Friday, December 11, 2009

Aelod o'r Blaid Werdd yn cael y myll

Mae'n ddigon posibl y bydd y Blaid Werdd (Brydeinig) yn dod o'r etholiad cyffredinol nesaf gydag aelod seneddol neu ddau. Mae gan y blaid Wyddelig eisoes aelodau seneddol - pobl fel Mr Paul Gogerty - seren y fideo isod. Efallai y bydd Ty'r Cyffredin ychydig yn fwy bywiog o'u cael yno yn dadlau eu hachos.

Rhybudd - peidiwch ag edrych ar y fideo os ydi gwrando ar iaith anweddus yn peri loes i chi.


'Dwi ddim yn meddwl y bydd y digwyddiad uchod yn gwneud drwg mawr i'w obeithion o gael ei ail ethol (er gwaethaf ei ofnau ei hun) - mae'n cynrychioli Dublin Mid West. Yn y nawdegau cynnar mi gafodd gwrthrych ei lid ar y fideo, Emmet Stagg, ei ail ethol gyda mwyafrif sylweddol gan bobl dda Kildare ar ol digwyddiad oedd llawer mwy anffodus a di chwaeth na'r un uchod hyd yn oed.

Mae gan Paul hanes o ymddwyn yn od pan mae gwleidyddion nad yw'n hoff ohonynt yn siarad. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn ei etholaeth aeth i orwedd ar y llawr a chymryd arno ei fod wedi marw pan oedd Frances Fitzgerald - seneddwraig sy'n perthyn i Fine Gael yn siarad.

8 comments:

Anonymous said...

Brilliant, ond dw i ddim yn gweld Caroline Lucas yn bihafio fel ni.

Cai Larsen said...

Wel - mae diod ym mariau San Steffan, fel y Dail yn rhad.

Pelagius said...

There is no Plaid Werdd (Brydeinig). It's the non-devolved Green Party of England & Wales. In other parts of the UK, there is, of course, a separate Scottish Green Party and the Green Party in Northern Ireland.

In Wales, so far, Plaid Cymru has kept the Greens at bay, helped by Jill Evans ASE being a leading, well-respected member of the Green/EFA Group in the European parliament.

Cai Larsen said...

You're quite right of course Pelagius.

Am I right in thinking that the Scottish Green Party is in favour of independence for Scotland, while the England & Wales version isn't in favour of independence for Wales?

Pelagius said...

MB, think so. The Scottish Greens are definitely for independence. There's no mention of constitutional change here in the "Green Party" manifesto for the European parliament elections.

They're strangely like Labour on this. At one level they market themselves as THE Green Party - stateless and nation-less - but then claim to speak for Britain as a whole. They have a Wales Green Party brand too but that is one of their "regions". Crazy mixed-up kids. I suppose it's a way of their avoiding party splits on the issue.

Cai Larsen said...

Pelagius, could the difference in their attitudes to independence in Walrs & Scotland & the constitutional difference reflect the composition of their membership here? - ie they appeal mostly to people who've moved here from England.

MH said...

Roedd tipyn bach am agwedd y Blaid Werdd tuag at annibyniaeth i Gymru yma:

http://annibyniaeth.blogspot.com/2007/04/y-blaid-werdd-o-blaid-annibyniaeth-i.html

Hefyd, mae 'na gopi o araith Paul Gogarty yn llawn yma:

http://www.kildarestreet.com/debates/?id=2009-12-11.454.0#g631.0

Yn y cyd-destun, roedd "f***" yn ddealladwy.

MH said...

Sorry, Pelagius. Try this for the Green party:

http://translate.google.com/translate?js=y&prev=_t&hl=en&ie=UTF-8&layout=1&eotf=1&u=http%3A%2F%2Fannibyniaeth.blogspot.com%2F2007%2F04%2Fy-blaid-werdd-o-blaid-annibyniaeth-i.html&sl=cy&tl=en

The other link was to Paul Gogarty's speech in full.