Monday, August 10, 2009

Pam bod cefnogi pleidiau rhanbarthol yn ei hanfod yn weithred wrth genedlaetholgar

'Dydi Hen Rech Flin a finnau ddim yn cytuno'n rhy fynych, ond mi fyddaf yn mwynhau ei flog - ac yn bwysicach mae'r blog yn aml yn gwneud i mi feddwl.

Mae ei flogiad diweddaraf yn esiampl o hyn - lle mae'n dadlau y dylai pleidiau rhanbarthol fel Llais y Bobl sy'n weithredol yng nghymoedd y De Ddwyrain a Llais Gwynedd sy'n mynd trwy'i pethau yn y Gogledd Orllewin - ddod at ei gilydd i geisio ennill seddau rhestr yn etholiadau'r Cynulliad..

'Rwan, 'dwi'n weddol siwr na fyddai syniad o'r fath yn gweithio - wedi'r cwbl mae LlG yn weithredol mewn dau ranbarth gwahanol, tra bod LlB mewn un arall eto.

Yn bwysicach mae'n debyg 'dydi hi ddim yn bosibl i grwpiau rhanbarthol mewn rhannau mor wahanol o'r wlad i gydweithredu oherwydd eu bod nhw i bob pwrpas yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am adnoddau. Mae'n anodd gweld unrhyw gyfundrefn cyllido fyddai'n gwobreuo Bro Dysynni a Glyn Ebwy ar yr un pryd ar drael pob man arall (a cheisio elwa ar drael lleoedd eraill ydi pwrpas pleidiau rhanbarthol mewn gwirionedd).

Cyn mynd ymlaen hoffwn ddweud pwt bach am bedwar o bobl a bleidleisiodd 'Na' refferendwm 97 ('dwi'n gwybod nad ydi'r cysylltiad yn amlwg eto - mi fydd o erbyn y diwedd).

Cwpl mewn oed oedd y cyntaf - mae'r ddau wedi gadael yr erwau hyn bellach - heddwch i'w llwch. 'Roeddynt yn pleidleisio i Blaid Cymru yn ddi eithriad, ac roeddynt wedi gwneud hynny ers y pumdegau. Roeddynt hefyd wedi pleidleisio 'Ie' yn ol yn 79. 'Doedden nhw ddim yn erbyn datganoli fel y cyfryw y tro hwn chwaith - ond roeddynt wedi clywed fod posibilrwydd y byddai cyn gymydog iddynt nad oeddynt yn or hoff ohono yn cael ei ddewis i sefyll tros Lafur mewn etholaeth gyfagos. Felly dyma nhw'n pleidleisio 'Na' rhag iddo gael ei ethol. 'Doedd o ddim yn aelod o'r Blaid Lafur, ac nid oedd unrhyw bosibilrwydd y cai ei ethol.

Cymydog i fodryb y Mrs sy'n byw mewn rhan reit grand o Ogledd Caerdydd oedd yr ail. Wedi hir bendroni penderfynodd y fodryb bleidleisio 'Ia'. Gwelodd ei chymydog ar y ffordd i'r orsaf bleidleisio, a dyma hwnnw'n gofyn iddi sut oedd am bleidleisio. I'm voting 'Yes' meddai hithau. God I didn't know you speak Welsh oedd yr ateb ('does ganddi hi ddim gair o Gymraeg).

Athrawes mewn ysgol uwchradd fawr iawn (a llwyddiannus iawn) wrth y ffin efo Cheshire oedd yr olaf. Flynyddoedd yn ol mi'r oeddwn yn gwneud ychydig o waith i'r Cynulliad yn asesu ansawdd hyfforddiant technoleg gwybodaeth yr oeddynt yn ei ddarparu. Golygai hyn fy mod yn treulio ychydig wythnosau pob blwyddyn yn crwydro Cymru yn holi athrawon a llyfrgellwyr am eu hargraffiadau o'r hyfforddiant yr oeddynt wedi ei dderbyn.

Beth bynnag aeth y ddynes trwy'r cyfweliad yn gwrtais, proffesiynol ac effeithiol - ac yn gyflym - yn hynod o gyflym. Yn anffodus i mi roedd hyn yn golygu bod gennyf hanner awr o'i chwmni ar ddiwedd y cyfweliad. Ni fyddai dweud ei bod yn casau'r Cynulliad gyda'i holl galon, a'i holl enaid a'i holl gorff yn dod yn agos at wneud cyfiawnder a dwyster ei theimladau am y sefydliad.

Cyn belled ag yr oedd hi yn y cwestiwn roeddwn i yn ymgorfforiad anymunol o'r Cynulliad yn ei holl ddrygioni maleisus. Roedd ganddi amrediad mor rhyfeddol o eang o ddadleuon yn erbyn y sefydliad nes bod fy mhen yn troi erbyn y diwedd - ond roedd y rhai oedd yn ei ypsetio fwyaf yn rhai rhanbarthol - pob dim yn mynd i Gaerdydd, ei phlant hi i gyd yn byw yng Nghaer, y Rhondda bron wedi ethol Comiwnydd yn un naw rhywbeth neu'i gilydd, thygs glofaol yn bwlio pobl oedd eisiau gweithio, pawb ar y dol neu'n smalio bod yn sal, Deleilah'n gan sexist, Bonnie Tyler, wedi dwyn cariad cyntaf cyfneither ei gwr, Pontypridd wedi twyllo yn erbyn Sale yn un naw wyth rhywbeth ac ati ac ati. 'Dydw i erioed wedi bod mor falch o ysgwyd llwch unrhyw le oddi ar fy nhraed.

Yr hyn sy'n ddiddorol ydi bod yr achosion uchod oll yn esiamplau o bobl sy'n ystyried yr achos cenedlaethol Cymreig yn achos israddol - i fan gasineb personol yn yr achos cyntaf, i ddehongliad o lwytholdeb sydd wedi ei seilio ar iaith yn yr ail achos, ac ar ystyriaethau rhanbarthol (eithafol) yn y trydydd.

A dyna yn anffodus prif broblem Cymru - 'dydi'r ymdeimlad cenedlaethol (er ei fod yn bodoli) ddim yn gryfach nag ystyriaethau eraill. Dyna pam bod ymgyrchoedd 'Na' 79 a 97 wedi llwyddo i'r fath raddau - aethant ar ol pob hollt ym mywyd Cymru gan berswadio pobl i bleidleisio yn unol a'u buddiannau bach plwyfol nhw eu hunain yn hytrach nag i'r genedl yn ei chyfanrwydd - gwahanu'r De a'r Gogledd, y Gorllewin a'r Dwyrain, y Cymru Cymraeg a'r un ddi Gymraeg, y dosbarth gweithiol a'r dosbarth canol, y Gymru wledig a'r Gymru drefol, y dinasoedd a'r cymoedd, Caerdydd ac Abertawe, y bobl sy'n byw ar gwahanol ochrau'r Afon Llychwr, ac ati, ac ati hyd at syrffed.

Mae'n debyg gen i fy mod yn cymharu Cymru ag Iwerddon yn rhy aml - ond mae cymhariaeth addas i'w gwneud yma. Mae'r ymdeimlad rhanbarthol yn gryf iawn yn yr Iwerddon, yn llawer cryfach nag yw yng Nghymru. Os nad ydych yn fy nghredu gyrrwch yn y car trwy sir Wyddelig yn ystod misoedd yr haf pan mae'r sir honno wedi mynd ymhell yng ngemau'r GAA. Fedrwch chi ddim gyrru canllath heb weld lliwiau'r sir honno mewn ffenest cartref neu siop, ar bolion telegraff, yng ngerddi pobl, ar ben adeiladau cyhoeddus, mewn tafarnau. Mae yna bobl sy'n peintio eu ceir yn lliwiau eu sir.

Ond - ac mae'n ond mawr - mae'r ymdeimlad cenedlaethol yn gryfach na'r un rhanbarthol yn yr Iwerddon. Pan mae'r angen yn codi mae ystyriaethau cenedlaethol yn bwysicach na rhai lleol. 'Dydi hyn ddim yn wir yng Nghymru - 'dydi'r cysyniad o Gymru fel endid ddim yn arbennig o gryf i gydadran sylweddol o'r bologaeth - mae yna ystyriaethau pwysicach - gan gynnwys rhai rhanbarthol.

Mae pleidiau fel Llais y Bobl a Llais Gwynedd yn ymgorfforiad gwleidyddol o rhai o'r prif bethau sy'n ein rhannu, yn ein gwahanu ac yn ein gwneud yn rhywbeth llai na gwlad. Maent yn ymgyrfforiad pleidiol o rai o'n gwendidau mwyaf sylfaenol fel cenedl, yn ymarferiad sinicaidd mewn gwneud defnydd gwleidyddol o'r grymoedd hynny oedd yn sail i ymgyrchoedd 'Na' 79 a 97.

Ag aralleirio dyfyniad enwog Kennedy, ymgais dorfol i ddarganfod beth y gall ein gwlad ei wneud i ni, yn hytrach nag i geisio canfod beth allwn ni ei wneud i'n gwlad ydi'r wleidyddiaeth yma.

Dyna pam na ddylai unrhyw un sy'n ystyried ei hun yn genedlatholwr hyd yn oed ystyried cefnogi Llais y Bobl na Llais Gwynedd.

11 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Be!!!???? Dwi wedi darllen dy ysgrif tair gwaith ac dwi dal i'm yn glir o lle'n union ti'n dod o efo'r darn yma!
Ti fel fi mae'n amlwg yn barod am wyliau bach dwi'n meddwl?

menaiblog said...

Gobeithio bod gei difynd i rhywle reit neis Gwilym.

Hogyn o Rachub said...

Dwi 'di llunio mân ymateb ar fy mlog, efallai y bydd o ddiddordeb yn hytrach na 'sgwennu sylwadau hirwyntog fan hyn a fan draw!

aled g j said...

Fel aelod o Blaid Cymru, tydw i ddim yn dueddol o weld yr her hwn o du Llais Gwynedd yn yr un termau apocalyptaidd. Er nad oes gan LL G fawr o obaith yn Arfon, synnwn i damaid na wnawn nhw'n well nag y byddai rhywun yn tybio ym Meirionnydd,yn enwedig os galla nhw ddatblygu'r thema hon o Gynulliad sydd yn eithaf byddar i anghenion ardaloedd gwledig yn gyffredinol. Os ydi Llais Gwynedd yn gallu datblygu narratif genedlaethol gredadwy, mi allai fod yn newydd da i'r mudiad cenedlaethol. Yn y lle cyntaf, byddai'n fodd i hyrwyddo syniadau newydd allai fywiogi'r disgwrs cenedlaethol.Gallai hefyd wthio cysyniadau megis annibyniaeth a sefydlu gweriniaeth,fyddai'n "cenedlaetholi"'r darlun gwleidyddol Cymreig hyd yn oed ymhellach gan gryfhau nid gwanhau'r mudiad cenedlaethol.

Anonymous said...

We aгe a gaggle of νоluntеerѕ and stаrtіng a brаnd new
ѕchеmе іn οur cοmmunіty.
Yοuг web site provideԁ us with helрful іnfo to
ωoгk on. Υοu haνe performеd
a foгmіԁable jοb and οur entігe nеighborhoοd will ρrobablу be thаnkful to уou.
Look into my site ... simply click the next document

Anonymous said...

It's a shame you don't have a donate button! ӏ'd definitely donate to this superb blog! I suppose for now i'll settle for bookmarκing and adding
youг RЅS fеed to my Gоοgle account.
I look forward tο brand new updates
and will talk about thiѕ sіte with my Faceboοk group.
Τalk soоn!

Here iѕ my web-site http://web1.fairfield-h.schools.nsw.edu.au

Anonymous said...

Ρгetty nice poѕt. І just ѕtumbled upon youг ωeblog and wanted tο
say thаt ӏ've really enjoyed surfing around your blog posts. After all I will be subscribing to your rss feed and I hope you write again very soon!

Look into my web-site ... datamax-ke.Com

Anonymous said...

I havе reaԁ some excellent stuff herе.
Definitely price bookmаrκing fог revisіting.
I ωonder how so much effoгt you put to make thiѕ kinԁ of
fаntastic informatiνe site.

Take a look at my webpage; V2 Cigs reviews

Anonymous said...

Ηello, thіs weekend iѕ nice in suppoгt оf mе, since this рοint іn
time і аm readіng this fаntastіс informatіve pοst here at my
home.

Fеel free to visit my web page - just click the following internet page
My website - Learn More

Anonymous said...

Wow that was ѕtrange. I just wrote an incгediblу
long comment but after I clіcked submіt mу comment
ԁidn't appear. Grrrr... well I'm not wгiting all that oνer agaіn.
Regardlesѕ, just wаnted to say gгeat blog!


Feel fгee to visit my page ... Www.Williamhone.Com

Anonymous said...

Hi, yup this piеce of wrіting іѕ really pleaѕant аnd I have lеarned lot of things fгom
it on thе toρіc of blogging. thanks.

Аlѕo viѕit my wеblog - www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm