Wednesday, January 06, 2010

Nia - eto


Mi fydd y blog yma yn cael ei feirniadu'n aml (wel yn aml gan Alwyn o leiaf) oherwydd bod ei dueddiad i feirniadu gwleidyddion a phleidiau unoliaethol yn blentynaidd. Mae'r feirniadath wedi fy mrifo i'r byw a dweud y gwir, a 'dwi wedi gwneud adduned blwyddyn newydd hwyr i geisio bod yn ffeindiach efo'r unoliaethwyr eleni. Wedi'r cwbl mae bywyd yn rhy fyr i ffraeo.

Yn ysbryd yr adduned hwnnw 'dwi am gynhyrchu blogiad neu ddau yn tynnu sylw at gryfderau rhai o'r cyfryw wleidyddion. Beth am gychwyn efo Nia Griffiths, aelod seneddol hynod weithgar Llanelli. Rydym eisoes wedi son amdani unwaith - pan roedd yn canmol y rhyfel yn Afghanistan oherwydd bod y cyfryw ryfel yn atal heroin rhag fflydio dinasoedd Prydain - er bod yr heroin yn ganlyniad uniongyrchol o ymyraeth y Gorllewin ym materion mewnol y wlad honno. Sori, mae'r busnes bod yn neis 'ma'n sobor o anodd. Mi dria i eto.

Un o'r pethau rhyfedd am y sgandal treuliau aelodau seneddol ydi'r holl bethau cadarnhaol sydd wedi dod i'r amlwg o'u herwydd. Er enghraifft, mae'n amlwg o rai Nia ei bod yn aelod cydwybodol iawn sy'n cymryd y drafferth i fynychu digwyddiadau lleol - fel mae'r dderbyneb isod sy'n hawlio £15 am dorch o flodau ar gyfer digwyddiad i goffau diffoddwyr tan yn ei ddangos.


Peth arall sy'n amlwg o'r treuliau ydi ei bod yn ddarllenwraig fawr sy'n paratoi ei hun yn llawn ar gyfer ei gwaith Mae'r anfoneb yma o Waterstones am ddau lyfr cyfreithiol swmpus - Immigration & Asylum Law, Gina Clayton a Planning Law and Procedure, Telling a Duxbury. Fel y byddech yn disgwyl o lyfrau academaidd, mae'r ddau lyfr yn ddiawledig o ddrud.

Mae braidd yn anffodus i Waterstones wneud camgymeriad hyll braidd a son am ddisgownt i fyfyrwyr ar yr anfoneb. Gallai'r naif neu'r drwgdybus gael y cam argraff llwyr bod Nia yn honni ei bod yn stiwdant - rhywbeth a fyddai'n groes i Ddeddf Twyll 2006 - deddf a grewyd gan ei phlaid ei hun.

Diolch byth nad oes yna lawer o bobl felly yng Nghymru.

4 comments:

Alwyn ap Huw said...

Nid ydwyf yn un i feirniadu Cai, cynnig cyngor adeiladol er mwyn iti wella dy gyfraniadau, a cheisio dy addysgu di er mwyn i ti cael gwell crap ar dy ddealltwriaeth o wleidyddiaeth y byd byddwyf. Mae'n rhaid cyfaddef bod ceisio dy gynghori a dy addysgu yn waith ar dalcen caled iawn sydd yn aml (fel y dengys dy sylw) yn di diolch, ond mi wnaf dal ati gan mae hen ddyn ffeind felly ydwyf.

Cai Larsen said...

Diolch Alwyn.

Y talcen mwyaf caled ydi'r un mwyaf gwerth chweil yn aml.

Dyfed said...

Gallai hi fod yn fyfyrwraig go iawn, wrth gwrs - rhan amser.

Gan fod Nia wedi prynu dau lyfr ar agwedd o'r gyfraith tybed ydi hi'n astudio'r pwnc - jest rhag ofn y bydd hi angen swydd ar ol colli'r etholiad?

Jest gofyn.

Cai Larsen said...

Os felly byddai'n rhaid i ddyn edmygu ei hegni.