhennir y Ffederasiwn i ddeg canton – pob un ohonynt gyda llawer iawn mwy o rym na’n Cynulliad ni. Nid oes rhaid nodi am wn i bod y wlad wedi ei ‘bendithio’ efo digon o bleidiau gwleidyddol – rhai ethnig, rhai cenedlaethol a rhai lleol. Mae ganddynt fwy na 50 ohonynt. Un o’r amryw o broblemau pan ffurfwyd y wlad oedd dod o hyd i faner. Gan nad oedd trigolion Bosnia Herzegovina yn gallu cytuno ar faner, roedd rhaid i’r Undeb Ewropiaidd lunio un ar eu rhan. Baner Croatia sydd i’w gweld yng ngorllewin y wlad, mor gwario’r kuna Croatiaidd neu’r Ewro na’r mark Bosniaidd yn rhai o’r lleoedd hyn. Yn amlwg baner a phres Serbia sydd i’w gweld yn Republika Srpska.

Rwan mae’n amlwg bod y wlad yma’n llanast llwyr fel gwladwriaeth, (er ei bod yn goblyn o le da a rhad i ddod ar wyliau) ar lefel gwleidyddol – y cwestiwn diddorol ydi pam?

Mae’n debyg mai gwraidd y broblem ydi nad oes yna fawr o gytundeb ynglyn a hunaniaeth cenedlaethol – nag yn wir ynglyn a’r cwestiwn os oes yna angen am wladwriaeth o gwbl. Fel Cymru ‘does gan Bosnia Herzegovina ddim llawer o hanes diweddar o fod yn wlad annibynnol – er ei bod wedi bod yn wlad felly am ganrifoedd yn y Canol Oesoedd – ond roedd pawb yn dilyn yr un crefydd bryd hynny – Eglwys Annibynnol Bosnia. Ers hynny bu’r wlad o dan fawd gwahanol ymerodraethau mawr – sefyllfa a roddodd hunaniaeth sylfaenol wahanol i gydrannau gwahanol o’r boblogaeth. – hunaniaethau oedd yn croesi hen fault lines gwleidyddol Ewropiaidd.

Mae’r gwledydd cyfagos yn symlach yn gymdeithasegol o lawer – Croatiaid ydi mwyafrif llethol trigolion Croatia a Serbiaid ydi mwyafrif llethol trigolion Serbia. Mae’r ddwy wlad yn ffyrnig genedlaetholgar – ac mae llawer o drigolion Bosnia Herzegovina yn uniaethu mwy efo’r cymdogion hyn nag ydynt efo’u gwlad eu hunain. Ar y llaw arall crefydd sy’n cadw’r Bosaks at ei gilydd – ac fel cymdeithas dydyn nhw ddim yn cymryd Mwslemiaeth cymaint o ddifri a’r rhan fwyaf o gymdeithasau Mwslemaidd (er mae’n drawiadol mai’r ifanc ac nid y canol oed a’r hen sy’n tueddu i wisgo’n draddodiadol Fwslemaidd yn y dinasoedd o leiaf – ond rhywbeth ar gyfer blogiad arall ydi hynny).

Felly ‘dydi Bosnia Herzegovina ddim yn gweithio fel gwladwriaeth oherwydd diffyg ffocws cenedlaethol, diffyg consensws ynglyn a’r angen am wladwriaeth a gwahaniaethau sylfaenol rhwng cydrannau’r gymdeithas. Mae hyn yn ein hatgoffa o Gymru i raddau – mae ein cymdeithas ni wedi ei rannu – gweler y model tri Chymru er enghraifft ac mae’r ffaith bod y pleidiau unoliaethol yn tra arglwyddiaethu yng Nghymru yn brawf nad oes unrhyw beth yn ymylu at gonsensws am yr angen am wladwriaeth. Ond dyna lle mae’r tebygrwydd yn gorffen – ‘dydi’r gwahaniaethau rhyngom ni ddim yn arbennig o dwfn.

Yr unig wers sydd gennym fel mudiad cenedlaethol i’w ddysgu o brofiad Bosnia ydi y dylid gwleidydda trwy ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhyngom yn hytrach na’r hyn sy’n ein gwahanu. Mae Bosnia Herzegovina wedi methu hyd yn hyn fel gwlad oherwydd bod ei gwleidyddion a’i phobl wedi ffocysu yn llwyr ar yr hyn sy’n eu gwahanu. Y ffordd ymlaen i ni fel gwlad ydi gwneud y gwrthwyneb - gwneud y mwyaf o`r pethau hynny sy`n ein uno.