Thursday, December 03, 2009

Refferendwm 'Democrataidd' Stonemason


Dydw i ddim yn darllen blog y blogiwr gwrth Gymreig, Stonemason yn aml iawn. Nid oherwydd fy mod yn anghytuno efo pob dim mae'n ei ddweud ydi hynny - mi fydda i'n mwynhau darllen blog Gwilym Euros, er nad ydw i'n cytuno efo llawer mae o'n ei ddweud chwaith.

Yr hyn sydd yn mynd o dan fy nghroen am flog Stonemason ydi ei fod mor ofnadwy ffuantus a ffug ddeallusol. Fedra i ddim mynd heibio'r dyfyniadau cyfnewidiol sydd ganddo ar ben ei flog yn aml. Enghraifft nodweddiadol ydi nonsens gwirion G. K. Chesterton - stwff fel Tradition means giving votes to the most obscure of all classes, our ancestors. It is the democracy of the dead.

Ta waeth, efallai mai doeth fyddai peidio ag aros efo'r dyfyniadau - neu fi fydd yn cael fy ngalw'n Mr Myll. Yr hyn sydd wedi mynd a fy sylw yn ddiweddar ydi ymdrech Stoney i wella democratiaeth yma yng Nghymru. Mae y rhan fwyaf o'i flogiadau diweddar wedi bod yn restrau maith o'r pwerau y gallai'r Cynulliad eu cael yn y dyfodol cymharol agos. Ymddengys bod Stoney o'r farn bod y pwerau'n cael eu 'colli' mewn rhyw ffordd neu'i gilydd o gael eu symud o Lundain o Gaerdydd a bod hynny i fod ein dychryn nes ein bod yn wirion.

Ymgyrch arall sydd ganddo ar hyn o bryd ydi un i gael refferendwm democrataidd. yng Nghymru - ac mae' ymgyrch yma ar ffurf deiseb ar y we. Ymddengys mai refferendwm 'democrataidd' i Stoney ydi un lle mae'n rhaid i o leiaf 60% o'r etholwyr bleidleisio tros newidiadau cyfansoddiadol cyn iddynt gael eu gwireddu. Hynny yw 60% o'r etholwyr, nid 60% o'r sawl sy'n pleidleisio.

Ar yr olwg gyntaf mae'n edrych bod yr hen frawd yn meirioli. Roedd yn dadlau yn weddol ddiweddar na ddylai Cymru byth ennill annibyniaeth os oedd un copa walltog (neu foel) yn erbyn. Wnaeth Stalin erioed lwyddo i gael 100% mewn etholiad. Ond, mewn gwirionedd pa mor debygol ydi hi ydi hi y gellid ennill refferendwm o dan yr amodau Stoney?

Mae gan gwrth ddatganolwyr hanes o dampro efo democratiaeth yn y ffordd yma. Yn ol yn 79 mynodd Kinnock, Abse a'r criw bod o leiaf 40% o'r etholwyr yn gorfod pleidleisio Ia, ac fe wnaeth hyn y gwahaniaeth yn yr Alban. Pleidleisiodd mwy na 50% o'r sawl a bleidleisiodd o blaid datganoli, ond llai na 40% o'r etholwyr - felly syrthiodd y cynnig. O godi'r hicyn i 60%, byddai cael 'Ia' yn nesaf peth i amhosibl. 'Does yna ddim niferoedd mawr byth yn pleidleisio mewn refferendwm. Felly o dan gynllun Stoney ni fyddai wedi bod yn bosibl cael Ia yn 79, na 97 hyd yn oed petai pawb wedi pleidleisio felly, gan i lai na 60% bleidleisio yn y ddau achos. Y refferendwm cymharol ddiweddar gyda'r gyfradd pleidleisio uchaf oedd oedd un Ewrop yn 1975. 66.7% oedd y gyfradd pleidleisio yng Nghymru. I gael Ia yn hon byddai'n rhaid i'r ochr Ia gael 89.9% o'r bleidlais.

Opsiwn posibl petai rheol o'r fath mewn bodolaeth fyddai ceisio trefnu refferendwm ar ddiwrnod etholiad cyffredinol. Y drwg efo hyn ydi bod cyfraddau pleidleisio etholiadu cyffredinol yn isel y dyddiau hyn. Byddai 98.68% o'r pleidleiswyr wedi gorfod pleidleisio Ia yn 2005 er enghraifft. Yr etholiad gyda'r gyfradd pleidleisio uchel yng Nghymru ers y rhyfel oedd 84.8% ym 1950. Hyd yn oed yn honno, byddai'n rhaid i 70% bleidleisio Ia i gynnig gael ei gario.

Rwan, does yna ddim gobaith o unrhyw fath y bydd cynnig gwirion, gwrth ddemocrataidd, neo ffasgaidd Stoney yn cael ei dderbyn - ac mae'r ffaith mai dim ond pedwar sydd wedi arwyddo ei ddeiseb hyd yn hyn yn galonogol - ond mae'r ffaith ei fod hyd yn oed wedi meddwl am y syniad yn adrodd cyfrolau am y meddylfryd unoliaethol yng Nghymru.

5 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dwinna ddim yn darllen ei flog chwaith, i fod yn onest dwi'n ei chael y nesa peth i amhosibl dilyn ei negeseuon ar flog Betsan Powys - yr arddull, wel, od, sy'n benna gyfrifol am hyn.

Y peth ffodus ydi yr ymddengys bod cyfran go dda o'r gwrth-ddatganolwyr eithafol yr un mor rhyfedd a'r unigolyn hwn. Maen nhw fel petaent yn byw ar blaned arall heb son am yr un wlad!

Vaughan said...

Onid 40% o'r etholwyr oedd y drothwy yn 1979? Efallai mai ti sy'n iawn! Mae'n ddiddorol bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gosod rheol debyg yn y refferendwm annibyniaeth ym Montenegro.

Cai Larsen said...

Chdi sy'n iawn Vaughan - 40% oedd o. mi newidiaf y cofnod

Unknown said...

If you had asked I could have given you a far better photograph.....

Cai Larsen said...

Sorry, it was the only one I could find of you.

You're welcome to put a better one on your blog, I'll be happy to post it here instead of the one I''ve plonked there.