Friday, January 01, 2010

Gwesteion Betsan


Fydda i ddim yn ymweld yn aml iawn a blog Betsan - nid bod yna unrhyw beth o'i le arno. I'r gwrthwyneb, mae wedi ei 'sgwennu'n dda, ac mae gan Betsan fwy o gysylltiadau, ac felly mwy o straeon na'r rhan fwyaf ohonom. Mater o ormod o flogiau a rhy ychydig o amser i'w dilyn nhw i gyd ydi'r broblem am wn i.

Beth bynnag, un o nodweddion anarferol blog Betsan ydi'r criw bach o wrth Gymrigwyr rhonc sy'n gadael eu sylwadau ar dudalennau sylwadau nifer o'r blogiadau. Mae hwn yn un esiampl ymysg nifer. Fel y gwelwch (os oes gennych yr amynedd i ddarllen y stwff) mae'r hogiau yn honni bod cysylltiad rhwng Plaid Cymru ag ymgyrch fomio'r chwedegau, mai ymgais ar buro ethnig ydi cyfundrefnau addysg Gwynedd, Ceredigion a Mon, na ddylid pleidleisio i bobl efo enwau Cymreig, mai cyfundrefn addysg ar gyfer y ddeunawfed ganrif a geir yng Nghymru, na all gwleidyddion Cymreig lwyddo, bod datganoli yn gwneud pobl yn gwynfanus a chegog, nad ydi Cymru'n atebol o gymryd penderfyniadau trosti ei hun, nad oes yna fawr o neb yn siarad Cymraeg, bod y Gymraeg yn cael ei gorfodi ar bawb, bod rhaid gallu siarad yr iaith cyn cael dysgu, mai ymgais i helpu Hitler oedd llosgi'r ysgol fomio, na all ysgolion lwyddo mewn arolygiad ESTYN oni bai bod yr athrawon yn siarad Cymraeg, bod yna gynllwyn rhwng yr holl bleidiau i orfodi pob enaid byw yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac ati, ac ati, ac ati.

Rwan, 'dydi'r agweddau yma ddim yn arbennig o gyffredin yn y Gymru sydd ohoni, ond maent yn bodoli - ac mae gan y criw bach yma o hunan gasawyr bwynt pan maent yn honni nad ydi'r cyfryngau Cymreig yn adlewyrchu eu safbwntiau. Mae gan y cyfryngau Cymreig gonsensws cul iawn sy'n anwybyddu eu safbwynt nhw - yn ogystal a safbwyntiau llawer o bobl eraill (gan gynnwys pobl sydd eisiau annibyniaeth i Gymru, ond stori arall ydi honno).

Mae agweddau'r hunan gasawyr yn rhyw fath o embaras cenedlaethol. Mae pawb yn gwybod am rhywun neu'i gilydd sy'n arddel y syniadau gwrth Gymreig sy'n dominyddu tudalennau sylwadau blog Betsan, ond yn osgoi siarad amdanynt fel petaent yn rhyw berthynas gwallgo. Mae'n eironig mai prif (er nad unig) fforwm y creaduriaid trist yma ydi blog sy'n cael ei gynnal gan y Bib - y rhan mwyaf confensiynol, di gic a sefydliadol o'r holl gyfryngau Cymreig.

Bydd y cwestiwn yn cael ei godi weithiau ar y dudalen sylwadau os ydi'n addas i'r Bib gyhoeddi rhai o'r datganiadau mwyaf eithafol o wrth Gymreig. I ateb y cwestiwn hwnnw mi fyddwn yn cyfeirio at un o straeon byrion nawdd sant hunan gasineb Cymreig, y llenor Caradoc Evans. Mae bron i'r cyfan o'r gwaith a gynhyrchwyd gan Caradoc (yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf) yn ymgais i wneud i'w bobl ei hun edrych mor anifeilaidd a phosibl i gynulleidfa Seisnig. Dydi'r ffaith bod gan Caradoc ddawn 'sgwennu, a bod y ddwy gyfrol gyntaf (My People a My Neighbours) yn gelfydd iawn, ddim yn cyfiawnhau'r llyfdra moesol sydd ynghlwm a dyn yn ceisio cael ei dderbyn gan eraill fel rhywbeth nad yw, trwy fychanu a sarhau'r hyn ydyw.



Yn un o'r straeon ('dwi ddim yn cofio pa un) mae tad yn cloi merch sy'n dioddef o salwch meddwl yn nho ei dy rhag i neb wybod am ei bodolaeth, ond yn mynd a hi allan wedi iddi nosi wedi ei chlymu fel anifael tra'n ei chwipio a bloeddio arni o bryd i'w gilydd. Efallai bod blog Betsan yn chwarae rol y tad di gariad yn stori Caradoc, pan mae'n mynd a'r hogan druan am dro - rhoi tipyn o awyr iach a lle i'n hunan gasawyr gicio, strancio a gwehyru y tu hwnt i olwg y rhan fwyaf o bobl. Mae yna rhywbeth hyfryd o addas bod prif hyrwyddwyr neis neisrwydd gwleidyddol Cymreig yn darparu un o'u blogiau ar gyfer y pwrpas pwysig hwn

4 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Mae gan un o'r hunan gasawyr gwaetha sef Stonemason flog ei hun, elli di gael linc iddo fo o flog Gwilym Euros o bawb!!

Cai Larsen said...

'Dwi'n gwybod - mi fydd Stonemason - neu Stoney fel y bydd Gwilym yn cyfeirio ato yn gyfranwr achlysurol ond cydymdeimladol ar ei flog.

Dyma ydi un o nodweddion rhyfedd LlG - maent yn apelio at rhai cenedlaetholwyr a rhai hunan gasawyr fel Stoney. Plaid gwrth Plaid Cymru ydi hi yn annad dim arall.

Efrogwr said...

Diolch am "flogiad" (os oes y fath gair) amserol a chraff arall. Mae'r un fath o hunan gasineb i'w weld yng nghyfraniadau ar waelod erthyglau ar wefan y Western Mail, wrth gwrs. Rwyf ti'n iawn am y BBC. Er bod Plaid Cymru'n codi llais pan na fydd yn cael chwarae teg uniongyrchol (darllediadau o'r cynhadledd, y ddadleuon newydd yn yr ymgyrch etholiadol nesaf ac aci) dwi ddim yn gweld bod Plaid Cymru yn ymwybodol weithiau o hegemoni y meddylfryd Brydeinig a'r angen am ei herio. Mae arweinwyr y Blaid yn rhy aml yn dod drosodd fel wannabe BritLeft Guardianistas neu bobl neis sy'n cofleidio consensws Prydeinig Butskellism ac Aneurin Bevan y 50au. Mewn ffordd, mae'n well gennyf yr hunan gasawyr gan ein bod nhw o leiaf yn gweld llinell y ffrwydr yn glir.
Efrogwr, Abertawe

Cai Larsen said...

Mae yna wirionedd yma Efrogwr - mae'r hunan gasawyr yn gweld y tirwedd gwleidyddol pwysig yn gliriach na llawer ohonom sydd ar ochr arall pethau. Dydan ni'n aml ddim yn gweld bod y llinellau diwylliannol yn bwysicach na'r llinellau eraill yng ngwleidyddiaeth Cymru.