Sunday, January 24, 2010

Darogan yr Hogyn o Rachub - eto.

'Dwi'n gwybod fy mod yn ailadrodd fy hun - ond mae'n werth mynd am dro i flog yr Hogyn o Rachub i gael cip ar ei ddarogan gwleidyddol. 'Does yna neb - yn y blogosffer nag yn y cyfryngau prif lif yn gwneud joban fwy trylwyr.

'Dwi wedi dwyn copi o'r map gwleidyddol mae wedi ei gynhyrchu i ddangos sut mae'n gweld pethau, ag yntau bellach wedi edrych ar hanner y seddi Cymreig.

'Dwi ddim yn gwybod ymhle mae'n yfed pan mae yng Nghaerdydd, ond os digwydd i chi ei weld yn y Sior pan mae adref, prynwch beint iddo. Mae'n llawn haeddu un am yr holl waith.

8 comments:

Anonymous said...

Diddorol iawn.
Gan drio roi brens y ddai ohonoch at ei gilydd, oes yna seddi yn y darogan sy'n bet dda? O ran ennill arian dwi'n feddwl.
hy. dwi'n siwr bod y ddau ohonoch yn gwybod mwy am hyn na'r bwcis a dy fod di Mr Menai yn un sy'n crybwyll betio ar wleidyddiaeth yn aml.

Hogyn o Rachub said...

Gwir iawn, er mi wnai setlo am jinsan 'fyd.

Anonymous said...

Lliw melyn yn Nhrefaldwyn? Na! Dyw hyd yn oed yr Hogyn o Rachub heb diwnio i fewn i'r hyn sy'n digwydd yno. Mae Lembit Opik a'i ffwlbri ar y ffordd allan a Glyn Davies ar i fyny. Dim dwywaith amdani. Hyd yn oed Heledd Fychan wedi camddehongli'r sefyllfa. Wedi'r cyfan, dyw'r bobol ifanc ddim y pleidleisio gymaint a'r rhai hyn. LO yn llawn haeddu cael ei ddisodli hefyd. Lembo o'r radd flaenaf

Cai Larsen said...

Mae gen i nifer o fets i lawr, ond mae'r ods wedi newid. Efallai y caf olwg ar yr hyn sydd ar gael ychydig yn nes at yr etholiad.

Anonymous said...

Ydy Trefanldwyn yn bet dda te?

Cai Larsen said...

Os ti'n meddwl bod y Tori am ennill ydi - ond dwi'n tueddu i gytuno efo HoR mai Lembit fydd yn mynd a hi.

Hogyn o Rachub said...

Yn bersonol, dwi'n meddwl ei bod yn debycach y bydd Plaid yn cipio Llanelli neu Lafur yn dal eu gafael ar Ynys Môn na'r Ceidwadwyr yn ennill yn Sir Drefaldwyn. Cawn weld, wrth gwrs, ond tueddaf i feddwl bod gogwydd o 13% y tu hwnt i Glyn Davies.

Anonymous said...

Ond does dim byd tu hwnt i'r Lembo...Pwy a wyr beth arall ddaw o du y Ffwl gwirion! Cytuno gydag Anon. Dyw'r wasg yng Nghymru heb diwnio i fewn i'r sefyllfa ym Mhowys. Gall, fe all Glyn Davies droi pethau o gwmpas yn yr etholaeth hon. A phob lwc iddo. Hen hen bryd.