Tuesday, September 08, 2009
Etholiad 2010 a gwers o 1983 i'r Mudiad Cenedlaethol
Sylwadau diddorol gan ddau o flogiau gorau Cymru - Welsh Guerilla Warefare a Syniadau ynglyn ag erthygl gan Adam Price yn y Western Mail heddiw.
Rhybudd a geir gan Adam ei bod yn bryd i'r Mudiad Cenedlaethol droi ei sylw at y Toriaid a pharatoi am gyfnod gwleidyddol ol Lafur. Mae Syniadau yn anghytuno efo un agwedd yn benodol ar ei ddadl - sef y dylai'r Blaid fynu (petaem yn cael ein hunain mewn senedd grog) bod y Pwyllgor Dethol Cymreig yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol Cymru yn hytrach nag un y DU. Ei gred yw bod hyn yn ffordd o daflu rhaff achub i Lafur gan mai nhw sy'n debygol o fod a'r mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru. Mae'r canfyddiad hwn yn un cywir.
Beth am edrych yn ol chwarter canrif am funud i 1983 - isafbwynt etholiadol Llafur yn y DU?
Ychydig o dan 27% yn unig o bleidlais Brydeinig a sicrhawyd gan Lafur - mymryn mwy na'r glymblaid Rhyddfrydol / SDP. Oherwydd trefn etholiadol boncyrs y DU cawsant fwy o seddi o lawer na'r glymblaid wrth gwrs. Gwnaeth Llafur yn well yng Nghymru - o tua deg pwynt canrannol - ond roedd hyn yn isafbwynt hanesyddol yng Nghymru iddynt.
Aeth Llafur ati i ail adeiladu rhwng 1983 ac 1997 tros y DU - ond yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt ail adeiladu'n gynt o lawer yng Nghymru. Yn etholiad 1987 roedd Llafur ar 29.5% yn Lloegr ond ar 45% yng Nghymru. 34% a 49.5% oedd y ffigyrau cymharol yn 1992. Roedd Llafur unwaith eto'n dominyddu yng Nghymru tra'u bod yn gymharol wan o hyd yn Lloegr.
'Rwan roedd nifer o resymau tros lwyddiant Llafur i ail adeiladu'n gyflym yng Nghymru - peirianwaith effeithiol, effaith polisiau economaidd y Toriaid ar Gymru, y ffaith mai Cymro oedd yn arwain y blaid er enghraifft. Ond mi fyddwn i'n dadlau bod rheswm arall hefyd - Llafur oedd ffocws y gwrthwynebiad Cymreig i lywodraeth Seisnig a Thoriaidd yng Nghymru. Mae'n hawdd i bobl sydd ag argyhoeddiadau gwleidyddol cryf i werthfawrogi bod llawer o bobl yn pleidleisio am resymau negyddol - pleidleisio yn erbyn rhywbeth, ac nid pleidleisio o blaid rhywbeth mae lleiafrif sylweddol o etholwyr. Pleidlais yn erbyn y Toriaid mwy na phleidlais tros Lafur oedd cyfadran arwyddocaol o'r cynnydd cyflym hwn yn eu pleidlais rhwng 83 a 92.
Mi fydd y Toriaid yn ennill fis Mai nesaf, a byddant yn ennill yn hawdd - fydd yna ddim senedd grog. Mae'n bosibl y bydd Llafur yn ennill llai o bleidleisiau tros y DU nag y gwnaethant yn 83, ac mae'n weddol sicr y digwydd hynny yng Nghymru. Bydd Cymru'n dioddef fwy na'r unman arall oherwydd ein bod yn ddibynnol iawn ar wariant cyhoeddus, a bydd hwnnw'n cael ei dorri i'r bon. Hefyd mae ein Senedd yn rhy wan o ran pwerau i gynnig gwarchodaeth effeithiol i'r wlad. Ond mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwers o beth ddigwyddodd yn wythdegau a nawdegau'r ganrif ddiwethaf. Os caiff Llafur y cyfle i'w cyflwyno eu hunain fel ffocws gwrthwynebiad y genedl i lywodraeth Doriaidd, byddant yn ailadeiladu'n gyflym eto.
Her wleidyddol fawr y Mudiad Cenedlaethol tros y ddegawd nesaf fydd gwneud ei hun yn hytrach na Llafur yn ffocws i wrthwynebiad Cymru i'r llywodraeth Doriaidd. Dyma pam mai etholiadau Cynulliad 2011 fydd y rhai pwysicaf yn hanes y Blaid, ac efallai yn hanes Cymru. Os bydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda, ac yn cael ei hun yn chwarae rhan arweiniol yn y llywodraeth nesaf yng Nghaerdydd, gall sicrhau bod y Cynulliad - a thrwy hynny hi ei hun, yn ganolbwynt i wrthwynebiad cenedlaethol i lywodraeth Doriaidd - fel y gwnaeth y Blaid Lafur chwarter canrif ynghynt. O lyddo i wneud hyn gellir disgwyl gwobr etholiadol sylweddol.
Golyga hyn bod rhaid i'r Blaid (fel mae Adam yn awgrymu) ymosod yn bennaf ar y Toriaid yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd cadw mewn cof mai'r gwir elyn ydi Llafur - y traddodiad unoliaethol Llafur ac nid yr un Toriaidd sydd wedi rhwystro Cymru rhag esblygu'n gyfansoddiadol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Y ffordd fwyaf effeithiol o ddifa Llafur ydi trwy chwarae rol tebyg i'r un a chwaraewyd ganddyn nhw chwarter canrif yn ol.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
5 comments:
post craff iawn - mae na wersi clir fama.
Y drafferth hefo'r senario hon ydi ei bod yn rhagdybio mai monolith geidwadol wrthnysig megis yr un a welwyd yn yr wythdegau a fydd yn ymddangos wedi 2010. Dwi ddim mor siwr mai felly y bydd hi o gwbl. Beth os ydi'r Ceidwadwyr o ddifrif am ddatganoli mwy o rym i unigolion a chymunedau? Mae'n bosib hefyd y gwelir plaid Geidwadol gynhenid yn codi yn yr Alban ( wedi'r cwbl roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif yno yn y 50au!) a phwy a wyr - efallai mai'r Ceidwadwyr hefyd fydd partneriaid Plaid Cymru yma yng Nghymru rol etholiadau 2011. Fydd hi ddim yn hawdd ymladd un gelyn clir o dan amgylchiadau felly.
cytuno'n fras gyda dy ddadansoddiad ond mae'n bwysig cofio hyn.
Bydd y Toriaid yn gwneud yn dda iawn yng Nghymru hefyd h.y. bydd lot o bobl sydd wedi pleidleisio i Lafur (a PC?) yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr. Bydd angen gofyn pam a holi beth allai (ddylai) Plaid Cymru gynnig i'r bobl yma.
Bydd angen cadw golwg fod rhywun ddim yn dieithrio y cyfan o'r rhain nac anwybyddu chwaith llif hanes a nifer o'r syniadau sydd yn mynd gyda'r bleidlais yma.
Y pwynt dwi'n ceisio ei wneud yw fy mod yn ddigon hen i gofio'r 80au ac roedd Plaid yn anghytuno 'da Toriaid (a thrwch pobl Cymru i raddai) ar bethau fel preifateiddio British Telecom neu pleidlais gudd mewn bollot undeb. Pam. Gan wneud hynny roeddem ni'n dieithrio ein hunain oddi ar yr etholwyr i raddai helaeth. Ennillodd Llafur yn 1997 am iddynt gynnig polisiau agosach at y Ceidwadwyr ... mae gwers yn hynny.
Dwi ddim yn dweud y dylai PC fabwysiadu agenda Geidwadol ond plis plis gallwn ni beidio mynd nol i fod yn grwp-pwysau neu think tank i'r chwith gan anwybyddu be mae'n cymdogion, cydweithwyr etc yn ei ddweud ac yn ei gredu?
Aled - dau bwynt - pan mae'r Toriaid yn son am ddatganoli, nid son am newid cyfansoddiadol maent. Yn ail mi fydd rhaid i'r Toriaid dorri ar wariant cyhoeddus - a bydd Llafur yn siwr o ymosod arnynt am wneud hynny - er mai nhw sy'n gyfrifol am y llanast. Fedar y Blaid ddim caniatau i Lafur gael y gwagle gwleidyddol yna eto.
Anhysbys - 'dwi'n cytuno efo nifer o dy sylwadau. 'Dwi ddim yn meddwl y bydd y Toriaid yn gwneud mor dda na hynny yng Nghymru. Er iddynt ddod yn gyntaf yn etholiadau Ewrop - 'dydi 21% ddim yn bleidlais uchel mewn cyd destun hanesyddol.
'Dwi ddim yn derbyn bod preifateiddio mor boblogaidd a hynny - ond roedd gwrthwynebu gwerthu tai cyngor yn gamgymeriad sylweddol.
You forgot Andrew Jackson’s Big Block of Cheese with nary a macaroni in sight.
Post a Comment