Monday, August 31, 2009

Y panic twf poblogaeth - lle mae idiotrwydd y Dde a'r Chwith yn cwrdd

Mae'n debyg y dyliwn ddatgan buddiant cyn cychwyn ar hwn - mae gen i bump o blant.

Tua'r amser yma pob blwyddyn, mae yna fyllio a thantro bod y boblogaeth yn tyfu'n rhy gyflym - gan y wasg Geidwadol yn bennaf, ond gan bobl mwy rhyddfrydig weithiau hefyd. Mae'r erthygl anymunol a hiliol yma yn y Daily Mail gan Amanda Platell yn esiampl o gonsyrn y Dde.

Ymddengys bod y ffaith bod 61,000,000 o bobl yn byw ym Mhrydain bellach yn rhywbeth y dylem oll dreulio llawer iawn o amser yn poeni amdano. Yn wir mae'n stwmp ar stumog llawer bod y boblogaeth yn tyfu y tu allan i Brydain, gyda rhywun o'r enw David Attenbrough yn cefnogi ymgyrch corff sinister a rhyfeddol o fysneslyd o'r enw'r Optimal Population Trust i gosbi gwledydd tramor oni bai eu bod yn cadw eu poblogaeth yn isel. Mae un o'u prif noddwyr - Jonathan Porrit, un o gyn arweinwyr Y Blaid Ecolegol - rhagflaenwyr Y Blaid Werdd yn bendant ei bod yn 'anghyfrifol' i bobl gael mwy na dau o blant.

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd yn poeni eu hunain yn sal oherwydd bod tebygrwydd y bydd poblogaeth y DU yn 77,000,000 erbyn 2050. Mae'n od braidd i' r Mail ddod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt eu hunain a chorff sy'n gwneud defnydd o naratif amgylcheddol y Chwith gyfoes megis yr OPT - ond dyna fo mae yna ambell i briodas rhwng pobl anisgwyl iawn weithiau.

Mae yna bobl wedi bod yn poeni bod yna ormod o bobl eraill ers i ni gael _ _ wel pobl ar y Ddaear. Roedd yr athronydd Sieiniaidd Han Fei-tzu wedi cael ei hun mewn stad am y peth yn y drydydd ganrif CC, ac roedd Plato o'r farn y dylai pobl ddechrau dympio eu merched ar wladwriaethau eraill os oedd poblogaeth y ddinas wladwriaeth yn mynd yn fwy na 5,040.

Nawdd Sant y sawl sy'n poeni am ormod o bobl ydi Thomas Malthus rheithor gydag Eglwys Lloegr yn Oes Fictoria. Rydym eisoes wedi gweld sut wnaeth ei ddamcaniaethu fo gyfrannu at leihau'r boblogaeth yn Iwerddon a thu hwnt.

Canolbwynt damcaniaeth Malthus oedd yr 'amhosebilrwydd' i gyflenwad bwyd y Byd gadw i fyny efo twf arithmataidd y boblogaeth. Roedd cyd destun gwleidyddol i'r ddamcaniaeth wrth gwrs - roedd Malthus yn erbyn datblygu deddfau i roi cymorth i'r tlodion ac roedd o blaid deddfau oedd yn trethu mewnforio bwyd i Brydain. Roedd ei ddamcaniaethu, wrth gwrs, yn bolycs o'r radd eithaf - fel y cawn weld yn ddiweddarach. Roeddynt hefyd yn bolycs peryglys iawn.

'Dydi hynny heb stopio i bobl a mudiadau cyfoes a diweddar wneud defnydd o'i nonsens. Y lol yma sydd y tu cefn i lawer o ddadleuon yr OPT. Un o lyfrau mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf ar y pwnc oedd campwaith Paul R Ehrlich - The Population Bomb (1968).

Roedd Paul o'r farn mai'r gorau y gellid ei ddisgwyl oedd y byddai canoedd o filiynau o bobl yn marw yn saithdrgau'r ganrif ddiwethaf. Byddai'r UDA yn stopio rhoi cymorth i India a'r Aifft erbyn 1974, byddai'r Pab wedi derbyn yr egwyddor o atal cenhedlu, byddai Asia, Affrica, De America a'r Byd Arabaidd yn cael eu hysgwyd gan ymladd am fwyd. Byddai bwyd yn cael ei ddognu yn America ac Ewrop. 2 biliwn fyddai poblogaidd y Byd erbyn 2025, 1.5 biliwn erbyn 2050. Yr unig ateb i hyn yn ol Ehrlich oedd gwenwyno cyflenwadau dwr efo cemegolion atal cenhedlu. Wna i ddim manylu ar y gwaethaf yr oedd Paul yn poeni amdano, rhag bod rhai o fy narllenwyr gyda thueddiad at hunllefau.

Wnaeth methiant treuenus ei ddarogan ddim ei atal rhag cyhoeddi llyfr arall - The Population Explosion efo'i wraig Anne yn 1990. Does yna ddim llawer o dystiolaeth yn yr ail lyfr i Paul fod wedi dysgu llawr o'r ffaith na ddaeth dim o holl ddarogan gwae'r llyfr cyntaf.

Un neu ddau o ffeithiau - mae poblogaeth y Ddaear wedi cynyddu mwy nag erioed (o lawer) yn ystod y ganrif ddiwethaf - ac mae'r GDP ar gyfer pob un o'r bobl yna wedi cynyddu mwy nag erioed hefyd. Er enghraifft roedd GDP y pen (Byd eang) tua phum gwaith yn uwch ar ddiwedd y ganrif nag oedd ar y cychwyn. Roedd y nifer o bobl oedd yn dioddef o brinder bwyd parhaus wedi lleihau ac felly hefyd y gyfradd o blant oedd yn marw. Roedd pobl ym mhob gwlad bron yn gallu disgwyl byw yn hirach - yn hirach o lawer. Roedd India - gwlad roedd Ehlrich o'r farn nad oedd yna unrhyw obaith o gwbl iddi oherwydd dwysedd ei phoblogaeth wedi gwneud ei hun yn hollol hunan gynhaliol o ran bwyd erbyn diwedd y ganrif diwethaf. Roedd ei phoblogaeth wedi tyf'n sylweddol hefyd

'Rwan - mae dwysedd poblogaeth yn stwmp ar y sawl sy'n poeni am boblogaeth Prydain. Dwysedd poblogaeth y Byd ydi
45.21 person y km sgwar o dir. Dwysedd y DU ydi 246 (sydd trwy gyd ddigwyddiad bron yn union yr un peth ag un Pennsylvania- talaith sydd a 2 biliwn acer o fforestydd, naw miliwn acer o dir ffermio sy'n cynhyrchu gwerth tros i ddeugain biliwn dolar o fwyd yn flynyddol). Mae yna 51 o wledydd efo dwysedd uwch - gan gynnwys Singapore (6,814), Macau (18,705), Hong Kong (6,326), De Korea (487), Yr Iseldiroedd (395). Hynny ydi rhai o wledydd a rhanbarthau mwyaf cyfoethog y Byd. Mae yna 22 o wledydd gyda llai na 10 person y km sgwar - tua hanner ohonynt ymhlith y tlotaf yn y Byd.

Daw hyn a ni'n ol at erthygl bach hiliol Amanda. Yr amheuaeth sydd gen i pob amser yr ydwyf yn darllen y math yma o nonsens ydi nad gormod o bobl ydi'r broblem - ond gormod o bobl o'r math anghywir. Alla i ddim yn fy myw gredu y byddai Amanda yn gwneud ei hun mor sal yn poeni petai'r holl bobl yna yn rhai tebyg i'r sawl sy'n gwneud eu siopa yn Waitrose, yn mwynhau guacamole ac yn teithio mewn tractorau Chelsea.

4 comments:

Huw said...

Gwneith natur edrych ar ôl ei hun.

Cymer Singapore er enghraifft. Cofio SARS, y saldra newydd nath ddatblygu yn y ddinas a lwyddodd i ladd dros cant. Pethau fel yma wneith digwydd mewn llefydd gyda phoblogaeth uchel, gan ladd nifer a gadael nifer mwy cynaladwy. Enghraifft arall yw'r pla du yn Ewrop.

Un o'r bygythiadau yn y dyfodol fydd cyflenwad dwr glan. Gwneith y ffactor yma ladd rhai ac achosi eraill i ryfle, gan wedyn lleihau'r nifer i ffigwr mwy cynaladwy.

Yn ogystal a hyn, gall clwydi cymdeithasol cyfyngu ar boblogaeth. Mi wnaeth Llundain gyrraedd maint penodol, nad oedd yn gallu tyfu; wedyn daeth y trenau a roedd twf yn gallu digwydd.

Peryglus yw cymharu nifer poblogaeth efo llewyrch economaidd. Nid pres yw popeth. Dylech ddefnyddio rhywbeth fel y HDI.

Cai Larsen said...

Roedd Ewrop yn denau o ran poblogaeth yn ystod cyfnod y Pla Du. Mae poblogaeth Affrica yn gymharol denau heddiw - ond yno mae AIDS / HIV ar ei fwyaf marwol. Felly hefyd colera.

Rhys Wynne said...

Does dim dwywiath mai hiliaeth sy'n gyrru llawer ar y dde i boeni am gynnydd poblogaeth - nid y nifer sy'n eu poeni ond lliw croen y twf, ond tydw i ddim wedi fy arghoeddi y bydd dynol ryw yn dal i allu cynhyrchu mwy a mwy o fwyd ar lai o dir.

Efallai bod India yn hunangynhaliol rwan er gwaetha'r ffaith eu bod yn derbyn Food Aid yn y '50au a bod eu poblogaeth wedi ffrwydro ers hynny hefyd, ond am ba hir? Roedd rhaglen neithiwr, Future of Food (braidd yn arwynebol) yn sôn sut roedd rhanbarth Punjab yn cynhyrchu 20% o rawn India, yn bennaf oherwydd amaeth dwys ac ailgyfeirio dwr. Mae hyn wedi arwain at brinder dwr mewn mannau eraill o'r wlad, ac mae gwyddonwyr yn pryderu bod y ffermio dwys yn difetha'r pridd fel bydd dim maeth ar ol ynddo yn fuan i gynnal y fath gnydau.

Efallai bod nifer o'r gwledydd gyda'r poblogaethau dwysaf yn gymharol llewyrchus, ond mae'n debyg eu bod yn mewnforio canran sylweddol o'u bwydydd eu huanain. Wrth gwrs mae'n gwenud synnwyr i wledydd fewnforio newyddau a bwyd o ardaloedd/gwleddydd eraill ble gallant gael eu creu'n rhatach a mwy effeithlon. Ond beth ddigwyddith os ydy pris tanwydd yn cynyddu fel nad yw'n economaidd i'w gludo bellach neu bod cwsmer/gwlad arall mwy poblog/cyfoethog am brynu'r bwyd?

Does gyda fi ddim ateb yma, a dw i ddim yn cynnig dylid gorfodi pobl i gael llai o blant. edi'r cyfan, am bob teulu a phump o blant, mae sawl cwpl nawr yn ddi blentyn. Beth dw i ddim yn cytuno a fo ydy bod rhaid cynyddu'r boblogaeth er mwyn talu am y boblogaeth oedranus sydd gyda ni, gan bydd rhaid cynyddu'r boblogaeth yn bellach wedyn i dalu amdanyn nhw wedyn yn y dyfodol.

Anonymous said...

"Beth dw i ddim yn cytuno a fo ydy bod rhaid cynyddu'r boblogaeth er mwyn talu am y boblogaeth oedranus sydd gyda ni, gan bydd rhaid cynyddu'r boblogaeth yn bellach wedyn i dalu amdanyn nhw wedyn yn y dyfodol."

Dwyt ti ddim wedi dy argyhoeddi o rinweddau scemau Ponzi te?

Nid wyt ti blogMenai yn deall mathamateg. Gwna waith cartref. Faint o amser gwnaeth hi i boblogaeth y byd gyrraedd....dywedwn i 1 billiwn. Faint wedyn o amser aeth heibio cyn i'r boblogaeth gyrraedd 6 billiwn?