Tuesday, January 05, 2010

Clirio'r Ucheldiroedd a gwleidyddiaeth Gwynedd


Yn ol blogiad diweddaraf Gwilym Euros mae'r Cynulliad (a thrwy hynny Plaid Cymru wrth gwrs) yn dilyn yr union bolisïau arweiniodd at wacáu ucheldiroedd yr Alban 150 o flynyddoedd yn ôl.

Hmm - clirio'r Ucheldiroedd - neu o leiaf ail don y gwagio mawr. Mi fyddwch yn gwybod bod y gwagio yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ymgais gan landlordiaid mawr i gael gwared o'u tenantiaid er mwyn gwneud lle i geirw coch, er mwyn i gyfoethogion o Loegr a De'r Alban gael mynd i'w hela. Roedd hynny'n fwy proffidiol na chymryd rhenti tenantiaid mae'n debyg.

Felly aethwyd ati i droi tenantiaid tlawd o'u man ffermydd a gorfodi iddynt symud i ffwrdd neu fyw gorau y gallent yn yr awyr agored. Os oeddynt yn gwrthod byddai eu tai yn cael eu llosgi, a chafodd nifer eu llofruddio. Yn aml byddai pob ty mewn pentref yn cael ei losgi i'r llawr gan adael y trigolion yn gwbl ddi ymgeledd. Weithiau byddant yn gwneud ymdrech dreuenus i ail godi eu cartrefi, cyn gweld y rheiny'n cael eu chwalu yn eu tro. Mynd ar longau i America, Canada neu Awstralia oedd ffawd llawer o'r treueniaid hyn - ond roedd llawer yn marw ar y ffordd o golera. Bu'n rhaid i ddegau lawer o filoedd symud o dan yr amgylchiadau hyn.



Er nad oedd y dioddefaint yn yr Alban ar yr un raddfa na'r hyn oedd yn digwydd yn yr Iwerddon ar yr un pryd, roedd amgylchiadau erlid man denantiaid yr Alban yn erchyll - megis y deg a phedwar ugain o bobl a gafodd eu hel o'u bythynod yn Swydd Ross a gorfod byw yn yr awyr agored mewn mynwent gyfagos. Neu drigolion Barra a De Uist a gafodd eu dwylo a'u traed wedi eu clymu a'u taflu fel defaid ar longau i'w cludo i America gyda dim ond carpiau pathetig yr oeddynt yn eu gwisgo. Neu'r ugain o ferched o Ross a gafodd eu curo'n anymwybodol
gan yr heddlu a'u carcharu am wrthod derbyn gwis i adael eu cartrefi.

Mae'r disgrifiadau cyfoes hyn yn rhoi blas i ni o erchylldra'r cyfnod:

The scene of wretchedness which we witnessed as we entered on the estate of Col. Gordon was deplorable, nay heart‑rendering. On the beach the whole population of the country seemed to be met, gathering the precious cockles (shellfish).... I never witnessed such countenances ‑ starvation on many faces ‑ the children with their melancholy looks, big looking knees, shrivelled legs, hollow eyes, swollen like bellies ‑ God help them, I never did witness such wretchedness.

Many a thing, O Mary Mother of the black sorrow! I have seen the townships swept, and the big holdings being made of them, the people being driven out of the countryside to the streets of Glasgow and to the wilds of Canada, such of them as did not die of hunger and plague and smallpox while going across the ocean. I have seen the women putting the children in the carts which were being sent from Benbecula and the Iochdar to Loch Boisdale, while their husbands lay bound in the pen and were weeping beside them, without power to give them a helping hand, though the women themselves were crying aloud and their little children wailing like to break their hearts. I have seen the big strong men, the champions of the countryside, the stalwarts of the world, being bound on Loch Boisdale quay and cast into the ship as would be done to a batch of horses or cattle in the boat, the bailiffs and the ground‑officers and the constables and the policemen gathered behind them in pursuit of them. The God of life and He only knows all the loathsome work of men on that day.

Mae gor ddweud er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol yn rhan o wleidydda. Weithiau mae'n dderbyniol, ac weithiau mae'n anerbyniol. Mae'r enghraifft yma yn syrthio i'r ail gategori mae gen i ofn - mae'n cymryd dioddefaint enbyd degau o filoedd - canoedd o filoedd efallai - o dlodion treuenus yn ysgafn. Dydi'r ffaith bod eu heneidiau wedi eu colli yn niwloedd hanes ddim yn gwneud mymryn o wahaniaeth.

Mae'r gymhariaeth yn iselhau'r sawl sy'n ei gwneud yn annad dim arall.

13 comments:

Siân said...

Guto wedi cyrraedd o dy flaen di!
http://gutodafydd.wordpress.com/2010/01/05/gor-ddweud/

menaiblog said...

Damia - mae'n rhaid bod ganddo fwy o amser na fi - neu ei fod yn teipio'n gynt.

menaiblog said...

Wedi bod yna am dro Sian - da iawn - mae'n rhaid bod rhywun wedi dysgu'r hogyn 'na sydd gen ti yn dda!

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Blwyddyn Newydd Dda Cai,

Tra'n derbyn fod y gymhariaeth yn un eithafol...mi ddaru fo dderbyn dy sylw di a Guto...yr un canlyniad terfynol fydd yn digwydd os nad ydym yn gwneud rhywbeth am y sefyllfa fel ag y mae.
Hynny yw, difodiant iaith, diwylliant a chymunedau mewn ardal wledig.
Os nad oes camau pendanat a radical yn cael eu cymryd yn fuan, gyda buddsoddiad sylweddol i ardaloedd fel Gwynedd a Dyfor/Meirionnydd yn benodol yna di-bologi fydd yn digwydd.
Blwyddyn nesaf fydd canlyniad y cyfrifiad yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd - Pryd hynny fydd angen startegaeth a buddsoddiad i adfer y difrod mae Plaid Cymru a'u partneriaid yn ei wneud ym Mae Caerdydd ac ar Gyngor Gwynedd.
Fedrai dy sicrhau di, nad oes neb yn Llais Gwynedd yn cymryd yr hyn a ddigwyddodd i pobol Ucheldir yr Alban yn ysgafn yn yr un modd nad ydym yn cymryd yr hyn sydd newydd ddigwydd ym Mro Dysynni yn ysgafn ac fydd yn digwydd mewn ardaloedd eraill o Wynedd os geith dy Blaid di ei ffordd eu hunain.
Gyda llaw roeddwn mewn cyfarfod gyda Chyngor Cymuned Trefor neithiwr ac roedd y croeso y cefais yn un twymgalon.Ti'n ffodus iawn i gael gweithio mewn cymuned mor arbennig.

menaiblog said...

Blwyddyn newydd dda i tithau.

'Dwi'n meddwl y cei di y bydd cyfrifiad y flwyddyn nesaf yn dangos cynnydd yn y ganran sy'n siarad y Gymraeg yng Ngwynedd - ac yn y rhan fwyaf o weddill Cymru - os ydi arolygon sydd wedi eu cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'w credu - ond stori arall ydi honno.

Mae yna achos i'w wneud nad ydi fformiwlau sy'n pennu gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn adlewyrchu tlodi gwledig yn ddigonol, ond 'dydi drysu hynny efo ymgyrch fwriadol i hel pobl i wlad arall ddim yn cynorthwyo neb. I'r gwrthwyneb mae'n gwanio'r ddadl trwy bolareiddio a llusgo elfen gref o hysteria i mewn i bethau.

Alwyn ap Huw said...

Bobl y Bala Cai bach! Dwyt ti ddim yn sylweddoli bod ymateb yn y ffordd blentynnaidd hon yn gwneud mwy o ddrwg nag o les i achos Plaid Cymru?

Hwyrach bod cymhareb CGwylym yn ormodedd, ond roedd y sylwedd tu nol i'r gymhariaeth yn ymwneud a "chymunedau byw a hyfyw’r ardaloedd gwledig yn cael eu dileu", all-lifiad Cymry cynhenid o'r bröydd Cymraeg a thoriannau yng ngwariant cyhoeddus yng nghefn gwlad. Pethau o sylwedd sydd yn poeni nifer o etholwyr Gwynedd. Ac ymateb prif blogiwr y Blaid yng Ngwynedd i'r hyn sy'n poeni pobl y sir:

Actiwyli mae Gwil yn rong ar hanes yr Alban!

Rwy'n siŵr bydd y wers hanes o galondid mawr i bobl Gwynedd wrth iddynt weld eu gwasanaethau yn cael eu cae a'u cymunedau yn dirywio heb i Blaid Cymru cynnig ddim ymateb i'r argyfwng y mae Llais yn cyfeirio ati.

menaiblog said...

Wrth gwrs bod na fi sy'n bod yn blentynaidd trwy dynnu sylw at amhriodoldeb y gymhariaeth yn hytrach na Gwilym yn ei gwneud.

Mae unrhyw feirniadaeth o rethreg holocostaidd Llais Gwynedd trwy ddiffiniad yn blentynaidd wrth gwrs.

Anonymous said...

Un pwynt bach pendantic, fel dwi wedi ei deall hi - defaid oedd y rheswm pam cafodd llawer o bobl ucheldiroedd yr Alban eu taflu oddi ar y tir, nid ceirw. Roedd brîds newydd o ddefaid oedd digon gwydn i ymdopi â'r hinsawdd eithafol yn yr ucheldiroedd yn ei gwneud hi'n haws i tir feddianwyr yr Alban wneud arian ar draul y brodorion.


Dyna oedd Neil Oliver yn ei ddweud ar raglen History of Scotland yn ddiweddar beth bynnag!

Siôn

menaiblog said...

A hwyrach dy fod yn gywir Sion, ond roeddwn i o dan yr argraff mai'r blydi ceirw coch oedd y peth - roedd hyd yn oed y defaid yn cael eu clirio i wneud lle iddynt ar un amser.

Mi chwilia i pan gaf funud neu ddau.

Anonymous said...

Great blog, amazing tip. Certainly you check here again and write about it to friends Thank you! “Heaven has no rage like love to hatred turned, Nor hell a fury like a woman scorned.” - William Congreve

Anonymous said...

Great website, amazing article. Certainly you check here again and write about it to friends Thank you! “Sports do not build character. They reveal it.” - Heywood Broun

Anonymous said...

Great blog, interesting tip. Certainly you check here again and tell about it to friends Thanks! “It is very important to generate a good attitude, a good heart, as much as possible. From this, happiness in both the short term and the long term for both yourself and others will come.” - Dalai Lama

Anonymous said...

Great website, amazing tip. Sure you check here again and tell about it to friends Thanks! “Politics have no relation to morals.” - Niccolo Machiavelli