Etholaeth weddol ymylol o ran y cyd bwysedd crefyddol yng Ngogledd Iwerddon ydi Fermanagh and South Tyrone. Bydd y cyfraddau pleidleisio yno yn uchel iawn - maent yn aml ymysg yr uchaf yn y DU (ac Iwerddon o ran hynny). Pleidleisiodd tua 90% yn y ddwy is etholiad enwog ar ddechrau'r 80au - mae hyn yn agos at fod yn record yn y DU.
Mae gwleidyddiaeth yr etholaeth yma - fel y cwbl o etholaethau Gogledd Iwerddon i rhyw raddau neu'i gilydd - yn cael ei yrru gan ystyriaethau llwythol. Tribal head count ydi'r term lleol am y math yma o etholiad.
Roeddwn yn digwydd edrych trwy fanylion y pleidleisio yn etholiad Ewrop 2004 (fel y bydd dyn yn ei wneud), a sylwais ar rhywbeth rhyfedd ym mhatrwm pleidleisio Ceredigion. Er i'r Lib Dems ennill etholiad cyffredinol 2005 a dod yn ail yn etholiad y Cynulliad 2007, pedwerydd oeddynt yn etholiadau Ewrop. Dyma'r ffigyrau:
Ewro 2004
Plaid Cymru - 10,756
Toriaid - 4,264
Llafur - 3,775
Lib Dems - 3,438
UKIP - 2,694
San Steffan 2005
Plaid Cymru - 12,911
Toriaid - 4,455
Llafur - 4,337
Lib Dems - 13,130
Cynulliad 2007
Plaid Cymru - 14,818
Toriaid - 2,369
Llafur - 1,530
Lib Dems - 10,863
Yr hyn sy'n drawiadol ydi bod pleidlais Plaid Cymru yn gymharol gyson, tra bod amrywiaeth enfawr ym mhleidlais y pleidiau unoliaethol. Yn yr etholiad Ewrop, lle nad ydi pleidleisio tactegol yn bwysig - mae'r Lib Dems yn bedwerydd. Yn y ddwy etholiad arall (lle mae pleidleisio tactegol yn holl bwysig) mae eu pleidlais yn codi'n sylweddol, tra bod pleidlais y ddwy brif blaid unoliaethol yn isel. Mae etholiadau Ewrop yn gyffredinol ddrwg i'r Lib Dems - ond ddim i'r graddau yma.
'Rwan, 'dydw i ddim yn adnabod Ceredigion yn dda - er i mi fod yn y coleg yn Aberystwyth am dair blyneddyn oes yr arth a'r blaidd. Y cwestiwn sydd yn croesi fy meddwl, fodd bynnag, ydi hwn - oes yna elfen o bleidleisio llwythol yn mynd rhagddo yng Ngheredigion a la Fermanagh and South Tyrone, gyda'r bleidlais mwy 'Seisnig' yn croni o gwmpas y Lib Dems mewn etholiadau San Steffan a rhai Cynulliad, a'r un mwy 'Cymreig' yn croni o gwmpas Plaid Cymru? Wedi'r cwbl mae cyd bwysedd ethnig yr etholaeth yma yn fwy clos nag ydi un y rhan fwyaf o Orllewin Cymru.
1 comment:
Falle. Yr hyn nad sy'n amlwg wrth edrych ar ffigyrau'r tair etholiad yma, yw fod pleidleisiau'r Blaid yn go gyson dros gyfnod tipyn yn hwy - nol i 1992 mewn gwirionedd. Y gwahaniaeth diweddar yw fod y Lib Dems wedi cronni pleidleisiau eraill yn 2005/2007, ond yn y ddwy etholiad hynny mi roedd Llafur a/neu'r Ceidwadwyr ddim ar i fyny. Mi fydd yn ddiddorol iawn i weld os yw'r Lib Dems yn parhau i allu gadw pleidleisiau wrth i'r Ceidwadwyr gynyddu cefnogaeth ymysg pleidleiswyr 'Prydeinig'.
Post a Comment