Sunday, September 13, 2009

Cwestiwn bach i Lais Gwynedd

Hmm dau gyfraniad treiddgar yn ymwneud a chynhadledd y Blaid yn Llandudno tros y dyddiau diwethaf.

Mae Guto Bebb wedi dod i gasgliadau pendant bod y peth i gyd yn bantomeim hyd yn oed cyn iddo ddigwydd - ac felly dangos ei fod yn credu bod ganddo'r gallu anarferol (a defnyddiol 'dwi'n siwr) i ragweld y dyfodol.

Wedyn mae yna un o rants rhannol ddealladwy enwog un o gynghorwyr Llais Gwynedd. Os 'dwi'n deall y tantro yn gywir mae Gwilym wedi cael ei ypsetio'n lan oherwydd i Adam Price feiddio beirniadu'r Toriaid yn ei araith arbennig ddoe.

'Rwan mae'r cwestiwn wedi ei godi ar flog Gwilym eisoes - i bwy mae o'n pleidleisio pan nad yw Llais Gwynedd yn sefyll mewn etholiad? Am resymau sydd yn glir iddo fo'i hun yn unig, nid oedd yn fodlon ateb. Mae ambell i gynghorydd arall Llais Gwynedd yn ddigon gonest i gyfaddef ei fod yn gobeithio gweld llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Toriaid. Mae gonestrwydd yn rhinwedd i'w edmygu.

Felly, yn y gobaith o gael rhyw lun ar ateb, mi ofynaf y cwestiwn eto mewn ffordd ychydig yn wahanol. Ydi Llais Gwynedd yn argymell i'w cefnogwyr beidio a phleidleisio i rhyw blaid neu'i gilydd? Mae dyn yn cymryd (nid bod unrhyw fath o sicrwydd na chysondeb ynglyn a phrosesau meddwl aelodau LlG wrth gwrs) eu bod yn anghymeradwyo pleidleisio i Blaid Cymru, gan eu bod dragwyddol yn cael eu poeni gan weledigaethau erchyll ac anymunol o aelodau'r blaid honno'n dawnsio'n noeth yn y coed efo'r anifeiliaid gwyllt a'r diafol.

Ond beth am eu cyd bleidiau unoliaethol, gwrth genedlaetholgar? Mynegodd Alwyn bryderon eisoes bod aelodau o'i deulu wedi pleidleisio i UKIP oherwydd nad oedd enw aelod o Lais Gwynedd ar y papur pleidleisio. 'Dwi ddim yn credu i hynny ddigwydd yn aml iawn a dweud y gwir, ond mae'n amlwg o dystiolaeth Alwyn iddo ddigwydd ambell waith.

Ydyn nhw'n fodlon o leiaf argymell nad yw eu cefnogwyr yn pleidleisio i'r blaid arbennig honno?

8 comments:

Guto Bebb said...

O tyrd 'flaen Cai, yr oedd fy sylw yn amlwg gyda tafod yn fy moch ac fe fyddai'n rhaid bod yn gyfoglyd o driw i Blaid Cymru i weld unrhyw beth arall yn y cyfraniad ti'n ddigon caredig i gyfeirio ato.

O ran sylwedd y Gynhadledd - dwi'n wirioneddol falch o'r defnydd cyson, syrffedus a hynod ddiflas o'r gair sosialaidd gan arweinyddiaeth y Blaid. Rhyfedd o beth nad yw'r gair BYTH yn croesi gweflau Gareth Jones AC na'r Cynghorydd Phil Edwards yn Aberconwy.

Deallaf fod gan Gareth a Phil aelod o staff sy'n gyn Ryddfrydwr o Loegr. Dim synodod felly fod y Blaid yn Aberconwy yn dilyn traddodiad y blaid honno o gael un neges mewn un rhan o'r wlad ac neges arall i'r ffyddloniaid.

Falle y gwnaf gynnig sylw pellach am hyn maes o law.

Guto

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai, darllen yr edefyn eto! A tud yn ol at y pwynt pwysicaf ydw'i yn ei wneud sef bod Plaid Cymru yn euog o ddifetha' gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru llaw yn llaw gyda'r Plaid Lafur.
Dwi ddim yn hyrwyddo'r Toriaid nac yn annog neb i bleidleisio iddynt -Dim mwy nac ydw i'n annog neb i bleidleisio dros Plaid Cymru. Ar y mater i bwy dwi'n pleidleisio i dwi ddim yn meddwl fod hynny yn berthnasol...y peth pwysicaf ydi mod i yn bwrw fy mhleidlas, neu oleiaf dwi yn troi i fynnu i bleidleisio ;-) ar gyfer etholiadau Ewrop ac mi af i'r Etholiad Cyffredinol...Diolch byth bydd gennym ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad felly yn sicr yn y blwch hynny fydd fy nghroes i yn mynd. Gan obeithio fod hyn yn bodloni dy awch i fysnesu?

Cai Larsen said...

Arglwydd roedd hynna'n sydyn hogiau - blog - bath ac ymatebion. Ydych chi'n dilyn blogmenai'n barhaus.

'Dydw i ddim yn gofyn i ti i bwy ti'n pleidleisio Gwil - mater i ti ydi datgelu hynny - neu pheidio a datgelu hynny.

Gofyn ydw i os ydi Llais Gwynedd yn anghymeradwyo i'w cefnogwyr bleidleisio i unrhyw blaid o gwbl - ac os felly pwy?

Guto Bebb said...

Wrth gwrs fy mod yn dilyn Blog Menai yn barhaol - lle arall ti'n debygol o weld esiampl o eilyn addoli un blaid wleidyddol heb gyfeiriad at reswm, dadl na chysondeb?

Cai Larsen said...

Guto - Wrth gwrs fy mod yn dilyn Blog Menai yn barhaol - lle arall ti'n debygol o weld esiampl o eilyn addoli un blaid wleidyddol heb gyfeiriad at reswm, dadl na chysondeb?

Blog Ceidwadwyr Aberconwy efallai?

rhydian fôn said...

Mae'n amlwg nad yw Gwilym wedi llwyddo deall y gwahaniaeth rhwng egwyddorau plaid wleidyddol a rheidrwydd gweithredol. Mze egwyddorion y Blaid yn gyson, er fod ymateb i faterion gweithredol mewn gwahanol ardaloedd yn wahanol, fel y dylai fod.

Guto Bebb said...

O tyrd 'flaen. Dyddiadur ymgyrch yw'r blog Ceidwadol yn Aberconwy fwy na dim arall ac fe wyddost hynny.

Dwi'n licio sylw Carwyn am belidlais i'r Blaid = Pleidlais i'r Toriaid. Mae'n llwyddo'n rhyfeddol i anwybyddu'r ffaith fod pleidlais i Blaid Cymru yn 2007 wedi golygu parhad llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.

Beth bynnag, ffwrdd a fi rwan yn dilyn cael fy fix dyddiol o bropoganda un-llygeidiog sy'n datgan pam fod Plaid yn ateb i holl broblemau'r byd!

Cai Larsen said...

Guto - Beth bynnag, ffwrdd a fi rwan yn dilyn cael fy fix dyddiol o bropoganda un-llygeidiog sy'n datgan pam fod Plaid yn ateb i holl broblemau'r byd!

Mae'n braf cael bod o gymorth i bobl.

Rhydian - Mae'n amlwg nad yw Gwilym wedi llwyddo deall y gwahaniaeth rhwng egwyddorau plaid wleidyddol a rheidrwydd gweithredol. Mze egwyddorion y Blaid yn gyson, er fod ymateb i faterion gweithredol mewn gwahanol ardaloedd yn wahanol, fel y dylai fod.

Mae yna broblem fechan ynglyn a deall sut mae'r Cynulliad yn cael ei gyllido hefyd.