Monday, November 30, 2009

Ffigyrau sal unwaith eto i'r Toriaid


'Dwi ddim eisiau i neb feddwl fy mod yn datblygu obsesiwn am hyn, ond 37% yn unig mae pol diweddaraf ComRes yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn eu gael yn yr etholiad cyffredinol. 'Dydi hyn ddim llawer gwell na'u perfformiad yn 2005 (33.23%). ' Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod saith o'r wyth pol diwethaf wedi eu sgorio'n is na 40%.

Mae hyn yn codi un neu ddau o bwyntiau diddorol. Yn gyntaf pam?

'Dwi'n eithaf siwr yn bersonol mai penderfyniad Cameron i droi cefn ar ei addewid am referendwm ynglyn a chytundeb Lisbon sydd wrth wraidd y peth. Mae gen i rhywfaint o gydymdeimlad efo'r Toriaid yn hyn o beth - gyda y cadarnhawyd y cytundeb, go brin ei bod yn bosibl i Brydain dynnu allan ar ei liwt ei hun wedyn heb osod cynsail anerbyniol. Y wers, fodd bynnag, ydi na ddylai plaid addo rhywbeth mor bwysig i gydadran sylweddol o'i chefnogwyr creiddiol os oes posibilrwydd na ellir gwireddu'r addewid hwnnw.

Yn ail, mae awgrym cryf bellach y bydd pleidiau amgen fel y Gwyrddion, ymgeiswyr annibynnol, UKIP ac ati yn gwneud yn llawer gwell yn etholiad cyffredinol 2010 nag a wnaethant mewn unrhyw etholiad cyffredinol blaenorol. Mae nifer ohonom wedi meddwl ers tro bod posibilrwydd i rhywbeth rhyfedd ddigwydd mewn ambell i le - megis Brighton Pavilion. Ond mae'n bosibl y bydd mwy o bethau anisgwyl yn digwydd nag oedd y rhan fwyaf wedi ei ragweld. Er bod ein system bleidleisio yn tueddu i gadw pleidiau llai allan o'r senedd pan fo eu pleidlais gyffredinol yn isel, gallai'r elfen o bleidleisio tactegol sy'n cael ei annog gan y system hwnnw ddechrau gweithio o'u plaid os ydi eu pleidlais gyffredinol yn uwch.

Gallai meinciau Ty'r Cyffredin edrych ychydig yn anisgwyl y tro cyntaf y byddant yn cwrdd wedi'r etholiad.

2 comments:

Guto Bebb said...

Ti'n gynyddol swnio fel Lib Dem yn awchu am senedd grog. Fel ymgeisydd Ceidwadol mewn sedd ymylol dwi'n dueddol o fod wedi canfasio / cynnal cyfarfodydd / asesu holiaduron post / canfasio ffôn i'r fath raddau nes fod polau piniwn bron yn ddibwys yn fy ngolwg. Serch hynny fe fyddai'n hurt honni fod bod dan 40% ddim yn siom i mi. Ond mater o bryder?

Yn 2005 cafwyd etholiad ddechrau Mai. Yn Nhachwedd 2004 cafwyd 6 pol piniwn a dyma'r ganran Geidwadol a sefyllfa'r blaid mewn cymhariaeth a LLafur;

33 -4
31 -1
30 -4
30 -9
31 -6
32 -11

Yr oedd Llafur felly'n amrywio o 32% i 43% yn yr un mis. Fel i ti nodi fe gafodd y Ceidwadwyr 33% yn yr etholiad cyffredinol a Llafur 36%. Dyna 'dorpedo' go gadarn dan yr honiad fod y Llywodraeth bob amser yn cryfhau wrth i etholiad agosau.

Yn Nhachwedd 2009 cafwyd 10 pol piniwn (sgen bobl ddim byd gwell i'w wneud?!). Dyma'r canlyniad Ceidwadol a blaenoriaeth y Ceidwadwyr dros Lafur;

41 +14
38 +14
39 +10
39 +14
41 +14
42 +13
37 +6
39 +17
39 +10
37 +10

Dan yr amgylchiadau dwi'n credu fod y syniad fod perfformiad y Ceidwadwyr yn wael yn anghywir. Yr hyn sy'n rhyfeddol yw perfformiad y pleidiau llai sy'n cyfartalu tua 15%.

Yr hyn sy'n ddiddorol yw fod hyn yn debygol o weithio er budd y Ceidwadwyr. Yn fras, yr honiad yw fod angen i'r Ceidwadwyr fod tua 9%ar y blaen os am gael mwyafrif dros bawb. Ond y mae'rhoniad hwn yn adlewyrchu byd lle'r oedd y pleidiau llai yn debygol o gael llai na 10%.

Effaith mwyaf tebygol twf y pleidiau llai yw lleihau'r angen i'r Ceidwadwyr gael blaenoriaeth o 9% er mwyn cael mwyafrif. Y mae'r polau piniwn yn dangos fod UKIP yn dwyn gan Lafur a'r Ceidwadwyr yn weddol gyfartal gyda'r BNP a'r Gwyrddion yn dwyn llawer mwy gan Lafur na'r Ceidwadwyr.

Dan yr amgylchiadau felly fe fyddwn yn honni fod y polau fel y mae nhw'n sefyll yn dra derbyniol ond nid da lle gellir gwell!

Cai Larsen said...

Fyddwn i ddim yn meindio senedd grog, ond dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n credu bod y llywodraeth yn gwneud yn well erbyn etholiad. Y gwir ydi mai'r Toriaid sy'n tueddu i wneud yn well mewn etholiad nag ydynt yn y polau - er ei bod yn bosibl bod newidiadau methodoleg bellach wedi delio efo hynny.

dwi hefyd yn cytuno nad ydi'r Toriaid angen 9% o flaenoriaeth - byddai 5% yn ddigon ac mae Martin Baxter ac ati yn rong - mewn amgylchiadau etholiadol presenol.