Monday, July 27, 2009

Adeiladu'r Great Western, Iwerddon y bedwaredd ganrif ar bymtheg a Chymru heddiw

Beth sydd gan y system rheilffyrdd, - Ghorta Mhor - y Newyn Mawr yn Iwerddon a dyfodol cyfansoddiadol Cymru yn gyffredin? Dim llawer ar yr olwg gyntaf mae'n debyg - ond mae'r ddadl hirfaith ynglyn a thrydaneiddio rheilffordd y Great Western wedi gwneud i mi feddwl. Dyna un o fanteision / anfanteision cymryd rhan mewn dadleuon ar y We - mae cysylltiadau anisgwyl yn dod i'r wyneb weithiau.

I dorri stori hir yn fyr mae nifer yn gweld arwyddocad i'r ffaith bod Plaid Cymru wedi croesawu'r datganiad gan lywodraeth Prydain bod hen reilffordd y Great Western i'w thrydaneiddio, a bod yn ddigon digywilydd i hawlio peth o'r clod.

Prif ffocws y feirniadaeth ydi y byddai'n fwy priodol o safbwynt cenedlaetholgar i ddatblygu'r is strwythur trafnidiaeth o'r De i'r Gogledd sy'n dreuenus o gyntefig ac aneffeithiol. Mae yna fwy nag awgrym yn y feirniadaeth yma bod y gwariant ar drafnidiaeth Gorllewin / Dwyrain yn rhan o batrwm polisi bwriadol gan lywodraeth Prydain o hybu cysylltiadau o bob math rhwng rhanbarthau o Gymru a rhanbarthau o Loegr, tra'n anwybyddu'r angen i ddatblygu cysylltiadau oddi mewn i Gymru. 'Dwi wedi ceisio dangos yma nad polisi bwriadol oedd hyn yng nghyd destun adeiladu'r rheilffyrdd, ond canlyniad naturiol caniatau i rymoedd y farchnad gymryd eu cwrs. Roedd Cymru fel endid economaidd wedi ei hen ddifa ers canrifoedd - prin bod angen cymryd camau strategol i'w ddifa eto.

Pwynt fy mlogiad oedd mai grymoedd y farchnad oedd yn gyrru datblygiad y system rheilffyrdd (ac yn wir y rhan fwyaf o'r system drafnidiaeth) ym Mhrydan Oes Fictoria a bod hyn yn sefyllfa wahanol i nifer o wledydd eraill Ewrop. Ac wrth gwrs roedd caniatau i'r farchnad gymryd ei gwrs yn un o ideolegau mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Damcaniaethau Adam Smith oedd balast deallusol laissez-faire - y gred bod ymyraeth llywodraethol yn ei hanfod yn wrth gynhyrchiol. 'Dydw i fy hun ddim yn derbyn bod Smith mor benderfynol ynglyn a'r egwyddor hwnnw nag oedd ei ddilynwyr yn ystod Oes Fictoria - ond roedd ffurf bur iawn ar laissez-faire yn gweddu buddiannau dosbarthiadau busnes y cyfnod, a chymerwyd y rhannau o'r hyn roedd gan Smith i'w ddweud oedd yn cefnogi rhyddid llwyr i ddynion busnes a'i droi'n ideoleg - ideoleg llywodraethol am lawer o'r ganrif.

Wrth fyfyrio ar y blogiad fedrwn i ddim peidio a meddwl am y tirwedd ideolegol a deallusol rhyfedd oedd yn bodoli ym Mhrydain - ymysg y dosbarthiadau oedd yn rheoli o leiaf yn Oes Fictoria. Mi awn am dro bach i Iwerddon yn ystod y blynyddoedd roedd y Great Western yn cael ei hadeiladu cyn edrych ar y tirwedd hwnnw.


Mae pawb am wn i wedi clywed am y Newyn Mawr - Ghorta Mhor - trychineb cenedlaethol o'r radd flaenaf a ddigwyddodd yn yr Iwerddon rhwng 1845 a 1852. Yn fras iawn methodd y cnwd tatws am saith blynedd yn olynnol ac arweiniodd hyn at sefyllfa gatyclismaidd ar hyd a lled cefn gwlad Iwerddon. Roedd y rhan fwyaf o'r tlodion yn llwyr ddibynnol ar datws er mwyn bwyta, ac er mwyn talu'r rhent. Heb y tatws roedd pobl - miliynau o bobl - yn colli eu gallu i fwydo eu hunain a'u plant, ac roeddynt hefyd yn colli eu gallu i gysgodi a dilladu'r plant hynny.




Canlyniad hyn yn ei dro oedd creu sefyllfa lle'r oedd canoedd o filoedd o bobl ar unrhyw amser penodol yn crwydro lonydd cefn gwlad heb gysgod a heb fwyd. Nid llwgu i farwolaeth oedd y rhan fwyaf o bobl - roeddynt wedi eu gwanio i' fath raddau nes eu bod yn agored iawn i bob math o afiechydon. Roedd yr arfer treuenus o geisio bwyta tatws pydredig hefyd yn achosi afiechydon. Ceir blas o'r drychineb yn y sylwadau hyn gan y Capten Wynne, aelod o luoedd diogelwch Prydain oedd wedi ei leoli yn Clare yn 1846:

I ventured through that parish this day, to ascertain the condition of the inhabitants, and although a man not easily moved, I confess myself unmanned by the extent and intensity of suffering I witnessed, more especially among the women and little children, crowds of whom were to be seen scattered over the turnip fields, like a flock of famished crows, devouring the raw turnips, and mostly half naked, shivering in the snow and sleet, uttering exclamations of despair, whilst their children were screaming with hunger. I am a match for anything else I may meet with here, but this I cannot stand

Ymhen cyfnod roedd cyrff yn pydru ar ochr y ffyrdd, mewn cytiau, mewn ogofau ac ati am flynyddoedd oherwydd nad oedd yna ddigon o bobl i'w claddu. Pan oeddynt yn cael eu claddu, yn amlach na pheidio fe'i teflid i feddi anferth yn eu canoedd fel gwartheg - yn ddi arch ac yn ddi amdo. Llun o seremoni goffau swyddogol wrth un o'r beddi hynny a geir isod - mae seremoniau o'r fath - yn swyddogol ac answyddogol yn gyffredin hyd heddiw.





Mae'n debyg i o leiaf filiwn farw ac i o leiaf filiwn orfod gadael y wlad.

Rwan yr hyn sy'n llai adnabyddus ,am wn i , ydi nad oedd y 'newyn' yn newyn yn ystyr technegol y gair hwnnw - roedd yna ddigon o fwyd ar gael ar yr ynys. Yn wir roedd Iwerddon yn allforio cryn dipyn mwy o fwyd nag oedd yn ei fewnforio bron trwy gydol y cyfnod. Allforwyd dwy filiwn chwartel o yd o'r wlad yn flynyddol - digon i fwydo'r holl boblogaeth. Roedd yn arferol i longau o America oedd yn cario bwyd wedi ei roi'n rhad ac am ddim gan rai o drigolion y wlad honno i geisio lliniaru ar y sefyllfa, fynd heibio llongau bwyd oedd yn symud i'r cyfeiriad arall. Un o brif orchwylion y fyddin Brydeinig yn y wlad ar y pryd oedd sicrhau bod y bwyd yn mynd o'r caeau yn saff i'r porthladdoedd heb i'r sawl oedd yn llwgu ei ddwyn.

A benthyg llinell gan RS Thomas - And that was just one island - roedd trychinebau fel hyn yn gyffredin yn ystod y cyfnod ar hyd a lled yr Ymerodraeth Brydeinig - ac ar hyd ymerodraethau eraill hefyd. A dweud y gwir roedd llawer iawn, iawn mwy yn marw o ganlyniad i 'newyn' mewn gwledydd fel India. Os ydych eisiau darllen llyfr i godi gwallt eich pen, darllenwch gampwaith Mike Davis - Late Victorian Holocausts.

Rwan, sut y gallai hyn digwydd? - pam na selwyd y porthladdoedd i atal allforio fel a ddigwyddodd pan oedd sefyllfaoedd bygythiol yn datblygu yn y ddeunawfed ganrif? Mae'r ateb ynghlwn a gwleidyddiaeth thirwedd ideolegol a dealluol yr oedd y sawl oedd yn rheoli'r wlad yn byw ynddo.

Y ddamcaniaeth yr ydym wedi ei hystyried uchod - na ddylid ymyryd yng ngweithredoedd y farchnad oedd un o'r prif ffactorau ideolegol y tu ol i ymateb y llywodraeth i'r drychineb, ond mae'n debyg gen i bod mwy iddi. Byddai'n rhaid i ymlyniad pobl i un ideoleg fod yn rhyfeddol o gryf cyn caniatau iddynt adael i'r fath erchyllderau ddigwydd. 'Roedd yna pob math o ideolegau eraill yn boblogaidd yn Oes Fictoria - ac roedd yn bosibl cyfuno rhai o'r rhain i greu fframwaith ddeallusol oedd yn 'cyfiawnhau'r' Ymerodraeth - ac a oedd hefyd yn cyfiawnhau rheoli mewn modd cwbl ddi drugaredd.

Roedd y Fictorianiaid yn hiliol - i raddau sy'n gwbl estron i ni erbyn heddiw. Ceid gwahanol ddamcaniaethau oedd wedi eu seilio ar ddatblygiadau 'gwyddonol' y cyfnod. Phrenololeg - y gred bod siap y benglog yn effeithio ar sut fath o fenydd sydd gan pobl oedd un o'r rhain. Erbyn diwedd y ganrif roedd pob math o systemau yn bodoli oedd yn rhannu dynoliaeth i gategoriau deallusol gwahanol - roedd yr Hotentots druan ar y gwaelod gan amlaf, tra bod y Gwyddelod tua hanner ffordd i fyny'r ysgol. 'Does dim angen dweud pwy oedd ar ben yr ysgol wrth gwrs.

Roedd yna nifer o syniadauau eraill yn troelli o gwmpas damcaniaethau Thomas Malthus
Gwraidd y damcaniaethu yma oedd y gred bod poblogaeth y Ddaear yn cynyddu'n gynt o lawer na'r cyflenwad bwyd, a bod newyn felly'n anhepgor o bryd i'w gilydd - nid yn unig ei fod yn anhepgor, ond roedd yn rhan naturiol o drefn pethau.


Roedd peth o secteriaeth a gwrth Babyddiaeth y canrifoedd blaenorol wedi goroesi - er bod hwnnw'n edwino erbyn Oes Fictoria - ymhlith Saeson o leiaf. Ac roedd yna elfen o genedlaetholdeb Prydeinig yn rhywle yn y cymysgedd mae'n siwr.

Felly - o gymryd y tirwedd deallusol yn ei gyfanrwydd - na ddylid ymyryd ar farchnadoedd, bod pobl megis Gwyddelod, trigolion India, pobl Affrica ac ati yn is raddol, a bod newyn yn rhan naturiol o drefn pethau gallwn weld sut oedd yn bosibl caniatau i rai o'r erchyllderau a ddigwyddodd yn Oes Fictoria ddigwydd.

Iawn – sut mae’r ymweliad bach yma a thirwedd ideolegol a deallusol y sawl oedd yn rheoli’r Ymerodraeth Brydeinig yn Oes Fictoria (a chanlyniadau gweithredu yn unol a rhesymeg yr ideolegau hynny) yn berthnasol i’r dadleuon sy’n mynd rhagddynt ar y blogosffer Cymreig heddiw?

Mae dwy wers yma:

Yn gyntaf mae’n dangos nad yw’n bosibl deall digwyddiadau yn y gorffennol trwy edrych arnynt trwy brism ein tirwedd gwleidyddol ni ein hunain – neu ran o’r tirwedd hwnnw.. Mae llawer o Wyddelod heddiw yn gweld An Ghort Mhor yng nghyd destun gwrthdaro mwy diweddar rhwng dau fath gwahanol iawn o genedlaetholdeb – cenedlaetholdeb Gwyddelig a Phrydeinig.

Mae’r canfyddiad yma yn rhannol gywir – mae ystyriaethau ‘cenedlaetholgar’ yn ystyr ehangaf y gair hwnnw yn aml yn rhan o’r gwead o ideolegau a chanfyddiadau sy’n creu’r tirwedd sy’n rhoi’r cyd destun i brosesau hanesyddol. Ond un elfen yn unig ydyw – fel y gwelwyd, roedd elfennau oedd yn ymwneud a dosbarth cymdeithasol, elw ariannol, ffug wyddononiaeth, secteraiaeth a hiliaeth yn rhannau o’r wead a ganiataodd i’r ‘newyn’ ddigwydd hefyd – rhannau pwysicach na chenedlaetholdeb mae’n debyg.

Yn yr un modd mae gweld patrwm hir dymor a chyson o rannu Cymru’n fwriadol ac intigreiddio gwahanol rannau o’r wlad a rhannau o Loegr yn fwriadol yn esiampl o or symleiddio hanes er mwyn creu mytholeg – conspiracy theorizing fyddai’r term Saesneg am wn i - fersiwn fwdw o hanes Cymru os y mynwch. ‘Dydi hynny ddim yn golygu nad oedd cynllwynio o’r fath yn digwydd weithiau wrth gwrs – ond nid yw’n linyn sy’n rhedeg trwy hanes Cymru. Doedd y cysyniad, neu o leiaf y ddelfryd o Gymru fel endid gwleidyddol annibynnol ddim yn gwneud ei ffordd i’r wyneb yn gyson. Yn hyn o beth roedd Cymru ac Iwerddon yn gwahanol.

Roedd Cymru fel endid gwleidyddol wedi ei chwalu gyda’r Ddeddf Uno (deddf a wnaeth fwy o niwed o lawer i Gymru na’r Deddfau Penyd gyda llaw). Canlyniad naturiol realiti gwleidyddol ac economaidd oedd eisoes wedi ei greu oedd Brad y Llyfrau Gleision, y Welsh Not ac ati. Doedd yna ddim angen ceisio intigreiddio Cymru yn economaidd yn Oes Ficoria – roedd ein diffyg ymreolaeth fel gwlad wedi caniatau i hynny ddigwydd eisoes.

Wedi dweud hynny oll ‘dwi’n derbyn mai’r faith nad ydym wedi bod mewn sefyllfa i gymryd ein penderfyniadau gwleidyddol ein hunain sydd wrth wraidd llawer o’n problemau – natur anghytbwys a gwan ein heconomi, rhaniadau mewnol y wlad, y ffaith i gyd destun ddatblygu lle gallai’r iaith droi’n iaith leiafrifol, er enghraifft. Mae hynny’n rhywbeth y byddai unrhyw un sy’n galw ei hun yn genedlaetholwr yn ei dderbyn fe dybiwn. Ond canlyniad y ffaith nad yw Cymru’n endid gwleidyddol yw hyn oll – nid canlyniad i gynllwynio dieflig cyson.

Yr ail wers i gymryd o’r peth i gyd ydi hyn – ‘does yna ddim pwrpas diffinio ein cenedlaetholdeb yn nhermau faint mae Cymru wedi ddioddef oherwydd ymddygiad a phenderfyniadau ein cymdogion Dwyreiniol. Fel ‘dwi wedi ei dderbyn, mae natur y berthynas wedi bod yn niweidiol iawn i ni fel gwlad – ond yng nghyd destun trefidigaethau eraill dydan ni ddim yn gwybod ei hanner hi.

Rydym eisoes wedi cael golwg ar un digwyddiad (o lawer) yn hanes Iwerddon, ac wedi cyfeirio at India, ond mae pob trefedigaeth yn yr Ymerodaeth Brydeinig wedi dioddef – y rhan fwyaf ohonynt yn llawer gwaeth na ni. Natur ymerodraeth yw ei bod yn niweidio’r sawl mae’n ei goncro. Mae’r rhan fwyaf o’r cyn drefidigaethau wedi symud ymlaen ers iddynt ennill eu hannibyniaeth, ond nid trwy edrych yn ol a thrwy greu naratif hunan dosturiol o fod wedi cael cam. Arwydd o wendid ydi gorfod gwneud hynny – a la Mr Mugabe.

Y ffordd o symud ymlaen fel gwlad ydi trwy gymryd gafael ar ein bywyd cenedlaethol ein hunain, creu cymaint gonsensws a phosibl ynglyn a lle’r ydym, ac i ble yr ydym eisiau mynd – ac adeiladu hynny o gwmpas y ddealltwriaeth bod gwlad yn fwy ffyniannus ac yn hapusach pan mae’n rheoli ei thynged ei hun. ‘Dim ond ni ein hunain sydd a’r gallu i symud Cymru yn ei blaen.

Yn ystod y ddadl fondigrybwyll am y trenau mae fy ngwrthwynbydd achlysurol, Alwyn yn gofyn pam na allai IWJ fod wedi lobio am gyllid digonnol i ddatblygu cysylltiadau De / Gogledd. Mae’r rheswm yn sylfaenol syml – mae’r un rheswm a pham nad ydi hi’n bosibl prynu ceffyl mewn arwerthiant gwartheg. Fyddai datblygu cysylltiadau amhroffidiol De / Gogledd ddim yn gwneud synwyr i weinidogion neu weision sifil Prydeinig – sut y gallai?

‘Dydi hi ond yn bosibl rhesymu mewn ffordd Gymreig mewn cyd destun gwleidyddol Cymreig. ‘Dyna pam bod datblygu datganoli mor bwysig – nid yn unig o ran ennill pwerau deddfu, ond hefyd yn ariannol – cael pwerau benthyg ac ail edrych ar Barnett. Datganoli a datganoli wedi ei ariannu’n briodol ydi’r erfyn pwysicaf sydd gennym i adeiladu gwlad.
Mae’n tynged ni fel gwlad bellach yn ein dwylo ni’n hunain, dydan ni ddim yn cael ein gorthrymu gan neb ond ni’n hunain – petaem, yn dorfol, am adael yr Undeb gallem wneud hynny fory. Fel y dywedodd rhywun callach o lawer na fi, gwlad arall ydi hanes. Mae gan y wlad honno rhywfaint i ddysgu i ni, ond ‘dydi ceisio cynllunio ar gyfer y dyfodol ar sail dehongliad mytholegol o hanes y wlad honno ddim yn gosod canllaw addas i ni symud ymlaen i’r dyfodol.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Dydy’r naratif cenedlaethol o Gymru ddim yn un hunan tosturiol o fod wedi cael cam - a la Mr Mugabe chwedl di.

Mae pobl fel Syr O.M. Edwards, Gwynfor ac eraill wedi nodi bod Cymru wedi cael cam, y dewis arall yw dilyn naratif Coll Prydain unoliaethol pobl fel David Melding sydd yn clodfori pob dim fel braint y Cymry o gael cyfrannu at fawredd Prydain. Ond does dim byd hunan tosturiol yn naratif hanes y cenedlaetholwyr - mae’n neges bosetif o oroesi a llwyddo er gwaethaf pawb a phopeth ry’ni yma o hyd.

menaiblog said...

'Dydi o ddim yn ddewis o'r ddwy naratif yna Alwyn - cam gynrychiolaeth ydi'r ddwy.

Dylai naratif y mudiad cenedlaethol fod wedi ei chanoli ar y syniad o wlad fodern sy'n barod i fod yn wladwriaeth fodern.

Wedi dweud hynny, dwi'n derbyn yn y darn 'dwi'n meddwl bod y cysylltiad Prydeinig wedi bod yn niweidiol i Gymru.

Fel mae'n digwydd, petai rhywun o anian digon masocistaidd byddai canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn lle da iawn i fynd i chwilio am sylwadau a datganiadau gwrth Gymreig gan bobl mewn awdurdod. Mi gei di hyd yn oed rhai o wrth Gymreigwyr y cyfnod yn croesawu'r rheilffyrdd oherwydd eu bod yn debygol o niweidio'r iaith.

'Dydi hynny wrth gwrs ddim yn gyfystyr a dweud eu bod wedi eu hadeiladu i'r diben hwnnw.