Monday, August 31, 2009

Beth sydd gan blogmenai a trinity Mirror yn gyffredin

Bydd darllenwyr rheolaidd y blog hwn yn ymwybodol nad wyf yn or hoff o bapurau Trinity Mirror.

'Dwi ddim yn hollol siwr os i lawenhau neu beidio o ddeall bod gwerthiant papurau dyddiol a Sul y grwp anymunol, Prydeinllyd hwn yng Nghymru yn syrthio fel carreg. Wele'r ffigyrau diweddaraf:

South Wales Echo - 41,550 (-9.9%)
The Western Mail - 33,693 (-10.3%)
Daily Post (Cymru) - 34,601 (-5.0%)
Wales on Sunday - 44,591 (-16.5%)

Ar un olwg mae hyn yn newyddion arbennig o dda, ond yr unig broblem ydi bod y pedwar rhecsyn uchod o leiaf yn Gymreig yn ystyr ehangaf y gair hwnnw. Efallai nad ydi eu cyn ddarllenwyr yn darllen dim byd Cymreig bellach.

Mae dyn yn rhyw hanner gobeithio bod y We'n llenwi'r bwlch, ond a barnu oddi wrth fy mlog fy hun sydd wedi colli darllenwyr tros y mis neu ddau diwethaf, 'dydi hynny ddim yn wir chwaith.

Mae blogmenai pob amser yn awyddus i dorri tir newydd - ac yn yr ysbryd hwnnw mi fyddaf o hyn allan yn cyhoeddi maint fy nghynulleidfa misol ar ddiwrnod olaf pob mis - hyd yn oed os ydi nifer fy narllenwyr yn mynd i'r un cyfeiriad a nifer darllenwyr papurau Trinity Mirror.






4 comments:

Rhys Wynne said...

Cofia bod llawr yn darllen dy flog di drwy ddarllenydd RSS, felly oni bai mod i eisiau gadael sylw ar dy flog, faswn i ddim wedi ymweld รข'r wefan. MAe 12 yn darllen dy flog drwy Bloglines ac mae nifer o wasanaethau tebyg.

Anonymous said...

Gair bach o eglurhad, plis. Beth yw diffiniad page loads, unique visitors a returning visitors?

Cai Larsen said...
This comment has been removed by the author.
Cai Larsen said...

Fel a ganlyn yn ol y Wefan:

Returning Visitors - Based purely on a cookie, if this person is returning to your website for another visit an hour or more later

First Time Visitors - Based purely on a cookie, if this person has no cookie then this is considered their first time at your website.

Unique Visitor - Based purely on a cookie, this is the total of the returning visitors and first time visitors - all your visitors.

Page Load - The number of times your page has been visited.

'Dwi'n prysuro i nodi nad ydi cyfrif o dyweder 2,000 o Unique Visitors pob mis ddim yn golygu bod unrhyw beth tebyg i'r rhif hwnnw o bobl gwahanol wedi ymweld. Mae'r rhaglen yn cyfri ar sail dyddiol - felly mae ymwelwyr dyddiol yn cael eu hail gyfri yn ddyddiol.