Tuesday, June 09, 2009

Llais Gwynedd a'r Dde Brydeinig

Ymddengys bod Gwilym Euros wedi ypsetio'n ofnadwy oherwydd fy mod wedi gwneud rhyw sylw neu'i gilydd ar dudalen sylwadau'r cyfranid cyn hwn, sy'n awgrymu (yn ei farn o) bod rhai o'r sawl a bleidleisiodd i Lais Gwynedd yn 2007 wedi pleidleisio i'r BNP yr wythnos diwethaf. Yn od iawn - o gymryd y rhan yn ei gyd destun, dadlau yn erbyn honiad gan gyfranogwr arall bod cysylltiad rhwng UKIP a Llais Gwynedd oeddwn.

Mae o wedi ypsetio cymaint nes iddo wneud llwyth o gelwydd i fyny fy mod yn gadeirydd rhanbarth Arfon o Blaid Cymru a mynd i gwyno wrth y Blaid yn ganolog, Golwg, y BBC a phawb arall sy'n fodlon gwrando. Dyma'r sylw sydd wedi creu'r holl golli dagrau:

Hen Rech Flin - Yn niffyg Plaid Cymru driw i'w ddaliadau i bleidleisio drosti - IWCIP, gwaetha'r modd, cafodd eu plediais brotest eleni' (hy - aelodau o deulu HRF).

Fi - Y broblem efo hyn ydi bod pleidlais UKIP bron yn sicr yn is yng Ngwynedd y tro hwn nag oedd yn 2004 (mae'n anodd gwneud cymhariaeth llwyr oherwydd bod y rhanbarthau cyfri yn gwahanol).

'Dwi ddim yn amau am eiliad bod cydadran o bleidlais Llais Gwynedd wedi rhoi croes i UKIP (a'r BNP o ran hynny)- ond fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith, pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd. Cofier Mr Walker er enghraifft.


'Dwi wedi dileu'r sylw yn nhudalen sylwadau'r blog perthnasol rhag bod rhywun arall wedi cam ddaeall. 'Dwi'n ei adael fel ag y mae yma gan fy mod yn rhoi eglurhad. Cyfeiriad ydyw at y ffaith fy mod yn credu bod elfen o bleidlais Llais Gwynedd yn apelio at elfennau gwrth Gymreig yng Ngwynedd - ond yn y cyd destun arbennig yma roeddwn hefyd yn dadlau nad oedd tystiolaeth bod cefnogwyr Llais Gwynedd wedi troi mewn niferoedd arwyddocaol at UKIP neu'r BNP yn yr etholiad yma. Dyna pam roeddwn yn nodi nad oedd eu pleidlais wedi tyfu.

Mae yna wrth gwrs rhai pobl sydd a chysylltiadau efo UKIP gyda chysylltiadau efo Llais Gwynedd. 'Does yna ddim pwt o amheuaeth bod un cyfaill sydd a chydymdeimlad ag UKIP ac i raddau llai BNP yn cefnogi Llais Gwynedd. Ystyrier John Walker o Glwt y Bont - dyn sydd wedi bod yn y newyddion oherwydd i'w dy gael ei fandaleiddio ar ddau neu dri o achlysuron. Mae'n hoff o adael sylwadau ar flogiau.

Cymerer hwn ar flog Betsan Powys er enghraifft.

At 10:34 AM on 17 Nov 2007, John R. Walker wrote:

Where have you been all these years Betsan? Plaid has been pulling itself apart in public since, at least, 2001...

It's great fun to watch - the view is much better from up here in Gwynedd, though!

Now Cllr. Simon Glyn is reported to have resigned from Plaid and I'm expecting a quite a few more to follow as the abject failure of 3-4 decades of Plaid Gwynedd's policies becomes plainer for all to see. This schools closure issue is just the tip of the mis-management iceberg...

Where I fundamentally disagree with Wayne David MP is that Plaid shouldn't be thought of in terms of 'constructive' or 'destructive' personalities because Plaid policies are fundamentally destructive - Plaid is a hard-left international socialist Party intent upon breaking up the United Kingdom and handing the reigns of power to the unelected tranzis in the EU and the UN. A few moderate sounding voices doesn't change that! If anybody had any lingering doubts, that defence paper floated out this week by Jill Evans MEP should help to clarify their minds! Cloud, cuckoo, and land come to mind...

It doesn't matter whether Plaid play the short game or the long game - they are still, ultimately, a destructive force in British politics and they should be marginalised by the 'Brits' at every opportunity.

But, going back to the coalition, I keep asking myself who is the REAL nationalist - Rhodri Morgan or Ieuan Wyn Jones?


'Dydi'r dyn ddim yn hoff iawn o addysg Gymraeg chwaith - nag yn wir unrhyw beth i'w wneud efo'r Gymraeg.
Blog Betsan eto

At 09:38 AM on 20 May 2007, * John R. Walker wrote:

Interesting - so Dafydd Wigley, one of Derby's most famous sons, went to a school which still has an all-English website and an education philosophy so very different from the 'forced Welsh' environment prevalent in Anglesey and Gwynedd Council LEA schools.

Perhaps Dafydd Wigley would care to come out now and support those of us who see the same English medium education facilities as being essential in Anglesey and Gwynedd, without the need for parents to have to pay the private sector to provide them?

English medium education should be available to all throughout the UK as of right - it shouldn't just be available to those who can afford to pay!

We've come to a sorry state when the British government feels the need to sanction payment for private education for members of H.M. forces in Gwynedd and Anglesey "who would otherwise be disadvantaged, academically and socially, by the bilingual teaching policy adopted within the Gwynedd and Isle of Anglesey Local Education Authorities"...

Fine - I don't mind paying for their good fortune - but what about everybody elses' kids????


Ydi Mr Walker yn aelod o'r BNP? Nag ydi - mae'n gyn aelod o'r Blaid Geidwadol ac mae'n aelod o UKIP (ymddangosiad Guto Bebb yn y Blaid Geidwadol oedd y rheswm am ei ymadawiad mae'n debyg). Ond mae wedi mynegi cydymdeimlad gyda'r BNP ar fwy nag un achlysur. Er enghraifft yn ol y Western Mail:

And in a letter to a newspaper in Yorkshire, he offered support to a bus driver whose duties involved transporting vulnerable disabled children and adults with special needs, and who was sacked after being elected a BNP councillor. The employer considered his public status as a BNP councillor posed a health and safety risk to clients. Mr Walker wrote: “If nothing else, the sacking... for no apparent reason other than that he is a member of a legitimate registered political party, the BNP, should show the politically-correct fascism of the left is every bit as dangerous as any racially-motivated fascism from the right

Ydi Mr Walker yn cefnogi'r BNP? Ddim o angenrhaid - mae'n debygol nad yw erioed wedi bwrw pleidlais trostynt.

Mae Mr Walker yn sicr yn cefnogi Llais Gwynedd i'r graddau mai fo oedd un o gynigwyr eu hymgeisydd yn Neiniolen yn 2007 - Ian Stephen Hunter Franks.

Ydi hyn yn golygu bod unrhyw beth yn gyffredin rhwng syniadaeth Llais Gwynedd a'r BNP? Nag ydi, wrth gwrs - does dim oll yn gyffredin rhyngddynt.

Ydi hyn yn golygu bod aelodau ac arweinyddion Llais Gwynedd yn rhannu syniadaeth? Nag ydi, wrth gwrs. 'Dwi'n gwybod o'r gorau nad ydi hynny'n wir - ac mae pawb arall.

Ond mae gelyniaeth Llais Gwynedd tuag at Blaid Cymru - plaid genedlaetholgar Gymreig adain chwith - yn apelio at genedlaetholwyr Prydeinig adain dde. Yr elyniaeth tuag at Blaid Cymru sy'n gyffredin rhyngddynt - dim arall.

Felly ydi hi'n deg casglu bod cydadran o gefnogaeth Llais Gwynedd yn dod o'r Dde Prydeinig? 'Does yna ddim ffordd o wybod i sicrwydd wrth gwrs - ond 'dydi'r casgliad ynddo'i hun ddim yn un afresymol. Serch hynny - fel y dywedais wrth Hen Rech Flin, nid oedd pleidlais UKIP na'r BNP wedi cynyddu yng Nghymru yn etholiadau Ewrop - awgryma hyn nad ydi profiad HRF o weld cenedlaetholwyr naturiol yn troi at UKIP yn un cyffredin iawn.

16 comments:

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n credu bod Gwilym wedi cael cam argraff o'r hyn y dywedodd Cai ar yr achlysur hwn. Ymateb roedd Cai i sylw gennyf fi a oedd yn mynegi fy siom o ddeall bod rhai o'm perthnasau a drodd o'r Blaid i Lais yn etholiadau'r cyngor llynedd wedi penderfynu rhoi eu pleidlais brotest i IWCIP yn etholiadau Ewrop.

Dweud oedd Cai bod dim angen i'r Blaid poeni yn ormodol am geisio denu'r sawl sydd yn fodlon cefnogi IWCIP neu'r BNP yn ôl i'w rhengoedd. Rwy'n sicr nad oedd yn honni bod Gwilym na chynghorwyr eraill na'r mwyafrif o bleidleiswyr Llais yn gefnogol i ffasgiaeth.

menaiblog said...

Diolch Alwyn.

Y broblem efo cymryd rhan mewn dadl ar y We ydi bod y cyd destun yn aml yn eang ac yn ymestyn weithiau o flog i flog.

Mae'n hawdd i sylw gael ei gam ddeall oherwydd nad oes modd gweld y cyd destun yn ei gyfanrwydd.

rhydian fôn said...

O ddarllen sylw anhysbys draw ar BlogMenai, mae’n amlwg iawn fod rhai o aelodau cyntaf Llais Gwynedd wedi pwdu cymaint gyda Phlaid Cymru eu bod nhw yn barod pleidleisio i eraill a byth am bleidleisio i’r Blaid eto. Felly mae cwestiwn naturiol yn codi: ym mha flwch oedd 13 cynghorydd Llais Gwynedd wedi gosod croes ar Ddydd Iau’r 4ydd o Fehefin? Does gen i ddim bwriad enllibus felly ni wnaf gyfeirio at unrhyw bleidiau arbennig. Ond dwi yn credu fod gan yr etholwyr hawl I wybod – wedi’r cwbwl, mae pleidleisiau cynghorwyr Plaid yn mynd i’r Blaid, Llafur i Lafur, ac ati. Ond Llais Gwynedd i bwy? I blaid unoliaethol sydd am gadw Cymru ynghlwm i’r Deyrnas Gyfunol? Neu i blaid sy’n credu fod y Ddraig Goch yn arwydd o’r Diafol? Neu i blaid oedd wedi dangos eu bod methu a malio am Gymru yn eu 18 mlynedd mewn grym?

Yn sicr roedd pleidlais brotest gref iawn ym mis Mai 2008 yn erbyn y Blaid yng Ngwynedd – a deallaf pam. Deallaf hefyd fod y rhan fwyaf o’r bleidlais yma wedi dod o genedlaetholwyr. Felly mae’n rhaid i arweinwyr Llais Gwynedd roi gwybod i’r pleidleiswyr yma at pa Blaid aeth eu pleidleisiau nhw.

Rhydian Fôn James

Anonymous said...

Wel Rhydian am flog twp. Mae'r hawl gan bob unigolyn i rhoi y bleidlais i unrhyw un yn gyfrinachol. Newydd weld rhaglen Byd ar Bedwar ble mae cyn aelodau o Blaid Cymru yn flaenllawn nawr yn y BNP. Ac nid dyma yr unig un.

Felly faint mwy oddi fewn i Blaid Cymru sydd a chydymdeimlad gyda'r BNP ?

Hefyd Cai yn cyfeirio at Walker. Tydi Walker (hyd y gwyddwn) erioed wedi bod yn aelod o Lais Gwynedd. Do fe arwyddodd bapur unigolyn i sefyll, ond gweler pwy arwyddodd bapur ambell i gynghorydd y Blaid yng Ngwynedd, unigolyn sydd a baw ar ei ddwylo.

Mae Plaid yn llawn o dories rhonc. Sol Owen fel un esiampl, ac faint o bleidiwr ydi Mr Doogan o Bangor ?

rhydian fôn said...

Anhysbys: Doedd fy mhwynt i ddim yn cyffwrdd ar y BNP. Os oes cefnogwyr BNP dal yn y Blaid, gwell iddynt adael.

Ond a wnei di ofyn i dy hun pam nad oedd cynghorwyr Llais Gwynedd, ffigyrau cyhoeddus, wedi datgan cefnogaeth i unrhyw blaid? A oedden nhw yn barod i'w etholwyr gefnogi un o'r pleidiau unoniaethol?

Anonymous said...

Gan nad oedd gan Lais Gwynedd neb yn sefyll, fuaswn ddim yn disgwyl i unrhyw gynghorydd annog unrhyw un o'r gweddill. hy. Os fuasai aelod o'r Blaid ddim yn sefyll mewn unrhyw etholiad fuasent ddim yn annog pobl i rhoi'r bleidlais i neb arall, pwy a wyr efallai mai aros gartref wnaeth Cynghorwyr Llais Gwynedd ac ni aethant allan o gwbwl. Pwy sydd i wybod. Mae gennyf deimlad yn y fan hon fod Cai wedi agor nyth cacwn iddo ei hunan. Gwirion fachgen gwirion.

Anonymous said...

Gyda llae Rhydian parthed a dy ddatganiad os oes unrhyw aelod o Blaid Cymru hefyd yn cefnogi'r BNP - "...well iddynt adael".

Dylid cywiro hynny a dweud "..gwell eu cicio allan".

A dyna lle mae meddylfryd Plaid yn methu gan dros y blynyddoedd roeddynt yng Ngwynedd yn derbyn unrhyw un yn aelod er mwyn codi niferoedd (gan gynnwys aelodau a rhai safodd fel aelod seneddol tros UKIP) yn y Sir.

Dwed myn coblyn I beth oedd hynny amdan ?

Hogyn o Rachub said...

Sôn am lol de! Argol, dwi'm yn meddwl bod angen i chdi egluro dy hun o gwbl Cai, roedd yr hyn oeddet ti'n ei ddweud yn ddigon amlwg ac eglur - mae'n typical o wleidyddiaeth ddwl Llais Gwynedd eu bod yn gwneud môr a mynydd o gythraul o'm byd!

rhydian fôn said...

Anhysbys: Ia wir, gwell eu cicio allan 'te. Ond sut wyt ti'n ffeindio cefnogwr BNP o fewn y Blaid os nad ydi o yn fodlon datgan ei fod yn cefnogi plaid arall?

menaiblog said...

Hogyn o Rachub - Sôn am lol de! Argol, dwi'm yn meddwl bod angen i chdi egluro dy hun o gwbl Cai, roedd yr hyn oeddet ti'n ei ddweud yn ddigon amlwg ac eglur.

'Dwi'n meddwl dy fod yn gywir fod ystyr y darn yn gwbl eglur yn ei gyd destun - er bod amwyster os ti'n ei gymryd allan o'i gyd destun fel y gwnaeth Gwilym.

Ar y cychwyn roeddwn yn meddwl bod Gwilym wedi darllen y peth yn frysiog heb edrych ar y cyd destun ehangach, ac nad oedd yn sylweddoli bod 'amau' yn gallu golygu 'doubt' neu 'suspect'.

O ystyried y cyd destun mae'n weddol amlwg fy mod yn ei ddefnyddio fel 'suspect' - hy I don't suspect that a significant component of Llais Gwynedd's vote put a cross next to UKIP (or the BNP for that matter) _ _.

'Dwi hefyd yn sylwi bod Gwilym yn awgrymu ar ei flog fy mod wedi newid y darn. 'Dwi heb - yr oll rwyf wedi ei wneud ydi ei osod yn ei gyfanrwydd.

Ond o feddwl ymhellach mae hyn ynghyd a'r ffaith bod Gwilym wedi gwneud stori i fyny fy mod yn gadeirydd rhyw bwyllgor neu'i gilydd, ac yna yn galw arnaf i ymddiswyddo cadeiryddiaeth nad wyf yn ei dal yn fy mhoeni.

Efallai mai ymdrech fwriadol i enllibio (yn ogystal a chreu embaras gwleidyddol) sydd ar waith, yn hytrach na chamgymeriad darllen.

Bydd rhaid i mi feddwl yn ofalus am bethau tros y dyddiau nesaf.

Un o Eryri said...

Chwarae teg i Anhysbys Rhydian mae yn ceisio deall gwleidyddiaeth, efallai y bydd wedi llwyddo i wneud mewn rhyw 10 mlynedd (Yn y cyfamser efaillai caiff sefyll i fod yn gyghorydd ar ran Llais Gwynedd, neu efallai ei fod yn Gynghorydd iddynt yn barod)

Y gwirionedd ydi Anhysbys bod Cynghorwyr Llais Gwynedd wedi eu ethol gan ddweud mor bwysig yw fod pawb yn gwybod lle maent yn sefyll ar wahanol bynciau (Amen i hynny).
'Roedd pleidlais pawb yn gyfrinachol yn yr Etholiad Ewropeaidd wrth gwrs, ond yn dweud hynny mae gan fobl Gwynedd yr hawl i gael gwybod lle mae'r cynghorwyr yma yn sefyll ar pwy dylai fod yn cynrychioli yr ardal yn Senedd Ewrop.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Meddylia faint fyd y fyni di washi, ti'n gwybod yn iawn mai ymgais bwriadol gen ti (unwaith eto) i bardduo Llais Gwynedd, ei chynrychiolwyr a'u cefnogwyr oedd yn be nes di ysgrifennu.
Hawdd iawn ydi chwarae ar eiriau unwaith mae rhywun yn dy herio am dy ffolineb.
Ynglyn a'r ffaith fy mod i wedi cyfeirio atat fel Cadeirydd Rhanbarth Arfon, aelod o'r Blaid ddwedodd hynny wrthai, ac dyliwn, fe ddyliwn wedi checio'r ffaith hynny allan cyn ysgrifennu - fel arall dwi yn glynnu yn gadarn at yr hyn dwi wedi ei ddweud.
Ti'n aml iawn yn cyfeirio at yr atgasedd sydd gan Llais Gwynedd tuag at y Blaid - iaith ymfflamychol a di-angen.
Ydi mae'n wir dweud fod tensiynau ar adegau ar rhai materion OND dwi ddim yn meddwl fod hynny yn ymestyn at gasineb, yn sicir nid yn y modd gwbwl orffwyll wyt ti yn ymddwyn tuag at unrhyw un arall nad yw yn cytuno, cefnogi neu yn cofleidio dy Blaid.
Ti'n gwybod yn iawn be ti wedi neud/ddeud, bydda'n ddigon o ddyn i gydnabod hynny ac ymddiheuro am argymell peth mor ddwl.

menaiblog said...

Gwil bach - darllen y darn yn ei gyd destun llawn.

Dydi o ddim yn gwneud unrhyw synwyr os mai dy ddehongliad di sy'n gywir.

Pam y byddwn eisiau ateb honiad HRF bod rhai o bobl Llais Gwynedd yn troi at UKIP trwy?:

(1) Ddweud nad ydi'r ffigyrau etholiadol yn cyfiawnhau dod i'r casgliad hwnnw.
(2) Ddweud bod pobl Llais Gwynedd yn wir yn pleidleisio i UKIP a'r BNP.
(3) Fynd ymlaen i ddweud bod rhai elfennau gwrth Gymreig yn wir cefnogi LlG er gwaethaf hynny.

'Dydi dadl felly ddim yn gwneud unrhyw synnwyr - beth bynnag fy ngwendidau 'dwi'n meddwl mewn llinellau syth - dydw i ddim yn creu dadleuon sydd ddim yn gwneud synwyr.

'Dydi hi ond yn gwneud synwyr os ti'n darllen 'amau' fel 'suspect'. Os 'dwi'n ei ddefnddio fel 'doubt' mae'r ail bwynt yn gwrthdaro efo'r pwynt cyntaf a'r olaf ac yn cytuno efo pwynt HRF - yr nion bwynt roeddwn yn dadlau yn ei erbyn.

Anonymous said...

Dwi'n argymell dy fod yn mynd â Golwg i gyfraith am y stori gelwyddog a dwl yno heddiw. Pam coelio Gwilym Euros heb jecio ffeithiau?! Mae'n amlwg i unrhyw un â brên beth ydi ystyr dy sylwadau ac mae'r stori yn fwy thic na maleisus, ond dylet warchod dy enw da a mynnu iawndal ac ymddiheuriad.

Anonymous said...

Mae'r cecran plentynaidd 'ma yn fyn ngwneud i mor browd......o fod yn Gymro! Blydi babis y cwbwl lot!

Hen Ferchetan said...

Wedi gwneud y post hwn ar y blog dan gwestiwn, mi ailadroddaf yma yn lle trio dweud yr un peth ddwywaith mewn ffordd gwahanol:

Dwi'n gwybod dim am eich hanes chi a Blog Menai - ond yr unig ffordd o ddarllen y frawddeg honno ydi fel amddiffyniad o Lais Gwynedd.

Os fysa na unrhyw ansicrwydd o ystyr y frawddeg mae'r frawddeg cynt yn ei chadarnhau:

"Y broblem efo hyn (y cyhuddiad fod pledleiswyr Llais Gwynedd wedi rhoi croes i UKIP) ydi bod pleidlais UKIP bron yn sicr yn is yng Ngwynedd y tro hwn nag oedd yn 2004 "

(fi pia'r darn mewn italics).

Mae'n edrych i mi eich bod chi a Blog Menai wedi arfer ffraeo cymaint eich bod chi methu gweld pan mae'r dyn yn eich amddiffyn am unwaith.

Dwi'm yn siwr pwy dwi wedi fy siomi mwyaf ynddo - hygrydedd gwleidydd fel chi am beidio ymddiheuro am gamddeall ta hygrydedd papur fel Golwg am beido checio fod gan eich cwyn unrhyw sylwedd.

Doesna ddim byd yn bod ar gamddeall Gwilym - dim ond pan ma rhywun yn gwrthod ymddiheuro am wneud hynny mae pobol yn dechrau cwestiynnu ei motif.